Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn croesawu dedfrydu dyn am gyflenwi DNP, sef sylwedd colli pwysau angheuol

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn croesawu’r newyddion bod dyn, a werthodd DNP yn anghyfreithlon i’w gymryd gan bobl, wedi’i ddedfrydu i garchar.

Diweddarwyd ddiwethaf: 22 December 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 22 December 2021

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn croesawu’r newyddion bod dyn, a werthodd DNP yn anghyfreithlon i’w gymryd gan bobl, wedi’i ddedfrydu i garchar.  

Mae Mr Jack Finney wedi’i ddedfrydu yn Llys y Goron Caer am gyflenwi 2,4-dinitrophenol (DNP), cemegyn diwydiannol gwenwynig iawn a werthodd yn anghyfreithlon fel pilsen deiet ar gyfer colli pwysau.

Bydd Mr Finney nawr yn gwasanaethu 28 mis yn y carchar ar ôl i gynhyrchion yn cynnwys DNP gael eu darganfod mewn cyfeiriad yn Northwich yn ystod ymchwiliad gan Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (yr Uned) yr ASB gyda chefnogaeth Heddlu Swydd Gaer, Llu Ffiniau’r Deyrnas Unedig (DU), Seiberdrosedd Gorllewin Canolbarth Lloegr, Gweinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau’r Unol Daleithiau a’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd.

Roedd y diffynnydd wedi bod yn gwerthu’r sylwedd angheuol hwn i bobl ledled Ewrop ac America ar y we dywyll rhwng Mehefin 2017 a Gorffennaf 2020.

Mae DNP yn wenwynig i bobl a gall arwain at farwolaeth, yn ogystal â sgil-effeithiau corfforol difrifol eraill. Mae’r sylwedd angheuol, DNP, yn aml yn cael ei farchnata fel sylwedd sy’n helpu unigolyn i golli pwysau, ac yn anffodus mae wedi arwain at 33 o farwolaethau ledled y DU hyd yn hyn.

Meddai Reginald Bevan, Dirprwy Bennaeth Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd: 

“Rydym ni’n croesawu’r dedfrydu heddiw gan ei fod yn anfon neges gref i unrhyw un sy’n ceisio elwa o werthu’r sylwedd hwn sy’n peryglu bywyd yn anghyfreithlon. Rydym ni’n parhau i weithredu'n ddi-flino i fynd i'r afael â'r rhai sy'n peryglu'r cyhoedd ac yn torri'r gyfraith.

Mae’r ymgyrch hon yn parhau i ddangos bod yr Uned yn cymryd gwerthu DNP yn anghyfreithlon i’w gymryd gan bobl yn y DU o ddifrif a thrwy ein partneriaeth waith agos ag awdurdodau lleol ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith eraill yn y DU a thramor, ein bod yn gallu mynd i’r afael â throseddwyr, cau gwefannau a gweithio i darfu ar lwybrau cyflenwi posibl yn y DU a llwybrau sy’n dod i mewn i’r DU.”

Gan fod DNP yn gemegyn diwydiannol, nid oes dos diogel ac ni fwriedir iddo gael ei gymryd fel atchwanegiad deiet, sy’n aml yn honiadau a wneir gan y rhai sy’n gwerthu’r sylwedd.

Meddai Catherine A. Hermsen, Comisiynydd Cynorthwyol Ymchwiliadau Troseddol Gweinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau’r Unol Daleithiau:

“Gall gwerthu cyffuriau peryglus heb eu cymeradwyo, sydd wedi’u brandio fel atchwanegiadau deietegol, achosi niwed difrifol i’r rhai sy’n prynu ac yn defnyddio’r cyffuriau a byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid gorfodi’r gyfraith i ddod â’r rhai sy’n peryglu iechyd y cyhoedd o flaen eu gwell.”

Daw canlyniad yr achos wrth i’r Swyddfa Gartref lansio ymgynghoriad yr wythnos diwethaf ar ddiwygiadau arfaethedig i fesurau rheoli ar gyfer gwerthu rhagsylweddau (precursos) a gwenwynau ffrwydrol o dan Ddeddf Gwenwynau 1972, y mae’r ASB yn ei gefnogi.

Mae'r ymgynghoriad wedi’i anelu at fusnesau sy’n cyflenwi cemegolion a chynhyrchion cemegol, marchnadoedd ar-lein sy’n hwyluso cyflenwi cemegolion a chynhyrchion cemegol trwy eu marchnadoedd ac aelodau o’r cyhoedd sy’n defnyddio rhai cemegolion a chynhyrchion cemegol ar gyfer eu hobïau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Mae'r ASB yn parhau i alw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am unigolion sy’n gwerthu DNP i’w gymryd gan bobl i gysylltu â’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd drwy anfon e-bost at foodcrime@food.gov.uk neu ffonio Trechu Troseddau Bwyd yn Gyfrinachol ar 0207 276 8787.