Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Ymgynghoriad ar ddatblygu model gweithredu hylendid bwyd wedi’i foderneiddio – Cymru

Penodol i Gymru

Nod yr ymgynghoriad hwn yw casglu safbwyntiau rhanddeiliaid ar ddatblygiadau arfaethedig ar gyfer model gweithredu hylendid bwyd wedi’i foderneiddio (FHDM) fel rhan o’n gwaith ymgysylltu ehangach â rhanddeiliaid.

Bydd y ddogfen hon o diddordeb i’r canlynol yn bennaf: 

  • Awdurdodau Cymwys – awdurdodau lleol 
  • Busnesau bwyd a chyrff masnach y diwydiant
  • Sefydliadau sicrwydd trydydd parti ar gyfer diogelwch bwyd
  • Cyrff Dyfarnu ar gyfer gweithwyr proffesiynol iechyd yr amgylchedd a safonau masnach
  • Efallai y bydd gan Undebau Llafur a grwpiau arbenigol ddiddordeb hefyd.

1. Diben/pwnc yr ymgynghoriad

Nod yr ymgynghoriad hwn yw casglu safbwyntiau rhanddeiliaid ar ddatblygiadau arfaethedig ar gyfer model gweithredu hylendid bwyd wedi’i foderneiddio (FHDM) fel rhan o’n gwaith ymgysylltu ehangach â rhanddeiliaid. 

Mae’r prif ddatblygiadau arfaethedig yn cynnwys:

  • cynllun sgorio ymyriadau hylendid bwyd wedi’i foderneiddio 
  • dull wedi’i ddiweddaru sy’n seiliedig ar risg o ran yr amserlenni ar gyfer rheolaethau swyddogol cychwynnol mewn sefydliadau bwyd newydd, a chynnal rheolaethau swyddogol priodol 
  • mwy o hyblygrwydd yn y dulliau a’r technegau rheolaethau swyddogol y gellir eu defnyddio i bennu lefel risg sefydliad, gan gynnwys defnyddio rheolaethau swyddogol o bell 
  • ehangu’r gweithgareddau y gall swyddogion, fel Swyddogion Cymorth Rheoleiddiol, nad oes ganddynt ‘gymhwyster addas’ ar gyfer hylendid bwyd eu cyflawni, os ydynt yn gymwys

2. Sut i ymateb

Defnyddiwch y ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad i roi eich sylwadau. 

Yna dylid anfon y ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad dros e-bost i hygienemodelreview@food.gov.uk

3. Manylion yr ymgynghoriad

3.1 Cyflwyniad

Dechreuodd gwaith i foderneiddio’r FHDM yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ym mis Medi 2021 ac mae’n rhan o ffrwd waith ‘moderneiddio’r broses o reoleiddio awdurdodau lleol’ y rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau (ABC). Ei nod yw ceisio sicrhau bod awdurdodau lleol yn gallu targedu eu hadnoddau i’r busnesau sydd eu hangen fwyaf. 

Fe wnaethom sefydlu gweithgor ar y cyd rhwng awdurdodau lleol a’r Asiantaeth Safonau Bwyd er mwyn cydweithio ar draws y tair gwlad i foderneiddio’r model. Roedd y gweithgor yn helpu i adolygu’n feirniadol a llywio ein ffordd o feddwl am y datblygiadau arfaethedig. 

Mae’r dirwedd fwyd wedi newid yn sylweddol yn ystod y tri degawd ers cyflwyno’r system reoleiddio gyfredol, yn ogystal â’r ffordd yr ydym yn prynu ac yn bwyta bwyd.  

Mae’r newidiadau hyn yn creu cyfleoedd newydd i ni ddiogelu buddiannau defnyddwyr yn well. Ar gyfer rhai rhannau o’r sector bwyd, efallai y bydd ffyrdd mwy effeithiol ac effeithlon o sicrhau bod busnesau’n cydymffurfio â’r rheolau na’r model sicrwydd cyfredol. Drwy ein gwaith i foderneiddio’r FHDM, rydym am wneud yn siŵr bod awdurdodau lleol yn gallu targedu eu hadnoddau mor effeithiol â phosib wrth i ni ddatblygu model sicrwydd rheoleiddio bwyd sy’n addas ar gyfer y dyfodol. 

Rydym wedi asesu’r heriau gyda’r model cyfredol a’r elfennau y dylem eu cadw er mwyn darparu sylfaen dystiolaeth gadarn ar gyfer datblygu’r prif bolisi, a gymeradwywyd gan Fwrdd yr ASB ar 26 Medi. Fel rhan o’r prif bolisi, pe bai’r model yn cael ei weithredu, cynigiwyd y byddem yn cefnogi awdurdodau lleol trwy ganllawiau a hyfforddiant er mwyn gallu gweithredu’r FHDM wedi’i foderneiddio yn gyson.

Er mwyn sicrhau llwyddiant y FHDM wedi’i foderneiddio, rydym yn bwriadu gwerthuso canlyniadau’r ffrwd waith hon yn erbyn y pum egwyddor a ganlyn: 

  • Effeithiol – yn diogelu iechyd y cyhoedd ac yn rhoi’r sicrwydd sydd ei angen i gynnal hyder defnyddwyr, lleihau beichiau rheoleiddio ar fusnesau sy’n cydymffurfio a/neu sy’n peri risg isel, a hwyluso masnach ac allforio nawr ac yn y dyfodol
  • Seiliedig ar risg – yn darparu dull cymesur wedi’i seilio ar risg, sy’n gyson ar gyfer ymdrin â busnesau bwyd newydd a chyfredol sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth bresennol ac sy’n gwneud defnydd effeithiol o ddata, gwybodaeth a chudd-wybodaeth
  • Addasadwy – yn addasu i wahanol fathau o fusnesau bwyd ac yn ystyried risgiau cyfredol, risgiau sy’n dod i’r amlwg, a risgiau’r dyfodol (yn lleol, yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol) yn y system fwyd, modelau busnes cyfnewidiol, ac arloesedd yn y diwydiant bwyd
  • Cynaliadwy – yn hwyluso gwytnwch a gallu o fewn awdurdodau lleol trwy ddarparu hyblygrwydd, gan eu galluogi a’u hannog i dargedu eu hadnoddau’n effeithiol i sicrhau bod pob ymyriad yn ychwanegu gwerth ac yn ysgogi gwelliannau parhaus o ran cydymffurfiaeth busnesau
  • Ystyriol – yn ystyried y cynllun sgorio hylendid bwyd fel y gall barhau i weithredu’n llwyddiannus a chynnal hyder defnyddwyr a, lle bo’n briodol, y model gweithredu safonau bwyd, ffrydiau gwaith eraill y rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau, a’r cynllun sgorio ymyriadau bwyd anifeiliaid (lle bo’n berthnasol)

Mae’r datblygiadau arfaethedig a amlinellir yn y ddogfen hon wedi’u seilio ar y prif bolisi sydd wedi’i gymeradwyo, ac mae’r gweithgor awdurdodau lleol/yr ASB ar y cyd yn rhannu ein safbwyntiau ar lle y gellid gwella a moderneiddio’r FHDM cyfredol. Rydym am gael mewnwelediad i sut y byddai’r datblygiadau arfaethedig yn effeithio ar randdeiliaid allweddol a chasglu adborth, awgrymiadau, a dulliau amgen gan bartïon sydd â buddiant cyn bwrw ymlaen â’r gwaith hwn ymhellach. 

Ar ôl i’r ymgynghoriad hwn ddod i ben, byddwn yn adolygu’r adborth ac yn mireinio’r cynigion ar gyfer y FHDM wedi’i foderneiddio a fydd wedyn yn destun cynllun peilot chwe mis ac ymgynghoriad ffurfiol. Rydym yn rhagweld y bydd y cynllun peilot yn cael ei gynnal rhwng mis Ionawr a mis Mehefin 2024, gan arwain at roi’r model wedi’i foderneiddio ar waith yn 2025/26, yn dilyn cyhoeddi Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd diwygiedig. 

3.2 Prif ddatblygiadau arfaethedig

Mae’r prif ddatblygiadau arfaethedig yn cynnwys:

  1. cynllun sgorio ymyriadau hylendid bwyd wedi’i foderneiddio, gan gynnwys matrics penderfynu i bennu amlder priodol y rheolaethau hyn yn seiliedig ar y risg a berir gan sefydliad busnes bwyd
  2. dull wedi’i ddiweddaru sy’n seiliedig ar risg o ran yr amserlenni (lle nad ydynt wedi’u pennu mewn deddfwriaeth) ar gyfer rheolaethau swyddogol cychwynnol mewn sefydliadau bwyd newydd, ac ar gyfer cynnal rheolaethau swyddogol priodol 
  3. mwy o hyblygrwydd yn y dulliau a’r technegau rheolaethau swyddogol y gellir eu defnyddio i bennu lefel risg sefydliad, gan gynnwys, defnyddio rheolaethau swyddogol o bell 
  4. ehangu’r gweithgareddau y gall swyddogion, fel Swyddogion Cymorth Rheoleiddiol, nad oes ganddynt ‘gymhwyster addas’ ar gyfer hylendid bwyd eu cyflawni, os ydynt yn gymwys

3.3 Amcanion polisi

Bwriad y datblygiadau arfaethedig a ddisgrifir uchod yw:

  • diogelu iechyd y cyhoedd, cynnal hyder defnyddwyr, gan gynnwys mewn perthynas â’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB), a rhoi’r sicrwydd sydd ei angen i hwyluso masnach ac allforion parhaus
  • darparu system gadarn o reolaethau swyddogol ar gyfer hylendid bwyd ar sail gynaliadwy
  • galluogi’r defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau awdurdodau lleol lle mae pob ymyriad yn ychwanegu gwerth drwy ganolbwyntio rheolaethau swyddogol ar y sefydliadau risg uchaf a/neu’r sefydliadau nad ydynt yn cydymffurfio
  • ysgogi gwelliannau parhaus o ran cydymffurfiaeth busnesau

3.4 Cwmpas  

Mae’r datblygiadau arfaethedig ar gyfer y FHDM wedi’i foderneiddio yn cynnwys yr holl sefydliadau busnesau bwyd o fewn cwmpas y model presennol, gan gynnwys y rheiny sydd wedi’u cymeradwyo o dan Reoliad a Ddargedwir (EC) 853/2004

Rydym yn dal i ystyried y dull posib o ymdrin â sefydliadau cynhyrchu cynradd ehangach nad ydynt wedi’u cynnwys o fewn cwmpas y model presennol. Rydym yn rhagweld y byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ar y datblygiadau arfaethedig hyn yn gynnar yn 2024. 

Mae sefydliadau risg isel ac isel iawn yn parhau i gael eu cynnwys o fewn cwmpas y FHDM wedi’i foderneiddio gan nad yw Rheoliad a Ddargedwir (EU) 2017/625 ar reolaethau swyddogol yn caniatáu absenoldeb amhenodol rheolaethau swyddogol na thynnu sefydliadau risg isel o’r rhaglenni ymyrryd a raglennir. Oherwydd hyn, ni allwn dynnu’r sefydliadau hyn o gwmpas y FHDM wedi’i foderneiddio. Fodd bynnag, mae’r datblygiadau arfaethedig yn cynnwys hyblygrwydd o ran dulliau a thechnegau rheolaethau swyddogol y gellir eu defnyddio a phwy all eu cynnal, yn ogystal â diwygiadau i’w hamlder.  

At ddibenion eglurhaol, mae enghreifftiau wedi’u cynnwys i egluro sut y gallai’r datblygiadau arfaethedig weithio’n ymarferol. Bydd yr enghreifftiau hyn yn cael eu datblygu ymhellach yn seiliedig ar adborth.

3.5 Effeithiau

Mae’r datblygiadau arfaethedig ar gyfer y FHDM wedi’i foderneiddio yn dal i fod yn y camau cynnar, felly nid yw asesiad effaith llawn, gan gynnwys costau, wedi’i gynnwys. Fodd bynnag, mae manteision ac effeithiau posib y datblygiadau arfaethedig wedi’u hamlygu isod. Yn dilyn y cyfnod ymgynghori anffurfiol hwn, byddwn yn adolygu ac yn mireinio’r datblygiadau arfaethedig cyn cynnal cynllun peilot chwe mis. Byddwn yn defnyddio canlyniadau’r cynllun peilot i werthuso’r effeithiau ar awdurdodau lleol, busnesau a defnyddwyr ymhellach ac yn cynnwys hyn mewn ymgynghoriad ffurfiol ar y FHDM wedi’i foderneiddio arfaethedig.
 
Fel rhan o asesu effeithiau’r datblygiadau arfaethedig, byddwn yn cysylltu â darparwyr System Rheoli Gwybodaeth (MIS) awdurdodau lleol i sicrhau y gallai’r newidiadau gael eu hymgorffori yn eu systemau a chytuno ar yr amserlenni ar gyfer y diwygiadau.

Rydym yn cydnabod bod angen i fodel wedi’i foderneiddio sicrhau bod y CSHB yn parhau i weithredu’n llwyddiannus a chynnal hyder defnyddwyr. Mae’r datblygiadau arfaethedig wedi ystyried effeithiau posib ar y CSHB, ond cânt eu hystyried ymhellach yn dilyn yr ymgynghoriad hwn a’r cynllun peilot dilynol. 

Yn seiliedig ar ein hasesiadau cychwynnol, nid ydym yn rhagweld y byddai’r FHDM wedi’i foderneiddio yn effeithio ar sgoriau CSHB sefydliadau, gyda’r mwyafrif yn parhau i gael yr un sgôr.  Fodd bynnag, oherwydd y datblygiad arfaethedig i gynnwys sgôr ychwanegol ar gyfer yr elfen ‘hyder mewn rheolwyr’ y cynllun sgorio ymyriadau, efallai y bydd rhai sefydliadau’n cael sgôr CSHB o 2 yn hytrach nag 1.  

Fodd bynnag, waeth beth fo’r datblygiadau arfaethedig, mae’n anochel y bydd angen diwygiadau i Ganllawiau Statudol y CSHB, systemau TG y CSHB a MIS awdurdodau lleol er mwyn eu halinio â’r FHDM wedi’i foderneiddio a sicrhau bod y newid yn ddi-rwystr i’r rheiny sy’n cyflwyno ac yn defnyddio data’r CSHB. 

Mae’r datblygiadau arfaethedig hefyd yn destun ymgynghoriadau ar wahân yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Fodd bynnag, oherwydd bod y CSHB yn gynllun statudol yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, byddai angen newid deddfwriaethol er mwyn gwireddu’n llawn yr hyblygrwydd a gynigir fel dulliau a thechnegau rheolaethau swyddogol, ac o ran a all awdurdodau lleol ymgymryd â’r rhain o bell. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gynlluniau i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol y CSHB yng Nghymru na Gogledd Iwerddon.

4. Datblygiad arfaethedig 1 – Cynllun sgorio ymyriadau hylendid bwyd wedi’i foderneiddio 

4.1 Y drefn bresennol

Disgrifir y cynllun sgorio ymyriadau presennol ym Mhennod 4 ac Atodiad 1 o God Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru) (y Cod) ac mae wedi’i rannu’n dair rhan: 

  • Rhan 1: y perygl posib, sy’n cynnwys tri ffactor:

              a) y math o fwyd a’r dull trin a thrafod  

              b) dull prosesu 

              c) defnyddwyr sy’n wynebu risg 

gyda sgôr ychwanegol ar gyfer bwyd y bwriedir ei fwyta gan grwpiau risg sy’n agored i niwed.

  • Rhan 2: lefel cydymffurfio (cyfredol) – gyda sgôr yn cael ei rhoi ar gyfer:

               a) gweithdrefnau hylendid a diogelwch bwyd

               b) strwythur y sefydliad

  • Rhan 3: Hyder mewn rheolwyr/gweithdrefnau rheoli – gyda sgôr ychwanegol lle mae risg sylweddol o groeshalogi gan ficro-organebau penodedig.

Rhoddir sgoriau i bob un o’r rhannau hyn, gyda’r opsiynau sgorio posib yn amrywio rhwng y rhannau/ffactorau. Yna caiff y sgoriau hyn eu hychwanegu at ei gilydd i roi sgôr gyffredinol ar gyfer y sefydliad.

Yna mae cyfanswm y sgôr yn pennu categori risg y sefydliad a pha mor aml y mae’n ofynnol cynnal ymyriadau. Po uchaf yw’r sgôr, yr uchaf yw risg y sefydliad. Mae’r categorïau risg ac amlder cysylltiedig rheolaethau swyddogol wedi’u nodi isod:

  • Categori A – o leiaf bob 6 mis 
    Categori B – o leiaf bob 12 mis
    Categori C – o leiaf bob 18 mis
    Categori D – o leiaf bob 24 mis
    Categori E – Strategaethau Gorfodi Amgen neu bob tair blynedd.

4.2 Dull arfaethedig 

4.2.1 Cynllun sgorio ymyriadau – proffiliau risg 

Mae’r datblygiad arfaethedig ar gyfer y cynllun sgorio ymyriadau hylendid bwyd yn cynnwys cynhyrchu ‘proffil risg’ ar gyfer sefydliad bwyd sy’n seiliedig ar ei asesiad ‘risg gynhenid’ ac asesiad ‘cydymffurfiaeth a hyder mewn rheolwyr’. 

Fel gyda’r cynllun sgorio ymyriadau cyfredol, byddai’r ‘risg gynhenid’ yn dynodi’r risgiau sy’n gysylltiedig â sefydliad bwyd a’i weithgareddau. Byddai’r ‘cydymffurfiaeth a hyder mewn rheolwyr’ yn asesu cydymffurfiaeth y sefydliad â deddfwriaeth hylendid bwyd berthnasol a hyder mewn rheolwyr. 

Byddai’r ‘risg gynhenid’ a ‘chydymffurfiaeth a hyder mewn rheolwyr’ yna’n cael eu cyfuno i ddarparu ‘proffil risg’ sefydliad. 

Byddai’r ‘risg gynhenid’ a ‘chydymffurfiaeth a hyder mewn rheolwyr’, fel y maent ar hyn o bryd, yn cynnwys sawl elfen (Ffigur 1) sy’n asesu risg y sefydliad, lefel cydymffurfio a hyder mewn rheolwyr yn effeithiol.   

Mae’r elfennau sydd wedi’u cynnwys ar gyfer ‘risg gynhenid’ a ‘chydymffurfiaeth a hyder mewn rheolwyr’ yr un fath â’r rhai sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun sgorio ymyriadau cyfredol. Fodd bynnag, cynigir elfen gydymffurfio ychwanegol yn ymwneud ag ‘alergenau (croeshalogi)’, ond ni fyddai’r elfen gydymffurfio ychwanegol hon yn cael ei hystyried wrth ddyfarnu sgôr CSHB. 

Ffigur 1: Elfennau o’r proffil risg

Risg Gynhenid
  • y math o fwyd a'r dull trin a thrafod
  • dull prosesu
  • defnyddwyr sy'n wynebu risg
Asesu Cydymffurfiaeth a Hyder mewn Rheolwyr
  • lefel gydymffurfio gyfredol o ran:
  • hylendid a diogelwch bwyd – heb gynnwys alergenau (croeshalogi)
  • strwythur y sefydliad
  • alergenau (croeshalogi)
  • hyder mewn rheolwyr
Risg Gynhenid y math o fwyd a'r dull trin a thrafod dull prosesu defnyddwyr sy'n wynebu risg Asesu Cydymffurfiaeth a Hyder mewn Rheolwyr lefel gydymffurfio gyfredol o ran: hylendid a diogelwch bwyd – heb gynnwys alergenau (croeshalogi) strwythur y sefydliad alergenau (croeshalogi) hyder mewn rheolwyr

4.2.2 Cynllun sgorio ymyriadau – lefelau cydymffurfio a diffiniadau

Cynigir bod yr asesiadau ‘risg gynhenid’ a ‘chydymffurfiaeth a hyder mewn rheolwyr’ yn cael eu pwysoli’n gyfartal wrth bennu proffiliau risg. Mae Tablau 1 a 2 yn manylu ar y sgoriau a’r disgrifiadau arfaethedig ar gyfer elfennau asesiad ‘risg gynhenid’ a ‘chydymffurfiaeth a hyder mewn rheolwyr’.

Mae cyfeiriadau at ‘sefydliadau busnesau bwyd’ yn Nhablau 1 a 2 yn cynnwys yr holl sefydliadau busnesau bwyd o fewn cwmpas y FHDM wedi’i foderneiddio, gan gynnwys y rhai sydd wedi’u cymeradwyo o dan Reoliad a Ddargedwir (EC) 853/2004.

Er mwyn cefnogi awdurdodau lleol i asesu ‘risg gynhenid’ a ‘chydymffurfiaeth a hyder mewn rheolwyr’ sefydliadau, rydym yn cynnig datblygu canllawiau ychwanegol ar sut y mae pob sgôr yn edrych yn ymarferol. Er enghraifft, byddai’r canllawiau ‘dull prosesu’ yn cynnwys y rhestr gyfredol o brosesau sy’n cynyddu’r risg i iechyd y cyhoedd. Ar gyfer ‘defnyddwyr sy’n wynebu risg’, byddai’r canllawiau’n rhoi enghreifftiau o’r sefydliadau sy’n gweithgynhyrchu, cynhyrchu a/neu’n gweini bwydydd risg uchel a fwriedir yn benodol i’w bwyta gan grŵp risg o bobl sy’n agored i niwed. 

Yn achos ‘cydymffurfiaeth a hyder mewn rheolwyr’, rhagwelir y byddai cynnwys y canllawiau yn debyg i’r canllawiau a ddarperir ar hyn o bryd yng Nghanllawiau Statudol y CSHB

Mae’r disgrifiadau a ddefnyddir yn y tablau ‘risg gynhenid’ a ‘chydymffurfiaeth a hyder mewn rheolwyr’ yn seiliedig i raddau helaeth ar y cynllun sgorio ymyriadau cyfredol. Fodd bynnag, cynigir rhai mân wahaniaethau, fel y nodir isod:

  • Y math o fwyd a’r dull trin a thrafod:

- rhennir y disgrifiadau dros bum sgôr yn hytrach na’r pedwar yn y cynllun sgorio ymyriadau cyfredol, a chaiff y geiriad ei ddiwygio ychydig. 

- nid yw’r disgrifiad ar gyfer, “sefydliadau sy’n ymwneud â ffiledu, halltu pysgod i’w manwerthu i’r defnyddiwr terfynol” wedi’i gynnwys, gan nad yw’r disgrifiad hwn i’w weld yn cael ei ddefnyddio’n aml ac mae’n cael ei gynnwys yn y disgrifiadau eraill. 

  • Dull prosesu – mae’r disgrifiadau cyfredol wedi’u cadw, ond: 

- mae sefydliadau nad ydynt yn ymgymryd â phrosesu yn cael eu gwahanu oddi wrth y rhai nad oes ganddynt y potensial i gynyddu’r risg i iechyd y cyhoedd y tu hwnt i goginio neu storio arferol, er mwyn gwneud y FHDM wedi’i foderneiddio yn fwy seiliedig ar risg. 

- mae’r rhestr o brosesau sy’n cynyddu’r risg i iechyd y cyhoedd wedi’u dargadw, ond byddent yn cael eu cynnwys mewn canllawiau ar wahân.

  • Defnyddwyr sy’n wynebu risg – mae’r disgrifiadau presennol wedi’u cadw, ond mae’r sgôr ychwanegol sy’n ymwneud â grwpiau risg sy’n agored i niwed wedi’i chynnwys yn y sgôr risg gynhenid ‘uchel iawn’ (sgôr o 1). 
  • Cydymffurfiaeth gyfredol – mae’r disgrifiadau presennol wedi’u cadw, ond mae mân ddiwygiadau i’r geiriad.
  • Hyder mewn rheolwyr:

-    cynhwysir sgôr ychwanegol, sy’n cyfateb i ychwanegu sgôr o ‘15’ i’r cynllun sgorio ymyriadau presennol. 

-    caiff y geiriad ei ddiwygio, a byddai rhai disgrifiadau, fel cyfeiriadau at ‘ganllawiau arferion da’, Prif Awdurdod a chynlluniau sicrwydd, yn cael eu cynnwys yn y canllawiau ategol.

-    sgôr ychwanegol ar gyfer risg sylweddol wedi’i chynnwys yn yr elfen hyder mewn rheolwyr ‘gwael iawn’ (sgôr o 0). 

-    mae ‘diwylliant diogelwch bwyd’ wedi’i gynnwys yn benodol – mae’r cynllun sgorio ymyriadau cyfredol yn ystyried elfennau o ddiwylliant diogelwch bwyd, fel “parodrwydd y sefydliad i weithredu ar gyngor a gwaith gorfodi blaenorol” ac “agwedd y rheolwyr presennol tuag at hylendid a diogelwch bwyd”, ond nid yw’n cyfeirio’n benodol at ‘ddiwylliant diogelwch bwyd’. Byddai canllawiau’n cael eu darparu i gynorthwyo awdurdodau lleol i asesu ‘diwylliant diogelwch bwyd’. 

 

Tabl 1: Risg gynhenid

Ffactorau risg gynhenid    

1 Uchel iawn

2 Uchel

3 Canolig

4 Isel

Y math o fwyd a’r dull trin a thrafod Sefydliadau bwyd sy’n gweithgynhyrchu, mewnforio, cynhyrchu, ail-lapio neu ailbecynnu bwydydd parod i’w bwyta risg uchel. Sefydliadau bwyd sy’n paratoi, coginio neu drin bwydydd parod i’w bwyta agored risg uchel ac sy’n cyflenwi mwy nag 20 pryd y dydd (ar gyfartaledd). 

Sefydliadau bwyd sy’n paratoi, coginio neu drin bwydydd parod i’w bwyta agored risg uchel ac sy’n cyflenwi 20 neu lai o brydau y dydd (ar gyfartaledd).

Sefydliadau bwyd sy’n gweithgynhyrchu, mewnforio, cynhyrchu, cyfanwerthu neu becynnu (gan gynnwys y rhai sy’n ail-lapio ac ailbecynnu) bwydydd sy’n barod i’w bwyta, ond nad ydynt yn cael eu hystyried yn rhai risg uchel.

Sefydliadau bwyd sy’n gweithgynhyrchu, mewnforio, cynhyrchu, cyfanwerthu neu becynnu (gan gynnwys y rhai sy’n ail-lapio ac ailbecynnu) bwydydd heblaw bwyd risg uchel, nad ydynt yn barod i’w bwyta. 

Sefydliadau bwyd sy’n mewnforio, trin, manwerthu neu ddosbarthu bwydydd risg uchel sy’n barod i’w bwyta wedi’u pecynnu ymlaen llaw.

Dull prosesu  

Sefydliadau bwyd sy’n ymgymryd â phrosesau (gan gynnwys y rhai sy’n ymestyn oes silff y cynnyrch) sydd â’r potensial i gynyddu’r risg i iechyd y cyhoedd y tu hwnt i goginio neu storio arferol.

Sefydliadau bwyd sy’n ymgymryd â phrosesau (gan gynnwys y rhai sy’n ymestyn oes silff y cynnyrch) sydd â’r potensial i gynyddu’r risg i iechyd y cyhoedd y tu hwnt i goginio neu storio arferol.

Sefydliadau bwyd sy’n cynyddu’r risg i iechyd y cyhoedd drwy beidio â rhoi proses ar waith yn fwriadol.

Ddim yn berthnasol Ddim yn berthnasol

Sefydliadau bwyd sy’n ymgymryd â phrosesau nad oes ganddynt y potensial i gynyddu’r risg i iechyd y cyhoedd y tu hwnt i goginio neu storio arferol.

Defnyddwyr sy’n wynebu risg Sefydliadau bwyd sy’n gweithgynhyrchu, cynhyrchu a/neu’n gweini bwydydd risg uchel a fwriedir yn benodol i’w bwyta gan grŵp risg sy’n agored i niwed o fwy nag 20 o bobl. Sefydliadau bwyd sy’n gweithgynhyrchu, cynhyrchu, dosbarthu, pecynnu neu lapio bwyd sy’n cael ei ddosbarthu ledled y DU neu’n rhyngwladol.   Sefydliadau bwyd sy’n gweithgynhyrchu, cynhyrchu, dosbarthu, gweini neu fanwerthu bwyd i ddefnyddwyr, y mae cyfran sylweddol ohonynt yn dod o’r tu allan i’r ardal leol.   Sefydliadau bwyd sy’n gweithgynhyrchu, cynhyrchu, dosbarthu, gweini neu fanwerthu bwyd i ddefnyddwyr, y mae’r mwyafrif ohonynt yn debygol o fod yn byw, yn aros neu’n gweithio yn yr ardal leol.

Sylwer: At ddibenion risg gynhenid, dylid defnyddio’r diffiniadau canlynol:

  • Bwydydd risg uchel – Y rhain sy’n cefnogi twf micro-organebau ac sy’n barod i’w bwyta heb driniaeth bellach a fyddai’n dinistrio micro-organebau pathogenig neu eu tocsinau.
  • Grwpiau risg sy’n agored i niwed – Mae’r grwpiau hyn yn cynnwys pobl sy’n debygol o fod yn fwy agored i effeithiau peryglon diogelwch bwyd microbiolegol. Mae’r grwpiau hyn yn cynnwys babanod, plant (o dan 5), yr henoed (dros 65), pobl feichiog a phobl â systemau imiwnedd gwan.

Yn ogystal, bydd y rhestr o brosesau sydd â’r potensial i gynyddu’r risg i iechyd y cyhoedd y tu hwnt i goginio neu storio arferol, sydd wedi’i chynnwys yn y Codau cyfredol, yn parhau. Fodd bynnag, rhagwelir y byddant yn cael eu cynnwys yn y canllawiau ategol ar ‘risg gynhenid’ a ‘chydymffurfiaeth a hyder mewn rheolwyr’. 

Tabl 2: Asesu cydymffurfiaeth a hyder mewn rheolwyr 

Ffactorau Cydymffurfiaeth a Hyder mewn Rheolwyr

0 Gwael iawn

1 Gwael

2 Yn amrywio

3 Boddhaol

4 Da

5 Da iawn

Lefel cydymffurfio ar hyn o bryd – rhoddir sgôr ar wahân ar gyfer y canlynol:

  • hylendid a diogelwch bwyd 
    strwythur y sefydliad 
    alergenau (croeshalogi) [gweler y nodyn isod]

Cydymffurfiaeth wael iawn â’r rhwymedigaethau statudol. 

Safonau isel iawn.

Cydymffurfiaeth wael â’r rhwymedigaethau statudol.

Safonau’n gyffredinol isel.

Lefelau amrywiol o gydymffurfio â’r rhwymedigaethau statudol.

Angen mwy o waith i atal gostyngiad mewn safonau.

Cydymffurfiaeth foddhaol â’r rhwymedigaethau statudol.

Safonau’n cael eu cynnal neu’u gwella.

Cydymffurfiaeth dda â’r rhwymedigaethau statudol.   

Dim ond mân achosion o ddiffyg cydymffurfio, i’w datrys cyn y rheolaeth swyddogol nesaf.

Cydymffurfiaeth dda iawn â’r rhwymedigaethau statudol.   
Hyder mewn Rheolwyr 

Bron ddim hyder mewn rheolwyr.

Hanes gwael iawn o gydymffurfio.

Dim gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd neu rai gwael iawn ar waith ar gyfer natur a maint y busnes a/neu weithdrefnau nad ydynt yn cael eu gweithredu, lle gallai diffyg cydymffurfiaeth arwain at ôl-effeithiau difrifol/risg uniongyrchol i iechyd defnyddwyr. 

Risg sylweddol bod bwyd yn cael ei halogi â Cl. Botwlinwm (a’r organeb sy’n goroesi unrhyw brosesu a lluosi); neu risg sylweddol bod bwyd parod i’w fwyta yn cael ei halogi â micro-organebau neu eu tocsinau sy’n bathogenig i bobl.

Diwylliant diogelwch bwyd gwael iawn ar gyfer natur a maint y busnes. 

Ychydig iawn o hyder

Hanes gwael o gydymffurfio.

Gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd gwael ar waith ar gyfer natur a maint y busnes a/neu weithdrefnau nad ydynt yn cael eu gweithredu, lle gallai diffyg cydymffurfio arwain at risg i iechyd defnyddwyr.

Diwylliant diogelwch bwyd gwael ar gyfer natur a maint y busnes.

Ychydig o hyder.

Hanes amrywiol o gydymffurfio. 

Gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd annigonol ar waith ar gyfer natur a maint y busnes a/neu weithdrefnau nad ydynt yn cael eu gweithredu’n briodol.

Diwylliant diogelwch bwyd annigonol ar gyfer natur a maint y busnes.

Peth hyder.

Hanes boddhaol o gydymffurfio.  

Mae gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd boddhaol ar waith ar gyfer natur a maint y busnes ac maent yn cael eu gweithredu’n gyffredinol. 

Diwylliant diogelwch bwyd boddhaol ar gyfer natur a maint y busnes.

Hyder da.

Hanes da o gydymffurfio.

Mae gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd da ar waith ar gyfer natur a maint y busnes ac maent wedi’u gweithredu’n dda. 

Diwylliant diogelwch bwyd da ar gyfer natur a maint y busnes. 

Hyder da iawn 

Hanes da iawn a pharhaus o gydymffurfiaeth. 

Mae gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd da iawn ar waith ar gyfer natur a maint y busnes, ac maent wedi’u gweithredu’n dda ac yn destun gwirio parhaus. 

Diwylliant diogelwch bwyd da iawn ar gyfer natur a maint y busnes.

Pwysig: Dylai’r asesiad cydymffurfiaeth ‘alergenau (croeshalogi)’ ystyried rheoli croeshalogi alergenau, gan gynnwys unrhyw halogiad sy’n gysylltiedig ag alergenau a nodwyd wrth baratoi bwyd yn benodol ar gyfer defnyddwyr ag alergeddau neu anoddefiadau bwyd. Ni ddylai gofynion sy’n ymwneud â darparu gwybodaeth am alergenau, gan gynnwys y rheiny sy’n ymwneud â bwydydd nad ydynt wedi’u pecynnu ymlaen llaw a bwydydd wedi’u pecynnu ymlaen llaw i’w gwerthu’n uniongyrchol fod yn rhan o’r asesiad cydymffurfiaeth ‘alergenau (croeshalogi)’ gan fod y rhain yn ofynion safonau bwyd ac yn cael eu hystyried yn y cynllun sgorio ymyriadau safonau bwyd. 

4.2.3 Cynllun sgorio ymyriadau – sgôr gyfartalog

Cynigir y byddai sgoriau unigol yn cael eu priodoli i bob elfen ‘risg gynhenid’ a ‘chydymffurfiaeth a hyder mewn rheolwyr’. Byddai’r sgoriau hyn wedyn yn cael eu cyfrifo o ran cyfartaledd a’u talgrynnu (i’r rhif cyfan agosaf) i roi’r sgoriau cyffredinol ar gyfer ‘risg gynhenid’ a ‘chydymffurfiaeth a hyder mewn rheolwyr’.

Byddai’r sgôr gyfartalog ar gyfer ‘risg gynhenid’ yn cael ei chyfrif trwy adio’r sgoriau ar gyfer pob elfen a rhannu’r cyfanswm â thri cyn talgrynnu i’r rhif cyfan agosaf.
 
Byddai’r sgôr gyfartalog ar gyfer ‘cydymffurfiaeth a hyder mewn rheolwyr’ yn cael ei chyfrif trwy adio’r sgoriau ar gyfer pob elfen a rhannu’r cyfanswm â phedwar cyn talgrynnu i’r rhif cyfan agosaf. 

Cynigir hefyd bod y mesurau diogelu canlynol yn cael eu cymhwyso i’r sgoriau ‘cydymffurfiaeth a hyder mewn rheolwyr’: 

  • byddai unrhyw sefydliad y canfyddir ei fod â chydymffurfiaeth ‘wael iawn’ (sgôr o 0), ‘wael’ (sgôr o 1) neu ‘amrywiol’ (sgôr o 2) gydag unrhyw un o’r elfennau asesu cydymffurfiaeth (‘hylendid a diogelwch bwyd’, ‘strwythur y sefydliad’ neu ‘alergenau (croeshalogi)’) neu hyder mewn rheolwyr, yn awtomatig yn cael sgôr gyffredinol ‘cydymffurfiaeth a hyder mewn rheolwyr’ o 0, 1 neu 2 yn y drefn honno.  
  • ni all unrhyw sefydliad sydd wedi cael sgôr ‘cydymffurfiaeth a hyder mewn rheolwyr’ ‘wael iawn’ (sgôr o 0) neu ‘wael’ (sgôr o 1) mewn rheolaeth swyddogol flaenorol, gael sgôr fwy na ‘boddhaol’ (sgôr o 3) ar gyfer ‘cydymffurfiaeth a hyder mewn rheolwyr’ yn y rheolaeth swyddogol ddilynol, waeth beth fo’r sgôr gyfartalog a gyflawnwyd. 

Sylwer: dim ond i’r cynllun sgorio ymyriadau y bwriedir i’r mesurau diogelu hyn gael eu cymhwyso. Ni ragwelir y byddent yn berthnasol i sgoriau’r CSHB.

4.2.4 Matrics Penderfynu

Cynigir y byddai’r sgoriau cyfartalog ar gyfer y ‘risg gynhenid’ a ‘chydymffurfiaeth a hyder mewn rheolwyr’ yn cael eu gosod yn erbyn matrics penderfynu (Ffigur 2) i bennu’r amlder lleiaf ar gyfer cynnal rheolaethau swyddogol.

Dyma fatrics yn nodi amlder sylfaenol rheolaethau swyddogol yn seiliedig ar 'risg gynhenid' sefydliad a'u hasesiad 'cydymffurfiaeth a hyder mewn rheolwyr'.

Dyma fatrics yn nodi amlder sylfaenol rheolaethau swyddogol yn seiliedig ar 'risg gynhenid' sefydliad a'u hasesiad 'cydymffurfiaeth a hyder mewn rheolwyr'.

Ffigur 2: Matrics Penderfynu 

Mae’r amlderau yn y matrics yn nodi’r isafswm, ac nid ydynt yn atal awdurdodau lleol rhag cynnal rheolaethau swyddogol yn gynt. Er enghraifft, efallai y bydd awdurdod lleol yn dewis cadarnhau bod achosion o ddiffyg cydymffurfio a nodwyd yn flaenorol wedi’u hunioni o fewn amserlenni byrrach, neu efallai y byddant yn cael data, gwybodaeth neu gudd-wybodaeth sy’n awgrymu bod proffil risg y sefydliad wedi newid, ac am gynnal rheolaeth swyddogol yn gynt i ddilysu hyn.  

Sylwer: Yn achos cofnodi ac adrodd ar reolaethau swyddogol, bydd hyn yn cael ei ystyried fel rhan o’r dangosyddion perfformiad allweddol (KPIs) a’r prosiectau adrodd ar ddata sy’n cael eu cynnal o fewn yr ASB. 

4.2.5 Enghreifftiau – Cynllun sgorio ymyriadau – pennu proffiliau risg

Mae enghreifftiau o sut y byddai’r sgoriau ‘risg gynhenid’ a ‘chydymffurfiaeth a hyder mewn rheolwyr’ yn cael eu pennu, a’r mesurau diogelu a ddefnyddir, isod: 

Enghraifft 1:

Mae gwneuthurwr, sy’n cynhyrchu bwydydd parod i’w bwyta risg uchel gan ddefnyddio proses risg uchel (sydd â’r potensial i gynyddu’r risg i iechyd y cyhoedd y tu hwnt i goginio neu storio arferol) a ddosberthir yn genedlaethol, ar ôl cynnal rheolaethau swyddogol, yn cael y sgoriau canlynol ar gyfer y ‘risg gynhenid’ a ‘chydymffurfiaeth a hyder mewn rheolaeth’. 

Risg gynhenid:

  • Math o fwyd a dull o drin – ‘risg gynhenid’ uchel iawn (sgôr o 1)
  • Dull prosesu – ‘risg gynhenid’ uchel iawn (sgôr o 1)
  • Defnyddwyr mewn perygl – ‘risg gynhenid’ uchel (sgôr o 2)

Cyfanswm y sgoriau ‘risg gynhenid’ unigol (1, 1, 2) yw 4, sy’n golygu sgôr gyfartalog o 1.3, sy’n cael ei thalgrynnu i 1. Felly, mae sgôr ‘risg gynhenid’ y sefydliad yn ‘uchel iawn’ (sgôr o 1).

Cydymffurfiaeth a hyder mewn rheolwyr:

  • Hylendid a diogelwch bwyd – cydymffurfiaeth wael (sgôr o 1)
  • Strwythur y sefydliad – cydymffurfiaeth foddhaol (sgôr o 3)
  • Alergenau (croeshalogi) – cydymffurfiaeth foddhaol (sgôr o 3)
  • Hyder mewn rheolwyr – boddhaol (sgôr o 3)

Cyfanswm y sgoriau ‘cydymffurfiaeth a hyder mewn rheolwyr’ unigol (1,3,3,3) yw 10, sy’n golygu sgôr gyfartalog o 2.5, sy’n cael ei thalgrynnu i 3. 

Fodd bynnag, gan fod un o’r sgoriau cydymffurfiaeth yn ‘wael’ (sgôr o 1), mae’r mesur diogelu cyntaf yn cael ei gymhwyso, sy’n golygu bod sgôr ‘cydymffurfiaeth a hyder mewn rheolwyr’ gyffredinol y sefydliad yn ‘wael’ (sgôr o 1). 

Yn ôl y matrics penderfynu, yr amlder lleiaf ar gyfer y rheolaeth swyddogol nesaf fyddai 2 fis. Yn y model presennol, byddai hwn yn cael ei ystyried yn sefydliad categori A, gydag amlder o 6 mis o leiaf ar gyfer rheolaethau swyddogol. 

Enghraifft 2: 

Ar ôl cynnal rheolaethau swyddogol, mae siop tecawê stryd fawr yn cael y sgoriau canlynol ar gyfer ‘risg gynhenid’ a ‘chydymffurfiaeth a hyder mewn rheolwyr’: 

Risg gynhenid:

  • Math o fwyd a dull o drin – ‘risg gynhenid’ uchel (sgôr o 2)
  • Dull prosesu – ‘risg gynhenid’ isel (sgôr o 4)
  • Defnyddwyr mewn perygl – ‘risg gynhenid’ isel (sgôr o 4) 

Cyfanswm y sgoriau ‘risg gynhenid’ unigol (2, 4, 4) yw 10, sy’n golygu sgôr gyfartalog o 3.3, sy’n cael ei thalgrynnu i 3. Felly, ‘cymedrol’ yw sgôr ‘risg gynhenid’ y sefydliad (sgôr o 3).

Cydymffurfiaeth a hyder mewn rheolwyr:

  • Hylendid a diogelwch bwyd – cydymffurfiaeth foddhaol (sgôr o 3)
  • Strwythur y sefydliad – cydymffurfiaeth foddhaol (sgôr o 3)
  • Alergenau (croeshalogi) – cydymffurfiaeth foddhaol (sgôr o 3)
  • Hyder mewn rheolwyr – boddhaol (sgôr o 3)

Cyfanswm y sgoriau asesu ‘cydymffurfiaeth a hyder mewn rheolwyr’ unigol (3,3,3,3) yw 12, sy’n golygu sgôr gyfartalog o 3 (nid oes angen talgrynnu).  

Gan nad yw un o’r sgoriau cydymffurfiaeth yn 0, 1 na 2, nid oes angen defnyddio mesurau diogelu, felly mae sgôr ‘cydymffurfiaeth a hyder mewn rheolwyr’ y sefydliad yn foddhaol (sgôr o 3). 

Gan ddefnyddio’r matrics penderfynu, yr amlder lleiaf ar gyfer y rheolaeth swyddogol nesaf fyddai 18 mis. Yn y model cyfredol, byddai hwn yn cael ei ystyried yn sefydliad categori C, gydag amlder o 18 mis o leiaf ar gyfer rheolaethau swyddogol

4.3 Diwygio proffiliau risg

4.3.1 Y drefn bresennol

Mae’r Cod cyfredol yn nodi gellir ond newid sgôr ymyrryd:

  • ar ddiwedd arolygiad neu archwiliad llawn neu rannol, ac yn unol ag adran 4.4 ac Atodiad 1; a 
  • lle mae digon o wybodaeth wedi’i chasglu i gyfiawnhau adolygu sgôr ymyrryd.  

Dylid cofnodi’r sgôr ymyrryd ddiwygiedig yn ogystal â chyfiawnhad dros ei diwygio. 

Mae’r Codau cyfredol hefyd yn nodi, pan fydd gwybodaeth newydd ar gael a allai awgrymu bod natur gweithgareddau gweithredwr busnes bwyd wedi newid, neu fod lefel y cydymffurfiaeth wedi gwaethygu, fod yn rhaid i’r awdurdod lleol: 

  • ailystyried y sgôr ymyrryd a phriodoldeb yr ymyriad nesaf a raglennir ar gyfer y sefydliad hwnnw; 
  • penderfynu a yw’n briodol cynnal arolygiad, arolygiad rhannol, neu archwiliad i ymchwilio ymhellach; 
  • newid y sgôr ymyrryd yn ôl yr angen; a 
  • chofnodi’r sgôr ymyrryd a chyfiawnhad dros y newid.

Dull arfaethedig

Cynigir y gellir diwygio proffil risg sefydliad (ac amlder eu rheolaeth swyddogol nesaf) os bodlonir y canlynol: 

  • yn dilyn unrhyw ddull a thechneg o gynnal rheolaethau swyddogol (boed yn ffisegol neu o bell);
  • cadarnhawyd cydymffurfiaeth â gofynion cyfreithiol penodol neu gydymffurfiaeth â’r holl ddeddfwriaeth berthnasol; a
  • lle cesglir digon o dystiolaeth i gyfiawnhau newidiadau i’r proffil risg. 

Yn ogystal, os daw data, gwybodaeth neu gudd-wybodaeth i law (gan gynnwys data sicrwydd y diwydiant), sy’n cadarnhau bod ‘risg gynhenid’ a/neu ‘gydymffurfiaeth a hyder mewn rheolwyr’ sefydliad wedi newid, yna gellir adolygu’r proffil risg, fel bod y rheolaeth swyddogol nesaf yn digwydd yn gynt neu’n hwyrach, fel y bo’n briodol. 

Mewn amgylchiadau o’r fath, byddai awdurdodau lleol yn cofnodi’r cyfiawnhad dros ddiwygio y sgôr ar gofnod y sefydliad. Byddai angen i awdurdodau lleol hefyd sicrhau bod adnoddau’n cael eu canolbwyntio ar y sefydliadau risg uchaf a/neu’r sefydliadau nad ydynt yn cydymffurfio.

4.4 Manteision datblygiad arfaethedig 1

Mae’r datblygiad arfaethedig hwn ar gyfer y FHDM wedi’i foderneiddio yn targedu adnoddau awdurdodau lleol yn well at y sefydliadau risg uchaf a/neu’r sefydliadau nad ydynt yn cydymffurfio, gan fod amlder rheolaethau swyddogol ar hylendid bwyd yn seiliedig ar ddealltwriaeth well o lefel y risg sy’n gysylltiedig â’r busnes bwyd. 

Tybiwn y bydd hyn o fudd i awdurdodau lleol, gan y byddant yn defnyddio’r un adnoddau’n fwy effeithlon – drwy gynnal rheolaethau swyddogol ar gyfer y busnesau sydd â’r risg uchaf lle byddant yn nodi mwy o achosion o ddiffyg cydymffurfio.

Yn seiliedig ar ein modelu gan ddefnyddio data System Monitro Gwaith Gorfodi Awdurdodau Lleol (LAEMS) 2019-20, rhagwelir y bydd y datblygiad arfaethedig yn lleihau ychydig ar nifer y rheolaethau swyddogol o’i gymharu â’r model presennol, a allai ryddhau rhywfaint o gapasiti o fewn y FHDM wedi’i foderneiddio. Fodd bynnag, er bod y gwaith modelu yn ystyried effeithiau tebygol yr elfen gydymffurfiaeth ychwanegol arfaethedig ar gyfer alergenau (croeshalogi), mae’n gwneud hynny ar sail ddamcaniaethol gan nad oes gennym unrhyw ddata penodol ar alergenau i gefnogi ein rhagdybiaethau. Byddwn yn profi ein rhagdybiaethau modelu ac yn cael asesiad mwy cywir o effeithiau’r datblygiadau arfaethedig fel rhan o’r cynllun peilot chwe mis.

Mae ein gwaith modelu hefyd yn dangos, o dan y datblygiad arfaethedig hwn, fod yr amser cyfartalog rhwng rheolaethau swyddogol mewn sefydliadau nad ydynt yn cydymffurfio yn gostwng o 1.2 i 0.5 mlynedd. Mae hyn yn dangos y byddai adnoddau’n cael eu canolbwyntio ar sefydliadau nad ydynt yn cydymffurfio, gyda rheolaethau swyddogol a raglennir yn cael eu cynnal tua phum gwaith yn amlach nag ar gyfer y sefydliadau sy’n cydymffurfio. Mae hyn hefyd yn golygu lleihau’r beichiau ar sefydliadau sy’n cydymffurfio. Mae hyn yn seiliedig ar reolaethau swyddogol a raglennir yn unol â’r matrics penderfynu, ac efallai y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol wneud rhagor o waith i sicrhau bod busnesau’n cydymffurfio, fel cynnal ailymweliadau a chymryd camau gorfodi. Fodd bynnag, mantais arall y datblygiadau arfaethedig yw y byddai’r ailymweliadau hyn yn cael eu hystyried yn rheolaethau swyddogol, a’u hadrodd yn unol â hynny yn y dyfodol.

Disgwyliwn weld busnesau unigol sy’n perfformio’n wael yn gwella eu lefelau cydymffurfio dros amser oherwydd byddant yn destun rheolaethau swyddogol amlach a chamau dilynol gan awdurdodau lleol.  

Yn achos costau i’r diwydiant, rhagwelir y bydd y datblygiadau arfaethedig ar gyfer y FHDM wedi’i foderneiddio yn lleihau beichiau rheoleiddiol ar fusnesau sy’n cydymffurfio, gan y byddai amlder rheolaethau swyddogol yn cael eu hymestyn. Bydd sefydliadau nad ydynt yn cydymffurfio yn cael rheolaethau swyddogol amlach, gan arwain at gost amser uwch i ymdrin â’r cynnydd hwn.  Fodd bynnag, ar lefel y diwydiant, rhagwelwn y bydd beichiau rheoleiddiol yn cael eu trosglwyddo o fusnesau sy’n cydymffurfio i rai nad ydynt yn cydymffurfio, sy’n golygu mai sero fyddai’r effaith net ar y diwydiant. 

O ran defnyddwyr, wrth i’r datblygiadau arfaethedig ganolbwyntio adnoddau ar y sefydliadau risg uchaf a/neu’r sefydliadau nad ydynt yn cydymffurfio, rhagwelwn y bydd defnyddwyr yn cael eu diogelu’n well, trwy ddyrannu adnoddau awdurdodau lleol yn fwy effeithlon, gan wneud y mwyaf o effeithiolrwydd y rheolaethau hyn wrth nodi ac unioni achosion o ddiffyg cydymffurfio.  Fodd bynnag, bydd lleihau amlder rheolaethau swyddogol ar gyfer sefydliadau risg is a sefydliadau sy’n cydymffurfio yn golygu na fydd rhai o sgoriau’r CSHB yn cael eu diweddaru mor aml. Mae’n bosib y bydd hyn yn lleihau hyder defnyddwyr yn y cynllun. 

4.5 Effeithiau datblygiad arfaethedig 1

Mae’r effeithiau posib yn cynnwys y canlynol: 

  • Gan ddibynnu ar nifer y sefydliadau nad ydynt yn cydymffurfio, gallai fod cynnydd yn nifer y rheolaethau swyddogol ar gyfer rhai awdurdodau lleol. Fodd bynnag, rhagwelwn y bydd hyn yn lleihau dros amser wrth i lefelau cydymffurfio yn y sefydliadau hyn wella oherwydd bod awdurdodau lleol yn targedu eu hadnoddau presennol yn fwy effeithiol at y busnesau bwyd hynny nad ydynt yn cydymffurfio. 
  • Ymgyfarwyddo a hyfforddi – byddai angen i awdurdodau lleol ymgyfarwyddo â’r dull seiliedig ar risg, a chael hyfforddiant i sicrhau gweithrediad cyson 
  • Diwygiadau i ddogfennaeth awdurdodau lleol – efallai y bydd angen i awdurdodau lleol, os ydynt yn defnyddio dogfennau profforma (boed yn ffisegol neu’n ddigidol), eu diwygio i adlewyrchu’r cynllun sgorio ymyriadau wedi’i foderneiddio
  • Diwygiadau i MIS – byddai angen diweddaru MIS awdurdodau lleol i adlewyrchu’r cynllun sgorio ymyriadau wedi’i foderneiddio – bydd graddau’r newidiadau hyn a manylion ynghylch sut y bydd systemau’n cael eu trosglwyddo i’r FHDM wedi’i foderneiddio yn cael eu hystyried wrth i’r model gael ei ddatblygu 
  • CSHB – byddai angen diwygio system TG y CSHB a’r Canllawiau Statudol i’w halinio â’r FHDM wedi’i foderneiddio. 
  • Mae’n bosib y bydd sefydliadau risg is sy’n cydymffurfio ac sy’n cael llai o reolaethau swyddogol yn cael llai o gymorth a chyngor gan awdurdodau lleol gan y gallai’r cyfnodau rhwng rheolaethau swyddogol fod yn hirach. 

Cwestiynau adborth ar ddatblygiad arfaethedig 1

  1. Beth yw eich barn am y datblygiad arfaethedig ar gyfer y cynllun sgorio ymyriadau hylendid bwyd wedi’i foderneiddio, gan gynnwys yr amlderau ar gyfer rheolaethau swyddogol? 
  2. Beth yw eich barn am y manteision a’r effeithiau a nodwyd ar gyfer y cynllun sgorio ymyriadau hylendid bwyd wedi’i foderneiddio? A oes unrhyw fanteision a/neu effeithiau pellach posib yn deillio o’r datblygiad?  Os oes, nodwch rhain.
  3. A ydych yn rhagweld unrhyw heriau pe bai’r datblygiad arfaethedig ar gyfer y cynllun sgorio ymyriadau hylendid bwyd wedi’i foderneiddio yn cael ei roi ar waith? Os ydych, nodwch beth yw’r heriau hyn a pha atebion, os o gwbl, y dylem eu hystyried?

5. Datblygiad arfaethedig 2 – Dull wedi’i ddiweddaru sy’n seiliedig ar risg o ran amserlenni ar gyfer cynnal a chwblhau rheolaethau swyddogol cychwynnol a dyledus

5.1 Y drefn bresennol

Mae’r Cod presennol yn nodi bod rhaid cynnal arolygiad cychwynnol mewn sefydliad busnes bwyd newydd cyn pen 28 diwrnod i’r busnes gofrestru neu pan ddaw’r awdurdod lleol yn ymwybodol bod y sefydliad yn gweithredu, pa un bynnag sydd gyntaf. 

Fodd bynnag, gellir bod yn hyblyg o ran yr amserlenni hyn yn unol â Chanllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru), sy’n nodi, lle credir bod y sefydliad yn risg isel, y gellir ystyried gohirio’r arolygiad cychwynnol mewn amgylchiadau lle byddai ei gynnal yn oedi ymyriadau a raglennir mewn safleoedd sy’n ymgymryd â gweithgareddau risg uchel. 

Yn ogystal, lle bo sefydliad wedi cofrestru 28 diwrnod cyn dechrau gweithredu, gellir gohirio’r arolygiad hyd nes y bydd wedi dechrau gweithredu.

Yn achos rheolaethau swyddogol dyledus mewn sefydliad presennol, mae’r Cod yn nodi bod rhaglenni ymyrryd yn cael eu rhaglennu fel bod ymyriadau’n cael eu cynnal mewn sefydliadau heb fod yn hwyrach na 28 diwrnod ar ôl y dyddiad ymyrryd disgwyliedig. Fodd bynnag, mewn amgylchiadau sydd y tu allan i reolaeth yr awdurdod lleol, fel cau busnes yn dymhorol, mae hyblygrwydd i ohirio’r ymyriad.

5.2 Dull arfaethedig 

5.2.1 Rheolaethau swyddogol cychwynnol ar gyfer sefydliadau busnesau bwyd newydd

Mae’r datblygiad arfaethedig i’r FHDM wedi’i foderneiddio yn darparu dull mwy cymesur o gynnal rheolaethau swyddogol cychwynnol mewn sefydliadau busnesau bwyd newydd. 

Yn achos sefydliadau newydd, byddai awdurdodau lleol yn gallu defnyddio’r holl ddata, gwybodaeth a chudd-wybodaeth berthnasol i bennu ‘risg gynhenid’ debygol sefydliad. Gallai hyn gynnwys y canlynol, fel y bo’n briodol: 

  • gwybodaeth a ddarperir wrth gofrestru
  • gwybodaeth a gesglir trwy gyfathrebu â’r gweithredwr busnes bwyd, fel sgyrsiau dros y ffôn, negeseuon e-bost neu offer digidol eraill
  • data, gwybodaeth neu gudd-wybodaeth eraill am y busnes, er enghraifft, gwefan, meddalwedd, neu wybodaeth leol.

 
Mae casglu’r data, gwybodaeth a chudd-wybodaeth hyn yn annhebygol o allu gwirio bod sefydliad yn cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol. Yn y rhan fwyaf o achosion felly, ni fydd yn cael ei hystyried yn rheolaeth swyddogol. O ganlyniad, gall y data, yr wybodaeth a’r gudd-wybodaeth hyn gael eu casglu gan swyddogion nad oes ganddynt ‘gymhwyster addas’ cyn belled â’u bod yn gymwys. Gweithgarwch B8: Byddai casglu gwybodaeth o fewn y Fframwaith Cymwyseddau yn berthnasol i’r gweithgaredd hwn. Fodd bynnag, mater i’r swyddog awdurdodedig sy’n gymwys i gynnal rheolaethau swyddogol fyddai gwneud penderfyniad ynghylch y ‘risg gynhenid’ a ragwelir.

Pan fo busnes bwyd newydd yn cofrestru, byddai’n cael ei frysbennu (triaged), a byddai ‘risg gynhenid’ ddisgwyliedig y sefydliad yn cael ei phennu (gan ddefnyddio Tabl 1) o fewn 28 diwrnod i’r adeg y daw’r cofrestriad i law. Yn dilyn y cyfnod brysbennu 28 diwrnod hwn, byddai rheolaeth swyddogol gychwynnol yn cael ei chynnal yn unol â’r amserlenni yn Nhabl 3.

Pan ddaw awdurdod lleol yn ymwybodol bod busnes yn masnachu ond nad yw wedi cofrestru, dylid cynnal rheolaeth swyddogol gychwynnol yn unol â’r amserlenni yn Nhabl 3, gan ddechrau o’r dyddiad y daw’r awdurdod lleol yn ymwybodol o’r sefydliad. 

Tabl 3: Amserlenni ar gyfer cynnal rheolaethau hylendid bwyd swyddogol cychwynnol
 

Risg gynhenid a ragwelir Amserlenni i gynnal rheolaeth swyddogol gychwynnol yn dilyn y cyfnod brysbennu
1 – Uchel iawn a 2 – Uchel 1 mis
3 - Cymedrol 2 fis
4 – Isel a 5 – Isel iawn 3 mis

Yn ogystal, gall awdurdodau lleol gynnal rheolaethau swyddogol cychwynnol o fewn amserlenni byrrach drwy ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar risg. Er enghraifft, gallant gynnal rheolaeth swyddogol gychwynnol yn gynt pan fydd ganddynt bryderon am risg bosib i iechyd y cyhoedd yn seiliedig ar ddata, gwybodaeth neu gudd-wybodaeth.

Byddai gan awdurdodau lleol hefyd yr hyblygrwydd i ohirio cynnal rheolaethau swyddogol cychwynnol mewn sefydliadau busnes bwyd sydd newydd gofrestru y rhagwelir y byddant yn peri llai o risg. Mae hyn ar yr amod y byddai cynnal y rheolaethau’n golygu bod oedi wrth gynnal rheolaethau swyddogol mewn sefydliadau risg uwch a/neu sefydliadau nad ydynt yn cydymffurfio. Lle bo gwaith cynnal rheolaethau swyddogol yn cael ei ohirio, byddai’r awdurdod lleol yn nodi’r rhesymeg dros hyn ac yn cynnal y rheolaeth swyddogol cyn gynted ag y bo’n ymarferol.  

5.2.2 Enghraifft o bennu amserlenni ar gyfer cynnal rheolaethau swyddogol cychwynnol

Dyma enghraifft o sut y gallai’r dull hwn o gynnal rheolaethau swyddogol cychwynnol mewn sefydliadau newydd weithio’n ymarferol:  

Enghraifft 3:

Mae awdurdod lleol yn cael manylion sefydliad busnes bwyd newydd drwy’r gwasanaeth Cofrestru Busnesau Bwyd, sy’n darparu’r manylion canlynol:

  • Mae’r busnes yn cael ei redeg gan unig fasnachwr, sef y gweithredwr busnes bwyd.
  • Mae’r cyfeiriad a ddarperir ar gyfer annedd (dwelling) ddomestig.
  • Mae’r busnes yn cynhyrchu cacennau y maent yn bwriadu eu gwerthu mewn marchnadoedd lleol.  

Gan ddefnyddio’r wybodaeth hon, byddai’r sefydliad yn cael ei frysbennu o fewn 28 diwrnod, a’r sgoriau ‘risg gynhenid’ a ragwelir yn cael eu pennu. Dyma’r sgoriau ar gyfer y sefydliad hwn: 

  • Math o fwyd a’r dull o drin – ‘risg gynhenid’ gymedrol (sgôr o 3)
  • Dull prosesu – ‘risg gynhenid’ isel (sgôr o 4)
  • Risg i ddefnyddwyr – ‘risg gynhenid’ isel (sgôr o 4)

Cyfanswm y sgoriau ‘risg gynhenid’ unigol (3, 4, 4) yw 11, sy’n golygu sgôr gyfartalog o 3.7, sy’n cael ei thalgrynnu i 4. Felly, pennir bod sgôr ‘risg gynhenid’ ddisgwyliedig y sefydliad yn isel (sgôr o 4).

Gan ddefnyddio Tabl 3, yr amserlen ar gyfer cynnal y rheolaeth swyddogol gychwynnol yw 3 mis o ddiwedd y cyfnod brysbennu. 

5.2.3 Rheolaethau swyddogol dyledus mewn sefydliadau busnes bwyd presennol

O ran rheolaethau swyddogol dyledus, mae’r datblygiad arfaethedig ar gyfer FHDM wedi’i foderneiddio yn nodi y dylai awdurdodau lleol gynnal rheolaethau swyddogol o fewn yr amserlenni a nodir yn Nhabl 4 ar ôl y dyddiad y maent yn ddyledus.

Tabl 4: Amserlenni ar gyfer cynnal rheolaethau hylendid bwyd swyddogol dyledus

Isafswm ar gyfer amlder cynnal rheolaethau swyddogol o’r matrics penderfynu Amserlenni ar gyfer cynnal rheolaethau swyddogol dyledus
Sefydliadau sydd ag amlder cynnal rheolaethau swyddogol bob 2, 4 neu 6 mis fel isafswm 1 mis
Sefydliadau sydd ag amlder cynnal rheolaethau swyddogol bob 12, 18 neu 24 mis fel isafswm 2 fis
Sefydliadau sydd ag amlder cynnal rheolaethau swyddogol bob 36, 48 neu 60 mis fel isafswm 3 mis

Yn ogystal, gellir gohirio cynnal rheolaethau swyddogol mewn sefydliadau risg is a/neu sefydliadau sy’n cydymffurfio ymhellach. Mae hyn ar yr amod y byddai cynnal y rheolaethau’n golygu bod oedi wrth gynnal rheolaethau swyddogol mewn sefydliadau risg uwch a/neu sefydliadau nad ydynt yn cydymffurfio. Lle bo gwaith cynnal rheolaethau swyddogol yn cael ei ohirio, byddai’r awdurdod lleol yn nodi’r rhesymeg dros hyn ac yn cynnal y rheolaeth swyddogol cyn gynted ag y bo’n ymarferol.  

Ar hyn o bryd, pan fo awdurdod lleol yn gyfrifol am gynnal rheolaethau swyddogol ar gyfer hylendid bwyd, safonau bwyd a/neu fwyd anifeiliaid, yna dylai benderfynu a yw’n briodol cynnwys materion safonau bwyd a/neu fwyd anifeiliaid fel rhan o reolaeth hylendid bwyd swyddogol, hyd yn oed os na fyddant yn ddyledus o dan un o raglenni rheolaethau swyddogol cynlluniedig yr awdurdod lleol.

5.3 Manteision datblygiad arfaethedig 2

Bydd y datblygiad arfaethedig ar gyfer y FHDM wedi’i foderneiddio i gyflwyno dull sy’n seiliedig ar risg o ymdrin â’r amserlenni ar gyfer cynnal rheolaethau swyddogol cychwynnol a dyledus yn galluogi awdurdodau lleol i ddefnyddio eu hadnoddau’n effeithiol, wrth sicrhau bod sefydliadau’n destun rheolaethau swyddogol yn unol â’r amserlenni priodol. Mae’r gallu arfaethedig i flaenoriaethu rheolaethau swyddogol yn seiliedig ar risg yn sicrhau bod adnoddau awdurdodau lleol yn cael eu defnyddio’n effeithiol drwy ganolbwyntio ar y sefydliadau risg uchaf a/neu sefydliadau nad ydynt yn cydymffurfio. Dylai hyn hefyd wella iechyd y cyhoedd.
 
Yn ogystal, gallai swyddogion nad ydynt yn meddu ar ‘gymhwyster addas’ ar gyfer hylendid bwyd, ond sy’n gymwys, gasglu a choladu data, gwybodaeth a chudd-wybodaeth i gefnogi brysbennu sefydliadau busnes bwyd newydd, gan swyddogion awdurdodedig sy’n gymwys i gynnal rheolaethau swyddogol. Byddai hyn, yn ei dro, yn sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithiol. 

5.4 Effeithiau datblygiad arfaethedig 2

Mae’r effeithiau posib yn cynnwys y canlynol: 

  • Ymgyfarwyddo a hyfforddi – byddai angen i awdurdodau lleol ymgyfarwyddo â’r dull gweithredu a’r hyfforddiant sy’n seiliedig ar risg er mwyn sicrhau bod prosesau’n cael eu rhoi ar waith mewn modd cyson. 
  • Diwygiadau i MIS – byddai angen diweddaru MIS awdurdodau lleol i adlewyrchu’r dull sy’n seiliedig ar risg o ymdrin ag amserlenni ar gyfer rheolaethau swyddogol cychwynnol a dyledus – bydd graddau’r newidiadau hyn a manylion ynghylch sut y bydd systemau’n cael eu trosglwyddo i’r FHDM wedi’i foderneiddio yn cael eu hystyried wrth i’r model gael ei ddatblygu ymhellach.
  • CSHB – byddai’r dull sy’n seiliedig ar risg mewn perthynas â’r amserlenni ar gyfer cynnal rheolaethau swyddogol cychwynnol yn golygu efallai na fyddai sefydliadau risg is yn cael sgôr gychwynnol o dan y CSHB am hyd at dri mis, o gymharu â 28 diwrnod ar hyn o bryd. Gallai hyn effeithio ar allu’r sefydliadau hyn i fasnachu oherwydd efallai na fydd ganddynt sgôr hylendid bwyd am gyfnod hwy o amser. Fodd bynnag, yn seiliedig ar ddadansoddiad o’r data sydd ar gael, rhwng 2016-2022, roedd angen aros saith mis ar gyfartaledd am sgôr hylendid bwyd gychwynnol. 

Cwestiynau adborth ar ddatblygiad arfaethedig 2

4. Beth yw eich barn am y gwaith arfaethedig i ddatblygu’r dull gweithredu wedi’i ddiweddaru sy’n seiliedig ar risg mewn perthynas â’r amserlenni ar gyfer cynnal rheolaethau swyddogol cychwynnol a dyledus, gan gynnwys yr amlderau arfaethedig?

5. Beth yw eich barn am y manteision a’r effeithiau a nodwyd ar gyfer dull gweithredu wedi’i ddiweddaru sy’n seiliedig ar risg mewn perthynas â’r amserlenni ar gyfer rheolaethau swyddogol cychwynnol a dyledus? A oes unrhyw fanteision a/neu effeithiau pellach posib i’r datblygiad arfaethedig? Os oes, nodwch beth yw’r rhain.

6. A ydych yn rhagweld unrhyw heriau pe bai’r datblygiad arfaethedig ar gyfer dull gweithredu wedi’i ddiweddaru sy’n seiliedig ar risg i’r amserlenni ar gyfer cynnal rheolaethau swyddogol cychwynnol a dyledus yn cael ei roi ar waith? Os ydych, nodwch beth yw’r heriau hyn a pha atebion, os o gwbl, y dylem eu hystyried?

6. Datblygiad arfaethedig 3 – Hyblygrwydd o ran dulliau a thechnegau wrth gynnal rheolaethau swyddogol, gan gynnwys defnyddio rheolaethau swyddogol o bell

6.1 Dulliau a thechnegau wrth gynnal rheolaethau swyddogol

6.1.1 Y drefn bresennol

Mae’r Cod presennol yn rhagnodol ynghylch y dulliau a’r technegau y gall awdurdodau lleol eu defnyddio wrth gynnal rheolaethau swyddogol, ac mae’n seiliedig ar risg sefydliad. 

Rhaid cynnal arolygiad, arolygiad rhannol neu archwiliad mewn sefydliadau sydd â’r sgôr risg uchaf (categorïau risg A a B).

Ar gyfer sefydliadau categori C, mae’r dulliau a’r technegau y gellir eu defnyddio wrth gynnal rheolaethau swyddogol yn amrywio bob yn ail rhwng ‘arolygiad, arolygiad rhannol neu archwiliad’, a ‘math arall o reolaeth swyddogol’.

Ar gyfer sefydliadau categori D, gall ymyriadau amrywio rhwng rheolaethau swyddogol ac ymyriad nad yw’n rheolaeth swyddogol. Fodd bynnag, os ystyrir y sefydliad i fod yn risg uchel o ran y ‘math o fwyd a’r dull o drin’, yna gall y math o reolaeth swyddogol amrywio rhwng ‘arolygiad, arolygiad rhannol, neu archwiliad’ a ‘mathau eraill o ymyrryd’. 

Gall y sefydliadau sydd â sgôr risg isaf (categori E) fod yn destun Strategaethau Gorfodi Amgen (AES). 

6.1.2 Dull arfaethedig 

Mae’r datblygiad arfaethedig yn nodi, cyn belled â’u bod yn effeithiol ac yn briodol o dan yr amgylchiadau, y gall awdurdodau lleol ddefnyddio unrhyw un o’r dulliau a’r technegau canlynol wrth gynnal rheolaethau swyddogol (yn unigol neu gyfuniad ohonynt). 

Fodd bynnag, cydnabyddir, oherwydd cynllun statudol y CSHB, efallai na fydd awdurdodau lleol yn gallu defnyddio’r ystod lawn o ddulliau a thechnegau, am fod gofynion y ddeddfwriaeth yn nodi bod angen cynnal ‘arolygiad’.

Darperir ar gyfer yr holl ddulliau a thechnegau hyn yn Erthygl 14 o Reoliad (EU) a ddargedwir 2017/625 ac maent yn cynnwys: 

  • archwilio’r rheolaethau hylendid bwyd a diogelwch bwyd y mae sefydliadau wedi’u rhoi ar waith a’r canlyniadau a gafwyd;
  • arolygu’r canlynol:

-    offer, trafnidiaeth, safleoedd a mannau eraill o dan reolaeth y gweithredwr busnes bwyd a’r hyn sydd o’u cwmpas

-    bwyd ar unrhyw gam cynhyrchu, prosesu a dosbarthu, gan gynnwys bwydydd lled-orffendig, deunyddiau crai, cynhwysion, cymhorthion prosesu a chynhyrchion eraill a ddefnyddir wrth baratoi a chynhyrchu bwyd

-    cynhyrchion a phrosesau glanhau a chynnal a chadw

-    rheolaethau ar yr amodau hylendid yn y sefydliad.

  • asesu gweithdrefnau ar arferion gweithgynhyrchu da, arferion hylendid da, a gweithdrefnau sy’n seiliedig ar egwyddorion dadansoddi peryglon a phwyntiau rheoli critigol (HACCP);
  • archwilio dogfennau, cofnodion olrhain a chofnodion eraill a allai fod yn berthnasol wrth asesu cydymffurfiaeth, gan gynnwys, pan fo’n briodol, dogfennau sy’n mynd gyda bwyd ac unrhyw sylwedd neu ddeunydd sy’n cyrraedd neu’n gadael sefydliad;
  • cyfweliadau gyda’r gweithredwr busnes bwyd a/neu staff;
  • gwirio’r mesuriadau a gymerwyd gan y sefydliad a chanlyniadau profion eraill;
  • samplu, dadansoddi, diagnosis a phrofion;
  • archwiliadau o sefydliadau;
  • unrhyw weithgaredd arall sydd ei angen er mwyn nodi achosion o ddiffyg cydymffurfio.
6.1.2.1  Ffactorau i bennu dulliau a thechnegau effeithiol a phriodol wrth gynnal rheolaethau swyddogol

Wrth benderfynu pa ddulliau a thechnegau sy’n effeithiol ac yn briodol o dan yr amgylchiadau, byddai angen i awdurdodau lleol sicrhau bod safleoedd yn cydymffurfio â deddfwriaeth hylendid bwyd cymwys a bod achosion o dorri’r ddeddfwriaeth hon yn cael eu nodi. Er enghraifft, byddai cyfweliad ag aelod o staff am newidiadau i fwydlen ar ei ben ei hun yn annhebygol o wirio cydymffurfiaeth, ac felly nid yw’n cael ei ystyried yn rheolaeth swyddogol. Fodd bynnag, yn dibynnu ar yr amgylchiadau, gellid ystyried y cyfweliad, ochr yn ochr â dulliau a thechnegau eraill, er enghraifft, arolygiad, archwiliad o reolaethau, a/neu asesiad o weithdrefnau, i fod yn rheolaeth swyddogol.

Wrth helpu awdurdodau lleol i benderfynu pa ddulliau a thechnegau wrth gynnal rheolaethau swyddogol sy’n effeithiol ac yn briodol, dylid ystyried y ffactorau canlynol (nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr): 

  • proffil risg y sefydliad (risg gynhenid a/neu gydymffurfiaeth â’r asesiad rheoli a hyder ynddo) – gan ystyried dulliau a thechnegau mwy dwys mewn sefydliadau sydd â risg gynhenid uwch a/neu lefelau uwch o ddiffyg cydymffurfio. Gallai hyn gynnwys arolygiad a/neu ddulliau a thechnegau archwilio. 
  • a yw’n rheolaeth swyddogol gychwynnol mewn sefydliad newydd – gan ystyried dulliau a thechnegau mwy dwys mewn sefydliadau newydd. Gallai hyn gynnwys dulliau a thechnegau arolygu a/neu archwilio. 
  • hanes y sefydliad – gan ddefnyddio dulliau a thechnegau mwy dwys mewn sefydliadau heb hanes cystal. Gallai hyn gynnwys dulliau a thechnegau arolygu a/neu archwilio. 
  • data, gwybodaeth a chudd-wybodaeth (gan gynnwys data sicrwydd o’r diwydiant) a ddaeth i law am y sefydliad ers y rheolaeth swyddogol ddiwethaf neu, ar gyfer sefydliadau newydd, unrhyw ddata, gwybodaeth a chudd-wybodaeth (gan gynnwys data sicrwydd o’r diwydiant) a ddaeth i law – gan ddefnyddio dulliau a thechnegau mwy dwys mewn sefydliadau lle mae data, gwybodaeth neu gudd-wybodaeth yn awgrymu nad ydynt yn cydymffurfio. Gallai hyn gynnwys dulliau a thechnegau arolygu a/neu archwilio.
  • y dulliau a’r technegau a ddefnyddiwyd yn flaenorol wrth gynnal rheolaethau swyddogol – gan ystyried y dulliau a’r technegau a ddefnyddiwyd yn y rheolaeth swyddogol ddiwethaf ac a ellid defnyddio dulliau a thechnegau amgen y tro nesaf. 
  • y meysydd cydymffurfio a wiriwyd yn y rheolaeth swyddogol flaenorol – gan ystyried cwmpas y rheolaeth swyddogol flaenorol ac, os mae meysydd eraill yn cael eu gwirio yn ystod y rheolaeth swyddogol nesaf, p’un a fyddai dulliau a thechnegau amgen yn gwirio cydymffurfiaeth yn effeithiol.
  • a fydd sgôr hylendid bwyd yn cael ei phennu yn dilyn y rheolaeth swyddogol – gan ystyried a yw’r sefydliad o fewn cwmpas y CSHB ac a fydd sgôr yn cael ei rhoi yn dilyn y rheolaeth swyddogol. Os felly, bydd angen i ddulliau a thechnegau a ddefnyddir wrth gynnal rheolaethau swyddogol ystyried gofynion y cynllun statudol. 

6.1.3 Enghreifftiau – Dulliau a thechnegau effeithiol a phriodol i’w defnyddio wrth gynnal rheolaethau swyddogol

Dyma enghreifftiau o sut y dylid ystyried y ffactorau hyn: 

Enghraifft 4: Mae swyddog yn bwriadu cynnal rheolaeth swyddogol gychwynnol ar fwyty newydd sy’n defnyddio proses sous-vide. Y ‘risg gynhenid’ a ragwelir ar gyfer y sefydliad yw ‘uchel’ (sgôr o 2) ac mae’n dod o fewn cwmpas y CSHB.

Ar sail yr amgylchiadau hyn, ac o ystyried y ffactorau yn adran 6.1.2.1, gallai’r swyddog benderfynu y byddai’n effeithiol ac yn briodol defnyddio’r dulliau a’r technegau canlynol ar gyfer cynnal rheolaethau swyddogol:

  • archwilio’r rheolaethau hylendid a diogelwch bwyd 
  • archwilio offer, safleoedd, bwyd, prosesau glanhau a chynnal a chadw
  • asesu system rheoli diogelwch bwyd 
  • cyfweliadau gyda’r gweithredwr busnes bwyd a staff 
  • gwirio mesurau a roddwyd ar waith gan y sefydliad

Gan fod y sefydliad o fewn cwmpas y CSHB, byddai angen i’r rheolaeth swyddogol wirio cydymffurfiaeth â safonau ‘hylendid a diogelwch bwyd’, ‘strwythur y sefydliadau’ a ‘hyder yn y prosesau rheoli’ er mwyn gallu rhoi sgôr hylendid bwyd.

Byddai’r swyddog yn cofnodi’r dulliau a’r technegau a ddefnyddiwyd (gan gynnwys y rhesymeg), yn ogystal â chwmpas y rheolaeth swyddogol fel y gall swyddogion ystyried y rhain wrth gynnal rheolaethau swyddogol dilynol.

Enghraifft 5: Mae swyddog yn bwriadu cynnal rheolaeth swyddogol briodol mewn canolfan ymwelwyr ar safle atyniad i dwristiaid sy’n gwerthu tuniau o fisgedi, o dan yr amgylchiadau canlynol: 

  • mae’n sefydliad sy’n bodoli eisoes sydd â ‘risg gynhenid’ ‘isel’ (sgôr o 4) ac, wrth gynnal y rheolaeth swyddogol ddiwethaf, roedd gan y sefydliad lefel ‘dda’ (sgôr o 4) o ‘gydymffurfiaeth a hyder mewn prosesau rheoli’ 
  • mae gan y sefydliad hanes da o gael ei asesu fel un sydd â lefel ‘dda’ (sgôr o 4) o ‘gydymffurfiaeth a hyder mewn prosesau rheoli’ yn ei ddwy reolaeth swyddogol ddiwethaf
  • nid oes unrhyw ddata, gwybodaeth na chudd-wybodaeth wedi dod i law ers y rheolaeth swyddogol ddiwethaf sy’n dangos y bu unrhyw newidiadau i’r sefydliad neu i awgrymu bod lefel y gydymffurfiaeth wedi newid
  • mae’r sefydliad y tu allan i gwmpas y CSHB

Ar sail yr amgylchiadau hyn, ac o ystyried y ffactorau uchod, gallai’r swyddog benderfynu y byddai’n effeithiol ac yn briodol defnyddio’r dulliau a’r technegau canlynol ar gyfer cynnal rheolaethau swyddogol:    

  • cyfweliad gyda’r gweithredwr busnes bwyd a’i staff
  • archwilio dogfennau perthnasol 
  • arolygu’r safle

Gan nad yw’r sefydliad o fewn cwmpas y CSHB, gallai’r swyddog benderfynu pa feysydd cydymffurfio i’w gwirio wrth gynnal y rheolaeth swyddogol, ond dylai sicrhau bod ganddo ddigon o dystiolaeth i allu diwygio sgôr risg y sefydliad. 

Byddai’r swyddog yn cofnodi’r dulliau a’r technegau a ddefnyddiwyd (gan gynnwys y rhesymeg), yn ogystal â chwmpas y rheolaeth swyddogol fel y gall swyddogion ystyried y rhain wrth gynnal rheolaethau swyddogol dilynol.

Wrth gynnal y rheolaeth swyddogol nesaf, gallai’r swyddog benderfynu y byddai’n effeithiol ac yn briodol ddefnyddio gwahanol ddulliau a thechnegau wrth gynnal rheolaethau swyddogol, yn seiliedig ar gwmpas y rheolaeth swyddogol hon a’r dulliau a’r technegau a ddefnyddiwyd.

6.2 Rheolaethau swyddogol o bell

6.3 Y drefn bresennol

Yn ystod y pandemig COVID-19 a’r cyfnod adfer, fel rhan o Gynllun Adfer yr ASB ar gyfer awdurdodau lleol, roedd awdurdodau lleol yn gallu defnyddio asesiadau o bell o dan yr amgylchiadau cyfyngedig canlynol:

  • i’w gwneud yn haws targedu’r hyn y dylid canolbwyntio arno mewn ymweliad dilynol ar y safle – ar gyfer hylendid bwyd, lle mae’r ymyriad ar y safle yn arolygiad llawn, arolygiad rhannol neu archwiliad, a lle mae’r sefydliad yn dod o fewn cwmpas y CSHB, dylid rhoi sgôr hylendid bwyd newydd neu ddiweddaru sgôr fel sy’n briodol yn dilyn yr ymweliad ar y safle.
  • i lywio’r angen am ymyriad ar y safle mewn sefydliadau risg is lle gellir defnyddio dull sy’n seiliedig ar gudd-wybodaeth/gwybodaeth yn ystod y cyfnod adfer. Mae hyn yn cynnwys sefydliadau categori D sy’n cydymffurfio i raddau helaeth neu’n well (CSHB 3, 4, neu 5) a sefydliadau categori E. 
  • i sefydlu a oes camau unioni wedi’u cymryd ac a oes unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio a ganfuwyd wrth ymweld â’r safle wedi’u hunioni

Cynhaliodd ICF Consulting Services Limited, ar ran yr ASB, werthusiad o ddefnydd awdurdodau lleol o asesiadau o bell yn ystod y pandemig. Canfu’r gwerthusiad hwn fod asesiadau o bell yn cael eu defnyddio’n bennaf i wneud y canlynol:

  • galluogi cyfnewid dogfennau a gwybodaeth am fusnesau bwyd cyn cynnal arolygiad
  • nodi’r prif bwyntiau i ganolbwyntio arnynt yn ystod ymweliadau dilynol â’r safle
  • penderfynu, mewn rhai cyd-destunau busnes, a oedd angen ymweld â’r safle yn fuan iawn neu a allai’r ymweliad gael ei ohirio

Fodd bynnag, roedd y defnydd o asesiadau o bell yn gyfyngedig o hyd yn ystod y pandemig a’r cyfnod adfer dilynol. Er enghraifft, nid oedd awdurdodau lleol yn gallu rhoi sgôr risg i sefydliad heb gynnal rheolaeth swyddogol ar y safle.

6.3.1 Dull arfaethedig

Ar gyfer y datblygiad arfaethedig hwn, diffinnir rheolaeth swyddogol o bell fel gweithgaredd nad yw’n cael ei gynnal mewn sefydliad busnes bwyd, sy’n ei gwneud yn bosib casglu tystiolaeth i wirio cydymffurfiad y sefydliad. Gallai hyn gynnwys: 

  • sgwrs dros y ffôn
  • archwiliad o ddogfennaeth berthnasol wrth y ddesg, a allai gynnwys adolygu ymatebion arolwg wedi’u cwblhau, systemau rheoli diogelwch bwyd neu gofnodion monitro
  • adolygu tystiolaeth ar ffurf fideos neu ffotograffau
  • fideo-gynadledda
  • archwilio gwefannau
  • unrhyw offer digidol eraill sy’n galluogi gwirio cydymffurfiaeth heb fod ar safle’r sefydliad

Byddai ddefnyddio dulliau a thechnegau o bell yn cael ei ystyried yn rheolaeth swyddogol os yw’n gwirio cydymffurfiaeth â deddfwriaeth berthnasol. Er enghraifft, archwilio dogfennaeth, fel ffotograffau, heb fod ar safle’r sefydliadau busnesau bwyd i wirio a yw unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio a nodwyd yn flaenorol wedi’u datrys.  

Gellid defnyddio dulliau a thechnegau o bell hefyd i gefnogi a llywio rheolaeth swyddogol ar y safle. Er enghraifft, archwilio dogfennaeth ar gyfer systemau rheoli diogelwch bwyd heb fod ar safle’r sefydliad cyn defnyddio dulliau a thechnegau arolygu ac archwilio ar y safle.  

Cynigir, cyn belled â’u bod yn effeithiol ac yn briodol o dan yr amgylchiadau, y gallai awdurdodau lleol ddefnyddio unrhyw un o'r dulliau a thechnegau a restrir yn adran 6.1.2 wrth gynnal rheolaethau swyddogol o bell. Fodd bynnag, yr awdurdodau lleol unigol fyddai’n penderfynu a ddylid cynnal rheolaethau swyddogol, a hynny ar sail eu hamgylchiadau unigryw eu hunain.   

O ganlyniad i gynllun statudol y CSHB, cydnabyddir efallai na fydd awdurdodau lleol yn gallu cynnal rheolaethau swyddogol o bell ar gyfer rheolaethau cychwynnol a dyledus mewn sefydliadau sy’n dod o fewn cwmpas y CSHB. Mae hyn oherwydd y byddai angen iddynt gynnal ‘arolygiad’ ar y safle er mwyn gallu rhoi sgôr hylendid bwyd.

6.3.1.1 Ffactorau i benderfynu a ddylid cynnal rheolaeth swyddogol o bell

Wrth helpu awdurdodau lleol i benderfynu a fyddai’n effeithiol ac yn briodol defnyddio dulliau a thechnegau o bell, dylid ystyried y ffactorau canlynol (nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr): 

  • y ffactorau a restrir yn adran 6.1.2.1 – byddent hefyd yn cael eu hystyried wrth benderfynu a yw’n briodol cynnal rheolaethau swyddogol o bell. Er enghraifft, os nad oes gan sefydliad hanes cystal, byddai’n fwy priodol cynnal rheolaethau swyddogol ar y safle. Yn yr un modd, os yw sgôr hylendid bwyd ar fin cael ei chyhoeddi neu ei diweddaru, byddai angen cynnal y rheolaeth swyddogol ar y safle oherwydd gofynion y cynllun statudol.  
  • a oes modd gwirio cydymffurfiaeth yn effeithiol o bell – gan ystyried diben y rheolaeth swyddogol ac a ellid gwirio cydymffurfiaeth o bell. Er enghraifft, os yw am wirio a yw achosion o ddiffyg cydymffurfio a nodwyd yn flaenorol wedi’u hunioni, gallai fod yn briodol defnyddio dulliau a thechnegau o bell. Fodd bynnag, os yw’n rheolaeth swyddogol gychwynnol mewn sefydliad, gallai fod yn fwy priodol defnyddio dulliau a thechnegau ar y safle. 
  • a yw’r swyddog yn gyfarwydd â’r sefydliad – os nad yw’r swyddog erioed wedi ymweld â’r sefydliad o’r blaen, gallai fod yn fwy priodol defnyddio dulliau a thechnegau ar y safle. 
  • a gynhaliwyd y rheolaeth swyddogol flaenorol ar y safle neu o bell – os cynhaliwyd y rheolaeth swyddogol flaenorol o bell, gallai fod yn fwy priodol defnyddio dulliau a thechnegau ar y safle wrth gynnal y rheolaeth swyddogol nesaf. 
  • a yw’n ymarferol cynnal rheolaeth swyddogol o bell – gan ystyried a oes gan y sefydliad fynediad at dechnoleg berthnasol yn ogystal â gallu’r gweithredwr busnes bwyd i fod yn destun rheolaeth swyddogol o bell. Os nad yw’n ymarferol, byddai dulliau a thechnegau ar y safle yn fwy priodol. 
  • a yw’r dechnoleg yn sicrhau cyfrinachedd a diogelwch data a gwybodaeth – gan ystyried a yw’r dechnoleg yn sicrhau cyfrinachedd a diogelwch. Os nad yw’n sicrhau hynny, dylid ystyried technoleg amgen, neu ddefnyddio dulliau a thechnegau ar y safle. 

6.2.3 Enghreifftiau – Rheolaethau swyddogol o bell 

Dyma enghreifftiau o sut y dylid ystyried y ffactorau hyn: 

Enghraifft 6: Mae swyddog yn bwriadu cynnal rheolaeth swyddogol (ailymweliad) ar safle cynhyrchydd cacennau lleol, o dan yr amgylchiadau canlynol:   

  • mae gan y sefydliad ‘risg gynhenid’ ‘isel’ (sgôr o 4) a chanfuwyd bod ganddo lefel ‘foddhaol’ (sgôr o 3) o ‘gydymffurfiaeth a hyder mewn prosesau rheoli’ wrth gynnal rheolaeth swyddogol y tro diwethaf 
  • pwrpas y rheolaeth swyddogol (ailymweliad) yw gwirio a yw’r achos o ddiffyg cydymffurfio a nodwyd yn flaenorol wedi’i unioni.
  • wrth gynnal y rheolaeth swyddogol y tro diwethaf, nodwyd achosion o ddiffyg cydymffurfio mewn perthynas â rhai teils ar goll ar y waliau ger y mannau paratoi bwyd a thystysgrifau hyfforddi ar goll ar gyfer dau aelod o staff
  • mae gan y sefydliad hanes da o unioni achosion o ddiffyg cydymffurfio a nodwyd yn flaenorol 
  • mae’r sefydliad o fewn cwmpas y CSHB
  • mae’r swyddog yn gyfarwydd â’r sefydliad, ar ôl cynnal y rheolaeth swyddogol ar y safle yn flaenorol ac mae ganddo luniau i ddangos bod y teils ar goll 
  • mae gan y sefydliad y dechnoleg a’r gallu i fod yn destun rheolaeth swyddogol o bell.

Yn seiliedig ar yr amgylchiadau hyn, gallai’r swyddog benderfynu y byddai’n briodol defnyddio dulliau a thechnegau o bell wrth gynnal rheolaethau swyddogol er mwyn:  

  • archwilio dogfennau perthnasol, yn enwedig ffotograffau sy’n profi bod y gweithredwr busnes bwyd wedi newid y teils a bod ganddo gopïau o’r tystysgrifau hyfforddi coll, a ddarparwyd gan y sefydliad dros e-bost.

Byddai’r swyddog yn cofnodi’r dulliau a’r technegau a ddefnyddiwyd (gan gynnwys y rhesymeg), yn ogystal â chwmpas y rheolaeth swyddogol fel y gall swyddogion ystyried y rhain wrth gynnal rheolaethau swyddogol dilynol. 

Enghraifft 7: Mae swyddog yn bwriadu cynnal rheolaeth swyddogol briodol mewn siop tecawê o dan yr amgylchiadau canlynol: 

  • mae gan y sefydliad ‘risg gynhenid’ ‘gymedrol’ (sgôr o 3) a chanfuwyd bod ganddo sgôr ‘dda’ (sgôr o 4) ar gyfer ‘cydymffurfiaeth a hyder mewn prosesau rheoli’ wrth gynnal rheolaeth swyddogol y tro diwethaf.
  • mae’r sefydliad o fewn cwmpas y CSHB.
  • nid oes unrhyw ddata, gwybodaeth na chudd-wybodaeth wedi dod i law ers y rheolaeth swyddogol ddiwethaf sy’n dangos unrhyw newidiadau i’r sefydliad neu i awgrymu bod lefel y gydymffurfiaeth wedi newid
  • mae gan y sefydliad y dechnoleg i gynnal trafodaethau a/neu ddarparu dogfennau yn electronig.

Ar sail yr amgylchiadau hyn, gallai’r swyddog benderfynu y byddai’n briodol dilyn y dulliau a’r technegau canlynol, heb fod mewn unrhyw drefn benodol: 

  • cyfweliad o bell gyda’r gweithredwr busnes bwyd/rheolwr dros y ffôn neu drafodaeth ‘rhithwir’ wyneb yn wyneb
  • archwilio dogfennau perthnasol a gyflenwir yn electronig o bell, fel dogfennaeth system rheoli diogelwch bwyd
  • arolygiad ar y safle a/neu archwiliad o’r sefydliad

Gan fod y sefydliad o fewn cwmpas y CSHB, a bod sgôr newydd i’w rhoi, byddai angen i’r dulliau a’r technegau ar y safle asesu cydymffurfiaeth â safonau ‘hylendid a diogelwch bwyd’, ‘strwythur y sefydliad’ a ‘hyder mewn prosesau rheoli’. 

Yn yr enghraifft hon, defnyddiwyd y dulliau a’r technegau o bell i gefnogi ac ategu’r arolygiad a/neu’r archwiliad ar y safle. Byddai’r swyddog yn cofnodi’r dulliau a’r technegau a ddefnyddiwyd (gan gynnwys y rhesymeg), yn ogystal â chwmpas y rheolaeth swyddogol fel y gall swyddogion ystyried y rhain wrth gynnal rheolaethau swyddogol dilynol. 

6.3 Rhoi gwybod ymlaen llaw

6.3.1    Y drefn bresennol

Mae’r Cod presennol yn nodi bod rhaid i awdurdodau lleol gynnal rheolaethau swyddogol ar fwyd heb roi rhybudd ymlaen llaw, ac eithrio mewn achosion fel archwiliadau lle mae angen rhoi gwybod i’r gweithredwr busnes bwyd ymlaen llaw. 

Mae hefyd yn nodi bod angen sicrhau bod rhoi gwybod ymlaen llaw yn angenrheidiol ac wedi’i gyfiawnhau’n briodol er mwyn i’r rheolaeth swyddogol gael ei chynnal. Mae’r enghreifftiau canlynol i’w cael yn y Canllawiau Ymarfer ac yn nodi lle y gellir ystyried bod rhoi gwybod ymlaen llaw yn dderbyniol: 

  • pan mai pwrpas ymyriad yw gweld proses benodol ar waith
  • i archwilio cofnodion nad ydynt ond ar gael os yw perchennog y busnes bwyd yn bresennol

Yn ogystal, nodir bod rhaid i’r swyddogion awdurdodedig ddefnyddio eu disgresiwn o ran y mater hwn, gan gofio mai’r prif nod yw sicrhau cydymffurfiaeth â chyfraith bwyd.

6.3.2    Dull arfaethedig

Y datblygiad arfaethedig yw y dylai’r sefyllfa ddiofyn barhau, sef peidio â rhoi gwybod ymlaen llaw am fwriad i gynnal rheolaethau swyddogol. 

Fodd bynnag, dylai awdurdodau lleol ystyried y dulliau a’r technegau i’w defnyddio wrth gynnal rheolaethau swyddogol, ac a fyddant yn cael eu cynnal ar y safle neu o bell, wrth benderfynu a yw rhoi gwybod ymlaen llaw yn angenrheidiol neu wedi’i gyfiawnhau’n briodol gan ystyried y prif ddiben, sef sicrhau cydymffurfiaeth â chyfraith bwyd.

Dyma enghreifftiau lle gallai rhoi gwybod ymlaen llaw fod yn briodol (nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr):  

  • pan mai pwrpas y rheolaeth swyddogol yw gweld proses benodol ar waith
  • i archwilio cofnodion nad ydynt ond ar gael os yw perchennog y busnes bwyd yn bresennol
  • pan fo’r dull a’r dechneg o gynnal rheolaeth swyddogol yn cynnwys gweithgareddau archwilio (p’un a ydynt yn cael eu cynnal ar y safle neu o bell), a bod angen i aelodau staff priodol y busnes bwyd fod yn bresennol.

Lle rhoddir gwybod ymlaen llaw, byddai awdurdodau lleol yn cofnodi eu rhesymeg dros hyn a’r dulliau a’r technegau a ddefnyddiwyd wrth gynnal rheolaeth swyddogol. 

6.5 Manteision datblygiad arfaethedig 3

Rhagwelir y bydd y datblygiad arfaethedig yn creu capasiti yn y FHDM. Mae hyn oherwydd, mewn amgylchiadau priodol, y gellir defnyddio a/neu gynnal dulliau a thechnegau llai dwys o bell, gan arwain at ddefnydd mwy effeithiol o adnoddau awdurdod lleol. Fodd bynnag, nid ydym yn gwybod i ba raddau y bydd awdurdodau lleol unigol yn manteisio ar yr hyblygrwydd.

Rydym hefyd yn rhagweld y byddai cynnal rheolaethau swyddogol o bell, lle y bo’n briodol, yn lleihau costau ac amser teithio, gan effeithio’n gadarnhaol ar ôl troed carbon awdurdodau lleol. 

6.5    Effeithiau datblygiad arfaethedig 3

Mae’r effeithiau posib yn cynnwys y canlynol:

  • Ymgyfarwyddo a hyfforddi – byddai angen i awdurdodau lleol ymgyfarwyddo â’r hyblygrwydd gyda’r dulliau a’r technegau posib wrth gynnal rheolaethau swyddogol, a’r hyfforddiant a ddarperir i sicrhau gweithrediad cyson. Oherwydd hyn, efallai na fydd y manteision yn cael eu gwireddu ar unwaith.
  • Diwygiadau i MIS – byddai angen diweddaru MIS awdurdodau lleol er mwyn gallu cofnodi’r gwahanol ddulliau a thechnegau a ddefnyddiwyd a ph’un a gafodd eu gwneud ar y safle neu o bell. Bydd maint y newidiadau hyn a manylion ynghylch sut y bydd systemau’n cael eu trosglwyddo i FHDM wedi’i foderneiddio’n cael eu hystyried wrth i’r model gael ei ddatblygu ymhellach.
  • CSHB – oherwydd cynllun statudol y CSHB yng Nghymru, ni fyddai’r hyblygrwydd a gynigir o ran dulliau a thechnegau wrth gynnal rheolaethau swyddogol, gan gynnwys defnyddio rheolaethau swyddogol o bell, yn cael eu gwireddu’n llawn. Gallai hyn arwain at anghysondebau yn y dulliau a’r technegau a ddefnyddir i roi sgoriau hylendid bwyd ledled y tair gwlad. 

Cwestiynau adborth ar ddatblygiad arfaethedig 3

7. Beth yw eich barn am y datblygiad arfaethedig ar gyfer cyflwyno hyblygrwydd o ran dulliau a thechnegau i’w defnyddio wrth gynnal rheolaethau swyddogol a’r defnydd o reolaethau swyddogol o bell, gan gynnwys ffactorau i’w hystyried? 

8. Beth yw eich barn am y manteision a’r effeithiau a nodwyd ar gyfer cyflwyno hyblygrwydd o ran dulliau a thechnegau i’w defnyddio wrth gynnal rheolaethau swyddogol a’r defnydd o reolaethau swyddogol o bell? A oes unrhyw fanteision a/neu effeithiau pellach posib i’r datblygiad arfaethedig? Os oes, nodwch beth yw’r rhain.

9. A ydych yn rhagweld unrhyw heriau pe bai’r datblygiad arfaethedig ar gyfer cyflwyno hyblygrwydd o ran dulliau a thechnegau i’w defnyddio wrth gynnal rheolaethau swyddogol, gan gynnwys defnyddio rheolaethau swyddogol o bell, yn cael ei roi ar waith? Os ydych, nodwch beth yw’r heriau hyn a pha atebion, os o gwbl, y dylem eu hystyried?

7. Datblygiad arfaethedig 4 – Hyblygrwydd o ran pwy all gynnal rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill

7.1 Y drefn bresennol

Mae’r Cod presennol yn nodi y gall swyddogion sydd â ‘chymhwyster addas’ ar gyfer hylendid bwyd, os ydynt yn gymwys, gael eu hawdurdodi i ymgymryd â’r holl ddulliau a thechnegau wrth gynnal rheolaethau hylendid bwyd swyddogol a gweithgareddau eraill ym mhob busnes bwyd, gan gynnwys camau gorfodi perthnasol. 

Mae hefyd yn nodi y gall swyddogion nad oes ganddynt ‘gymhwyster addas' ar gyfer hylendid bwyd, os ydynt yn gymwys, gael eu hawdurdodi i ymgymryd â’r gweithgareddau a canlynol:

  • ymyriadau amgen
  • addysg, cyngor a hyfforddiant
  • casglu gwybodaeth (ac eithrio casglu, prosesu, a rhannu cudd-wybodaeth)
  • monitro amgylcheddol ar gyfer pysgod cregyn 
  • rheolaethau bwyd swyddogol neu dasgau penodol sy’n ymwneud â gweithgareddau swyddogol eraill ar gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid mewn Safleoedd Rheoli Ffiniau (BCPs) 

7.2 Dull arfaethedig

Y datblygiad arfaethedig yw, fel sy’n wir ar hyn o bryd, y gall swyddogion sydd â ‘chymhwyster addas’ ar gyfer hylendid bwyd, os ydynt yn gymwys, gael eu hawdurdodi i ymgymryd â’r holl ddulliau a thechnegau wrth gynnal rheolaethau hylendid bwyd swyddogol a gweithgareddau eraill ym mhob busnes bwyd, gan gynnwys camau gorfodi perthnasol. 

Gall swyddogion nad oes ganddynt ‘gymhwyster addas’ ar gyfer hylendid bwyd, os ydynt yn gymwys, gael eu hawdurdodi i ymgymryd â’r gweithgareddau y maent yn eu gwneud ar hyn o bryd, yn ogystal â’r gweithgareddau canlynol: 

  • rheolaethau hylendid bwyd swyddogol mewn sefydliadau sydd â ‘risg gynhenid’ isel (sgôr o 4) neu isel iawn (sgôr o 5)  (neu sefydliadau newydd y rhagwelir y bydd ganddynt yr un risg) 

Sylwer: wrth gynnal rheolaeth swyddogol os canfyddir nad yw’r ‘risg gynhenid’ yn ‘isel’ neu’n ‘isel iawn’, ni fyddai’r swyddog yn cynnal y rheolaeth swyddogol. Byddai’n sicrhau bod y rheolaeth swyddogol yn cael ei chynnal gan swyddog cymwys â ‘chymhwyster addas’ ar gyfer hylendid bwyd cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

  • casglu, prosesu a rhannu gwybodaeth 
  • samplu – ffurfiol ac anffurfiol
  • gweithredu anffurfiol, gan gynnwys rhybuddion ysgrifenedig

Sylwer: ni fyddai hyn yn cynnwys gwaharddiadau, cau busnes neu ildio cynhyrchion yn wirfoddol.

I gael eu hawdurdodi’n briodol, byddai swyddogion nad ydynt yn meddu ar ‘gymhwyster addas’ ar gyfer hylendid bwyd yn cael eu hasesu yn erbyn y gweithgareddau a’r is-weithgareddau perthnasol yn y Fframwaith Cymwyseddau i sicrhau eu bod yn gymwys. 

7.3 Manteision datblygiad arfaethedig 4

Bydd ymestyn y gweithgareddau y gall swyddogion nad ydynt yn meddu ar ‘gymhwyster addas’ ar gyfer hylendid bwyd, os ydynt yn gymwys, eu cynnal yn galluogi awdurdodau lleol i ddefnyddio carfan ehangach o swyddogion. Mae’r Cod presennol yn cyfyngu ar hyn ar hyn o bryd. 

Yn seiliedig ar ein modelu yn sgil data System Monitro Gwaith Gorfodi Awdurdodau Lleol (LAEMS) ar gyfer 2019/20, roedd tua 44% o sefydliadau yn sefydliadau categori D ac E, gyda ‘risg gynhenid’ isel neu isel iawn. Felly, gallai’r datblygiad arfaethedig ar gyfer swyddogion nad oes ganddynt ‘gymhwyster addas’ ar gyfer hylendid bwyd gynyddu gallu awdurdodau lleol yn sylweddol wrth iddynt gynnal y rheolaethau ychwanegol hyn. Er enghraifft, gallai awdurdodau lleol ddewis wella sgiliau eu swyddogion sy’n gweithio ym maes safonau bwyd a/neu fwyd anifeiliaid  a’u hawdurdodi i gynnal rheolaethau hylendid bwyd swyddogol mewn sefydliadau risg gynhenid isel neu isel iawn. 

Byddai hyn yn darparu hyblygrwydd i awdurdodau lleol sy’n dewis ymestyn awdurdodiadau swyddogion cymwys, er mwyn galluogi defnydd mwy effeithiol o adnoddau presennol. Mae’r Fframwaith Cymwyseddau, a roddwyd ar waith yn 2021, yn nodi’r wybodaeth a’r sgiliau y dylai swyddogion allu eu dangos cyn cael eu hawdurdodi i ymgymryd â gweithgareddau ychwanegol. Mae hyn yn golygu nad yw diogelwch bwyd, iechyd y cyhoedd a diogelu defnyddwyr yn cael eu peryglu gan y datblygiad arfaethedig hwn. Fodd bynnag, cydnabyddir y gallai fod angen hyfforddiant a chymorth ar swyddogion i ennill y wybodaeth a’r sgiliau gofynnol, ac efallai y bydd angen datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) blynyddol ychwanegol arnynt i gydnabod y gweithgareddau ychwanegol y maent wedi’u hawdurdodi i’w cyflawni. Gallai hyn effeithio ar adnoddau awdurdodau lleol sy'n dewis defnyddio’r hyblygrwydd hwn, gan olygu na chaiff y manteision eu gwireddu ar unwaith. 

7.4 Effeithiau datblygiad arfaethedig 4

Byddai effeithiau posib datblygiad arfaethedig 4 yn cynnwys: 

  • Capasiti – efallai na fydd swyddogion nad oes ganddynt ‘gymhwyster addas’ ar gyfer hylendid bwyd â’r gallu i gyflawni gweithgareddau ychwanegol. Efallai y bydd materion o ran cytundeb/cyflog hefyd yn atal ymestyn gweithgareddau.
  • Recriwtio – efallai nad oes gan awdurdodau lleol ar hyn o bryd swyddogion nad oes ganddynt ‘gymhwyster addas’ ar gyfer hylendid bwyd y gallent eu hawdurdodi. Oherwydd gwaharddiadau recriwtio, efallai na fydd awdurdodau lleol yn gallu recriwtio ychwaith, sy’n golygu na allant elwa ar y datblygiad arfaethedig hwn yn y tymor byr. 
  • CSHB – gellid lleihau hyder defnyddwyr a busnesau yn y CSHB os yw swyddogion nad oes ganddynt ‘gymhwyster addas’ ar gyfer hylendid bwyd yn rhoi sgoriau hylendid bwyd i sefydliadau sydd â ‘risg gynhenid’ isel ac isel iawn, a gallai arwain at fwy o apeliadau ynghylch sgoriau a roddir gan y swyddogion hyn. Fodd bynnag, er mwyn cael ei awdurdodi byddai angen i swyddog fod yn gymwys a gallu dangos y wybodaeth a’r sgiliau perthnasol fel y’u darperir yn y Fframwaith Cymwyseddau

Cwestiynau adborth ar ddatblygiad arfaethedig 4

10. Beth yw eich barn am y datblygiad arfaethedig ar gyfer cyflwyno hyblygrwydd o ran pwy all gynnal rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill? 

11. Beth yw eich barn am y manteision a’r effeithiau a nodwyd ar gyfer cyflwyno hyblygrwydd o ran pwy all gynnal rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill? A oes unrhyw fanteision a/neu effeithiau pellach posib i’r datblygiad arfaethedig? Os oes, nodwch beth yw’r rhain.

12. A ydych yn rhagweld unrhyw heriau pe bai’r datblygiad arfaethedig ar gyfer cyflwyno hyblygrwydd o ran pwy all gynnal rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill yn cael ei roi ar waith? Os ydych, nodwch beth yw’r heriau hyn a pha atebion, os o gwbl, y dylem eu hystyried?

8. Ymgysylltu

Datblygwyd y datblygiadau arfaethedig hyn gyda Gweithgor awdurdodau lleol/yr ASB. Darparodd y Grŵp ffordd o gydweithio ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i foderneiddio’r model a helpu i adolygu’n feirniadol a llywio ein ffordd o feddwl am y datblygiadau arfaethedig ar gyfer FHDM wedi’i foderneiddio. 

Fel rhan o’r ymgynghoriad hwn, rydym yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu ag awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i ddarparu cyfleoedd pellach i roi adborth ar y datblygiadau arfaethedig hyn. 

Wrth i’r datblygiadau arfaethedig ar gyfer model wedi’i foderneiddio ddatblygu ymhellach, byddwn yn parhau i ymgysylltu ag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill, a fydd yn cynnwys ymgynghoriad ffurfiol. 

Cwestiynau cyffredin ar y datblygiadau arfaethedig 

13. Pe bai’r datblygiadau arfaethedig yn cael eu gweithredu, pa ganllawiau a/neu enghreifftiau fyddai’n ddefnyddiol i’ch helpu i’w ddeall a’i weithredu’n gyson?

14. A oes unrhyw ddulliau eraill y gellid eu hystyried ar gyfer FHDM wedi’i foderneiddio? Os oes, nodwch beth yw’r rhain. 

9. Ymatebion

Mae rhaid i ymatebion ddod i law erbyn 23:59 30 Mehefin 2023. Yn eich ymateb, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn preifat neu ar ran sefydliad neu gwmni. Dylech hefyd gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli.

Defnyddiwch y ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad i roi eich sylwadau.

Ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad (fersiwn Word hygyrch)

Ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad (ffurflen PDF hygyrch)

Er mwyn ein galluogi i ddeall eich ymatebion yn llawn ac i’w hystyried yn ddigonol, a fyddech cystal ag esbonio, a lle bo modd, ddarparu tystiolaeth i gefnogi eich adborth. 

Dylid anfon y ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad dros e-bost i hygienemodelreview@food.gov.uk

I gael gwybodaeth am sut mae’r ASB yn trin eich data personol, cyfeiriwch at yr hysbysiad preifatrwydd ar wefan yr ASB. 

10. Mwy o wybodaeth

Os oes angen y ddogfen hon arnoch chi mewn fformat haws ei ddarllen, anfonwch fanylion at y swyddog cyswllt a enwir ar gyfer ymatebion a bydd eich cais yn cael ei ystyried.

Mae’r ddogfen hon wedi’i pharatoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori Llywodraeth Ei Fawrhydi.

Diolch i chi ar ran yr Asiantaeth Safonau Bwyd am gymryd rhan yn ein hymgynghoriad ar y datblygiadau arfaethedig ar gyfer FHDM wedi’i foderneiddio.

Yn gywir,

Sarah Aza 

Pennaeth Gwaith Gweithredu Awdurdodau Lleol