Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn rhannu’r diweddaraf am waith y Gweithgor Twyll Bwyd o fynd i’r afael â throseddau bwyd

Heddiw, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), gan weithio gyda phartneriaid yn y diwydiant bwyd, yn cyhoeddi neges i randdeiliaid sy’n amlinellu cynigion gan y Gweithgor Twyll Bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 11 October 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 11 October 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau

Mae’r neges i randdeiliaid yn amlinellu cynigion i gryfhau’r ymateb ar y cyd i droseddau bwyd, gan gynnwys:

  • lansio rhif rhadffôn newydd ar gyfer y llinell gymorth twyll bwyd i’w gwneud yn haws i bobl godi llais a rhannu eu pryderon;
  • gweithio gyda’r diwydiant ar ffyrdd o annog pobl i chwythu’r chwiban ar dwyll bwyd;
  • cryfhau trefniadau rhannu gwybodaeth rhwng yr archwilwyr trydydd parti a ddefnyddir gan fusnesau bwyd, a’r ASB, i helpu i atal gweithgarwch troseddol;
  • gwella’r ffordd y mae’r ASB yn cyhoeddi rhybuddion sy’n seiliedig ar gudd-wybodaeth er mwyn mireinio’r ffordd o rybuddio busnesau bwyd am dwyll bwyd posib mewn cadwyni cyflenwi

Yn aml, nid yw pobl yn ymwybodol eu bod wedi dioddef twyll bwyd, ond gall troseddau bwyd fod yn ddifrifol niweidiol i ddefnyddwyr, busnesau bwyd a’r diwydiant bwyd ehangach. Gall gynnwys gwerthu bwyd a diod nad ydynt yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, neu sydd â chynhwysion rhatach na’r rhai a restrir ar y label. Mae’r gweithgarwch hwn yn rhoi baich trwm ar fusnesau ac awdurdodau lleol, yn ogystal â’r system cyfiawnder troseddol.

Mae’r ASB hefyd wedi cyhoeddi dau adroddiad ymchwil heddiw; y naill yn amcangyfrif bod troseddau bwyd yn costio hyd at £2 biliwn y flwyddyn i economi’r DU a’r llall yn gwneud argymhellion o ran sut i atal troseddau bwyd. Yn ôl y papur ymchwil ‘Cost Troseddau Bwyd’ (The Cost of Food Crime), mae twyll bwyd yn costio rhwng £410 miliwn ac £1.96 biliwn y flwyddyn i ddefnyddwyr, busnesau a’r llywodraeth.

Hefyd, mae adroddiad o’r enw ‘Beth sy’n gweithio i atal twyll bwyd’ (What works to prevent food fraud) wedi’i gyhoeddi heddiw. Mae’r adroddiad hwn yn amlygu ffyrdd o ategu ein gwaith atal twyll bwyd presennol a chryfhau mesurau diogelu yn erbyn twyllwyr.

Dywedodd Emily Miles, Prif Weithredwr yr ASB:

“Mae bwyd y DU ymhlith y bwyd mwyaf diogel a dilys yn y byd, ond bydd troseddoldeb yn y system fwyd wastad yn fygythiad. 

Busnesau bwyd yw’r amddiffyniad cyntaf a phwysicaf, ac rydym am eu cefnogi. Dyma un o’r rhesymau pam y gwnaethom lansio gweithgor i archwilio gyda’n gilydd a ellir gwella rhai agweddau ar ein hymateb cyfunol i droseddau bwyd. Gyda’n gilydd, rydym yn ei gwneud hi’n haws rhannu cudd-wybodaeth (intelligence) a gwybodaeth trwy helpu pobl sy’n gweithio yn y system fwyd i rannu eu pryderon gyda ni’n rhydd ac yn gyfrinachol.

Mae ein hymchwil yn awgrymu bod cost troseddau bwyd, i fusnesau a defnyddwyr sy’n teimlo’r straen ariannol, yn dal i fod yn bwysig.”

Dywedodd Helen Sisson, Cyfarwyddwr a Chyd-Gadeirydd Rhwydwaith Cudd-wybodaeth y Diwydiant Bwyd:

“Rydym yn falch o fod yn gweithredu gyda’r ASB a’n partneriaid yn y diwydiant bwyd i gryfhau’r ffordd y gallwn atal troseddau bwyd yn ein cadwyni cyflenwi. Mae cydweithredu a chyfathrebu rhwng pob rhan o’r system fwyd yn hanfodol i ddiogelu’r cyhoedd ac enw da bwyd y DU drwy’r byd i gyd.”

Os ydych yn amau twyll bwyd, rhowch wybod i’r tîm Trechu Trosedd Bwyd yn Gyfrinachol; maen nhw bob amser ar gael ar food.gov.uk neu drwy ffonio 0800 028 1180 (0207 276 8787 ar gyfer ffonau symudol a galwadau ffôn o’r tu allan i’r DU).

Astudiaethau achos

Astudiaeth achos 1 – Gwaith partneriaeth yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd gyda Chyngor Gorllewin Swydd Northampton

Bu’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU), ar y cyd â Chyngor Gorllewin Swydd Northampton, yn gweithio ar weithrediad dan arweiniad y cyngor. Arweiniodd y gwaith hwn at ddinistrio sawl tunnell o fwyd. Ar ôl rhannu cudd-wybodaeth a chefnogi Cyngor Gorllewin Swydd Northampton, aeth yr NFCU gyda’r awdurdod lleol ar ymweliad dirybudd a ganfu fusnes bwyd a oedd yn gweithredu o safle heb gymeradwyaeth a heb fesurau rheoli diogelwch bwyd priodol ar waith. Arweiniodd hyn at gadw ac, yn y pen draw, ddinistrio’r bwyd a rhwystro’r gweithgarwch anghymeradwy. 

Astudiaeth achos 2 – Gwaith partneriaeth yr NFCU gyda Chyngor Wiltshire 

Bu’r NFCU yn gweithio gyda Chyngor Wiltshire mewn gweithrediad dan arweiniad yr awdurdod lleol. Gwnaeth y tîm ddisgyn ar fusnesau golchi ceir yn Devizes a Ludgershall yn 2020 er mwyn cynnal ymchwiliadau dirybudd ar ôl cael gwybod am ffatrïoedd torri cig anghyfreithlon.
Arweiniodd yr achosion difrifol o dorri rheolau hylendid at gau’r lleoliadau ar fyrder, a gwnaethom gyhoeddi rhybudd bwyd cenedlaethol i rybuddio bod cig a oedd wedi’i gyflenwi yn anaddas i’w fwyta.
Cafodd tua 5.1 tunnell o gig eidion a chig oen, gyda gwerth amcangyfrifedig o £35,700, eu hatafaelu a’u dinistrio’n ddiweddarach. Yn y llys, amcangyfrifwyd bod y diffynnydd wedi elwa o £150,000 o fasnachu cig yn ystod y cyfnod rhwng mis Ionawr 2020 a mis Tachwedd 2020.