Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Food Hygiene Rating Scheme Online Display in Wales: Research report

Arddangos y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd Ar-lein yng Nghymru: Rôl hylendid bwyd wrth wneud penderfyniadau

Penodol i Gymru

Mae'r adran hon yn edrych ar y gwahanol fathau o wybodaeth y mae defnyddwyr yn chwilio amdani wrth ddewis ble i brynu bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 29 June 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 29 June 2023

2.1 Mae hylendid a glendid ymhlith ystod eang o ffactorau y mae defnyddwyr yn eu gwerthfawrogi wrth wneud dewisiadau am fwyd

Mae defnyddwyr yn chwilio am wahanol fathau o wybodaeth wrth ddewis ble i brynu bwyd (boed fel tecawê, pryd eistedd i lawr, ac ati). Dywedodd cyfranogwyr wrthym am ystod eang o ffactorau gan gynnwys:

  • Ffactorau mwy ymarferol fel lleoliad, cyllideb, dewisiadau ar y fwydlen, darpariaethau parcio, cyfeillgar i blant, rhwyddineb parcio/teithio, yn darparu ar gyfer gofynion deietegol
  • Ffactorau mwy emosiynol, goddrychol fel blas bwyd, awyrgylch, tegwch brand  

Mae’r flaenoriaeth a roddir i’r ffactorau hyn yn dibynnu’n fawr ar yr unigolyn a’r achlysur penodol, fel gyda phwy arall y maent yn bwyta, eu hwyliau neu eu chwaeth bersonol. Fodd bynnag, mae hylendid a glendid bron bob amser yn cael eu cynnwys i ryw raddau yn y broses gyffredinol o wneud penderfyniadau.

2.2 Mae dod o hyd i wybodaeth am hylendid ar-lein yn arbennig o anodd 

Er y gallai defnyddwyr deimlo bod rhai ffactorau’n arbennig o bwysig yn eu proses gwneud penderfyniadau, nid yw hyn bob amser yn golygu gallu cael mynediad hawdd at wybodaeth am y ffactor hwnnw. Er enghraifft, mae’n dueddol o fod yn hawdd casglu gwybodaeth ar-lein am bethau fel dewisiadau ar y fwydlen, cyllideb neu leoliad, fel arfer trwy beiriant chwilio neu wefan y gweithredwr busnes bwyd ei hun.

Gall fod yn anoddach dod o hyd i wybodaeth am sut y bydd y bwyd yn blasu neu ‘ansawdd’ neu darddiad cynhwysion, er enghraifft. Yn yr un modd, dywedodd cyfranogwyr wrthym fod dod o hyd i wybodaeth am hylendid a glendid ar-lein yn arbennig o anodd. 

2.3 Ar hyn o bryd mae defnyddwyr yn aml yn defnyddio dirprwyon (proxies) i helpu i bennu lefelau hylendid a glendid

Er mwyn datrys y tensiwn hwn, mae pobl yn aml yn defnyddio dirprwyon i bennu hylendid a glendid. Ar safleoedd ffisegol gweithredwyr busnesau bwyd, gall defnyddwyr ddefnyddio ffactorau fel edrychiad a theimlad bwyty, ‘ymdeimlad’ o gegin lân (yn enwedig lle mae gan safle gegin ‘agored’), ansawdd gwasanaeth cwsmeriaid a chipolwg o’r bwyd sydd ar gael (ochr yn ochr â gwybodaeth am sgôr hylendid) i’w helpu i benderfynu a yw’r busnes yn hylan ai peidio. Ar-lein, mae gan ddefnyddwyr lai o opsiynau, ond gallant ddefnyddio adolygiadau cwsmeriaid a lluniau a rennir naill ai gan gwsmeriaid eraill neu’r gweithredwyr busnesau bwyd eu hunain i helpu i bennu hylendid a glendid.

“Weithiau byddaf yn eu ffonio er mwyn clywed eu llais… O siarad â rhywun, gallwch gael synnwyr o ran a yw’n fath o le yr hoffech chi fwyta ynddo” – Caerdydd

2.4 Mae gan ddefnyddwyr ddisgwyliadau o ran glendid ac ansawdd sefydliadau y tybir eu bod o safon uwch (higher end), tra bod mwy o bryderon ynghylch hylendid bwyd mewn siopau tecawê 

Ar gyfer sefydliadau safon uwch, mae tuedd i ddefnyddwyr gymryd hylendid bwyd da yn ganiataol, ac mae’n fwy o ddisgwyliad. I’r gwrthwyneb, mae hylendid yn fwy o bryder yn achos sefydliadau bwyd cyflym, siopau tecawê a sefydliadau bwyta anffurfiol (casual). Mae defnyddio sianeli ar-lein yn peri hyd yn oed yn fwy o bryder i ddefnyddwyr oherwydd y canlynol:

  1. Nid yw defnyddwyr yn gallu defnyddio ciwiau glendid ‘yn y siop’ fel ffordd cyflym o nodi hylendid bwyd
  2. Yn ddiweddar, mae’r cyfryngau wedi rhoi sylw i arferion busnes busnesau bwyd ar-lein, hynny yw “rhith-geginau” (dark kitchens), diffyg rheoli ansawdd gan agregwyr 

“[pan fyddwch chi ar-lein] nid oes modd gweld y sgôr ar y drws” – Wrecsam

“Roedd rhywbeth yn y newyddion heddiw – bod rhywrai wedi casglu ychydig o offer cegin a’u gosod mewn cabanau maes parcio ac roedden nhw’n gwneud y bwyd yno…. Nid oedd yn mynd i’r afael â materion hylendid a hylendid amgylcheddol…. Felly mae hynny yng nghefn fy meddwl” – Caerdydd