Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ein Bwyd 2021: Adolygiad blynyddol o safonau bwyd ledled y DU

Pennod 2: Safbwynt byd-eang, mewnforion bwyd a’u heffaith ar safonau

Nid oes amheuaeth bod ein system fwyd – fel y bwyd ar ein platiau – yn gwbl fyd-eang. Mae bron i hanner yr hyn rydym yn ei fwyta yn dod i’r DU o dramor, ac mae bron i ddwy ran o dair ohono wedi dod o’r UE dros y blynyddoedd diwethaf.

Cipolwg

Yn y bennod hon, byddwn yn ystyried y canlynol:

  • sut mae patrymau mewnforion bwyd y DU wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwethaf
  • yr hyn rydym yn ei wybod am safonau diogelwch y bwyd rydym yn ei fewnforio
  • pa effaith y mae ein hymadawiad â’r UE yn debygol o’i chael ar y safonau hyn yn y dyfodol

Cyflwyniad

Nid oes amheuaeth bod ein system fwyd – fel y bwyd ar ein platiau – yn gwbl fyd-eang. Mae bron i hanner yr hyn rydym yn ei fwyta yn dod i’r DU o dramor, ac mae bron i ddwy ran o dair ohono wedi dod o’r UE dros y blynyddoedd diwethaf

Mae’r patrymau masnachu hirsefydlog hyn wedi cynnig amrywiaeth a dewis enfawr i ddeiet y genedl, ac eto maent hefyd yn cyflwyno heriau parhaus o ran sicrhau bod y bwyd yr ydym yn ei fewnforio yn ddiogel ac yn bodloni’r safonau disgwyliedig.

Wrth i ddefnyddwyr ddod yn fwy ymwybodol o ganlyniadau amgylcheddol a moesegol ehangach eu dewisiadau bwyd, mae’n gynyddol bwysig ein bod ni’n rhannu ffeithiau am darddiad ein bwyd a sut rydym yn cynnal safonau er mwyn cynnal hyder y cyhoedd yn ein bwyd.

Mae’r bennod hon yn edrych ar safonau bwyd sy’n ymwneud â diogelwch bwyd a rheolaethau swyddogol o safbwynt ein perthnasoedd masnachu cyfnewidiol â’r byd.

Tueddiadau cyfredol o ran mewnforion bwyd

Yn ôl ffigurau swyddogol, yn 2019 cyfrannodd y diwydiant bwyd ac amaeth gyfanswm o £128.7 biliwn i economi’r DU. Ar gyfer rhai mathau o fwyd, mae cynhyrchwyr domestig yn cyflenwi llawer o’r hyn rydym yn ei fwyta – er enghraifft, rydym yn fwy na 70% hunangynhaliol mewn cig eidion, cig oen, dofednod, wyau ieir a grawnfwydydd [14].

Ar gyfer nwyddau eraill, yn enwedig ffrwythau a llysiau ffres a siwgr, mae’r DU yn dibynnu mwy ar nwyddau a fewnforir. Yn hyn o beth, y cyflenwr mwyaf yn ystod y blynyddoedd diwethaf yw’r UE o hyd, er ein bod yn cael gafael ar symiau sylweddol o rai cynhyrchion o ymhellach i ffwrdd – fel y dangosir yn ffigur 17.

Diffiniad o dermau

Yn gyffredinol, rhennir bwyd yn ddau gategori at ddibenion rheoli mewnforion:

  • Cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid (POAO): Mae hyn yn cynnwys cig, dofednod, pysgod, pysgod cregyn, llaeth a chynhyrchion llaeth, wyau a chynhyrchion wyau.
  • Bwyd nad yw’n dod o anfeiliaid (FNAO) a Bwyd anifeiliaid: Mae FNAO yn cynnwys ffrwythau, llysiau, grawnfwydydd a ffyngau, ac mae trefniadau rheoli tebyg i drefniadau rheoli bwyd anifeiliaid yn berthnasol iddynt.

    Mae’r rhan fwyaf o’r cig a’r wyau rydym yn eu bwyta yn cael eu cynhyrchu yn ddomestig

    Ffigur 17: % o gyfanswm defnydd y DU o’r prif gategorïau POAO

    Siart bar wedi’i phentyrru yn dangos rhaniad y categorïau POAO a gynhyrchwyd gartref a’r rheiny a fewnforiwyd fel canran o gyfanswm defnydd y Deyrnas Unedig. Mae’n dangos bod dros hanner cant y cant o foch a chig moch ac ychydig llai na thraean o gig eidion a chig llo yn cael ei fewnforio o’r Undeb Ewropeaidd – tra bod 20% o’n cig dafad a’n cig oen yn dod o weddill y byd. Fodd bynnag, mae bron i 90% o’n wyau ieir a dros 75% o’n dofednod yn cael eu cynhyrchu gartref.

    Mae cyfran sylweddol o’n ffrwythau a’n llysiau ffres yn dod o dramor

    Ffigur 18: % o gyfanswm defnydd y DU o’r prif gategorïau FNAO

    Siart far wedi’i phentyrru yn dangos rhaniad y categorïau FNAO a gynhyrchwyd gartref a’r rheiny a fewnforiwyd fel canran o gyfanswm defnydd y Deyrnas Unedig. Mae’n dangos bod y rhan fwyaf o’r grawnfwydydd a’r olew hadau rêp rydym yn eu bwyta wedi’u cynhyrchu gartref, ond mae bron i 50% o’n llysiau ffres a siwgr, a 90% o’n ffrwythau ffres yn dod o’r Undeb Ewropeaidd neu weddill y byd.

    Ar hyn o bryd mae’r mwyafrif o’n mewnforion bwyd yn dod o wledydd yr UE

    Ffigur 19: % o gyfanswm mewnforion y DU a gafwyd o’r UE ac o ranbarthau eraill, 2017-21

     

    Nwydd Canran yr UE Cyflenwyr mawr eraill (mwy na 10%)
    Porc 99.9% Dim
    Wyau 99.6% Dim
    Cynnyrch Llaeth 96% Dim
    Cig Eidion 91% Dim
    Cynhyrchion eraill sy'n dod o anifeiliaid 82% Dim
    Dofednod 75% Asia (19%)
    Cyfansawdd (bwyd wedi'i brosesu) 75% Dim
    FNAO 65% America Ladin a’r Caribî (11%)
    POAO Arall 45% Asia (43%)
    Bwyd Anifeiliaid 45% America Ladin a’r Caribî (30%), Gogledd America (10%)
    Pysgod 35% Asia (26%),
    Ewrop: Y tu allan i’r UE (23%)
    Cig oen 20% Ynysoedd y De (77%)

    Er na fu unrhyw newid uniongyrchol neu gyfan gwbl mewn llifoedd masnachu yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE, mae rhai arwyddion petrus bod y cydbwysedd rhwng mewnforion o’r UE, mewnforion o wledydd y tu allan i’r UE a chynnyrch cartref yn dechrau newid. Er enghraifft, gostyngodd cyfran y pysgod a fewnforiwyd o’r UE o 38% yn 2019 i 29% yn 2021. Mae mewnforion cig oen a phorc hefyd wedi gostwng dros yr un cyfnod [15].

    Efallai mai un o’r rhesymau dros hyn yw cyflwyno rheolaethau mewnforio’r UE ar gynhyrchion Prydeinig o fis Ionawr 2021 – gallai’r costau uwch a’r gwaith papur sy’n gysylltiedig ag allforio bwyd fod wedi arwain at roi mwy o gynnyrch Prydeinig ar y farchnad ddomestig, gan leihau’r galw am fewnforion [16].

    Bu rhywfaint o gynnydd nodedig mewn mewnforion o wledydd eraill dros y 10 mlynedd diwethaf. Gwnaethom gymharu mewnforion cynhyrchion o’r pum mlynedd rhwng Ionawr 2012 a Rhagfyr 2016 (cyn y refferendwm) â’r pum mlynedd ar ôl y refferendwm (2017-2021), ar gyfer 50 prif fewnforiwr y DU. Mewnforiodd wyth gwlad dros 50% yn fwy o fwyd i’r DU ar ôl y refferendwm na chyn y refferendwm, fel y dangosir yn ffigur 20 isod [17].

    Bu cynnydd penodol yn 2018 a 2019 mewn dofednod a chig oen o Ganada, sydd wedi gostwng ers hynny. Roedd Moroco yn gyfrifol am gynnydd mawr yn nifer y cynhyrchion FNAO a gafodd eu mewnforio i’r DU. Ar draws y chwe gwlad yn nwyrain Ewrop, bu cynnydd mawr mewn mewnforion o gynhyrchion FNAO yn ogystal â physgod, cynhyrchion llaeth a chynhyrchion cyfansawdd. Dadansoddiad rhagarweiniol yw hwn: gall newidiadau mewn patrymau masnachu ddigwydd am nifer o resymau nad ydynt yn gysylltiedig â’n hymadawiad â’r UE, neu gallai newidiadau fod wedi digwydd fel rhan o waith cynllunio wrth gefn a wnaed gan y diwydiant cyn ymadael â’r UE. At ei gilydd, mae’n rhy fuan i ddweud beth fydd effaith hirdymor ymadael â’r UE ar lifau mewnforio.

    Cynnydd nodedig mewn mewnforion o rai gwledydd dros y degawd diwethaf

    Ffigur 20: Twf canrannol mwyaf mewn cyfeintiau mewnforio o 2012-16 i 2017-21

    Map o’r byd yn dangos y gwledydd sydd â’r twf canrannol mwyaf mewn cyfeintiau mewnforio. Mae Latfia wedi cael cynnydd o 127%, Canada 113%, Lithwania 83%, Wcráin 72%, Rwmania 71%, Twrci 67%, Moroco 65% a Rwsia 51%.

    Pa mor ddiogel yw bwyd wedi’i fewnforio?

    Mae tua 40 miliwn o dunelli o fwyd yn cael ei fewnforio i’r wlad bob blwyddyn, ac mae gan y DU gyfres o fesurau rheoli ar waith i sicrhau bod y cynhyrchion hyn yn bodloni’r safonau diogelwch gofynnol.

    Mae pob cynnyrch anifeiliaid yn cael ei ystyried yn ‘risg uchel’ yn awtomatig ac yn destun rheolaethau mewnforio penodol ac archwiliadau ar y ffin (ffigur 21), ac eithrio’r UE lle disgwylir i reolaethau gael eu cymhwyso yn 2023. Dim ond os ydynt yn dod o wledydd penodol lle mae risgiau diogelwch bwyd neu fwyd anifeiliaid penodol wedi’u nodi ac mae angen eu rheoli y caiff mewnforion bwyd a bwyd anifeiliaid o blanhigion eu hystyried yn risg uchel.

    Mae’r prif wiriadau mewnforio a gynhelir ar fwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel yn cynnwys:

    • gwiriad dogfennol gorfodol – mae hyn fel arfer yn cynnwys archwilio’r dogfennau sy’n cyd-fynd â’r llwyth fel tystysgrif swyddogol, adroddiad dadansoddol neu ddogfennau masnachol a chymharu’r dogfennau hynny â’r hyn a ddisgwylir18.
    • gwiriad adnabod – mae hyn yn cynnwys archwiliad gweledol o’r llwyth i gadarnhau ei fod yr hyn y dylai fod. Mae’r gwiriadau hyn yn orfodol ar gyfer mewnforio POAO ac fe’u cynhelir ar amlder penodol ar gyfer FNAO risg uchel, a all amrywio rhwng 5% a 50% o lwythi. Lle cyflwynir dogfennaeth swyddogol, bydd hyn yn cynnwys gwirio a dilysu’r dogfennau yn erbyn y nwydd ei hun.
    • gwiriadau ffisegol – mae hyn yn cynnwys gwirio’r nwyddau eu hunain gan gynnwys, lle bo’n briodol, gwirio’r deunydd pecynnu, y dull cludo, labeli a thymheredd, samplu ar gyfer dadansoddi, profi neu ddiagnosis mewn labordy ac unrhyw wiriadau eraill sy’n angenrheidiol i gadarnhau cydymffurfiaeth â rheolaethau diogelwch.

    Yn ystod rhai gwiriadau ffisegol, cymerir sampl o fwyd a’i brofi i chwilio am bresenoldeb halogion, fel pathogenau microbaidd, tocsinau naturiol a chemegau artiffisial gan gynnwys plaladdwyr a gweddillion cyffuriau milfeddygol.

    Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys data a geir o wiriadau mewnforio bwyd a gynhaliwyd gan awdurdodau gorfodi yn 2020 a 2021 [19]. At ei gilydd, cafodd bron i 90,000 o lwythi risg uchel eu prosesu yn 2020, gan godi i dros 123,000 yn 2021. Mae cyfraddau cydymffurfio wedi’u nodi yn ffigur 21.

    Mae lefelau cydymffurfio bwyd a fewnforir wedi aros yn weddol sefydlog

    Ffigur 21: % y llwythi sy’n methu gwiriadau rheoli mewnforio, wedi’u dadansoddi yn ôl math o wiriad

    Gwiriadau dogfennol

    Gwiriadau a gynhelir 2020 2021
    Cig a chynhyrchion anifeiliaid eraill (POAO) 1% 1%
    Bwydydd risg uchel eraill (HRFNAO) 1% 1%
    Pob llwyth 1% 1%

    Gwiriadau adnabod

    Gwiriadau a gynhelir 2020 2021
    Cig a chynhyrchion anifeiliaid eraill (POAO) 1% 1%
    Bwydydd risg uchel eraill (HRFNAO) 5% 2%
    Pob llwyth 1% 1%

    Gwiriadau ffisegol

    Gwiriadau a gynhelir 2020 2021
    Cig a chynhyrchion anifeiliaid eraill (POAO) 1% Ddim yn berthnasol
    Bwydydd risg uchel eraill (HRFNAO) 6% 4%
    Pob llwyth 2% Ddim yn berthnasol

    Gwiriadau samplu

    Gwiriadau a gynhelir 2020 2021
    Cig a chynhyrchion anifeiliaid eraill (POAO) 1% 1%
    Bwydydd risg uchel eraill (HRFNAO) 4% 5%
    Pob llwyth 3% 3%

    Sylw 1: Arhosodd cyfraddau methu cyfartalog ar gyfer gwiriadau dogfennol yn sefydlog drwy gydol y cyfnod hwn.

    Mae hyn yn cwmpasu cyfnod pan oedd y pandemig wedi tarfu ar gyflenwadau bwyd byd-eang ac wedi peri i’r UE sefydlu mesurau dros dro i ganiatáu i fwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel heb ardystiad iechyd allforio gael ei fewnforio.

    Sylw 2: Roedd tri y cant o’r samplau a gymerwyd yn 2020 a 2021 yn methu â chydymffurfio, gyda chyfradd methu uwch ymhlith FNAO risg uchel o gymharu â POAO.

    Nid yw’n annisgwyl i gyfraddau methu samplu fod yn uwch ar gyfer FNAO risg uchel a fewnforir nag ar gyfer POAO. Mae rheolaethau mewnforio ar gyfer HRFNAO yn caniatáu i nwyddau y credwn eu bod yn peri pryder iechyd posibl gael eu rheoli dros dro er mwyn gallu casglu tystiolaeth. Nid yw’n syndod felly fod cyfraddau methu samplu yn uwch ar gyfer FNAO, a gaiff eu gwirio dim ond pan fydd tystiolaeth flaenorol o risg uwch, o gymharu â POAO sy’n destun rheolaethau mewnforio drwy’r amser. Mae’r rhan fwyaf o fethiannau’n gysylltiedig â chanfod gweddillion plaladdwyr neu afflatocsinau [20].

    Sylw 3: O gymharu data ar gyfer y cyfnodau hyn, ymddengys fod safonau diogelwch bwyd sy’n cael ei allforio i Brydain Fawr wedi aros yn gymharol sefydlog at ei gilydd.

    Roedd hwn yn gyfnod heriol i gynhyrchwyr bwyd gyda’r pandemig yn rhoi pwysau sylweddol ar systemau diogelwch bwyd byd-eang. Ar y cyfan, mae’n galonogol gweld y data’n aros yn weddol sefydlog.

    Effaith ymadawiad y DU â’r UE ar reolaethau mewnforio

    Daeth Protocol Iwerddon/Gogledd Iwerddon i rym ar 1 Ionawr 2021. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Ogledd Iwerddon gymhwyso gofynion mewnforio’r UE at unrhyw gynhyrchion sy’n dod i mewn i barth rheoleiddio’r UE o’r tu allan i’r UE. Mae trafodaethau technegol yn parhau rhwng yr UE a’r DU ar weithredu’r Protocol mewn perthynas â chynhyrchion sy’n symud o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon.

    Mae ymadawiad y DU â’r UE wedi arwain at oblygiadau pwysig o ran y ffordd rydym yn cynnal ansawdd a diogelwch bwyd sy’n dod i mewn i’r wlad. Fel aelod-wladwriaeth, roedd gwiriadau mewnforio ar gyfer bwyd a oedd yn dod i mewn i’r DU o wledydd y tu allan i’r UE yn cael eu cynnal yn y man cyrraedd cyntaf yn yr UE. Nawr, dylai’r gwiriadau gael eu cynnal yn y mannau cyrraedd ym Mhrydain Fawr (ac eithrio ar gyfer bwyd sy’n dod o Ogledd Iwerddon).

    Er bod y DU yn cymhwyso rheolaethau diogelwch at fwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel a fewnforir o wledydd y tu allan i’r UE, fel yr oeddem yn ei wneud pan oeddem yn rhan o’r UE, mae’n annhebygol y caiff rheolaethau cyfatebol ar gyfer cynhyrchion o’r UE eu cyflwyno cyn diwedd 2023. Mae hyn yn golygu nad ydym yn cael sicrwydd swyddogol gan y wlad sy’n allforio fod y mewnforion hynny yn bodloni safonau diogelwch uchel y DU o ran bwyd a bwyd anifeiliaid. Gallai absenoldeb archwiliadau ar y ffin effeithio ar y ffordd rydym yn nodi ac yn ymateb i risgiau diogelwch yn y dyfodol, ac mae’n bosibl y bydd angen adnoddau ychwanegol ar y DU er mwyn cynnal y lefelau sicrwydd diogelwch bwyd ar gyfer y mewnforion hyn.

    Er y bu'n annhebygol y byddai mewnforion o’r UE yn achosi digwyddiadau diogelwch bwyd, nid yw hyn yn wir ar gyfer pob aelod-wladwriaeth, ac nid yw’n sefyllfa sefydlog chwaith.

    Mae’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban o’r farn bod diffyg cyfundrefn rheoli mewnforion lawn yn y DU ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid o’r UE yn lleihau ein gallu i atal bwydydd nad ydynt yn bodloni safonau uchel y DU rhag cael eu rhoi ar ein marchnad. 
    Ffynhonnell: Yr Athro Susan Jebb (Cadeirydd yr ASB) a Heather Kelman (Cadeirydd Safonau Bwyd yr Alban)

    Bydd cyflwyno gofynion newydd i allforwyr yn yr UE gyhoeddi hysbysiadau ymlaen llaw ar gyfer nwyddau risg uchel a fewnforir i’r DU yn helpu i liniaru rhai o’r materion hyn. Daeth y gofyniad newydd i rym ym mis Ionawr 2022 a bydd yn helpu’r ASB, Safonau Bwyd yr Alban ac awdurdodau lleol i ymateb i ddigwyddiadau diogelwch bwyd drwy ei gwneud yn bosib i gynhyrchion gael eu holrhain yn gyflymach. Mae’r ddau sefydliad hefyd wedi atgyfnerthu eu gallu a’u capasiti i gynnwys gwaith goruchwylio, sy’n adeiladu ar ddulliau profedig sy’n eu galluogi i fod yn well wrth ganfod ac ymateb i risgiau wrth iddynt ddod i’r amlwg, fel y byddwn yn ei ddisgrifio ymhellach yn y bennod nesaf. Fodd bynnag, nid yw’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban o’r farn bod y camau hyn yn ddigonol i ddisodli rheolaethau mewnforio cadarn, ac maent yn rhannu pryder parhaus bod ein system gyfredol o reolaethau mewnforio yn wannach o ganlyniad.

    Y System Rhybuddio Cyflym ar gyfer Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (RASFF)

    Mae RASFF yn system hysbysu a weithredir gan y Comisiwn Ewropeaidd i gyfnewid gwybodaeth am risgiau a pheryglon rhwng aelod-wladwriaethau. Mae awdurdodau gorfodi aelod-wladwriaethau’r UE yn cyhoeddi hysbysiadau Rhybuddio Cyflym pan fyddant yn canfod pryderon diogelwch bwyd difrifol gyda’u cynnyrch eu hunain neu gynnyrch aelod-wladwriaethau eraill.

    Mae’r hysbysiadau hyn yn rhybuddio aelod-wladwriaethau am risgiau difrifol i iechyd mewn amser real ac yn helpu i hwyluso ymateb i ddigwyddiad, gan gynnwys trwy gymryd camau gweithredu. Mae cyfraith bwyd yr UE hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i aelod-wladwriaethau gyfathrebu a chydweithio i ddatrys digwyddiadau bwyd sy’n digwydd rhwng aelod-wladwriaethau. Mynediad trydydd gwlad sydd gan y DU i RASFF erbyn hyn, sy'n golygu ein bod yn cael darlun llai manwl o rybuddion diogelwch bwyd ar draws marchnad sengl yr UE.

    Cytundebau masnach rydd a safonau bwyd

    Fel y nodwyd yn y bennod flaenorol, mae buddiannau defnyddwyr heddiw yn ehangach o lawer na safonau diogelwch – mae’r cyhoedd yn poeni’n fawr am faterion fel maeth, fforddiadwyedd, cynaliadwyedd, effeithiau amgylcheddol a lles anifeiliaid.

    Mae pryder ar draws y DU, ymhlith defnyddwyr, y diwydiant, a rhanddeiliaid eraill, y gallai trefniadau masnach rydd newydd effeithio ar safonau yn y DU dros amser, fel yr adlewyrchir yn y Strategaeth Fwyd Genedlaethol yn Lloegr, a dogfen Vision for Trade Llywodraeth yr Alban.

    Fel rhan o’r broses graffu ar gyfer cadarnhau unrhyw fargen masnach rydd yn y dyfodol, mae’n ofynnol i Lywodraeth y DU, o dan Ddeddf Amaethyddiaeth 2020, adrodd i’r Senedd gan nodi a yw darpariaethau’r cytundeb masnach rydd yn cynnal mesurau diogelu statudol ar gyfer bywyd neu iechyd pobl, anifeiliaid neu blanhigion, lles anifeiliaid neu’r amgylchedd.

    Er mwyn llywio’r adroddiadau hyn, mae Llywodraeth y DU wedi gofyn am gyngor gan yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban a’r Comisiwn Masnach ac Amaethyddiaeth sydd newydd ei ffurfio, ymhlith eraill. Cafodd yr adroddiad sy'n asesu'r cytundeb masnach rydd ag Awstralia ei osod gerbron Senedd y DU ar 6 Mehefin 2022, a disgwylir i adroddiad Seland Newydd gael ei lunio yn ystod haf 2022.

    Dylid nodi hefyd fod y cytundebau masnach rydd gydag Awstralia a Seland Newydd yn ailddatgan hawliau a rhwymedigaethau’r DU i gynnal safonau bwyd rhyngwladol o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd. Maent hefyd yn ailddatgan yr egwyddor sylfaenol y bydd yn rhaid i fewnforion gydymffurfio â rheolau diogelwch bwyd y DU o hyd.

    I grynhoi

    • Mae gan y DU hanes hir o fewnforio bwyd o bob rhan o’r byd. Er na fu newid mawr yn y patrymau masnachu ers i’r DU ymadael â’r UE, mae arwyddion cynnar cynnil bod rhai llifoedd mewnforion bellach yn esblygu.
    • Er bod y pandemig wedi tarfu ar y system fwyd fyd-eang, mae lefel y gydymffurfiaeth â gwiriadau mewnforio wedi aros yn weddol sefydlog, gan awgrymu na fu unrhyw ostyngiad sylweddol mewn safonau diogelwch bwyd rhyngwladol hyd yn hyn.
    • Er bod rheolaethau mewnforio wedi cael eu rhoi ar waith yn llwyddiannus a gyfer nwyddau risg uchel o wledydd y tu allan i'r UE, mae'r oedi parhaus wrth sefydlu rheolaethau cyfatebol ar gyfer cynhyrchion yr UE yn lleihau ein gallu i atal bwydydd nad ydynt yn bodloni safonau uchel y DU rhag cael eu rhoi ar ein marchnad.
    • Mae cytundebau masnach rydd newydd yn cael eu llofnodi ond ar adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn nid ydynt eto wedi’u cadarnhau nac wedi dod i rym. Mae’r yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn cyfrannu at asesiadau swyddogol y llywodraeth i weld a oes mesurau diogelu digonol yn y cytundebau i gynnal amddiffyniadau statudol ar gyfer iechyd pobl, anifeiliaid neu blanhigion, lles anifeiliaid a’r amgylchedd.