Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Cyfarfod Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru â Thema – 12 Gorffennaf 2023

Penodol i Gymru

Cyfarfod Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru â Thema – rôl bwysig awdurdodau lleol wrth reoleiddio busnesau bwyd, gan gynnwys heriau presennol a heriau'r dyfodol.

Cyfarfod Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) â Thema 

Agenda a Phapurau

09:30-09:40 Croeso gan y Cadeirydd

Gan gynnwys ymddiheuriadau, datganiadau o fuddiannau a chofnodion cyfarfod Mai 2023 

09:40-09:50 Adroddiad Cadeirydd WFAC

Diweddariad ysgrifenedig y Cadeirydd ers y cyfarfod diwethaf ym mis Mai 2023

09:50-10:00 Adroddiad Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru

Diweddariad ysgrifenedig y Cyfarwyddwr ers y cyfarfod diwethaf ym mis Mai 2023

10:00-10:40 Gwaith gweithredu Iechyd yr Amgylchedd

Sut rydym yn gweithio a’r heriau a wynebwn yn awr ac yn y dyfodol – Ceri Edwards, Cadeirydd Iechyd yr Amgylchedd Cymru

10:40-11:20 Gwaith gweithredu Safonau Masnach

Sut rydym yn gweithio a’r heriau a wynebwn yn awr ac yn y dyfodol – Judith Parry, Cadeirydd Safonau Masnach Cymru

11:20-11:35 – Egwyl

11:35-12:00 Sut mae’r ASB yng Nghymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol

Sarah Aza, Pennaeth Gwaith Gweithredu Awdurdodau Lleol, yr ASB yng Nghymru

12:00-12:45 Trafodaeth banel a chwestiynau

12:45-13:00 Unrhyw faterion eraill a dod â’r cyfarfod i ben