Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Old Forge: yr asesiad

Cyflwyno'ch asesiad ar sail yr wybodaeth sydd ar gael i chi.

Rydych chi bellach wedi ystyried y canlynol:

  • Cefndir y busnes a’r gweithredwyr busnes bwyd
  • Gwybodaeth am y fwydlen
  • Sylwadau a wnaed gan y swyddog archwilio
  • Ymatebion i gwestiynau’r swyddog ymchwilio
  • Lluniau a chynllun llawr y tŷ gwesty.

Gydag unrhyw ymarfer o’r math hwn, mae cyfyngiadau ar yr hyn y gellid ei gynnwys yn y scenario. Dylech gyfyngu’ch trafodaethau i’r wybodaeth a ddarparwyd i chi. Ble nad oes gwybodaeth ar gael am fater penodol, dylech dybio nad oedd materion hylendid bwyd andwyol ar y pryd ac felly dylech ond sgorio ar sail yr hyn sy’n hysbys i’r swyddog archwilio. Er mwyn rhoi sgôr risg hylendid bwyd i’r safle dan sylw, nodwch eich sgoriau ar gyfer elfennau canlynol y sgôr risg yn dilyn ymyriad, yn unol â’r hyn sydd yn Atodiad 5 y Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd.

  • Cydymffurfiaeth gyfredol (Hylendid)
  • Cydymffurfiaeth gyfredol (Strwythur)
  • Hyder yn y gweithdrefnau rheoli.

Efallai bydd y dogfennau canlynol o gymorth i chi:

Yn ôl i’r arolygiad a sylwadauYmlaen i restr ymarferion cysondeb