Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer 2020/21

Penodol i Gymru

Heddiw, cyhoeddodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ei Hadroddiad Blynyddol a'i Chyfrifon ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf ar gyfer Cymru. Mae'r adroddiad yn amlinellu ein perfformiad a'n gweithgareddau yn 2020/21 ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon am gost net o £114.2 miliwn.

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 July 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 9 July 2021

Yn ei rhagair i'r cyfrifon, mae Cadeirydd Dros Dro yr ASB, Ruth Hussey yn ysgrifennu: 

‘Mae hi wedi bod y flwyddyn fwyaf heriol i’r ASB ac rwy'n falch bod yr Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon yn dangos, er gwaethaf pwysau COVID-19 a pharatoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio ar gyfer ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE), bod y cynnydd rhagorol yn erbyn ei blaenoriaethau strategol wedi parhau.’

Esbonia'r Prif Weithredwr Emily Miles yn ei rhagair fod yr ASB wedi addasu'n dda i'r heriau lu yn ystod y flwyddyn adrodd ac yn falch o'r gwaith y mae'r ASB wedi'i wneud i reoli effaith y pandemig wrth ddatblygu cynlluniau diwygio. Mae hi hefyd yn esbonio sut rydym ni wedi gwneud cynnydd ar ein blaenoriaeth o wneud y Deyrnas Unedig (DU) yn lle gwell i fod yn ddefnyddiwr sydd â gorsensitifrwydd i fwyd:

‘Eleni, fe gynhaliom ni symposiwm gorsensitifrwydd i fwyd gydag amrywiaeth o siaradwyr a gweithdai, cyhoeddi ymchwil a ganfu fod y modd y mae busnesau bwyd yn trin alergenau wedi gwella’n sylweddol ers i reoliadau newydd ddod i rym yn 2014, a lansio ymgyrch ymwybyddiaeth lwyddiannus yn targedu oedolion ifanc sy’n tueddu i fod mewn mwy o berygl o brofi adweithiau alergaidd i fwyd. Rydym ni hefyd yn paratoi busnesau ar gyfer Hydref 2021, pan ddaw deddfwriaeth i rym yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau bwyd labelu alergenau ar fwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw i'w werthu'n uniongyrchol (PPDS).’

Darllenwch yr adroddiad llawn i ddarganfod rhagor am ein gweithgareddau a'n perfformiad yn ystod 2020/21, a'n pwrpas, ein prif swyddogaethau a’n gweledigaeth.

Ein blwyddyn mewn rhifau

Roedd gweithgarwch a pherfformiad ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cynnwys y canlynol:

  • Cyflenwyd £1.4 miliwn o arian fel grantiau i awdurdodau lleol i gefnogi eu parodrwydd at ddiwedd y cyfnod pontio’r UE. 
  • Cofrestrodd bron i 55,000 o fusnesau newydd gyda'n gwasanaeth digidol newydd, Cofrestru Busnesau Bwyd
  • Cofrestrodd mwy na 58,000 o gyfrifon ar blatfform e-hyfforddiant alergeddau ac anoddefiadau bwyd

Gwyddoniaeth:

  • Cyfanswm ein gwariant gwyddoniaeth ac ymchwil: £12.8 miliwn. 
  • Cymerwyd 7,510 o samplau fel rhan o weithgareddau samplu'r ASB 
  • Dangosodd ein arolwg tracio agweddau’r cyhoedd fod 75% o bobl sy'n ymwybodol o'r ASB yn ymddiried yn yr ASB i sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label

Gweithrediadau a chyflenwi:

  • Fe'n hysbyswyd i 2,157 o ddigwyddiadau ac fe ymchwiliwyd iddynt. 
  • Roedd 98% o weithredwyr busnesau bwyd cig yng Nghymru wedi’u sgorio’n 'foddhaol' neu'n uwch o ran cydymffurfio.
  • Cafodd mwy na 99% o'r holl anifeiliaid a broseswyd mewn lladd-dai eu prosesu’n unol â deddfwriaeth lles anifeiliaid
  • Cofnodwyd a dosbarthwyd mwy na 2,500 o adroddiadau gwybodaeth yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd yn ystod 2020/21
  • Llwyddodd mwy o fusnesau yng Nghymru sy'n cyflenwi bwyd yn uniongyrchol i ddefnyddwyr i gael sgôr hylendid bwyd o 5 ('Da iawn'): 70.1%

 Bod y sefydliad gorau gallwn fod:

  • Rydym ni’n adran o’r Gwasanaeth Sifil sy’n 'Perfformio'n Uchel': Mae ein sgôr mynegai ymgysylltu â gweithwyr yn Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil wedi codi 3 phwynt i 70%