Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn rhybuddio am risg diogelwch bwyd yn ymwneud â bariau siocled brand ffug

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn rhybuddio’r cyhoedd i beidio â phrynu na bwyta bariau siocled ‘Wonka Bars’ ffug na bariau siocled ‘PRIME’ ffug.

Diweddarwyd ddiwethaf: 4 December 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 December 2023

Mae’r ASB yn cyhoeddi’r rhybudd ar ôl cael adroddiadau bod siocledi brand ffug ar werth. Mae hefyd yn dilyn digwyddiad diweddar yn ymwneud â siocled anniogel a werthwyd mewn marchnad yn Swydd Nottingham

Gallai unrhyw fariau siocled brand ffug fod yn anniogel i’w bwyta, gan ei bod yn bosib eu bod yn cael eu cynhyrchu neu eu hail-becynnu gan fusnesau sydd heb eu cofrestru, neu gan droseddwyr, ac na fyddant yn dilyn cyfreithiau hylendid, labelu ac olrheiniadwyedd.  

Gyda’r Nadolig yn agosáu, peidiwch â gwastraffu’ch arian ar siocled brand ffug i’ch plant, eich ffrindiau neu’ch teulu – ni fydd y cynnyrch yn un dilys, a does dim modd gwybod beth sydd ynddo . Gallai fod risg i ddiogelwch bwyd, yn enwedig i’r rheiny sydd ag alergeddau neu anoddefiadau bwyd.

Rydym yn gwybod bod problem gyda bariau siocled ffug, neu fariau a allai fod yn anniogel fel rhai Wonka a PRIME, ac rydym yn gweithio gyda Safonau Masnach i atal digwyddiadau diogelwch bwyd ac i ddiogelu defnyddwyr. 
   
Peidiwch â phrynu na bwyta’r bariau hyn. Os ydych yn meddwl eich bod wedi prynu bar siocled ffug, neu os ydych yn gweld cynnyrch nad yw’n ymddangos yn iawn pan fyddwch yn siopa, rhowch wybod i’ch awdurdod lleol.” 

Tina Potter, Pennaeth Digwyddiadau’r ASB

Llynedd, cafodd bariau Wonka ffug eu tynnu oddi ar y farchnad ar ôl canfod eu bod yn cynnwys alergenau na chawsant eu rhestru ar y label, gan beri risg iechyd fawr i unrhyw un ag alergedd neu anoddefiad bwyd.  

Mae’r ASB yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ddiogelu’r cyhoedd. Mae llythyrau wedi’u hanfon at awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am ymchwilio a gorfodi cyfraith bwyd, i’w cynghori i dynnu unrhyw gynhyrchion ffug rhag cael eu gwerthu lle bo risg hysbys i iechyd y cyhoedd, neu amheuaeth y gallai fod risg o’r fath. 

Sut i adnabod siocled brand ffug: 

  • Gall fod yn anodd adnabod siocled brand ffug. Dyma ambell air o gyngor: 
  • Mae prynu oddi wrth gwerthwr ag enw da yn golygu eich bod yn llai tebygol o brynu cynnyrch ffug
  • Os oes gennych unrhyw amheuaeth, gofynnwch i’r gwerthwr am fwy o wybodaeth am yr hyn yr ydych yn ei brynu, neu gadewch y cynnyrch ar y silff
  • Os yw’r pris yn rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei fod
  • Gallwch chwilio am werthwyr ar eich stryd fawr, eich marchnad leol, ac ar-lein trwy ddefnyddio ein gwefan Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd

Bariau Siocled PRIME: mae PRIME wedi rhoi gwybod nad yw’r cwmni wedi cynhyrchu unrhyw fwydydd â brand PRIME. Os gwelwch y rhain, maent yn ffug a gallant fod yn anniogel.  
 

Example Prime chocolate bar

Bariau Wonka ffug: nid oes unrhyw fariau Wonka cyfreithlon, felly peidiwch â choelio’r label. Os byddwch yn gweld bar Wonka mewn siop, ar-lein neu ar stondin marchnad, nid yw’n gynnyrch dilys. Mae’n bosib nad yw’r rhestr gynhwysion yn gywir, ac efallai na fydd alergenau wedi’u labelu’n gywir.  
 

Examples of fake Wonka chocolate bars

Os nad yw’r cynnyrch yn edrych yn iawn, rhowch wybod i’ch awdurdod lleol.