Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr Athro Susan Jebb i adael yr Asiantaeth Safonau Bwyd ddiwedd mis Mehefin

Bydd Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), yr Athro Susan Jebb, yn camu i lawr ar 30 Mehefin 2024 ar ddiwedd ei thymor tair blynedd yn y swydd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 28 February 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 28 February 2024

Dywedodd yr Athro Jebb, sydd, ochr yn ochr â’i rôl gyda’r ASB, hefyd yn Athro Deiet ac Iechyd y Boblogaeth yn Adran Gwyddorau Iechyd Gofal Sylfaenol Nuffield ym Mhrifysgol Rhydychen: 

'Mae hi wedi bod yn fraint enfawr cael bod yn Gadeirydd ar sefydliad gwych, sy’n gwneud gwaith hollbwysig i gynnal iechyd y cyhoedd. Rwy’n falch o’r gwaith y mae’r Bwrdd wedi’i wneud i alluogi’r ASB i gamu ymlaen y tu hwnt i ganlyniadau uniongyrchol yr Ymadawiad â’r UE, a dod yn sefydliad sy’n canolbwyntio ar yr heriau mwyaf brys y mae system fwyd y DU yn eu hwynebu heddiw, gan gynnwys cychwyn cyfres o ddiwygiadau pwysig.  

'Mae llawer yr wyf am ei gyflawni o hyd dros y pedwar mis nesaf. Mae gwir angen am ein rhaglen ddiwygio i alluogi’r ASB i gefnogi busnesau i wneud y peth iawn, i sicrhau arbedion effeithlonrwydd i’r trethdalwr ac, yn hollbwysig, i gynnal y safonau bwyd uchel yr ydym i gyd yn eu gwerthfawrogi. 

'Ochr yn ochr â’m rôl fel Cadeirydd yr ASB, rwyf wedi parhau i arwain tîm ymchwil mawr ym Mhrifysgol Rhydychen, gan ddatblygu’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer ymyriadau i atal a thrin gordewdra. Wrth edrych ymlaen, rwy’n awyddus i allu rhoi fy sylw llawn i’r gwaith hwn.'

Arweinir y broses ddethol ar gyfer Cadeirydd nesaf yr ASB gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC) a bydd yn lansio proses recriwtio yn fuan. Bydd y penodiad yn cael ei wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'i gymheiriaid yng Nghymru a Gogledd Iwerddon.