Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn lansio ymgynghoriad ar bwerau ymchwilio ychwanegol i’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi lansio ymgynghoriad heddiw sy’n ceisio safbwyntiau’r cyhoedd, gweithwyr proffesiynol iechyd y cyhoedd a phartneriaid yn y sector bwyd ar y cynnig i gynyddu pwerau ymchwilio’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (yr Uned).

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 May 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 26 May 2022

Mae gennych tan 18 Awst 2022 i ddweud eich dweud

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi lansio ymgynghoriad heddiw sy’n ceisio safbwyntiau’r cyhoedd, gweithwyr proffesiynol iechyd y cyhoedd a phartneriaid yn y sector bwyd ar y cynnig i gynyddu pwerau ymchwilio’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (yr Uned).

Mae’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd yn Uned gorfodi’r gyfraith o fewn yr ASB sy’n mynd i’r afael ag achosion o droseddau difrifol, cyfundrefnol neu gymhleth sy’n ymwneud â bwyd. Ei rôl yw canfod, atal ac ymchwilio i dwyll difrifol a throseddu cysylltiedig o fewn cadwyni cyflenwi bwyd, ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Mae Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd 2022 a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 28 Ebrill, yn cynnwys pŵer gwneud rheoliadau i’r Ysgrifennydd Gwladol roi pwerau ymchwilio ychwanegol i swyddogion troseddau bwyd yr ASB yng Nghymru a Lloegr. Mae’r Ddeddf hefyd yn dod â’r Uned o dan gylch gorchwyl Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).

Gwahoddir rhanddeiliaid yng Nghymru a Lloegr i ymateb i’r ymgynghoriad deuddeg wythnos. Mae deddfwriaeth ar wahân sy’n llywodraethu pwerau ymchwilio yn berthnasol yng Ngogledd Iwerddon. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn bwriadu cynnal ymgynghoriad ar gyfer Gogledd Iwerddon maes o law.

Nid yw’r ymgynghoriad hwn yn berthnasol i’r Alban, lle mae Uned Troseddau a Digwyddiadau Bwyd yr Alban benodedig yn gyfrifol am ymateb i droseddau bwyd.

Meddai Prif Weithredwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Emily Miles: 

"Mae angen i’r Uned allu gweithio’n effeithiol ac yn effeithlon i ddiogelu defnyddwyr a busnesau rhag twyll bwyd. Er mwyn gwneud hyn, mae’r newidiadau arfaethedig yn arf hanfodol i sicrhau y gall ymchwiliadau ddigwydd yn gyflymach, gan hefyd ryddhau gwasanaethau heddluoedd lleol fel y gellir dargyfeirio eu hadnoddau hanfodol i flaenoriaethau eraill. 

“Ar yr un pryd bydd unrhyw ddefnydd o’r technegau ymchwilio hyn yn cael ei atal, gan ganolbwyntio ar reoleiddio effeithiol i atal a chanfod troseddau bwyd, ac yn amodol ar reolaethau cadarn a chraffu allanol. Rydym yn parhau i ymrwymo i ddefnyddio unrhyw bwerau ychwanegol mewn ffordd gymesur sy’n diogelu’r cyhoedd, gyda threfniadau diogelu a goruchwylio cryfach i ddiogelu rhag cam-ddefnyddio’r pwerau. Rydym yn annog pawb sydd eisiau dweud eu dweud i ymateb fel y gallant llywio ein gwaith yn y dyfodol.”

Mae’r ymgynghoriad ar gael ar wefan yr ASB, lle gallwch hefyd gael gwybodaeth am waith yr Uned.