Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cyhoeddi diweddariad i’r rhestr gyhoeddus o gynhyrchion CBD

Heddiw (30 Mehefin 2022), mae'r ASB yn diweddaru ei rhestr gyhoeddus o gynhyrchion CBD y ceir eu marchnata yng Nghymru a Lloegr. Mae'r rhain yn gynhyrchion nad ydynt yn newydd i'r farchnad ac sy'n gysylltiedig â chais credadwy a gyflwynwyd i'r ASB i’w awdurdodi.

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 June 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 30 June 2022

Mae bron i 6,000 o gynhyrchion CBD ychwanegol wedi'u hychwanegu at y rhestr ers y diweddariad diwethaf. Mae bron i 12,000 o gynhyrchion ar y rhestr erbyn hyn.  Mae'r rhestr wedi cau mwyach ac ni dderbynnir ceisiadau pellach i roi cynhyrchion ar y rhestr gyhoeddus neu i dystiolaeth gael ei hanfon.

Meddai Rebecca Sudworth, Cyfarwyddwr Polisi’r ASB: 

'Mae wedi bod yn broses hir a chymhleth ac rydym yn ddiolchgar am gymorth a chydweithrediad y diwydiant CBD wrth i ni gyrraedd y garreg filltir bwysig hon ar y llwybr i sicrhau cydymffurfiaeth cynhyrchion CBD a diogelu defnyddwyr.  Yr unig newidiadau y rhagwelwn y byddwn yn eu gwneud i'r rhestr nawr fydd newidiadau i adlewyrchu statws y cynhyrchion wrth i ni symud tuag at awdurdodi ac unrhyw gywiriadau. 

'Mae’r rhestr, sy'n cynnwys bron i 12,000 o gynhyrchion, wedi tyfu'n sylweddol ers mis Mawrth pan wnaethom ei chyhoeddi gyntaf. Yn sgil cyhoeddi’r rhestr gychwynnol, cyflwynodd nifer o gwmnïau dystiolaeth newydd yn cysylltu nifer mawr o gynhyrchion unigol â cheisiadau cyfredol, ac felly gwnaethom gais terfynol am dystiolaeth i gefnogi busnesau i sicrhau cydymffurfiaeth ar gyfer eu cynhyrchion. Mae’n bwysig ein bod ni’n cael hyn yn iawn, ac mae'n galonogol bod cynifer o gwmnïau eisiau i’w cynhyrchion CBD ddilyn y llwybr tuag at gael eu hawdurdodi.’ 

Gall busnesau barhau i wneud ceisiadau i awdurdodi cynhyrchion bwyd CBD. Dylai busnesau sydd am werthu eu cynhyrchion ym Mhrydain Fawr wneud cais drwy ein proses cynhyrchion wedi'u rheoleiddio.  Fodd bynnag, ni fydd ceisiadau newydd yn gymwys ar gyfer y rhestr gyhoeddus ac ni ddylid rhoi cynhyrchion ar werth nes iddynt gael eu hawdurdodi.

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gynhyrchion CBD awdurdodedig ar y farchnad. Dylai defnyddwyr barhau i feddwl yn ofalus cyn bwyta cynhyrchion CBD am nad ydym yn gwybod rhyw lawer amdanynt. Dylai pobl gyfeirio at gyngor rhagofalus yr ASB i ddefnyddwyr sy'n nodi na ddylai'r rhai sy'n feichiog, yn bwydo ar y fron neu'n cymryd unrhyw feddyginiaeth fwyta cynhyrchion CBD. Mae'r ASB yn argymell dim mwy na 70mg y dydd (sef tua 28 o ddiferion CBD 5%) oni bai bod hynny dan gyfarwyddyd meddygol.