Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn croesawu cynigion ar gyfer rheolaethau mewnforio newydd i ddiogelu defnyddwyr

Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi draftt o’r Model Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau erbyn hyn. Mae’n cynnig trefn fyd-eang newydd ar gyfer cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid wedi’u mewnforio sy’n dod i mewn i’r DU.

Diweddarwyd ddiwethaf: 31 August 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 31 August 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau

Mae Defra bellach wedi cyhoeddi categorïau risg y Model Gweithredu Targed ar gyfer nwyddau'r UE a nwyddau nad ydynt yn dod o'r UE.

Rydym nawr yn gofyn i’n rhanddeiliaid a phartïon eraill sydd â diddordeb adolygu’r drafft a rhannu eu hadborth gyda ni. 

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi ymgysylltu’n helaeth ag adrannau arweiniol y llywodraeth; Swyddfa’r Cabinet, yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC) ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), yn ogystal â’r Llywodraethau datganoledig, i sicrhau bod diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid a diogelwch defnyddwyr yn parhau i fod wrth wraidd y cynigion. 
 

Mae’r cynigion drafft yn golygu, o fis Hydref 2023 ymlaen: 
  • Bydd rheolaethau’n cael eu cyflwyno’n raddol, gan ddechrau gydag ardystiad iechyd ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid risg uwch a fewnforir o’r UE
  • Fel ar hyn o bryd, bydd awdurdodau’n cael gwybod am gynhyrchion a allai beri risg uwch (y rhan fwyaf o gynhyrchion anifeiliaid a bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel sy’n deillio o blanhigion) sy’n dod i mewn i’r wlad, gan ganiatáu ar gyfer gwiriadau wedi’u targedu ar gyfer cynhyrchion sy’n peri pryder
  • Bydd lefel y gwiriadau ar y ffiniau yn seiliedig ar risg, gan ddibynnu ar risg diogelwch bwyd i’r defnyddiwr 
  • Bydd yr holl gynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid sy’n dod i mewn i’r DU yn destun rheolaethau cymesur ar draws yr holl gadwyn gynhyrchu a chyflenwi, o’r fferm i’r fforc

Meddai Cadeirydd yr ASB, Susan Jebb:

“Llynedd, daeth adroddiad blynyddol yr ASB ar safonau bwyd i’r casgliad bod yn rhaid blaenoriaethu sefydlu rheolaethau mewnforio llawn y DU ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel sy’n dod o’r UE erbyn diwedd 2023. Roedd hyn yn adlewyrchu ein pryder, sef po hiraf y bydd y DU yn gweithredu heb sicrwydd bod cynhyrchion yr UE yn bodloni ein safonau diogelwch uchel, y lleiaf hyderus y gallwn fod o ran nodi digwyddiadau diogelwch posib yn effeithiol.

O ganlyniad, rydym yn gadarn o blaid cyflwyno rheolaethau sy’n seiliedig ar risg ar fwyd a bwyd anifeiliaid sy’n dod i’r DU o’r UE. Rydym hefyd yn croesawu trefn fewnforio gyson ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid, p’un a yw’r nwyddau’n dod o’r UE neu weddill y byd. Mae’n hanfodol bod arolygwyr mewn porthladdoedd yn gallu gweithredu lle mae’r data neu gudd-wybodaeth arall yn awgrymu y gallai fod risg. Mae angen i arolygwyr gael gwybodaeth gyflawn ac amserol am fwyd a bwyd anifeiliaid sy’n dod i mewn i’r DU, fel y gellir cynnal gwiriadau a gwaith samplu ar y ffiniau mor effeithlon ac mor effeithiol â phosib.
 
Mae’r rheolaethau hyn yn hanfodol i gynnal safonau diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid uchel y DU. Byddant yn helpu’r ASB a’i phartneriaid i ganfod bwyd neu fwyd anifeiliaid anniogel yn gyflymach a helpu i’w hatal rhag cael eu gwerthu.”