Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ein Bwyd 2021: Adolygiad blynyddol o safonau bwyd ledled y DU

Casgliadau

Mae safonau bwyd fel arfer yn chwarae rhan gudd ond hanfodol ym mywydau pobl, gan ein helpu i fwyta’n dda, cadw’n ddiogel a gwneud y dewisiadau gorau ar ein cyfer ni a’n teuluoedd.

Daw ein hadroddiad blynyddol cyntaf ar safonau bwyd ar ôl i system fwyd y DU wynebu dwy flynedd o gynnwrf sylweddol. Fe wnaeth y pandemig COVID-19 gau rhannau helaeth o’r diwydiant lletygarwch, achosi ansicrwydd a tharfu ar gadwyni cyflenwi bwyd, gan bentyrru pwysau ychwanegol ar dimau iechyd yr amgylchedd a safonau masnach awdurdodau lleol, ac arolygwyr yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban.

At hynny, o ganlyniad i ymadawiad y DU â’r UE, mae gweinidogion a rheoleiddwyr bwyd bellach yn uniongyrchol gyfrifol am gyfraith bwyd am y tro cyntaf ers bron i 50 mlynedd. O ganlyniad, mae gan Lywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig gyfrifoldebau newydd a sylweddol i’w cyflawni, fel trafod cytundebau masnach ac awdurdodi bwydydd newydd.

Ac mae rhagor byth o newidiadau ar y gorwel. Adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn, mae’r rhyfel yn Wcráin yn effeithio ar gadwyni cyflenwi bwyd, ac mae prisiau bwyd byd-eang cynyddol yn peri pryder ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.

Mae’r dystiolaeth a nodir yn yr adroddiad hwn yn awgrymu bod safonau diogelwch bwyd cyffredinol wedi’u cynnal i raddau helaeth yn ystod 2021. Yng nghyd-destun newid ac ansicrwydd, mae hwn yn gyflawniad rhyfeddol.

Fodd bynnag, ni allwn fod yn gwbl hyderus yn y casgliad hwn. Gwnaeth y pandemig darfu ar arolygiadau, gwaith samplu ac archwiliadau rheolaidd ym mhob rhan o’r system fwyd, gan leihau’r data sydd ar gael i ni ei ddefnyddio wrth asesu cydymffurfiaeth busnesau yn erbyn gofynion cyfraith fwyd. Newidiodd hefyd batrymau ymddygiad. Er enghraifft, roedd pobl wedi bwyta allan llai ac roedd archfarchnadoedd wedi lleihau’r amrywiaeth o eitemau ar y silffoedd. Mae hyn wedi ei gwneud hi’n anodd cymharu â blynyddoedd blaenorol ar gyfer rhai dangosyddion perfformiad allweddol, fel nifer y rhybuddion alergedd a gyhoeddwyd.

Er bod safonau diogelwch bwyd wedi’u cynnal i raddau helaeth, mae’r ddwy sefydliad yn cydnabod bod risgiau sylweddol o’u blaenau. Mae tystiolaeth o’r cyfnod hwn yn tynnu sylw at ddau bryder penodol yn y system.

Yn gyntaf, bu gostyngiad yn lefel arolygiadau awdurdodau lleol o fusnesau bwyd. Mae’r sefyllfa wrthi’n cael ei hunioni, yn enwedig o ran arolygu hylendid bwyd caffis a bwytai. Fodd bynnag, mae cynnydd wedi’i gyfyngu o ganlyniad i adnoddau ac argaeledd gweithwyr proffesiynol cymwys.

Mae’r ail yn ymwneud â mewnforio bwyd o’r UE. Er mwyn gwella lefelau sicrwydd mewn perthynas â bwyd risg uwch o’r UE fel cig, llaeth ac wyau, a bwyd a bwyd anifeiliaid sydd wedi dod i’r DU trwy’r UE, mae’n hanfodol bod rheolaethau gwell yn cael eu rhoi ar waith yn unol â’r amserlen y mae Llywodraeth y DU wedi’i phennu (diwedd 2023). Po hiraf y bydd y DU yn gweithredu heb sicrwydd gan y wlad sy’n allforio fod cynhyrchion yn bodloni safonau diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid uchel y DU, y lleiaf hyderus y gallwn fod ynghylch nodi digwyddiadau diogelwch posibl yn effeithiol.

Mae’n hanfodol bod y DU yn gallu atal mynediad i fwyd anniogel, a nodi risgiau sy’n newid ac ymateb iddynt. Er ein bod wedi ystyried yr heriau hyn yn ofalus ac wedi rhoi trefniadau eraill sydd o fewn ein rheolaeth ar waith, nid ydynt yn ddigonol, yn ein barn ni. Rydym felly wedi ymrwymo i weithio gydag adrannauʼr llywodraeth i sicrhau bod cyflwyno’r rheolaethau mewnforio gwell hyn yn darparu lefelau uchel o ddiogelwch i ddefnyddwyr yn y DU.

Mae’r pryderon hyn ynghylch y gallu i arolygu a gorfodi safonau ar gyfer bwyd a fewnforir yn y dyfodol yn atgyfnerthu’r angen am fwy o fuddsoddiad mewn rhaglenni samplu, fel arolwg basged o fwyd yr ASB a gweithgarwch samplu bwyd wedi’i dargedu Safonau Bwyd yr Alban. Mae hefyd angen adnoddau digonol ar awdurdodau lleol er mwyn iddynt allu chwarae eu rhan i sicrhau bod bwyd yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.

Gan edrych tua’r dyfodol, rydym hefyd yn cydnabod bod ystyriaethau ynghylch effaith masnach a cytundebau masnach rydd newydd yn mynd y tu hwnt i safonau diogelwch. Maent yn cynnwys pryderon defnyddwyr am safonau ehangach sy’n gysylltiedig â chynhyrchu, fel lles anifeiliaid a chynaliadwyedd, a chwestiynau am ddiogeledd bwyd cenedlaethol. Mae’r pryderon hyn yn cyd-fynd â chynnydd yng ngwerthfawrogiad defnyddwyr o safonau bwyd cyfredol y DU, gan gynnwys cynhyrchu domestig, a chydnabyddiaeth o’r hyn y mae systemau bwyd domestig yn ei gyfrannu at gymunedau a’r economi. Byddwn yn ystyried y materion hyn mewn adroddiadau yn y dyfodol.

Yn anad dim, mae canfyddiadau’r adroddiad hwn yn pwysleisio’r angen i bolisi bwyd gyd-fynd â disgwyliadau, pryderon, ymddygiadau a gwerthoedd defnyddwyr – yn enwedig wrth i’w hamgylchiadau personol newid.

Mae ein hymchwil yn dangos bod pryderon am bris, iechyd a’r amgylchedd yn uchel ymhlith blaenoriaethau’r cyhoedd. Er y bu rhai gwelliannau cymedrol a chadarnhaol yn neiet pobl, yn enwedig y gostyngiad yn faint o siwgrau rhydd a fwyteir, mae’r darlun cyffredinol yn dangos nad yw llawer ohonom yn bodloni argymhellion deietegol, sy’n ffaith a atgyfnerthir gan y niferoedd uchel a chynyddol o bobl ordew yn y DU. Mae hyn yn ei dro yn rhoi pwysau y gellir eu hosgoi ar adnoddau gofal iechyd ac yn cael effaith sylweddol ar economi ehangach y DU o ran cynhyrchiant a gollwyd, marwolaethau cynamserol ac anableddau.

Mae trafodaeth bwysig a pharhaus yn mynd rhagddi ynghylch rôl y llywodraeth wrth fynd i’r afael â materion iechyd a chynaliadwyedd sy’n mynd y tu hwnt i faterion diogelwch a dilysrwydd bwyd. Yn wyneb prisiau bwyd cynyddol a phwysau ehangach ar incwm cartrefi sy’n peri pryder difrifol wrth i ni ysgrifennu’r adroddiad hwn, gallwn fod yn eithaf sicr y bydd hi’n gynyddol heriol i ddefnyddwyr gael gafael ar fwyd iachus a chynaliadwy eleni.

Mae’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban ymhlith llawer o sefydliadau cenedlaethol sy’n gyfrifol am wahanol agweddau ar bolisi bwyd. Dyma system gymhleth ac nid yw diogelwch a chynaliadwyedd ein system fwyd, i bobl a’r blaned, yn faterion y gellir eu datblethu’n daclus. Y cwestiwn sy’n bwrw ei gysgod dros yr adroddiad hwn yw sut y gallwn wneud yn siŵr nad yw pwysau costau byw cyfredol yn mynd yn argyfwng ar gyfer diogelwch bwyd nac yn gwaethygu’r heriau rydym eisoes yn eu hwynebu o ran iechyd y cyhoedd a chynaliadwyedd amgylcheddol.

Mae hyn y tu hwnt i’r pwerau sydd gennym fel rheoleiddwyr. Ond mae’n gwestiwn y mae angen i ni helpu ei ateb, gan weithio gyda busnesau a llywodraethau, ac mewn partneriaeth â phawb sy’n ymwneud â’r system fwyd. Rhaid i fwyd fforddiadwy hefyd fod yn fwyd da, er mwyn ein hiechyd a’r amgylchedd. Dyma’n cyfrifoldeb ni tuag at ddefnyddwyr heddiw, a chenedlaethau’r dyfodol.