Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ein Bwyd 2021: Adolygiad blynyddol o safonau bwyd ledled y DU

Gosod adroddiad eleni mewn cyd‑destun

Yn yr adroddiad eleni, rydym yn myfyrio ar safonau bwyd yn 2021 a oedd yn gyfnod nodedig i system fwyd y DU, a gafodd ei ddominyddu gan ddau ddigwyddiad: ymadawiad y DU â’r UE a phandemig COVID-19. I roi cyd-destun, mae’r bennod hon yn nodi amserlen o’r digwyddiadau COVID-19 a effeithiodd ar yr amgylchedd bwyd a bwyd anifeiliaid, a throsolwg o effaith ein hymadawiad â’r UE ar lunio polisïau yn y DU.

Yn yr adroddiad eleni, rydym yn myfyrio ar safonau bwyd yn 2021 a oedd yn gyfnod nodedig i system fwyd y DU, a gafodd ei ddominyddu gan ddau ddigwyddiad: ymadawiad y DU â’r UE a phandemig COVID-19. I roi cyd-destun, mae’r bennod hon yn nodi amserlen o’r digwyddiadau COVID-19 a effeithiodd ar yr amgylchedd bwyd a bwyd anifeiliaid, a throsolwg o effaith ein hymadawiad â’r UE ar lunio polisïau yn y DU.

Wrth baratoi’r adroddiad hwn, rydym hefyd wedi gweld tarfu a achosir gan y rhyfel yn Wcráin a phrisiau bwyd yn cynyddu. Er bod pobl yn teimlo effeithiau’r ddau fater hyn nawr, a’u bod yn bryderon blaenllaw i bobl mewn perthynas â bwyd heddiw, adroddiad ôl‑weithredol yw hwn. Byddwn yn ystyried y materion hyn, a’u heffaith gyffredinol ar safonau bwyd mewn adroddiadau yn y dyfodol, a fydd yn archwilio’r data a’r dystiolaeth am gyflwr safonau bwyd yn 2022 a thu hwnt.

Amserlen o ddigwyddiadau allanol arwyddocaol sy’n effeithio ar yr amgylchedd bwyd a bwyd anifeiliaid

Llinell amser effaith: COVID-19

Nid yw’r amserlen hon yn ceisio rhoi golwg gynhwysfawr ar yr holl gyfyngiadau COVID-19 ym mhob un o’r pedair gwlad. Mae’n canolbwyntio ar y prif gerrig milltir sy’n ymwneud â diogelwch a safonau bwyd, yn unol â’r dull ehangach a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad.

Cafodd y pandemig effeithiau uniongyrchol a phellgyrhaeddol ar system fwyd y DU. Bu cyfnodau pan arhosodd siopau manwerthu a lleoliadau lletygarwch nad oeddent yn hanfodol ar gau, gan gynnwys bwytai a ffreuturau gwaith, (ac eithrio ar gyfer darparu bwyd tecawê), ac anogwyd pobl i aros gartref. Fel y gwelwn ym Mhennod 1 (Plât y genedl), effeithiodd hyn ar arferion bwyta pobl yn y tymor byr mewn nifer o ffyrdd, er nad yw’n glir pa effaith hirdymor, os o gwbl, y bydd y pandemig yn ei chael ar ymddygiad defnyddwyr.

Yn yr un modd fe wnaeth y pandemig effeithio ar fusnesau a chyflenwyr lletygarwch, er bod llawer o fusnesau wedi ymateb yn greadigol, gan ddatblygu ffyrdd newydd o weithio er mwyn aros ar agor ac osgoi tarfu ar ddefnyddwyr. Bu cynnydd sydyn yng nghyfran y pryniannau ar-lein o siopau bwyd ym mis Mawrth 2020, heb unrhyw arwydd eto y bydd yn dychwelyd at lefelau fel yr oeddent cyn y pandemig.

Chwefror i Fawrth 2020

Mae galw cynyddol gan ddefnyddwyr am rai cynhyrchion bwyd yn achosi prinder lleol a chynnyrch-benodol, gan roi pwysau aruthrol ar fanwerthwyr a gweithgynhyrchwyr.

Mawrth 2020

Mae’r cyfnod clo cyntaf yn dechrau ledled y DU. Mae’r ASB yn cyhoeddi canllawiau i’r diwydiant bwyd ar hylendid bwyd, cadw pellter cymdeithasol, a rheoli salwch ymysg gweithwyr. Mae’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn cyhoeddi canllawiau ar gyfer awdurdodau gorfodi ar y dull y dylid ei fabwysiadu wrth gynnal Rheolaethau Swyddogol. Mae’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn dechrau cymryd camau i helpu i sicrhau bod Rheolaethau Swyddogol yn dal i gael eu cynnal, gan ganolbwyntio ar weithgareddau risg-uchel.

Ebrill i Fai 2020

Mae’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn cyhoeddi canllawiau ar gyfer defnyddwyr i roi sicrwydd bod y risg o gael COVID-19 trwy fwyd yn isel iawn. Mae Safonau Bwyd yr Alban yn cyhoeddi canllawiau ar gyfer busnesau bwyd, gan gynnwys cyngor ar reoli risg a rheoli heintiau wrth drin bwyd.

Gorffennaf i  Awst 2020

Mae tafarndai, bwytai a lleoliadau lletygarwch eraill yn ailagor. Mae Llywodraeth y DU yn lansio ei chynllun Bwyta Allan i Helpu Allan.

Medi i Dachwedd 2020

Mae cyfyngiadau llymach yn cael eu cyflwyno’n raddol, gan gynnwys cyfyngu busnesau lletygarwch i gynnig gwasanaeth tecawê yn unig. Mae cyfres o gyfnodau clo cenedlaethol byrrach yn effeithio ar wahanol rannau o’r DU wrth i achosion o COVID-19 gynyddu.

Rhagfyr 2020

Mae Safonau Bwyd yr Alban a Phwyllgor Cyswllt Gorfodi Bwyd yr Alban yn cyhoeddi canllawiau ar y cyd ar gyfer awdurdodau gorfodi ar ailddechrau ymyriadau cyfraith bwyd cynlluniedig.

Rhagfyr 2020 i Ionawr 2021

Mae cyfnodau clo cenedlaethol yn cael eu hailgyflwyno ledled y DU, gan ei gwneud yn ofynnol i lawer o’r diwydiant lletygarwch gau unwaith eto.

Ebrill i Fai 2021

Mae cyfyngiadau’n cael eu llacio, gyda thafarndai, bwytai a lleoliadau lletygarwch eraill yn ailagor ar draws y pedair gwlad.

Mehefin 2021

Mae'r ASB yn cyhoeddi canllawiau ar gyfer awdurdodau gorfodi ar ailddechrau ymyriadau cyfraith bwyd cynlluniedig.

Llinell amser effaith: Ymadael â’r UE

Gwnaed ymdrechion sylweddol i gynnal parhad busnes yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE. Er bod rheolaethau cadarn ar waith ar gyfer cynhyrchion risg uchel o’r tu allan i’r UE, mae’n annhebygol y caiff archwiliadau cyfatebol ar gynnyrch a fewnforir o wledydd yr UE eu cyflwyno cyn diwedd 2023. Gallai absenoldeb archwiliadau ar y ffin effeithio ar y ffordd rydym yn nodi ac yn ymateb i risgiau diogelwch yn y dyfodol, ac mae’n bosibl y bydd angen adnoddau ychwanegol ar y DU er mwyn cynnal lefelau sicrwydd diogelwch bwyd ar gyfer y mewnforion hyn.

Mae’n ofynnol bellach i swyddogion iechyd yr amgylchedd awdurdodi rhai allforion yr UE, ac mae angen i’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban asesu’r effaith y mae hynny’n ei chael ar gapasiti swyddogion iechyd yr amgylchedd yn y system sicrwydd ehangach mewn adroddiadau yn y dyfodol. Mae ymgorffori cyfraith yr UE mewn deddfwriaeth ddomestig yn golygu taw ychydig o newidiadau sylweddol mewn safonau bwyd a welsom dros y cyfnod adrodd. Ymdrinnir â hyn yn fanylach yn yr adran nesaf.

31 Ionawr 2020

Mae’r DU yn ymadael â’r UE ac mae’r cyfnod pontio’n dechrau. Pwyllgor Honiadau Maeth ac Iechyd y DU yn dechrau rhoi cyngor ar geisiadau honiadau maeth ac iechyd a safbwyntiau gwyddonol i awdurdodau’r llywodraeth. 

30 Rhagfyr 2020

Cafodd Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE (TCA) ei lofnodi.

1 Ionawr 2021

Mae’r cyfnod pontio yn dod i ben. Mae Protocol Iwerddon/ Gogledd Iwerddon yn dod i rym. Mae’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn cymryd cyfrifoldeb dros geisiadau cynhyrchion wedi’u rheoleiddio ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid.

1 Ionawr 2022

Cyflwyno gofynion rhag-hysbysu ar gyfer mewnforion cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid (POAO), bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel nad ydynt yn dod o anifeiliaid (HRFNAO), a chynhyrchion bwyd cyfansawdd o’r UE.

2023

Cynllun i gyflwyno rheolaethau mewnforio llawn (gwiriadau dogfennol, gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol) ar gyfer mewnforion POAO, HRFNAO, a chynhyrchion bwyd cyfansawdd.

Crynodeb o effaith ymadael â’r UE ar lunio polisi

Mae gweinidogion ym Mhrydain Fawr yn gyfrifol am osod lefelau diogelwch y dyfodol ar gyfer defnyddwyr y DU a llunio rheoliadau newydd ar gyfer safonau bwyd a bwyd anifeiliaid wedi ymadawiad y DU â’r UE. O dan delerau Protocol Iwerddon/Gogledd Iwerddon, mae angen i fwyd a bwyd anifeiliaid a roddir ar y farchnad yng Ngogledd Iwerddon fodloni rheolau’r UE o hyd, a bydd rheoliadau newydd yr UE yn parhau i gael eu gorfodi yng Ngogledd Iwerddon. Mae gan awdurdodau diogelwch bwyd y DU, Llywodraeth y DU, a’r llywodraethau datganoledig bellach gyfrifoldebau ychwanegol dros lywio diogelwch a safonau bwyd, sy’n cynnig cyfleoedd yn ogystal â heriau.

Gan fod cyfreithiau’r UE wedi’u hymgorffori mewn deddfwriaeth ddomestig sy’n gymwys ym Mhrydain Fawr, ychydig o newidiadau rheoleiddiol uniongyrchol a gafwyd hyd yma sy’n effeithio ar safonau bwyd. Mae’r pedair gwlad wedi canolbwyntio ar gynnal parhad a rhoi eglurder i fusnesau a defnyddwyr am brosesau a disgwyliadau.

Yn yr adran hon, rydym yn nodi’n fras y prosesau y gallai gweinidogion y DU eu defnyddio i ystyried newidiadau i safonau bwyd yn y dyfodol. Yn ddiweddarach yn yr adroddiad, rydym yn ystyried effaith masnach ar safonau bwyd. Bydd angen i wledydd sy’n dymuno mewnforio cynhyrchion i Brydain Fawr fodloni gofynion mewnforio domestig o hyd, gan gynnwys o ran diogelwch bwyd. Bydd unrhyw geisiadau am fynediad i’r marchnad yn y dyfodol gan wledydd newydd neu geisiadau am nwyddau newydd yn cael eu hasesu i weld a ydynt yn addas cyn y gellir eu gwerthu i ddefnyddwyr. Byddwn yn edrych ar y mater hwn eto mewn adroddiadau yn y dyfodol.

Dadansoddi risg 

Ar gyfer materion diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid, mae’r DU yn cynnal ei hasesiadau ei hun o wyddoniaeth a thystiolaeth i lywio datblygiad rheoliadau trwy broses a elwir yn ‘ddadansoddi risg’. Mae dadansoddi risg yn cynnwys tri cham: asesu risgiau (amcangyfrif y risg i iechyd pobl), rheoli risgiau (sut caiff y risgiau hyn yn cael eu rheoli), a chyfathrebu risgiau (sut mae’r wybodaeth hon yn cael ei chyfleu). Crynhoir y broses hon yn ffigur 1. Mae’r broses dadansoddi risg yn cwmpasu gweithdrefnau ar gyfer rhoi cynhyrchion wedi’u rheoleiddio [4], fel ychwanegion a bwydydd newydd, ar y farchnad yn y dyfodol.

Mae asesiadau risg, a gynhaliwyd yn flaenorol gan Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA), bellach yn cael eu cynnal gan yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban. Yna bydd prosesau rheoli risg, a arferai gael eu cynnal gan y Comisiwn Ewropeaidd, yn ystyried sut rydym yn rheoli’r risgiau hyn.

Ym Mhrydain Fawr, gweinidogion sy’n gwneud penderfyniadau ar safonau diogelwch bwyd, wedi’u llywio gan y broses rheoli risg. Bydd asesiadau yn parhau i gael eu hategu gan wyddoniaeth a thystiolaeth, er y gallai’r penderfyniadau rheoli risg fod yn wahanol i’r hyn roeddent pan oedd y DU yn aelod o’r UE. Mae hyn yn golygu y gallai rheoliadau fod yn wahanol i rai’r UE yn y dyfodol, er y byddent yn seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth o hyd.

Ffigur 1: Sut mae’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn gwneud argymhellion ac yn rhoi cyngor ar sail tystiolaeth

Ffigur 1 yn dangos y camau sy'n cael eu rhestru isod.

Mae’r diagram hwn yn dangos sut mae awdurdodau diogelwch bwyd yn gwneud argymhellion ar sail tystiolaeth. Dyma ein proses dadansoddi risg. Gellir ei chymhwyso at ystod o faterion – o reoli pathogenau ac alergenau i geisiadau am awdurdodi cynhyrchion a phrosesau wedi’u rheoleiddio fel golchion cemegol a bwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig

Yn ystod y broses, bydd yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn gweithio ar y cyd â gweinyddiaethau datganoledig, adrannau’r llywodraeth a phartïon eraill sydd â buddiant er mwyn ystyried buddiannau’r rheiny sydd â chyfrifoldebau dros fwyd ac amaeth, iechyd a masnach.

Gellir sbarduno’r broses am wahanol resymau. Ymhlith yr enghreifftiau mae risg diogelwch bwyd, cais gan fusnes neu wlad, trafodaethau masnach, materion polisi neu gais am gyngor gan adrannau’r llywodraeth.

Asesiad risg o ddiogelwch a thystiolaeth arall, wedi’i chasglu a’i dadansoddi gan yr ASB, Safonau Bwyd yr Alban ac arbenigwyr allanol. Gall tystiolaeth arall gynnwys dewisiadau defnyddwyr, lles anifeiliaid, effeithiau amgylcheddol ac economaidd, a mwy.

Yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn datblygu cyngor neu argymhellion ar sail y dystiolaeth. Gallai hyn gynnwys newidiadau polisi mawr, deddfwriaeth neu gamau gweithredu eraill.

Yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn cwblhau cyngor pan fydd angen penderfyniad Gweinidogol neu newid i ddeddfwriaeth

Yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn gwneud penderfyniadau ar ofynion a dulliau rheoleiddio

Gweinidogion yn gwneud penderfyniad neu’n ystyried newidiadau i ddeddfwriaeth

Rhoi gwybod i Weinidogion am y newid fel y bo angen.

Deddfwriaeth yn cael ei llunio trwy broses seneddol yn ôl yr angen

Yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn rhoi cyngor, er enghraifft, cyngor i ddefnyddwyr neu ganllawiau i fusnesau

Cyhoeddir yr wybodaeth hon ar-lein ar wefannau’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban a gwefannau ein pwyllgorau cynghori gwyddonol:

  • Rhestr o faterion sy’n cael eu hystyried
  • Papurau a chofnodion pwyllgorau gwyddonol (ac eithrio gwybodaeth fasnachol sensitif)
  • Ymgynghoriad ffurfiol ar y dewisiadau
  • Diweddariad chwarterol cryno i Fyrddau
  • Cyngor neu argymhelliad gan yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban gyda’r dystiolaeth

Mae canlyniadau’r broses dadansoddi risg yn dryloyw, a bydd cyngor yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban mewn perthynas â materion diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid yn cael ei gyhoeddi, yn ogystal â’r wyddoniaeth a’r dystiolaeth sy’n sail i’r cyngor hwnnw. Mae’r system wedi’i hystyried yn sesiynau agored Byrddau’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban, a wnaeth gwmpasu pwyntiau fel yr ymagwedd at ansicrwydd a risg wrth ddatblygu cyngor i weinidogion y DU. Bydd y broses dadansoddi risg a’r cymorth a ddarperir i fusnesau yn cael eu hadolygu i sicrhau bod y broses yn gweithredu’n effeithlon ac yn cefnogi arloesedd gan barhau i ddiogelu defnyddwyr.

Ceisiadau am gynhyrchion wedi’u rheoleiddio

Roedd 428 o geisiadau gweithredol am gynhyrchion wedi’u rheoleiddio yn y system erbyn diwedd 2021, sy’n sylweddol uwch na’r ffigur disgwyliedig o 150 o geisiadau. Roedd y rhan fwyaf yn geisiadau i roi cynhyrchion canabidiol (CBD) ar y farchnad fel bwyd newydd, er bod ceisiadau’n cynnwys materion eraill fel ychwanegion a deunyddiau sy’n dod i gysylltiad â bwyd.

Datganoli a Fframweithiau Cyffredin y DU

Mae polisi bwyd a bwyd anifeiliaid wedi’i ddatganoli. Dyma’r rheswm pam y mae penderfyniadau a arferai gael eu gwneud ar lefel yr UE bellach yn cael eu gwneud ym Mhrydain Fawr gan weinidogion yn Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban, tra bod Gogledd Iwerddon yn parhau i ddilyn rheoliadau’r UE o dan delerau’r Protocol Iwerddon/Gogledd Iwerddon.

Mae gan y pedair gwlad gytundebau dros dro a elwir yn Fframweithiau Cyffredin, sy’n nodi sut maent yn cydweithio mewn rhai meysydd polisi datganoledig. Mae Fframweithiau Cyffredin yn nodi’r cytundeb rhwng y pedair Llywodraeth a’u cyrff diogelwch bwyd i gydweithio ym meysydd cyfraith yr UE a ddargedwir a sicrhau bod polisïau diogelwch, safonau, labelu a chyfansoddiad bwyd a bwyd anifeiliaid yn cael eu datblygu ar y cyd. 

Mae Fframweithiau Cyffredin yn cydnabod y bydd gwahaniaethau polisi yn briodol mewn rhai achosion, ac yn nodi sut y dylid rheoli hyn rhwng y pedair gwlad. Fodd bynnag, ni nododd adroddiad diweddar gan Swyddfa’r Farchnad Fewnol dystiolaeth o wahaniaethau polisi newydd sylweddol yn dod i’r amlwg rhwng y pedair gwlad ers 31 Rhagfyr 2020.

Mae’r Fframweithiau Cyffredin anneddfwriaethol hyn yn ystyried y fframwaith cyfreithiol ehangach ac yn gweithredu’n gyfatebol, gan gynnwys Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020 a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU i reoleiddio masnach rhwng Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn parhau i fonitro’r gwahaniaeth ar draws y pedair gwlad, rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr, a rhwng yr UE a Phrydain Fawr.

Ers 31 Rhagfyr 2020, nid oes unrhyw ddeddfwriaeth diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid newydd o bwys wedi’i chyflwyno yn unrhyw un o’r pedair gwlad sydd wedi arwain at wahaniaeth sylweddol. Bydd adroddiadau yn y dyfodol yn ehangu ar y monitro a’r gwerthuso hyn.