Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ein Bwyd 2021: Adolygiad blynyddol o safonau bwyd ledled y DU

Pennod 5: Pwysigrwydd hylendid, safonau hylendid mewn sefydliadau bwyd a bwyd anifeiliaid

Boed mewn siop, ffreutur neu fwyty, mae diogelwch yr hyn rydym yn ei fwyta yn cael ei gynnal gan ystod o safonau sydd wedi’u cynllunio i sicrhau bod ein bwyd a’n bwyd anifeiliaid yn cael eu cynhyrchu, eu gweithgynhyrchu, eu storio, a’u paratoi mewn ffordd ddiogel a hylan.

Cipolwg

Yn y bennod hon, byddwn yn ystyried y canlynol:

  • y lefel gyfredol o gydymffurfiaeth gyfreithiol â safonau hylendid mewn busnesau bwyd a bwyd anifeiliaid, gan gynnwys canlyniadau’r cynlluniau sgorio hylendid bwyd diweddaraf
  • i ba raddau y gwnaeth y pandemig herio a tharfu ar reolaethau hylendid bwyd, a’r goblygiadau posib i safonau hylendid bwyd
  • heriau allweddol eraill sy’n wynebu’r system arolygu hylendid, gan gynnwys recriwtio a chadw’r gweithlu, a thwf gwerthiannau bwyd ar-lein

Cyflwniad

Boed mewn siop, ffreutur neu fwyty, mae diogelwch yr hyn rydym yn ei fwyta yn cael ei gynnal gan ystod o safonau sydd wedi’u cynllunio i sicrhau bod ein bwyd a’n bwyd anifeiliaid yn cael eu cynhyrchu, eu gweithgynhyrchu, eu storio, a’u paratoi mewn ffordd ddiogel a hylan.

Mae gofynion llym yn berthnasol i ystod eang o fusnesau, gan gynnwys siopau bwyd, bwytai, siopau tecawê, arlwywyr, cynhyrchwyr cig, pysgod, pysgod cregyn a llaeth, a gweithgynhyrchwyr bwyd anifeiliaid. Maent yn cael eu gwirio’n rheolaidd er mwyn asesu cydymffurfiaeth.

Mae busnesau bwyd anifeiliaid hefyd yn destun rheolaethau ac arolygiadau llym, y mae llawer ohonynt wedi deillio o argyfwng Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (BSE) y 1980au.

Yn ogystal ag atal pobl ac anifeiliaid fferm rhag mynd yn sâl, mae cynnal y safonau hylendid hyn yn allweddol i gynnal enw da’r DU fel allforiwr y gellir ymddiried ynddo i ddarparu cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid diogel.

Mae yna nifer o brif elfennau sy’n cyfrannu at gynnal safonau hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid uchel:

  • deddfwriaeth a chanllawiau clir ar gyfer busnesau bwyd a bwyd anifeiliaid
  • dulliau cymesur a chyson at arolygiadau awdurdodau lleol sy’n seiliedig ar risg, er mwyn sicrhau bod gweithredwyr busnesau bwyd yn cydymffurfio â chyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid
  • cymryd camau priodol i reoli brigiadau o achosion o glefydau heintus sy’n gysylltiedig â bwyd a bwyd anifeiliaid
  • cymryd camau priodol lle bo achosion o ddiffyg cydymffurfio
  • meddu ar weithlu cymwys a hyfforddedig sydd ag adnoddau da i fonitro a gorfodi cydymffurfiaeth busnesau

Mae’r bennod hon yn archwilio’r hyn y mae’r data sydd ar gael yn ei ddweud wrthym am safonau hylendid ac yn tynnu sylw at yr heriau penodol a wynebir gan y rheiny sy’n gyfrifol am eu cynnal.

Ffigur 34: Cost economaidd flynyddol rhai mathau adnabyddus o salwch a gludir gan fwyd [34]

  • Norofeirws: Fe’i trosglwyddir yn aml drwy bysgod cregyn, wystrys, letys, aeron ffres a rhai wedi'u rhewi, £1.690 miliwn
  • Campylobacter:Fe’i trosglwyddir yn aml drwy gyw iâr, moch a chynhyrchion llaeth, £710 miliwn
  • Salmonela: Fe'i trosglwyddir yn aml drwy wyau neu gynhyrchion wyau, cig coch a dofednod, £210 miliwn
  • Escherichia coli (VTEC O157): Fe'i trosglwyddir yn aml drwy gig eidion a chynhychion llaeth, £4 miliwn

Rôl busnesau

Mae busnesau bwyd a bwyd anifeiliaid yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion hylendid. Mae hyn yn golygu bod angen iddynt fod â systemau rheoli diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid effeithiol ar waith a’u cynnal. Yn ymarferol, mae hyn yn cynnwys mesurau i ddiogelu bwyd a bwyd anifeiliaid rhag eu halogi, fel cymhwyso safonau hylendid uchel, rheoli tymheredd, a sicrhau bod staff yn gymwys trwy hyfforddiant neu oruchwyliaeth ddigonol.
 

Hylendid mewn sefydliadau bwyd

Mae awdurdodau lleol ledled y DU yn cynnal amrywiaeth eang o wiriadau ac ymyriadau mewn sefydliadau bwyd er mwyn sicrhau bod lefel uchel o hylendid bwyd yn cael ei chynnal a bod busnesau’n cydymffurfio â phob cyfraith bwyd berthnasol35. Mae’r rhain yn cael eu cyflawni gan swyddogion diogelwch bwyd, fel swyddogion iechyd yr amgylchedd.

Effeithiwyd ar y data cydymffurfio a gasglwyd yn ystod y pandemig gan ostyngiad yn nifer yr arolygiadau cyffredinol, a byddwn yn disgrifio hyn yn ddiweddarach yn y bennod hon. Mae rhai gwahaniaethau hefyd yn y modd y caiff cydymffurfiaeth ei mesur ar draws pedair gwlad y DU. Fodd bynnag, ar sail y data sydd ar gael, canfuwyd bod mwy na 95% o sefydliadau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cydymffurfio neu’n rhagori ar hynny. Yn yr Alban, barnwyd bod mwy na 96% o sefydliadau’n cydymffurfio i lefel foddhaol neu well o dan System Sgorio newydd Cyfraith Bwyd [36].

Ffigur 35: Y cyfraddau cydymffurfio diweddaraf a nodwyd ar gyfer gweithredwyr busnesau bwyd y DU

Mae’r newid pwynt canrannol o gymharu â’r flwyddyn flaenorol wedi’i gynnwys mewn cromfachau.

Map o’r Deyrnas Unedig yn dangos y cyfraddau cydymffurfio a gofnodwyd ar gyfer gweithredwyr busnesau bwyd y Deyrnas Unedig, gyda Chymru ar 96.6%, Lloegr ar 95.7%, yr Alban ar 96.9% a Gogledd Iwerddon ar 98.4%. Mae’r graffig hefyd yn dangos newidiadau pwynt canrannol o gymharu â’r flwyddyn flaenorol: Mae Cymru wedi gwella 1.2%, Lloegr 0.5%, yr Alban 0.9% a Gogledd Iwerddon 1.5%.

Ffynhonnell: System Monitro Gorfodi Lleol (LAEMS), Cronfa Ddata Genedlaethol yr Alban (SND). Mae’r ffigurau’n nodi’r data diweddaraf sydd ar gael, sy’n cwmpasu 2019-20 ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, a 2020-21 ar gyfer yr Alban.

SYn yr un modd, mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon a’r Cynllun Gwybodaeth am Hylendid Bwyd (FHIS) yn yr Alban yn dangos bod y mwyafrif helaeth o’r bwytai a mannau eraill sy’n gweini bwyd wedi cael sgoriau boddhaol neu well ar y cyfan [37].

Ffigur 36: % y busnesau bwyd yn y DU a gafodd sgoriau boddhaol neu well ar gyfer hylendid bwyd yn ôl 31 Rhagfyr 2021

Mae’r newid pwynt canrannol o gymharu â’r flwyddyn flaenorol wedi’i gynnwys mewn cromfachau.

Canrannau’r busnesau bwyd yn y Deyrnas Unedig a gafodd sgoriau boddhaol neu well ar gyfer hylendid bwyd, sef  97% yng Nghymru, 93.8% yn yr Alban, 96.9% yn Lloegr, a 99.3% yng Ngogledd Iwerddon. Mae’r graffig hefyd yn dangos newidiadau pwynt canrannol o gymharu â’r flwyddyn flaenorol: Mae Lloegr wedi gwella 0.4%, nid oes newid ar gyfer yr Alban, ac mae Cymru a Gogledd Iwerddon wedi gwella 0.2%.

Mae’r ffigurau’n cynnwys pob busnes sy’n ennill sgôr ‘boddhaol ar y cyfan’ o dri neu uwch fel rhan o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, a sgôr ‘pasio’ fel rhan o’r FHIS ar gyfer yr Alban.

Hylendid mewn sefydliadau cig cymeradwy

Mae sefydliadau cig cymeradwy yn cynnwys lladd-dai, sefydliadau trin anifeiliaid helgig, ffatrïoedd torri cig a marchnadoedd cyfanwerthu cig, ac maent yn destun set benodol o reolaethau i sicrhau eu bod yn bodloni safonau diogelwch a hylendid bwyd. Swyddogion yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban sy’n cynnal llawer o’r rheolaethau ar gyfer y sefydliadau hyn. Cynhelir archwiliadau busnesau bwyd yn rheolaidd yn y sefydliadau hyn i wirio cydymffurfiaeth [38].

Er bod gwahaniaethau yn y ffordd y cynhelir archwiliadau yn yr Alban o gymharu â gweddill y DU (gweler y nodiadau esboniadol) sy’n cael eu hadlewyrchu yn y ffigurau sydd ar gael, maent yn dangos eto bod y rhan fwyaf o sefydliadau cig yn cydymffurfio â safonau hylendid, gyda ffigurau yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban yn parhau’n gyson, fwy neu lai, â’r blynyddoedd blaenorol [39].
 

Ffigur 37: % y sefydliadau cig a gafodd sgôr hylendid dda neu foddhaol yn 2020/21

Mae’r newid pwynt canrannol o gymharu â’r flwyddyn flaenorol wedi’i gynnwys mewn cromfachau.

Map o’r Deyrnas Unedig yn dangos canran y sefydliadau cig sydd wedi cael sgôr dda neu foddhaol ar gyfer hylendid bwyd. Mae’n dangos mai cyfartaledd y Deyrnas Unedig gyfan yw 97.7%, gyda Chymru a Lloegr ar 98.6%, yr Alban ar 85.5% a Gogledd Iwerddon ar 100%. Mae’r graffig hefyd yn dangos newidiadau pwynt canrannol o gymharu â’r flwyddyn flaenorol: Mae Cymru a Lloegr wedi gwella 0.2%, yr Alban 1.2%, ac nid oes newid ar gyfer Gogledd Iwerddon. Mae’r Deyrnas Unedig at ei gilydd wedi gwella 0.5%.

Ffynhonnell: Data archwilio sefydliadau cig

Cydymffurfiaeth hylendid wrth gynhyrchu llaeth

Mae’r cyfrifoldeb dros arolygu sefydliadau llaeth yn amrywio ar draws y DU, ond ym mhob achos y nod yw sicrhau bod safonau hylendid yn cael eu cynnal ar draws ffermydd a chynhyrchwyr llaeth cofrestredig40. Unwaith eto, cafodd y pandemig effaith sylweddol ar weithredu, a thrafodir hyn ymhellach yn yr adran nodiadau esboniadol41.

O ran sefydliadau llaeth, mae’r data sgorio diweddaraf sydd ar gael yn dangos bod 80.6% o sefydliadau yng Nghymru a Lloegr a 99.2% yng Ngogledd Iwerddon yn cydymffurfio42. Mae dosbarthiad mathau o sefydliadau llaeth yn amrywio rhwng Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, a gall hyn effeithio ar lefelau cydymffurfio.

Nid oes gan Safonau Bwyd yr Alban unrhyw rôl orfodi uniongyrchol ar gyfer hylendid llaeth yn yr Alban. Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am hyn yn yr Alban. Mae cydymffurfiaeth wedi’i mesur drwy edrych ar ba ganran o fusnesau a gafodd cyngor ysgrifenedig neu gyngor ar lafar. Mae diffyg angen camau gorfodi ffurfiol yn awgrymu lefelau uchel o gydymffurfiaeth yn yr Alban43. Mae hyn yn golygu bod mwyafrif helaeth y busnesau hyn yn gweithredu mewn modd diogel.

Ffigur 38: Lefelau cydymffurfio sefydliadau llaeth yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn ôl mis 31 Rhagfyr 2021

Mae’r newid pwynt canrannol o gymharu â’r flwyddyn flaenorol wedi’i gynnwys mewn cromfachau.

Siart far yn dangos lefelau cydymffurfio mewn sefydliadau llaeth. Yng Nghymru a Lloegr, aseswyd bod 50.5% yn dda, 30.1% yn foddhaol ar y cyfan, 19% angen gwella a 0.4% angen gwella ar frys. Yng Ngogledd Iwerddon, aseswyd bod 68.6% yn dda a 30.6% ySiart far yn dangos lefelau cydymffurfio mewn sefydliadau llaeth. Yng Nghymru a Lloegr, aseswyd bod 50.5% yn dda, 30.1% yn foddhaol ar y cyfan, 19% angen gwella a 0.4% angen gwella ar frys. Yng Ngogledd In foddhaol ar y cyfan, gyda 0.8% yn cael sgôr ‘angen gwella’.

Ffynhonnell: System ddata cynnyrch llaeth K2, Cangen Arolygu Bwyd-Amaeth DAERA, 2021

Ffigur 39: Cyfran y sefydliadau llaeth yn yr Alban sy’n cael cyngor ar lafar neu gyngor ysgrifenedig, 2019-2

Cyfran y busnesau sy’n cael cyngor ar lafar rhwng 2019 a 2020 oedd 14.4%. 

Cyfran y busnesau sy’n cael cyngor ysgrifenedig rhwng 2019 a 2020 oedd 7.2%. 

Ffynhonnell: Multi-Annual National Control Plan Annual Report 2019

Cydymffurfiaeth mewn sefydliadau bwyd anifeiliaid

Mae bwyd anifeiliaid yn chwarae rhan bwysig yn y gadwyn fwyd ac mae methiannau o ran rheolaethau bwyd anifeiliaid wedi arwain yn hanesyddol at ddigwyddiadau mawr, gan gynnwys y brigiad o achosion o BSE. Mae ystod eang o ofynion cyfreithiol ar gyfer bwyd anifeiliaid sy’n ymwneud â hylendid, olrheiniadwyedd, labelu, cyfansoddiad a sylweddau annymunol. Gall y cyfrifoldebau dros reolaethau bwyd anifeiliaid amrywio ar draws y gwledydd [44]. Mae rhai gwahaniaethau pwysig yn y ffordd y mae gwledydd y DU yn adrodd ar ddata cydymffurfio, a amlinellir yn yr adran nodiadau esboniadol [45].

Yr Alban

Yn ôl y data sydd ar gael, llwyddodd 94.9% o fusnesau bwyd anifeiliaid i gydymffurfio i lefel foddhaol o leiaf yn 2016, o gymharu â 98.3% yn 2017.

Lloegr

Arhosodd cydymffurfiaeth busnesau bwyd anifeiliaid yn gyson, gyda 97.9% o fusnesau’n cydymffurfio i lefel foddhaol o leiaf yn 2018 a 97.1% yn 2019.

Cymru

Llwyddodd 83.2% o fusnesau bwyd anifeiliaid i gydymffurfio i lefel foddhaol o leiaf yn 2020/21. Mae hyn yn weddol gyson â data 2019/20, pan lwyddodd 82.8% o fusnesau bwyd anifeiliaid i gydymffurfio i lefel foddhaol o leiaf.

Gogledd Iwerddon

Mae cydymffurfiaeth busnesau bwyd anifeiliaid wedi aros yr un fath gyda 99.3% yn llwyddo i gydymffurfio i lefel foddhaol o leiaf yn 2019/20 a 2020/21.

Ffynhonnell: Data cynllunio arolygiadau bwyd anifeiliaid Safonau Masnach Cenedlaethol ar gyfer Lloegr, data arolygu bwyd anifeiliaid Cymru fel yr adroddwyd gan awdurdodau lleol, data arolygu bwyd anifeiliaid DAERA ac arolygiadau bwyd anifeiliaid awdurdodau lleol yr Alban y mae Safonau Bwyd yr Alban wedi nodi canlyniadau ar eu cyfer.

A effeithiodd y pandemig ar safonau hylendid?

Effeithiodd y pandemig yn ddifrifol ar allu arolygwyr i asesu cydymffurfiaeth y diwydiant, o ganlyniad i adleoli adnoddau awdurdodau lleol i gefnogi’r ymateb i’r pandemig, a’r her o gael mynediad corfforol at sefydliadau. Adlewyrchir hyn yn nifer y busnesau bwyd a gafodd sgoriau hylendid bwyd yn ystod y pandemig (gweler ffigurau 40 a 41).

Er bod hyn yn ostyngiad sylweddol, byddai swyddogion gorfodi wedi bod yn bresennol mewn rhai safleoedd lletygarwch i gynnal ymweliadau i asesu cydymffurfiaeth mewn perthynas â mesurau COVID-19. Er nad oedd yr ymweliadau hyn bob amser wedi’u cyfuno â gwiriadau hylendid bwyd, mae llawer o’r egwyddorion a ddefnyddiwyd i asesu a oedd safle’n ddiogel o ran COVID-19 hefyd yn berthnasol i arferion cynhyrchu bwyd.

Mae awdurdodau lleol bellach wedi ailddechrau cynnal arolygiadau mewn busnesau bwyd, gan flaenoriaethu’r busnesau hynny sydd â hanes o ddiffyg cydymffurfio, neu’r rheiny lle y gwnaeth cwynion dynnu sylw at broblemau posib. Mae trafodaethau cynnar gyda Grwpiau Cyswllt Bwyd Awdurdodau Lleol46 yn awgrymu bod awdurdodau lleol nawr yn dod ar draws lefelau diffyg cydymffurfio uwch nag o’r blaen. Fodd bynnag, mae angen mwy o ddata cyn y gellir dod i gasgliadau ynghylch a yw’r pandemig wedi effeithio ar safonau hylendid yn ehangach.

Gostyngodd nifer y sgoriau hylendid a ddyfarnwyd yn sydyn yn ystod anterth y pandemig

Ffigur 40: Nifer y busnesau bwyd a gafodd sgôr yn ôl y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yng Nghymru, Lloegr, a Gogledd Iwerddon

Siart far yn dangos bod nifer y busnesau bwyd a gafodd sgôr drwy’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi gostwng yn sydyn o 13,859 yn 2019 i 4,975 yn 2020, cyn codi i 10,575 yn 2021.

Ffigur 41: Nifer y busnesau bwyd a gafodd sgôr yn ôl y FHIS yn yr Alban

Siart far yn dangos bod nifer y busnesau bwyd a gafodd sgôr drwy’r Cynllun Gwybodaeth am Hylendid Bwyd yn yr Alban wedi gostwng o 1,001 yn 2019 i 301 2020, cyn codi i 811 yn 2021.

Edrych i’r dyfodol

Yn olaf, beth yw rhai o’r heriau mawr i safonau hylendid bwyd yn y blynyddoedd i ddod?

Y risg allweddol gyntaf yw prinder gweithlu. Mae’r pandemig ac ymadawiad y DU â’r UE wedi tynnu sylw at yr heriau o ran recriwtio a chadw niferoedd digonol o staff sydd wedi’u hyfforddi’n dda. Mae llawer o awdurdodau lleol yn wynebu anawsterau wrth gyflogi staff cymwys i gynnal arolygiadau, a bu problemau tebyg wrth recriwtio a chadw milfeddygon swyddogol ac arolygwyr hylendid cig yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Byddwn yn adolygu effaith hyn ar fentrau recriwtio a chadw staff trwy ddadansoddi data gweithluoedd mewn adroddiadau yn y dyfodol47.

Yr ail risg allweddol yw twf ym maes masnachu ar-lein. Gydag amrywiaeth eang o lwybrau gwerthu ar-lein bellach ar gael, gan gynnwys trwy agregwyr, marchnadoedd ar-lein a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, mae’n dod yn fwyfwy anodd i awdurdodau orfodi goruchwylio’r holl fusnesau bwyd sy’n gweithredu ar-lein. Mewn ymateb, mae Safonau Bwyd yr Alban a’r ASB yn gweithio gydag awdurdodau lleol a darparwyr technoleg i ddeall maint a natur newidiol y farchnad fwyd ar-lein ac asesu unrhyw risgiau posib iddiogelwch bwyd. Unwaith eto, byddwn yn adolygu cynnydd mewn adroddiadau yn y dyfodol.
 

I grynhoi

  • Gwnaeth y pandemig darfu'n sylweddol ar raglenni arolygu hylendid arferol busnesau bwyd ym mhob un o’r pedair gwlad. Roedd graddfa’r gostyngiad yn nifer arolygiadau hylendid bwyd awdurdodau lleol oherwydd y pandemig yn sylweddol. Gostyngodd lefel yr arolygiadau i dua traean o’r lefel flaenorol yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban.
  • Mae data cydymffurfio yn dangos bod dros 95% o’r busnesau bwyd a arolygwyd gan awdurdodau lleol yn cydymffurfio i raddau helaeth neu well yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Yn yr un modd yn yr Alban, mae statws cydymffurfio â chyfraith bwyd yn uwch na 96%.
  • Mae’r data diweddaraf ar sgoriau hylendid yn dangos bod 97% o fusnesau bwyd wedi cael sgôr foddhaol ar y cyfan o 3 neu uwch yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Yn yr Alban, roedd y gyfradd lwyddo ymhlith busnesau yn 93.8%.
  • O ran sefydliadau cig cymeradwy, mae’r data archwilio diweddaraf sydd ar gael yn dangos cydymffurfiaeth o fwy nag 98% yng Nghymru a Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac 85% yn yr Alban. O ran sefydliadau llaeth, mae dosbarthiad mathau o sefydliadau llaeth yn amrywio rhwng Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, a allai gyfrannu at amrywiad mewn lefelau cydymffurfio. Mae’r data sgorio diweddaraf sydd ar gael yn dangos cydymffurfiaeth o fwy nag 80% yng Nghymru a Lloegr, a 99% yng Ngogledd Iwerddon. Mae diffyg angen camau gorfodi ffurfiol yn awgrymu lefelau uchel o gydymffurfiaeth yn yr Alban. Mae hyn yn golygu bod y mwyafrif helaeth o’r sefydliadau cig a llaeth hyn yn gweithredu mewn modd diogel.
  • O ran busnesau bwyd anifeiliaid, mae pedair gwlad y DU yn gwirio cydymffurfiaeth â gofynion cyfraith bwyd anifeiliaid mewn modd gwahanol, a all gyfrannu at amrywiad mewn lefelau cydymffurfio. Mae’r data sgorio diweddaraf sydd ar gael yn dangos cydymffurfiaeth o fwy na 83% yng Nghymru, 97% yn Lloegr, 99% yng Ngogledd Iwerddon, a 98% yn yr Alban. Mae hyn yn golygu bod y mwyafrif helaeth o’r busnesau hyn yn gweithredu mewn modd diogel.
  • O ystyried y gostyngiad mewn gweithgarwch arolygu sy’n gysylltiedig â’r pandemig, nid yw’n bosib penderfynu’n hyderus a yw safonau hylendid wedi gostwng ai peidio. Mae gwybodaeth gynnar gan grwpiau cyswllt bwyd awdurdodau lleol yn awgrymu y gallai fod rhywfaint o effaith ar gydymffurfiaeth, ond disgwyliwn i ddarlun cliriach ddod i’r amlwg yn adroddiad y flwyddyn nesaf.