Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Food and You 2: Wave 5 Key Findings

Cylch 5: Pennod 3 Diogeledd bwyd

Mae’r bennod hon yn adrodd am lefelau diogeledd bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, a sut roedd diogeledd bwyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl.

Cyflwyniad

“Ceir diogeledd bwyd pan fo gan bawb, ar bob adeg, fynediad ffisegol ac economaidd at fwyd digonol, diogel a maethlon sy’n bodloni eu hanghenion deietegol a’u dewisiadau bwyd ar gyfer byw bywyd bywiog ac iach”. Uwchgynhadledd Bwyd y Byd, 1996.

Mae Bwyd a Chi 2 yn defnyddio Modiwl Arolwg Diogelwch Bwyd Oedolion yr Unol Daleithiau a ddatblygwyd gan Adran Amaeth yr Unol Daleithiau (USDA) i fesur diogeledd bwyd defnyddwyr.

Ceir rhagor o wybodaeth am sut y caiff diogeledd bwyd ei fesur, a sut y caiff dosbarthiadau eu neilltuo a’u diffinio, yn Atodiad A, ac ar wefan Diogeledd Bwyd yr USDA

Diogeledd bwyd 

Ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, cafodd 80% o’r ymatebwyr eu dosbarthu fel pobl â diogeledd bwyd (67% uchel, 13% ymylol), a chafodd 20% o’r ymatebwyr eu dosbarthu fel pobl â diffyg diogeledd bwyd (10% isel, 10% isel iawn)(footnote)

Ffigur 5. Diogeledd bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Mae manylion y graff i'w cael yn y testun.
Rhanbarth Uchel Ymylol Isel Isel iawn
Lloegr 67 13 10 9
Cymru 62 11 12 15
Gogledd Iwerddon 66 13 11 11

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 5

Roedd tua 8 o bob 10 o’r ymatebwyr â diogeledd bwyd (hynny yw, roedd ganddynt ddiogeledd bwyd uchel neu ymylol) yn Lloegr (80%) a Gogledd Iwerddon (78%) ac roedd 74% o’r ymatebwyr â diogeledd bwyd yng Nghymru. Roedd gan tua 2 o bob 10 o’r ymatebwyr  ddiffyg diogeledd bwyd (hynny yw, roedd ganddynt ddiogeledd bwyd isel neu isel iawn) yn Lloegr (20%) a Gogledd Iwerddon (22%) ac roedd 26% o’r ymatebwyr â diffyg diogeledd bwyd yng Nghymru (Ffigur 5).

Ffigur 6. Diogeledd bwyd yn ôl grŵp oedran

Mae manylion y graff i'w cael yn y testun.
Gr?p oedran Uchel Ymylol Isel Isel iawn
16-24 54 17 15 14
25-34 54 17 15 15
35-44 57 17 14 13
45-54 65 12 10 13
55-64 79 9 7 6
65-79 82 9 6 3
80+ 81 12 5 1

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 5

 Roedd diogeledd bwyd yn amrywio yn ôl grŵp oedran gydag oedolion hŷn yn fwy tebygol o ddweud bod ganddynt ddiogeledd bwyd ac yn llai tebygol o ddweud bod ganddynt ddiffyg diogeledd bwyd nag oedolion iau. Er enghraifft, roedd 29% (15% isel, 14% isel iawn) o’r ymatebwyr rhwng 16 a 24 oed â diffyg diogeledd bwyd o gymharu â 6% (5% isel, 1% isel iawn) o’r rheiny 80 oed a hŷn (Ffigur 6).

Ffigur 7. Diogeledd bwyd yn ôl incwm y cartref

Mae manylion y graff i'w cael yn y testun.
Arian Uchel Ymylol Isel Isel iawn
Llai na �19,000 42 15 19 24
�19,000 - �31,999 60 17 10 13
�32,000 - �63,999 75 12 8 5
�64,000 - �95,999 90 5 5
More than �96,000 91 7 2

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 5

Roedd diogeledd bwyd yn gysylltiedig ag incwm y cartref. Roedd yr ymatebwyr ag incwm is yn fwy tebygol o ddweud bod ganddynt ddiffyg ddiogeledd bwyd na’r rheiny ag incwm uwch. Er enghraifft, nododd 43% o’r rheiny ag incwm cartref blynyddol o lai na £19,000 ddiffyg diogeledd bwyd (19% isel, 24% isel iawn) o gymharu â 2% (2% isel, 0% isel iawn) o’r rheiny ag incwm o £96,000 neu fwy (Ffigur 7).

Ffigur 8. Diogeledd bwyd yn ôl dosbarthiad NS-SEC

Mae manylion y graff i'w cael yn y testun.
Dosbarthiad NS-SEC Uchel Ymylol Isel Isel iawn
Myfyriwr amser llawn 56 17 16 11
Di-waith yn hirdymor neu erioed wedi gweithio 36 5 17 42
Galwedigaethau ailadroddus a lled-ailadroddus 51 20 16 13
Galwedigaethau goruchwylio a thechnegol is 60 18 9 12
Cyflogwyr bach a gweithwyr ar eu liwt eu hunain 71 13 8 8
Galwedigaethau canolradd 65 17 10 9
Galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol 75 10 8 7

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 5

Roedd ymatebwyr a oedd yn ddi-waith am gyfnod hir a/neu nad oeddent erioed wedi gweithio (59%) yn fwyaf tebygol o nodi bod ganddynt ddiffyg diogeledd bwyd o gymharu â’r holl grwpiau galwedigaethol eraill. Roedd y rheiny a oedd mewn galwedigaethau gwaith ailadroddus a lled-ailadroddus (29%), a myfyrwyr amser llawn (27%) yn fwy tebygol o fod â diffyg diogeledd bwyd na llawer o grwpiau galwedigaethau eraill (er enghraifft, 15% o’r rheiny mewn grwpiau galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol) (Ffigur 8).

Roedd lefel diffyg diogeledd bwyd a nodwyd hefyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:

  • Maint y cartref: roedd cartrefi â 5 neu fwy o bobl (29%) yn fwy tebygol o nodi bod ganddynt ddiffyg diogeledd bwyd o gymharu â’r rheiny mewn cartrefi 1 person (19%) neu 2 berson (15%).
  • Plant dan 16 oed yn y cartref: Dywedodd 29% o’r cartrefi â phlant dan 16 oed fod ganddynt ddiffyg diogeledd bwyd o gymharu â 17% o’r cartrefi heb blant o dan 16 oed.
  • Rhanbarth (Lloegr): roedd diffyg diogeledd bwyd yn amrywio fesul rhanbarth yn Lloegr. Er enghraifft, roedd ymatebwyr a oedd yn byw yng Ngogledd-orllewin Lloegr (25%) a Swydd Efrog a’r Humber (25%) yn fwy tebygol o nodi bod ganddynt ddiffyg diogeledd bwyd o gymharu â’r rheiny a oedd yn byw yn Ne-ddwyrain (13%) a De-orllewin Lloegr (15%).
  • Cyflwr iechyd hirdymor: roedd ymatebwyr a oedd â chyflwr iechyd hirdymor (29%) yn fwy tebygol o ddweud bod ganddynt ddiffyg diogeledd bwyd o gymharu â’r rheiny heb gyflwr iechyd hirdymor (16%). 

Defnyddio banciau bwyd

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a ydyn nhw, neu unrhyw un arall yn eu cartref, wedi cael parsel bwyd am ddim gan fanc bwyd neu ddarparwr bwyd brys arall yn ystod y 12 mis diwethaf. Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (95%) nad oeddent wedi defnyddio banc bwyd neu ddarparwr bwyd brys arall yn ystod y 12 mis diwethaf; nododd 3% o’r ymatebwyr eu bod wedi gwneud hynny(footnote).  

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedd wedi cael parsel bwyd gan fanc bwyd neu ddarparwr arall nodi pa mor aml yr oeddent wedi cael parsel bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf. O blith yr ymatebwyr hyn, roedd 34% wedi cael parsel bwyd ar un achlysur yn unig yn ystod y 12 mis diwethaf; roedd 40% wedi cael parsel bwyd ar fwy nag un achlysur ond yn llai aml na phob mis; ac roedd 5% wedi cael parsel bwyd bob mis neu’n amlach(footnote).

Prydau ysgol am ddim

Gofynnwyd i’r ymatebwyr â phlant rhwng 7 a 15 oed yn eu cartref a yw eu plant yn cael prydau ysgol am ddim. Dywedodd y rhan fwyaf (74%) o’r ymatebwyr gyda phlentyn/plant rhwng 7 a 15 oed yn eu cartref nad oedd y plentyn/plant yn cael prydau ysgol am ddim. Nododd oddeutu un o bob pedwar (24%) o’r ymatebwyr fod y plentyn/plant yn cael prydau ysgol am ddim(troednodyn)

Roedd y nifer yr adroddwyd eu bod yn cael prydau ysgol am ddim hefyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:

  • Incwm blynyddol y cartref: roedd yr ymatebwyr ag incwm is yn fwy tebygol o ddweud eu plentyn/plant yn cael prydau ysgol am ddim o gymharu â’r rheiny ag incwm is. Er enghraifft, dywedodd 47% o’r ymatebwyr ag incwm o lai na £19,000 fod y plentyn/plant yn cael prydau ysgol am ddim o gymharu â 9% o’r rheiny ag incwm rhwng £32,000 a £63,000. 
  • Diogeledd bwyd: roedd yr ymatebwyr â diogeledd bwyd isel (37%) neu isel iawn (45%) yn fwy tebygol o adrodd bod y plentyn/plant yn cael prydau ysgol am ddim o gymharu â’r rheiny â diogeledd bwyd uchel (16%) neu ymylol (17%).