Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Food Hygiene Rating Scheme Online Display in Wales: Research report

Arddangos y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd Ar-lein yng Nghymru: Crynodeb Gweithredol

Penodol i Gymru

Mae'r adroddiad hwn yn archwilio disgwyliadau o ran arddangos gwybodaeth am sgoriau’r Cynllun ar-lein a cheisio llywio datblygiad arferion gorau.

Diweddarwyd ddiwethaf: 29 June 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 29 June 2023
  • Mae mwy a mwy o ddefnyddwyr yn rhyngweithio â busnesau bwyd ar-lein fel y brif sianel – a bydd teithiau ymchwil a phrynu yn aml yn cynnwys mwy nag un sianel (ar-lein, wyneb yn wyneb, dros y ffôn). Gall y ffaith ei bod yn ofynnol i fusnesau arddangos sgoriau’r Cynllun ar eu safleoedd ond nid ar-lein ymddangos yn anghyson. Yn wir, nid oedd defnyddwyr yn gallu gweld unrhyw reswm dros wahaniaethu rhwng yr wybodaeth sydd ar gael yn y safle ei hun i’r wybodaeth sydd ar gael ar-lein, yn enwedig o ystyried rôl gynyddol prynu bwyd ar-lein.
  • Mae defnyddwyr eisoes yn eithaf hyderus wrth ddefnyddio adnoddau ar-lein i ymchwilio a dewis bwytai a siopau tecawê. Maent yn gyfarwydd â defnyddio’r wybodaeth sydd ar gael ar-lein i wneud penderfyniadau am fwyd, ac nid ydynt o reidrwydd yn gofyn am  gymorth ychwanegol. 
  • Defnyddir ystod o feini prawf (gan gynnwys adolygiadau; awgrymiadau gan rywun arall) i helpu i lywio dewisiadau a phenderfyniadau o ran bwyd a hylendid yn benodol – ond mae’r wybodaeth hon yn annelwig, yn anhrefnus ac yn annibynadwy. Mae diffyg gwybodaeth ddibynadwy, gredadwy am hylendid bwyd ar-lein. Gan fod llawer yn ystyried y Cynllun fel un annibynnol a chredadwy, mae teimlad y byddai’n rhoi adolygiadau “dilys” i wefannau ar-lein ac nid yw argymhellion yn gwneud hynny.  
  • Mae defnyddwyr yn gwneud penderfyniadau cyflym, ar hap wrth ddewis ac ymchwilio i fwyd. Er eu bod yn gyfarwydd â sgoriau’r Cynllun ac y byddant yn eu defnyddio (ar gipolwg) ar safleoedd busnesau, nid ydynt yn mynd ati i chwilio am y rhain ar-lein lle mae cael mynediad at sgôr yn broses fwy cymhleth sy’n gofyn am edrych ar wefan arall.
  • Mae defnyddwyr yn gadarn o blaid arddangos y Cynllun ar-lein ac yn credu y byddai’n eu helpu i wneud penderfyniadau gwell am fwyd ac yn annog mwy o gydymffurfiaeth gan weithredwyr busnesau bwyd. Byddai sgoriau’r Cynllun ar wefannau gweithredwyr busnesau bwyd (ac adnoddau ar-lein eraill, fel agregwyr bwyd) yn ychwanegiad defnyddiol at y gronfa o wybodaeth sydd ar gael i ddefnyddwyr. Mae defnyddwyr hefyd o’r farn y byddai’r Cynllun ar-lein yn cael effaith gadarnhaol ar weithredwyr busnesau bwyd o safbwynt defnyddwyr, drwy sicrhau eu bod yn cydymffurfio’n well. 
  • Mae defnyddwyr o’r farn ei bod yn bwysig bod y sgoriau a arddangosir ar-lein yn ddibynadwy, a’i bod yn gyflym ac yn hawdd cael gafael arnynt. Mae defnyddwyr yn teimlo y dylai sgoriau’r Cynllun gael eu harddangos mor amlwg ar-lein ag y maent ar safleoedd, hynny yw ar y dudalen lanio. Mae galw hefyd am roi mesurau diogelu ar waith i sicrhau na all gweithredwyr busnesau bwyd arddangos sgoriau ‘ffug’.