Yr Athro Robin May i adael yr ASB ym mis Medi
Mae Prif Gynghorydd Gwyddonol yr Asiantaeth Safonau Bwyd, yr Athro Robin May, i roi’r gorau i’w swydd ar ôl tymor o bum mlynedd, a hynny ar ôl cael ei benodi’n Brif Swyddog Gwyddonol Dros Dro yn Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA).
“Ar ran yr Asiantaeth Safonau Bwyd gyfan, hoffwn ddiolch i Robin am bopeth y mae wedi’i wneud dros y pum mlynedd diwethaf i gynnal hyder y cyhoedd mewn safonau bwyd. Mae wedi chwarae rhan werthfawr wrth lunio swyddogaethau gwyddoniaeth a thystiolaeth yr ASB, gan feithrin cydweithrediadau cryf ag eraill yn y llywodraeth a’r byd academaidd, ac arwain ein gwaith cyfathrebu â’r cyhoedd ar risgiau sy’n gysylltiedig â bwyd. Mae Robin hefyd wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu ein Hyb Arloesi, gan ein galluogi i ehangu ein harbenigedd i reoleiddio technolegau newydd ac arloesol yn well. Bydd colled fawr ar ei ôl, ond edrychwn ymlaen at barhau â’n gwaith gydag ef drwy ein partneriaeth ag UKHSA.”
“Ar ôl mwy na phum mlynedd fel Prif Gynghorydd Gwyddonol, byddaf yn drist iawn o fod yn ffarwelio â’r ASB. Mae wedi bod yn fraint cael gweithio mewn sefydliad sy’n cael ei arwain gan wyddoniaeth ac sydd wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch ac uniondeb system fwyd y DU.
Rwy’n arbennig o falch o ymrwymiad yr ASB i wneud penderfyniadau tryloyw, yn seiliedig ar dystiolaeth, er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd a meithrin ymddiriedaeth y cyhoedd. O lywio cymhlethdodau diogelwch bwyd yn y dirwedd ar ôl yr UE i ymateb i risgiau sy’n dod i’r amlwg neu dechnolegau newydd ac arloesol, mae’r pum mlynedd diwethaf wedi bod yn gyfnod hynod ddiddorol i wasanaethu fel Prif Gynghorydd Gwyddonol.
Er fy mod i’n edrych ymlaen at ymgymryd â heriau newydd yn UKHSA, byddaf bob amser yn gefnogwr cryf o genhadaeth yr ASB a’r rhan hanfodol y mae’n ei chwarae wrth geisio sicrhau bod bwyd yn ddiogel a bod safonau’n uchel i bawb.”
Bydd yr ASB yn lansio ymgyrch recriwtio agored yn fuan i benodi olynydd parhaol yr Athro May.