Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cymryd y cam nesaf i reoleiddio’r farchnad CBD

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cadarnhau’r rhestr o gynhyrchion CBD sydd bellach gam yn nes at gael eu hawdurdodi.

Diweddarwyd ddiwethaf: 31 March 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 31 March 2022

Mae’r ASB yn galw ar awdurdodau lleol a’r diwydiant i helpu i sicrhau bod y farchnad CBD yn cydymffurfio trwy flaenoriaethu tynnu cynhyrchion nad ydynt ar y rhestr gyhoeddus yn ôl, a’u hatal rhag cael eu gwerthu. Cyhoeddodd yr ASB y rhestr heddiw.

Mae cynhyrchion CBD yn fwydydd ‘newydd’ ac felly mae angen i’r ASB asesu eu diogelwch cyn iddynt gael eu rhoi ar y farchnad yma. Ar hyn o bryd, nid yw unrhyw gynhyrchion CBD wedi’u hawdurdodi i’w gwerthu yn y Deyrnas Unedig (DU). Mae’r rhestr CBD gyhoeddus yn dangos pa gynhyrchion sy’n destun cais credadwy am awdurdodiad gyda’r ASB.

Meddai Emily Miles, Prif Weithredwr yr ASB:

“Mae’r farchnad CBD yn tyfu’n gyflym. Mae’r ASB wedi bod yn gweithio i sicrhau bod y diwydiant CBD yn cydymffurfio. Heddiw, rydym ni wedi cymryd y cam nesaf yn ein dull pragmatig o sicrhau bod cynhyrchion CBD yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.   

“Rydym ni wedi creu’r rhestr gyhoeddus i helpu awdurdodau lleol a manwerthwyr i flaenoriaethu cynhyrchion sydd i’w tynnu oddi ar y farchnad. Os nad yw cynnyrch ar y rhestr, dylid ei dynnu oddi ar y silffoedd oherwydd nad yw’n destun cais credadwy am awdurdodiad i’w roi ar y farchnad.

“Ond mae bod ar y rhestr yn golygu bod y cais yn gredadwy ac mae’r ASB wedi cael tystiolaeth wyddonol sylweddol gan yr ymgeisydd i bennu diogelwch, neu’n disgwyl cael hon cyn hir.

“Rwyf am bwysleisio nad yw’r ASB yn cymeradwyo cynhyrchion sydd ar y rhestr gyhoeddus, ac nid yw eu cynnwys ar y rhestr yn gwarantu y byddant yn cael eu hawdurdodi gan nad ydynt wedi’u hasesu’n llawn eto o ran diogelwch. Ond rydym ni wedi cyhoeddi’r rhestr fel y gall awdurdodau lleol, manwerthwyr a defnyddwyr wneud penderfyniadau gwybodus am yr hyn y maent yn ei stocio a’i brynu, wrth i ni sicrhau bod y farchnad hon sy’n tyfu yn cydymffurfio â’r gyfraith yn raddol.”

Mae awdurdodau lleol sy’n gorfodi’r ddeddfwriaeth bwyd newydd wedi’u cynghori i annog busnesau bwyd nad yw eu cynhyrchion ar y rhestr gyhoeddus i dynnu eu cynhyrchion yn ôl o’r farchnad yn wirfoddol, ac i ystyried mesurau mwy ffurfiol pan nad yw hyn yn digwydd. 
 
Bydd ceisiadau sydd wedi’u dilysu nawr yn symud yn eu blaenau i gael asesiad risg llawn. Rhaid i’r cynhyrchion hynny y dangosir eu bod yn risg ddigon isel hefyd fynd trwy broses rheoli risg cyn y gellir gwneud argymhelliad i Weinidogion o ran awdurdodi.