Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Strategaeth Sgiliau Cymraeg

Mae ein Strategaeth Sgiliau Cymraeg yn amlinellu sut y byddwn ni’n cynnal gweithlu dwyieithog digonol er mwyn darparu gwasanaeth Cymraeg effeithiol yng Nghymru.

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 November 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 30 November 2021
Mae ein Strategaeth Sgiliau Cymraeg yn amlinellu sut y byddwn ni’n cynnal gweithlu dwyieithog digonol er mwyn darparu gwasanaeth Cymraeg effeithiol yng Nghymru.

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth Cymraeg effeithiol yng Nghymru, yn unol â’r ymrwymiadau a wnaed yn ein Cynllun Iaith Gymraeg 2019-22.

Mae darparu gwasanaeth ystyrlon yng Nghymru, nad yw’n trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg gan ddarparu gwasanaethau cyfartal yn y ddwy iaith, yn gofyn am weithlu medrus a all weithio’n ddwyieithog. Er mwyn cynnal y gweithlu dwyieithog medrus hwn, mae’n rhaid i ni ddenu a chadw staff sy’n siarad Cymraeg ar draws holl dimau a phroffesiynau’r ASB yng Nghymru. Yn ogystal â hyn, mae angen rhoi cyfle i staff cyfredol ymgymryd â hyfforddiant i ddatblygu neu wella eu sgiliau Cymraeg.

Bydd ein Strategaeth Sgiliau Cymraeg yn ein helpu i reoli a chynllunio sgiliau iaith staff. Mae’n cwmpasu’r meysydd allweddol canlynol:

  • Gwella’r gwasanaethau dwyieithog a ddarparwn

  • Pennu lefel sgiliau Cymraeg (darllen, ysgrifennu, gwrando a siarad) sy’n ofynnol ar gyfer timau a swyddi ledled yr ASB yng Nghymru

  • Recriwtio unigolion sydd â’r lefel briodol o sgiliau Cymraeg ar gyfer pob swydd sy’n cael ei hysbysebu
  • Hyrwyddo a dathlu gweithle dwyieithog, yn fewnol ac yn allanol, gyda’r bwriad o ddenu a chadw staff dwyieithog

  • Cynyddu’r cyfleoedd i staff ddatblygu eu sgiliau Cymraeg a magu eu hyder.

Ein nod yw sicrhau bod ein gwasanaeth Cymraeg yn bodloni’r gofynion a nodir ym Mesur y Gymraeg 2011, oherwydd gallant ddod yn uniongyrchol berthnasol i’r ASB yn y dyfodol. Dylai hefyd gyfrannu at darged uchelgeisiol Llywodraeth Cymru o gyrraedd Miliwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac anrhydeddu ymrwymiad yr ASB i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Cymru â Diwylliant Bywiog lle Mae’r Gymraeg yn Ffynnu.

Mae’r Strategaeth yn adnodd allweddol i reolwyr sy’n recriwtio i’r ASB yng Nghymru a dylid ei defnyddio wrth ddylunio a gweithredu cynlluniau ar gyfer y gweithlu.

Er mwyn sicrhau bod y strategaeth iaith hon yn cael ei chymhwyso’n gyson, bydd holl reolwyr newydd yr ASB yng Nghymru yn cymryd rhan mewn sesiwn ymwybyddiaeth iaith Gymraeg. Bydd yr Uned Iaith Gymraeg yn cyflwyno sesiynau gloywi dilynol i’r holl reolwyr yn ôl yr angen.

Camau gweithredu sy’n ofynnol

Er mwyn gweithredu’r strategaeth hon yn effeithiol, mae’n rhaid i’r ASB yng Nghymru gyflawni’r camau canlynol. Bydd y gwaith hwn yn cael ei arwain gan Uned Iaith Gymraeg fewnol yr ASB, gyda chefnogaeth gan Gyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru ac Adnoddau Dynol. 

Mae’n rhaid sicrhau bod pob rheolwr recriwtio yng Nghymru yn ymwybodol o’r Strategaeth Sgiliau Cymraeg a’r nodau a’r gofynion sy’n rhan ohoni.

Mae’n rhaid diffinio a chyfathrebu’n glir y sgiliau Cymraeg mewnol sy’n ofynnol i weithredu Cynllun Iaith yr ASB yn llwyddiannus. Dylai ymdrechion i recriwtio staff dwyieithog ganolbwyntio ar y rolau a’r meysydd allweddol hyn:

  • Swyddog Cymorth Busnes – rôl sy’n ymdrin â’r cyhoedd sy’n gofyn am sgiliau dwyieithog. Mae hon yn swydd ddwyieithog barhaol sy’n gofyn am sgiliau siarad, darllen a gwrando sy’n cyfateb i lefel 4 yn unol â fframwaith Cymdeithas i Brofwyr Ieithoedd yn Ewrop (ALTE) a sgiliau ysgrifennu sy’n cyfateb i lefel 2 ac uwch. Nid oes angen ailasesu ar gyfer y rôl hon bob tro y daw’n wag.
  • Gallu’r tîm Cyfathrebu yng Nghymru yn y Gymraeg (o leiaf un aelod o’r tîm i fod yn rhugl) – er mwyn sicrhau gwasanaeth Cyfathrebu Cymraeg effeithiol ac effeithlon, gan ofyn am sgiliau siarad, darllen a gwrando sy’n cyfateb i lefel 4 yn unol â fframwaith ALTE a sgiliau ysgrifennu sy’n cyfateb i lefel 3.
  • Gallu pob tîm ehangach yn y Gymraeg (o leiaf un aelod rhugl ym mhob tîm – siarad, gwrando a darllen lefel 4 ac ysgrifennu lefel 2) – er mwyn sicrhau bod y cyhoedd (sy’n cynnwys y cyhoedd yn gyffredinol, awdurdodau lleol, y cyfryngau, busnesau bwyd ac eraill yr ydym yn darparu gwasanaeth ar eu cyfer) yn gallu ymgysylltu â’r ASB yng Nghymru am unrhyw fater sy’n peri pryder yn eu dewis iaith (Cymraeg/Saesneg), fel y mae ganddynt hawl i’w wneud.
  • Uned Iaith Gymraeg fewnol – er na chyfeirir ati’n benodol yn y Cynllun Iaith, mae natur pob swydd yn yr Uned hon yn gofyn am sgiliau Cymraeg o’r lefel uchaf (lefel 5) ar gyfer siarad, darllen, gwrando ac ysgrifennu.

Dylai Uned Iaith Gymraeg yr ASB gynnal arolwg sylfaenol o sgiliau Cymraeg ar draws yr ASB yng Nghymru i bennu gallu staff mewnol presennol o ran sgiliau Cymraeg a nodi unrhyw fylchau yn y gwasanaeth. Dylid cynnal yr arolwg hwn yn flynyddol i sicrhau trosolwg cywir o sgiliau Cymraeg mewnol dros amser.

Mae’n rhaid nodi opsiynau ar gyfer cau unrhyw fylchau a nodir o ran sgiliau. Dylid gwneud hyn trwy recriwtio pan fydd cyfleoedd yn codi, a thrwy hyfforddiant a gwella sgiliau, fel y nodir yn adran ‘datblygu sgiliau Cymraeg’ y strategaeth hon.

Mae’n rhaid sicrhau gallu o ran y Gymraeg ar draws pob tîm yng Nghymru:

  • Pan ddaw swydd yn wag, neu pan fydd swydd newydd yn cael ei chreu, bydd y Rheolwr Recriwtio/Arweinydd y Tîm yn cysylltu â’r Uned Iaith Gymraeg cyn unrhyw sgyrsiau cychwynnol gydag Adnoddau Dynol.
  • Os nad oes gan un aelod o’r tîm sy’n recriwtio sgiliau Cymraeg, bydd y swydd wag hon yn cael ei hysbysebu o’r dechrau fel rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol, a bydd y Rheolwr Recriwtio, dan arweiniad yr Uned Iaith Gymraeg, yn hysbysebu’r swydd wag ac yn targedu siaradwyr Cymraeg (gan ddefnyddio safleoedd recriwtio Cymraeg fel Lleol.cymru). Bydd lefel y sgiliau sy’n ofynnol ar gyfer darllen, ysgrifennu, gwrando a siarad yn cael ei phennu gan yr Uned Iaith Gymraeg yn unol â gofynion y swydd.
  • Fodd bynnag, mewn amgylchiadau eithriadol lle mae angen clir a chyfiawn i lenwi swydd arbenigol/dechnegol ac nad oedd recriwtio am ymgeisydd Cymraeg wedi bod yn llwyddiannus, gall Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru ddiystyru’r gofyniad uchod am sgiliau Cymraeg yn ôl ei ddisgresiwn.
  • Dylai Rheolwyr Recriwtio a Phartneriaid Busnes Adnoddau Dynol sicrhau bod deunyddiau recriwtio yn pwysleisio’n briodol y sgiliau Cymraeg sy’n ofynnol, gan gyfeirio at fframwaith ALTE. Dylid ystyried hyn wrth baratoi’r pecyn i ymgeiswyr ac unrhyw ddeunyddiau hysbysebu.
  • Rydym ni’n cydnabod bod llawer o siaradwyr Cymraeg yn teimlo nad yw eu sgiliau’n ddigonol i’w defnyddio yn eu gwaith. Gall cyfeirio at fframwaith ALTE roi sicrwydd i ymgeiswyr posibl fod ganddynt yr union lefel o sgiliau sy’n ofynnol.

Mae’n rhaid i bob swydd nad yw’n cael ei hystyried yn swydd lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol, yn unol â’r weithdrefn uchod, gynnwys y Gymraeg fel enghraifft o feini prawf dymunol (heb nodi lefel), a hynny er mwyn cryfhau ymhellach ymrwymiad yr Asiantaeth i sicrhau gweithlu dwyieithog.

Dylai aelodau newydd o staff gael eu hannog gan eu rheolwyr a’u cefnogi gan yr Uned Iaith Gymraeg i gyrraedd lefel 1 (sgiliau Cymraeg sylfaenol), sy’n golygu y gall staff ynganu enwau a sefydliadau yng Nghymru. Ymdrinnir â hyn mewn sesiwn cyflwyno’r Gymraeg i staff newydd yng Nghymru.

Mae’n rhaid monitro ac adrodd ar weithredu’r Strategaeth a chynnwys hyn mewn Adroddiadau Monitro Blynyddol i Gomisiynydd y Gymraeg.

Er mwyn cryfhau ymhellach ymrwymiad yr ASB o ran datblygu gweithlu dwyieithog a darparu gwasanaeth Cymraeg cynhwysfawr ar draws pob tîm a disgyblaeth, bydd yr ASB yng Nghymru yn sicrhau bod cyfleoedd hyfforddi a datblygu ar gael, a bod y cyfleoedd hyn yn cael eu hyrwyddo’n ddigonol i staff (trwy’r Uned Iaith Gymraeg).

Bydd cyfleoedd hyfforddi a datblygu yn cynnwys y canlynol:

  • Bydd Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru yn annog pob rheolwr i gefnogi gweithwyr sy’n dymuno ymgymryd â hyfforddiant Cymraeg, ar yr amod bod hyn yn rhesymol ac yn ymarferol.
  • Tanysgrifio i ddarpariaeth a deunyddiau Cymraeg Gwaith (learnwelsh.cymru) a gynigir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, a hyrwyddo’r rhain ar bob cyfle a thrwy’r llwyfannau perthnasol sydd ar gael i ni.
  • Bydd Rheolwyr Llinell yn annog staff newydd i ddilyn y cwrs rhagarweiniol, Cymraeg Gwaith ‘Croeso’ i ddatblygu sgiliau cwrteisi yn y Gymraeg. Mae sgiliau cwrteisi sylfaenol yn y Gymraeg bellach yn ofyniad ar gyfer holl swyddi Llywodraeth Cymru, yn unol â’r nodau ar gyfer gweision sifil yn strategaeth Llywodraeth Cymru Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr. Fel adran o’r Llywodraeth sy’n gweithredu yng Nghymru, dylem ni geisio gwneud yr un peth yn yr ASB yng Nghymru.
  • Hyrwyddo'r holl gyfleoedd cymorth a dysgu eraill a gynigir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a chyfeirio staff unigol at yr opsiynau mwyaf priodol neu berthnasol yn unol â’u hanghenion/gofynion. Mae hyn yn cynnwys cyrsiau ar gyfer pob lefel, gan gynnwys hyfforddiant gloywi ar gyfer siaradwyr rhugl.
  • Hyrwyddo dulliau dysgu llai ffurfiol y gall staff eu gwneud yn eu hamser eu hunain (er enghraifft Say Something in Welsh a Duolingo (nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr).
  • Darparu rhwydwaith i staff sy’n dymuno dysgu Cymraeg er mwyn iddynt allu ymgysylltu â dysgwyr eraill a siaradwyr Cymraeg trwy’r Clwb Clebran, sef clwb mewnol.
  • Hyrwyddo Coffi Cwtsh y Gwasanaeth Sifil fel rhwydwaith cymorth cymdeithasol ar gyfer staff sy’n dymuno dysgu, ymarfer neu ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg.
  • Hyrwyddo cyfleoedd dysgu a datblygu Cymraeg perthnasol eraill pan fyddant yn codi ar lwyfannau mewnol perthnasol.
  • Amlinellu a chyfeirio at yr holl gyfleoedd a restrir uchod yn y sesiwn cynefino a gynigir i bob aelod newydd o staff gan yr Uned Iaith Gymraeg.
Mae’r ASB yng Nghymru yn defnyddio fframwaith ALTE (Cymdeithas i Brofwyr Ieithoedd yn Ewrop) i asesu sgiliau Cymraeg yn fewnol.

Dyma adnodd allweddol ar gyfer recriwtio sgiliau Cymraeg, ac mae fframwaith ALTE yn ffordd o asesu sgiliau iaith yn ôl y mathau o dasgau cyfathrebu y gall person eu cyflawni wrth siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu.

Mae’r fframwaith hwn yn cael ei addasu’n aml gan sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru ac mae’n fframwaith sgiliau a gydnabyddir yn eang. Mae’n seiliedig ar gydnabod yr hyn y gall unigolion ei gyflawni yn ieithyddol (yn Gymraeg yn y cyd-destun hwn) ac mae’n gyfeirbwynt da i gyflogwyr.

Disgrifiad o lefelau sgiliau Cymraeg cyffredinol

Lefel 0 – Ymwybyddiaeth

Gallwch chi wneud y canlynol:

Cydnabod rhai geiriau byr, syml fel rhai Cymraeg a hyd yn oed ddyfalu ystyr rhai geiriau wrth eu darllen neu eu clywed, ar yr amod bod y person yn siarad yn araf iawn neu fod y geiriau'n cael eu darllen mewn cyd-destun esboniadol. Wrth glywed geiriau syml sawl gwaith, gallwch eu hailadrodd a gallwch hyd yn oed ysgrifennu rhai geiriau byr. Er efallai nad ydych chi’n ystyried bod y sgiliau hyn o lawer o ddefnydd yn y gweithle, mae’r iaith ymhell o fod yn estron i chi ac mae gennych chi sylfaen gadarn y gallwch chi ddatblygu eich sgiliau arni.

Yn bwysicach fyth, mae gennych chi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth gref o’r amgylchedd dwyieithog y mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru yn gweithredu ynddo, yr angen i drin y ddwy iaith yn gyfartal, ac rydych chi’n dangos sensitifrwydd tuag at anghenion siaradwyr Cymraeg. Rydych chi’n ymwybodol o'r hyn y gallwch chi ei wneud i sicrhau bod y ddwy iaith yn cael eu trin yn gyfartal ac i ddiwallu anghenion ieithyddol yr holl randdeiliaid, er enghraifft, defnyddio gwasanaethau cyfieithu priodol, gan ddefnyddio sgiliau iaith cydweithwyr.

Lefel 1 – Mynediad

Gallwch chi wneud y canlynol:

Deall a defnyddio ymadroddion cyfarwydd bob dydd os yw’r siaradwr yn siarad yn araf ac yn glir ac yn barod i helpu. Cyflwyno eich hun ac eraill a gallwch chi ofyn ac ateb cwestiynau am fanylion personol sylfaenol, er enghraifft, lle mae rhywun yn byw, yn gweithio, beth maen nhw’n hoffi ei wneud, pethau sydd ganddyn nhw a beth wnaethon nhw. Deall testunau byr iawn lle mae pobl yn rhoi gwybodaeth sylfaenol amdanyn nhw eu hunain neu eraill, er enghraifft, ar ffurflenni. Trosglwyddo neges syml neu wneud cais syml, er enghraifft, trwy e-bost.

Lefel 2 – Sylfaen

Gallwch chi wneud y canlynol:

Deall brawddegau pan fydd pobl yn siarad yn araf am sefyllfaoedd bob dydd, er enghraifft, gwybodaeth bersonol a theuluol sylfaenol, siopa, ardal leol, cyflogaeth, a’r hyn y maen nhw wedi’i wneud neu y bydden nhw’n ei wneud. Cynnal sgwrs sylfaenol gyda rhywun arall ar bwnc cyffredin bob dydd, er enghraifft, gwaith, hobïau, hoffterau, pethau sydd wedi digwydd neu gynlluniau ar gyfer y dyfodol. Deall negeseuon am bethau bob dydd a llythyrau/e-byst sylfaenol. Ysgrifennu nodiadau byr at ffrindiau/cydweithwyr, er enghraifft, i drosglwyddo neges.

Lefel 3 – Canolradd

Gallwch chi wneud y canlynol:

Deall y prif bwyntiau pan fydd rhywun yn siarad am bynciau cyffredin neu bob dydd, neu pan fydd pethau yn ymwneud â’r gwaith yn cael eu trafod, er enghraifft, mewn sgwrs, neu mewn cyfarfod grŵp bach. Cynnal sgwrs estynedig gyda siaradwr rhugl ar bwnc cyfarwydd sy’n ymwneud â bywyd bob dydd, er enghraifft, hobïau, teithio neu bynciau uniongyrchol gysylltiedig â’r gwaith. Disgrifio profiadau a digwyddiadau, gobeithion ac uchelgeisiau a rhoi rhesymau ac esboniadau cryno am eich barn a’ch cynlluniau. Deall erthyglau byr neu e-byst syml ar bynciau bob dydd sy’n ymwneud â’r gwaith. Ysgrifennu llythyr/e-bost ar y mwyafrif o bynciau, gan ofyn am bethau, rhoi gwybodaeth, gwahodd rhywun neu drefnu digwyddiad.

Lefel 4 – Uwch

Gallwch chi wneud y canlynol:

Dilyn y mwyafrif o sgyrsiau neu drafodaethau fel rheol, hyd yn oed ar bynciau nad ydych chi’n gyfarwydd â nhw, oni bai bod rhywun yn siarad ag acen anghyfarwydd gref, er enghraifft, mewn cynhadledd. Siarad yn hyderus â siaradwyr rhugl ar bynciau cyfarwydd sy'n gysylltiedig â bywyd neu waith bob dydd, a gallu mynegi eich barn, cymryd rhan mewn trafodaethau, a siarad yn helaeth am bynciau cyffredinol, er enghraifft, mewn cyfarfod, neu mewn sefyllfa un i un. Deall y rhan fwyaf o ohebiaeth, erthyglau papur newydd, ac adroddiadau sydd wedi eu hanelu at siaradwyr Cymraeg rhugl, gyda chymorth geiriadur, a sganio trwy destunau hir i ddod o hyd i fanylion. Ysgrifennu erthyglau byr, adolygiadau neu adroddiadau ar amrywiaeth o bynciau o natur gyffredinol, neu sy’n gysylltiedig â’r gwaith, ac ymateb yn gywir i’r mwyafrif o fathau o ohebiaeth o ffynonellau mewnol neu allanol.


Lefel 5 – Hyfedredd

Gallwch chi wneud y canlynol:

Deall yn rhwydd bron popeth a glywir neu a ddarllenir. Siarad yn helaeth am faterion cymhleth, cyflwyno dadleuon, ac arwain trafodaethau. Crynhoi gwybodaeth o wahanol ffynonellau llafar ac ysgrifenedig, gan ail-greu dadleuon a chyfrifon mewn cyflwyniad cydlynol. Mynegi eich hun yn ddigymell, yn rhugl iawn ac yn fanwl gywir, gan addasu eich steil yn ôl y gynulleidfa, er enghraifft, mewn cyd-destun anffurfiol neu ffurfiol.

Mae ein matrics sgiliau yn seiliedig ar fodel Cymdeithas i Brofwyr Ieithoedd yn Ewrop (ALTE)

Lefel 0 – Ymwybyddiaeth

Siarad

Rwy’n gallu ailadrodd rhai geiriau sylfaenol, syml wrth eu clywed yn aml.

Gwrando

Rwy’n gallu cydnabod rhai cyfarchion bob dydd sylfaenol er enghraifft, bore da, diolch, os yw’r person yn siarad yn araf iawn.

Darllen

Rwy’n gallu cydnabod rhai geiriau Cymraeg byr, sylfaenol. Rwyf hefyd yn gallu dyfalu ystyr rhai geiriau pan fyddan nhw mewn cyd-destun esboniadol.

Ysgrifennu

Rwy’n gallu ysgrifennu gair Cymraeg byr heb lawer o gymorth.

Lefel 1 – Mynediad

Siarad

Rwy’n gallu defnyddio rhai ymadroddion cyfarwydd bob dydd, er enghraifft, bore da, diolch. Rwyf hefyd yn gallu ynganu enwau lleoedd, pobl a sefydliadau. Rwy’n gallu siarad am bethau personol sylfaenol mewn sefyllfa anffurfiol, er enghraifft, diddordebau, teulu, gwaith, yr hyn a wnes i ddoe. Rwyf hefyd yn gallu siarad am bynciau sylfaenol, er enghraifft, y tywydd, amser, prisiau.

Gwrando

Rwy’n gallu deall ymadroddion bob dydd ac ymadroddion sylfaenol iawn os yw’r siaradwr yn siarad yn araf. Rwy’n gallu deall sgyrsiau am wybodaeth bersonol sylfaenol, er enghraifft, lle mae rhywun yn byw, lle mae rhywun yn gweithio, beth maen nhw’n hoffi ei wneud a beth wnaethon nhw. Rwy’n gallu dyfalu beth sy'n cael ei ddweud pan fydd rhywun yn rhoi manylion am ddigwyddiadau, fel yr amser a’r lleoliad.

Darllen

Rwy’n gallu deall ymadroddion byr iawn, ac rwy’n gallu dyfalu beth mae rhai hysbysiadau yn ei olygu. Rwy’n gallu deall testunau byr lle mae pobl yn rhoi gwybodaeth sylfaenol amdanyn nhw eu hunain neu am eraill. Fel rheol, rwy’n dod o hyd i fanylion, fel yr amser a chostau, mewn hysbysebion neu hysbysiadau.

Ysgrifennu

Rwy’n gallu ysgrifennu ymadroddion neu frawddegau syml iawn amdanaf fy hun neu am eraill. Rwyf hefyd yn gallu trosglwyddo neges syml neu wneud cais syml, er enghraifft, trwy e-bost.

Lefel 2 – Sylfaen

Siarad

Rwy’n gallu cynnal sgwrs sylfaenol gyda rhywun ar bwnc cyffredin bob dydd, ar yr amod bod y siaradwr arall yn helpu. Rwy’n gallu gofyn ac ateb cwestiynau ar bynciau cyfarwydd, er enghraifft, gwaith, hobïau, hoffterau, pethau sydd wedi digwydd neu gynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Gwrando

Rwy’n deall pan fydd pobl yn siarad am sefyllfaoedd bob dydd, er enghraifft, gwybodaeth bersonol, gwaith, yr hyn y maent wedi’i wneud neu y bydden nhw’n ei wneud, ar yr amod eu bod yn siarad yn araf. Rwy'n gallu deall pan fydd pobl yn gofyn i mi neu i eraill wneud rhywbeth, a phan maen nhw'n gofyn am gynlluniau ar gyfer y dyfodol, gofyn am gyfarfod.

Darllen

Rwy’n deall negeseuon am bethau bob dydd, a rhai llythyrau neu e-byst sylfaenol iawn, er enghraifft, gofyn am rywbeth, neu ofyn am drosglwyddo neges. Rwyf hefyd yn gallu deall darnau byr o destunau neu lyfrau syml iawn, er enghraifft, llyfrau i blant.

Ysgrifennu

Rwy’n gallu ysgrifennu nodyn byr at ffrind neu gydweithiwr, yn gofyn am rywbeth, yn diolch iddyn nhw neu’n egluro rhywbeth, er enghraifft, absenoldeb o'r gwaith. Rwyf hefyd yn gallu ysgrifennu testun byr am bwnc cyfarwydd, er enghraifft, profiad personol, neu brofiad cysylltiedig â’r gwaith.

Lefel 3 – Canolradd

Siarad

Rwy’n gallu cynnal sgwrs estynedig gyda siaradwr rhugl ar bwnc cyfarwydd, er enghraifft, diddordebau neu’r gwaith. Rwy’n gallu mynegi barn a chyfnewid gwybodaeth ar ystod o bynciau sy’n ymwneud â bywyd bob dydd, er enghraifft, hobïau, teithio neu bynciau uniongyrchol gysylltiedig â’r gwaith.

Gwrando

Rwy’n deall gwybodaeth sy’n cael ei rhoi am bynciau cyffredin neu bob dydd, neu pan fydd pethau’n ymwneud â’r gwaith yn cael eu trafod, er enghraifft, mewn sgwrs, neu mewn cyfarfodydd grŵp bach. Fel rheol, rwy’n deall y brif neges a’r manylion, ar yr amod bod pobl yn siarad yn glir, er enghraifft, pan fydd cyhoeddiadau’n cael eu gwneud neu wrth wrando ar fwletinau newyddion.

Darllen

Rwy’n gallu deall erthyglau byrion syml ar bynciau o ddiddordeb bob dydd, neu’n ymwneud â’r gwaith. Rwy’n gallu dyfalu beth mae geiriau’n ei olygu o’r cyd-destun, pan fydd y pwnc yn gyfarwydd. Rwy’n deall y rhan fwyaf o e-byst a dogfennau cysylltiedig â’r gwaith.

Ysgrifennu

Rwy’n gallu ysgrifennu llythyr ar y mwyafrif o bynciau, gan ofyn am bethau, rhoi esboniadau, disgrifio profiadau, gwahodd pobl, neu drefnu digwyddiad. Rwy’n gallu ysgrifennu’n eithaf cywir ar y pynciau mwyaf cyfarwydd, er enghraifft, pynciau sy’n gysylltiedig â diddordebau neu’r gwaith.

Lefel 4 – Uwch

Siarad

Rwy’n gallu siarad yn hyderus â siaradwyr rhugl ar bynciau cyfarwydd sy’n gysylltiedig â bywyd bob dydd neu’r gwaith. Rwy’n gallu mynegi barn, cymryd rhan mewn trafodaeth, a siarad yn helaeth am bynciau cyffredinol, er enghraifft, mewn cyfarfod, neu mewn sefyllfa un i un.

Gwrando

Fel rheol, rwy’n dilyn y mwyafrif o sgyrsiau neu drafodaethau, hyd yn oed ar bynciau nad ydw i’n gyfarwydd â nhw. Rwy’n deall y rhan fwyaf o raglenni teledu a radio a fwriadwyd ar gyfer siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf, oni bai bod gan y siaradwr acen gref, anghyfarwydd.

Darllen

Rwy’n deall y rhan fwyaf o ohebiaeth, ac yn sganio trwy destunau hir i ddod o hyd i fanylion. Rwy’n deall y rhan fwyaf o erthyglau ac adroddiadau papur newydd sydd wedi’u hanelu at siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf, gyda chymorth geiriadur. Rwy’n gallu deall nofelau a thestunau eraill, ar yr amod nad ydynt wedi’u hysgrifennu mewn arddull ffurfiol neu lafar iawn.

Ysgrifennu

Rwy’n gallu ysgrifennu erthygl fer, adolygiad neu adroddiad ar amrywiaeth o bynciau o natur gyffredinol, neu sy'n gysylltiedig â’r gwaith, gyda gramadeg eithaf cywir. Rwyf hefyd yn gallu ysgrifennu testunau manwl sydd wedi’u strwythuro’n dda, sy’n briodol i’r darllenydd. Rwy’n ymateb yn gywir i’r rhan fwyaf o ohebiaeth gan gydweithwyr neu gysylltiadau allanol.

Lefel 5 – Hyfedredd

Siarad

Rwy’n mynegi fy hun yn llawn ac yn fanwl gywir, hyd yn oed wrth drafod materion cymhleth. Rwy’n addasu fy arddull iaith yn ôl y gynulleidfa, er enghraifft, wrth siarad mewn cyd-destun ffurfiol neu wrth siarad â ffrindiau. Rwy’n gallu siarad yn helaeth am fater cymhleth, cyflwyno dadleuon ac arwain trafodaethau.

Gwrando

Rwy’n gallu dilyn pob sgwrs a thrafodaeth rhwng eraill yn hawdd, ar bob math o bynciau. Rwy’n deall pob math o Gymraeg llafar, gan gynnwys darlithoedd neu drafodaethau cymhleth.

Darllen

Rwy’n gallu darllen a deall bron pob testun ysgrifenedig Cymraeg yn rhwydd, gyda chyfeiriadau achlysurol yn unig at eiriadur. Rwy’n gallu darllen testunau hir, er enghraifft, adroddiadau, erthyglau, i ddod o hyd i fanylion perthnasol a deall bron pob arddull ysgrifennu, er enghraifft, ffurfiol neu anffurfiol.

Ysgrifennu

Rwy’n gallu ysgrifennu testunau estynedig, adroddiadau, erthyglau, cofnodion neu fathau eraill o ysgrifennu mewn arddull sy’n briodol i’r darllenydd. Rwy’n gallu ysgrifennu mewn Cymraeg ffurfiol neu anffurfiol yn ôl yr angen. Rwy’n gallu ysgrifennu gyda safon uchel o gywirdeb gramadegol ar ystod eang o bynciau.