Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Food Hygiene Rating Scheme Online Display in Wales: Research report

Arddangos y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd Ar-lein yng Nghymru: Cyflwyniad

Penodol i Gymru

Comisiynodd yr ASB yr ymchwil hon i ddeall yn well y manteision posib i ddefnyddwyr yn sgil gorfodi busnesau yng Nghymru i arddangos sgoriau’r Cynllun ar-lein.

Diweddarwyd ddiwethaf: 29 June 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 29 June 2023

1.1 Cefndir

Mae Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (y Cynllun) yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn darparu gwybodaeth am safonau hylendid busnesau sy’n gwerthu bwyd yn uniongyrchol i ddefnyddwyr (fel bwytai, siopau tecawê, tafarndai, gwestai, archfarchnadoedd, siopau papurau newydd, ac ati). Trwy roi’r grym i ddefnyddwyr wneud dewisiadau gwybodus am ble i fwyta a phrynu bwyd trwy ddewis y busnesau hynny sydd â sgôr uwch, mae’r Cynllun yn annog newid ymddygiad, gan gynyddu cydymffurfiaeth busnesau, a lleihau salwch a gludir gan fwyd.

Mae’r ASB yn gwybod bod cynnydd o ran defnyddwyr yn prynu bwyd ar-lein ac mae'n bosib nad oes ganddynt fynediad at wybodaeth am sgôr hylendid y busnes bwyd pan fyddant ar-lein. Mae’r ASB yn cydnabod bod llwyddiant a hygrededd parhaus y Cynllun yn dibynnu ar y ffaith ei fod yn bodloni gofynion a disgwyliadau defnyddwyr.  O ganlyniad, rhagdybiwyd y byddai darparu gwybodaeth am sgoriau hylendid bwyd ar wefannau busnesau bwyd yn gwella hygyrchedd i ddefnyddwyr. 

Comisiynodd yr ASB yr ymchwil hon i ddeall yn well y manteision posib i ddefnyddwyr yn sgil gorfodi busnesau yng Nghymru i arddangos sgoriau’r Cynllun ar-lein.

1.2 Amcanion

Roedd angen i’r ymchwil:

  1. Archwilio disgwyliadau defnyddwyr o ran arddangos gwybodaeth am sgoriau’r Cynllun ar-lein a meithrin dealltwriaeth o gyd-destun defnyddwyr yn y maes hwn
  2. Llywio datblygiad arferion gorau wrth gyflwyno gwybodaeth am sgoriau 

1.3 Cwestiynau ymchwil

Yn benodol, roedd angen i’r ymchwil ateb y canlynol:

  1. Sut a ble y dylid cyfeirio’r wybodaeth am sgoriau er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth a defnydd ymhlith cwsmeriaid?
  2. Beth yw’r ffyrdd gorau o gyflwyno’r sgoriau fel bod defnyddwyr yn gallu cael mynediad hawdd at wybodaeth ystyrlon sy’n rhoi grym iddynt wneud dewisiadau gwybodus?
  3. Beth sy’n ysgogi ymatebion a dewisiadau defnyddwyr?
  4. Pa mor uchel yw’r risg o gamddealltwriaeth neu rwystrau eraill? 
  5. Pa strategaethau allai helpu i atal dryswch a chynyddu hygyrchedd? 

1.4 Methodoleg

Er mwyn mynd i’r afael â’r cwestiynau ymchwil, cynhaliodd 2CV a Community Research dri grŵp ffocws (6-8 o gyfranogwr ym mhob un) gydag aelodau o’r cyhoedd i archwilio manteision posib arddangos y Cynllun ar-lein.  Roedd tasg ddigidol ar-lein cyn y grwpiau ffocws.  

Dyma’r ystyriaethau a oedd yn sail i’r dull methodolegol:

  1. Dealltwriaeth well o’r cyd-destun: Gallai archwilio anghenion a blaenoriaethau defnyddwyr yng nghyd-destun sut y gwneir penderfyniadau wrth ddewis busnes bwyd fod wedi arwain at rywfaint o ôl-resymu (gan gynnwys yr hyn y teimlent y dylent ei ystyried). Y gred oedd y byddai tasg ddigidol, wedi’i chynllunio i ail-greu’r profiad ar-lein, yn fwy tebygol o ddod â dealltwriaeth o ymddygiadau cyfredol ac unrhyw anghenion heb eu diwallu.
  2. Osgoi gorystyried y materion: Mae dethol a gwerthuso gwybodaeth sy’n helpu pobl i wneud penderfyniadau ynghylch beth i’w fwyta ac o ble yn rhywbeth a wneir ‘yn y fan a’r lle’ ac yn gymharol gyflym. Yn aml nid yw’r meini prawf a ddefnyddir yn cael eu hystyried yn ormodol. Roedd trafodaethau grŵp safonol 90 munud yn rhoi digon o amser i drafod profiadau ac anghenion ac i gydweithio ar syniadau i fanteisio i’r eithaf ar y cynnig i roi’r Cynllun ar-lein.
  3. Effaith yr amgylchedd: Credwyd ei bod yn hanfodol deall effaith yr amgylchedd. Gallai profiad trefol/maestrefol, gyda dewisiadau bwyd helaeth arwain at anghenion gwahanol i’r rheiny mewn lleoliad gwledig, lle mae dewisiadau’n fwy cyfyngedig. Fel y cyfryw, cynlluniwyd yr ymchwil i gynnwys amrywiaeth o amgylcheddau, gan gwmpasu hefyd ddau ranbarth gwahanol o Gymru.

Fel y nodwyd uchod, cafodd y cyfranogwyr y dasg o ddilyn dwy ‘daith’ ar-lein (a chreu recordiad sgrin ohonynt) cyn cymryd rhan yn y grwpiau er mwyn eu hannog i gofio’n gywir ac i ddeall yn well ystyriaethau prynu ‘yn y fan a’r lle’ wrth (a) archebu bwyd tecawê o rywle newydd a (b) ymchwilio i fwytai cyn cael pryd o fwyd ar achlysur arbennig. Roedd y sesiynau grŵp yn cynnwys y canlynol:

  • Archwilio profiadau defnyddwyr o ddefnyddio gwybodaeth i wneud penderfyniadau, a’u hagweddau at hyn; archwilio unrhyw anghenion heb eu diwallu; 
  • Deall ymatebion defnyddwyr i ddarparu data’r Cynllun ar-lein, a’r hyn sy’n llywio’r ymatebion hyn
  • Nodi’r ffordd orau i fanteisio i’r eithaf ar effeithiolrwydd system y Cynllun ar-lein.

Ar gyfer amcanion yr astudiaeth hon, defnyddiodd ymchwilwyr broses a elwir yn ddadansoddi thematig iteraidd, lle caiff themâu allweddol eu dethol trwy broses sy’n seiliedig ar brofiadau, trafodaethau ac archwilio data.

1.5 Sampl

Cynhaliwyd grwpiau ffocws yng Nghaerdydd (x2) a Wrecsam (x1) gyda chymysgedd o drigolion gwledig, maestrefol a threfol. Recriwtiwyd pob grŵp i gynnwys ystod o raddau cymdeithasol a chymysgedd cyfartal o ran rhywedd. Rhannwyd y ddau grŵp yng Nghaerdydd yn ôl oedran, gydag un grŵp hŷn (40+ oed) ac un iau (rhwng 18 a 39 oed), tra cafodd cyfranogwyr yng ngrŵp Wrecsam eu recriwtio i gynnwys ystod o oedrannau. Oherwydd y nifer cyfyngedig o grwpiau, gadawyd y Grŵp Economaidd Gymdeithasol (dosbarth cymdeithasol yn seiliedig ar incwm a galwedigaeth y penteulu) i syrthio allan, yn hytrach na’i bennu yn ôl cwota.

Recriwtiwyd yr ymatebwyr gan ddefnyddio sgriniwr recriwtio ansoddol a sicrhaodd eu bod yn bodloni’r holl feini prawf allweddol angenrheidiol ar gyfer cyfranogwyr, sef:

  • Ymwybyddiaeth o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
  • Eu bod wedi archebu bwyd ar-lein (tecawê) yn ystod y 12 mis diwethaf