Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ein Bwyd 2021: Adolygiad blynyddol o safonau bwyd ledled y DU

Rhagair

Mae bwyd yn bwysig. Yn wir, mae’n rhan annatod o bwy ydym ni a sut rydym yn byw. Mae’n effeithio ar ein hiechyd, yn diffinio ein cymunedau ac yn rhoi nerth i’n heconomi.

Last updated: 27 Mehefin 2022

Mae bwyd yn bwysig. Yn wir, mae’n rhan annatod o bwy ydym ni a sut rydym yn byw. Mae’n effeithio ar ein hiechyd, yn diffinio ein cymunedau ac yn rhoi nerth i’n heconomi. Mae’n cynnig mwynhad, amrywiaeth a chysur i ni yn ein bywydau. At fwyd y byddwn yn troi, dro ar ôl tro, pan fyddwn am ddathlu a rhannu achlysuron arbennig gyda’n teulu a’n ffrindiau.

Oherwydd hyn oll, mae’n hanfodol bod y bwyd rydym yn ei brynu yn bodloni’r safonau a ddisgwyliwn ac yn cefnogi’r gwerthoedd sy’n bwysig i ni. Fel defnyddwyr, dylem deimlo’n hyderus bod yr hyn yr ydym yn ei fwyta yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, a’n bod yn cael ein diogelu rhag unrhyw beth sy’n anniogel, yn annilys, neu’n niweidiol. Dylai pawb fod â’r grym a’r wybodaeth i wneud y dewisiadau deietegol iawn drostynt eu hunain, eu teuluoedd a’r blaned.

Pam cyhoeddi adroddiad ar safonau bwyd nawr felly? Yn syml, credwn fod hwn yn gyfnod pwysig ar gyfer ansawdd a diogelwch bwyd. Ar adeg pan fo gan y Deyrnas Unedig (DU) gyfrifoldebau newydd dros fwyd yn dilyn ein hymadawiad â’r Undeb Ewropeaidd (UE), mae angen cyrff gwarchod cryf ar ddefnyddwyr i bennu a yw safonau’n cael eu diogelu. Bydd yr adroddiad hwn – y cyntaf mewn cyfres i’w gyhoeddi’n flynyddol – yn ein helpu i wneud hynny drwy ddarparu asesiad gwrthrychol, yn seiliedig ar ddata, o ddiogelwch a safonau bwyd dros amser.

Pam ni? Gan mai’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban sy’n gyfrifol am safonau bwyd ar draws y DU gyfan – mae hwn yn gydweithrediad pwysig, hirdymor rhwng ein dau sefydliad, a dylai ddarparu mwy o dryloywder ac atebolrwydd am ansawdd bwyd ar draws y pedair gwlad. Bydd hyn, yn ei dro, yn ein helpu i weithio gyda busnesau bwyd, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i fynd i’r afael ag unrhyw fygythiadau neu wendidau sy’n dod i’r amlwg.

Pam nawr? Oherwydd bod yr adroddiad cyntaf hwn yn cynnig cyfle i fyfyrio ar gyfnod arbennig o bwysig i fwyd y DU, yn cwmpasu’r blynyddoedd rhwng 2019 a 2021. Mae’n cynnwys, nid yn unig y flwyddyn gyntaf ar ôl i’r DU ymadael â’r UE, ond hefyd yn ystyried anterth y pandemig COVID-19. Roedd y ddau ddigwyddiad yn cyflwyno heriau sylweddol o ran sicrhau parhad busnes a chynnal safonau rheoleiddio. Mae rhan fawr o’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar ddeall effaith y digwyddiadau hyn, yr hyn y gallwn ei ddysgu ganddynt, a’r hyn y mae angen i ni ei fonitro yn y dyfodol.

Ar yr un pryd, mae newidiadau cymdeithasol eraill yn codi cwestiynau ychwanegol. Mae pobl yn ailystyried eu disgwyliadau a’u blaenoriaethau yn sgil newid yn yr hinsawdd. Mae technoleg yn ail-lunio’r dirwedd fusnes ac yn creu heriau rheoleiddio newydd. Mae deiet gwael a gordewdra yn parhau i fod yn bryderon mawr, gyda phryderon iechyd hefyd yn rhoi mwy o ffocws ar wybodaeth am fwyd ac uniondeb dulliau marchnata cynhyrchion.

Dyma gyfnod hefyd pan oedd pobl yn dechrau teimlo effaith y cynnydd mewn prisiau bwyd. Fel y gwelwn, mae risg y bydd hyn yn gwneud i ddeiet iachach a mwy cynaliadwy deimlo fel rhywbeth y tu hwnt i’n cyrraedd. Disgwyliwn y bydd fforddiadwyedd bwyd – a ‘bwyd da’ yn arbennig – yn thema arwyddocaol yn adroddiad blynyddol y flwyddyn nesaf.

Yn olaf, mae ein system fwyd yn gwbl fyd-eang ei natur, a rhan bwysig o’n gwaith yw gweithio gyda Llywodraeth Cymru, adrannau Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon i ddiogelu safonau bwyd rhag effaith bosibl unrhyw ergydion a chynnwrf allanol. Mae’r rhyfel yn Wcráin, er enghraifft, eisoes yn tarfu ar gadwyni cyflenwi bwyd. Er ei bod yn rhy gynnar i ddod i unrhyw gasgliadau am yr effaith benodol ar safonau bwyd, mae hyn yn rhywbeth rydym yn ei fonitro’n agos, a byddwn yn ei ystyried ymhellach yn adroddiad y flwyddyn nesaf.

Yn yr un modd, wrth i’r DU feithrin perthnasoedd masnachu newydd â gweddill y byd ac wrth i’n perthynas â’r UE ddatblygu, mae angen inni gadw llygad barcud ar effaith cytundebau masnach newydd ac effeithiolrwydd mesurau a roddir ar waith i gynnal safonau bwydydd a fewnforir.

Wrth gwrs, mae’r broses o gael bwyd diogel o’r ‘fferm i’r fforc’ yn gymhleth ac yn amlochrog, a dim ond rhai o’r meysydd hyn y gall yr adroddiad hwn fynd i’r afael â nhw.

Fodd bynnag, rydym am i’r dystiolaeth hon sbarduno sgyrsiau pwysig am dueddiadau sy’n dod i’r amlwg, risgiau yn y dyfodol, a sut y gallwn, gyda’n gilydd, lywio ein ffordd drwy ansicrwydd a newid.

Edrychwn ymlaen at weithio gyda’n gilydd a’n partneriaid niferus i sicrhau bod bwyd y DU yn parhau i fod yn ddiogel, yn iachach ac yn fwy cynaliadwy.

 

Portrait of Susan Jebb.

Yr Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Portrait of Heather Kelman.

Heather Kelman, Cadeirydd Safonau Bwyd yr Alban

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), a sefydlwyd yn 2000, yn adran annibynnol, anweinidogol o’r llywodraeth sy’n gweithio i ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau ehangach defnyddwyr mewn perthynas â bwyd. Gyda chyfrifoldebau sy’n rhychwantu pob agwedd ar ddiogelwch a safonau bwyd a bwyd anifeiliaid ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, mae’n gweithio i sicrhau bod y bwyd rydym yn ei fwyta yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, ac yn iachach a mwy cynaliadwy at y dyfodol.

Safonau Bwyd yr Alban

Sefydlwyd Safonau Bwyd yr Alban ar 1 Ebrill 2015 fel corff bwyd sector cyhoeddus anweinidogol annibynnol newydd ar gyfer yr Alban. Ei fwriad yw cynnal diogelwch a safonau bwyd, gwella deiet y cyhoedd, a diogelu buddiannau eraill defnyddwyr mewn perthynas â bwyd. Mae ei gylch gwaith yn cwmpasu pob agwedd ar y gadwyn fwyd a all effeithio ar iechyd y cyhoedd, a’i nod yw diogelu ddefnyddwyr rhag risgiau diogelwch bwyd a hybu bwyta’n iach.

Comisiynwyd Safonau Bwyd yr Alban yn ffurfiol gan y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Menywod a Chwaraeon i lunio’r adroddiad hwn, ar y cyd â’r ASB, i gefnogi gofynion Deddf Bwyd (yr Alban) 2015, sy’n nodi amcan statudol clir i Safonau Bwyd yr Alban, sef diogelu buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd.