Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn penodi Prif Gynghorydd Gwyddonol newydd

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi penodi’r Athro Ian Young yn Brif Gynghorydd Gwyddonol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Rhagfyr 2025

Mae’r Athro Young yn ymuno â’r ASB ar sail ran-amser, a hynny wrth gynnal ei rôl bresennol fel Patholegydd Cemegol Ymgynghorol yn Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Belfast ac fel Athro Meddygaeth ym Mhrifysgol Queen’s yn Belfast, lle bu’n gyfarwyddwr y Ganolfan Iechyd Cyhoeddus gynt.

Ar hyn o bryd mae’n gwasanaethu fel Prif Gynghorydd Gwyddonol i Adran Iechyd, Gogledd Iwerddon, Cyfarwyddwr Ymchwil ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gogledd Iwerddon ac mae’n cadeirio Pwyllgor Cynghori Gwyddonol Llywodraeth y DU ar Faeth. Bydd yn rhoi’r gorau i’r dyletswyddau hyn ar ôl ymuno â’r ASB.

Drwy gydol ei yrfa, mae’r Athro Young wedi dal swyddi arweinyddiaeth mewn sefydliadau gwyddonol o bwys, gan gynnwys Cyn-Lywydd Cymdeithas Biocemeg Glinigol a Meddygaeth Labordy, y DU.  Yn flaenorol, bu’n gadeirydd y Cydbwyllgor ar gyfer Olrheiniadwyedd mewn Meddygaeth Labordy ac Adran Wyddonol Ffederasiwn Rhyngwladol Cemeg Glinigol a Meddygaeth Labordy.

Wrth siarad am y penodiad, dywedodd yr Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd:

“Rwy’n falch iawn o groesawu’r Athro Ian Young i’r ASB fel ein Prif Gynghorydd Gwyddonol newydd.   Mae’r rôl hon yn hanfodol wrth ddod o hyd i dystiolaeth a rhoi sicrwydd i’r Bwrdd ynghylch ansawdd y wyddoniaeth yr ydym yn dibynnu arni i arwain ein gwaith a datblygu polisïau’r ASB. Bydd yr Athro Young hefyd yn helpu i sicrhau bod yr ASB yn cynnal ei chysylltiadau cryf â’r gymuned wyddoniaeth yn y byd academaidd, y diwydiant a’r llywodraeth. Bydd ei arbenigedd dwfn a’i allu i drosi ymchwil yn bolisi yn amhrisiadwy yn ein cenhadaeth o fwyd y gallwch ymddiried ynddo, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag ef.”
Yr Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Ychwanegodd yr Athro Young:

“Rwy’n falch iawn fy mod i wedi cael cynnig swydd Prif Gynghorydd Gwyddonol yr ASB. Does dim byd pwysicach i iechyd y cyhoedd na sicrhau bod y bwyd rydyn ni’n ei fwyta yn ddiogel ac yn ddilys. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda gwyddonwyr ar draws yr ASB i sicrhau bod popeth a wnawn yn cael ei arwain gan wyddoniaeth dda a’r dystiolaeth orau sydd ar gael.”
Yr Athro Young

Yr Athro Young fydd pedwerydd Prif Gynghorydd Gwyddonol yr ASB, gan gymryd lle yr Athro Robin May, a adawodd yr ASB ym mis Medi 2025 yn dilyn ei benodiad yn Brif Swyddog Gwyddonol Dros Dro yn Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA).

Mae Prif Gynghorydd Gwyddonol yr ASB yn gyfrifol am:

  • gywirdeb y prosesau a ddefnyddir i ddod o hyd i dystiolaeth wyddonol a sicrhau bod cyngor gwyddonol arbenigol ar gael i’r Asiantaeth
  • cynrychioli’r Asiantaeth yng nghymuned Prif Gynghorwyr Gwyddonol adrannol a’r gymuned wyddonol ehangach
  • hyrwyddo gwyddoniaeth o fewn yr Asiantaeth trwy ddatblygu arbenigedd ei gwyddonwyr

Mae gan y Prif Gynghorydd Gwyddonol gyfrifoldeb cyffredinol hefyd am yr holl ddisgyblaethau dadansoddol y mae’r Asiantaeth yn cael cyngor ganddynt, gan gynnwys gwyddorau naturiol a ffisegol, gwyddor gymdeithasol, economeg, ymchwil weithredol ac ystadegau.