Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Food and You 2: Wave 5 Key Findings

Prif Ganfyddiadau Cylch 5: Cyflwyniad

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn adran lywodraethol anweinidogol sy’n gweithio i ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau ehangach defnyddwyr mewn perthynas â bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 16 March 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 16 March 2023

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd: ei rôl, ei chylch gwaith, a’i chyfrifoldebau 

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn adran lywodraethol anweinidogol sy’n gweithio i ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau ehangach defnyddwyr mewn perthynas â bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon(footnote). Cenhadaeth gyffredinol yr ASB yw sicrhau ‘bwyd y gallwch ymddiried ynddo’. Gweledigaeth yr ASB, fel y’i nodir yn strategaeth 2022-2027, yw system fwyd sy’n gwireddu’r gosodiadau canlynol:

  • Mae bwyd yn ddiogel
  • Mae bwyd yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label
  • Mae bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy

Bwriedir i arolwg Bwyd a Chi 2 fonitro cynnydd yr ASB yn erbyn y weledigaeth hon a llywio penderfyniadau polisi trwy fesur yn rheolaidd yr wybodaeth, yr agweddau a’r ymddygiadau o ran diogelwch bwyd a materion bwyd eraill a gofnodir gan ddefnyddwyr eu hunain yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. 

Bwyd a Chi 2: Cylch 5

Bwyd a Chi 2: Casglwyd data Cylch 5 rhwng 63T26 Ebrill a 24 Gorffennaf 2022. Cwblhawyd yr arolwg gan 6,770 o oedolion o 4,727 o gartrefi ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon (sef cyfradd ymateb gyffredinol o 29.3%). 

Bwyd a Chi 2: Casglwyd data Cylch 5 yn ystod cyfnod o newid ac ansicrwydd gwleidyddol ac economaidd yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig (DU) â’r Undeb Ewropeaidd (UE) yn 2020 a’r pandemig COVID-19. Mae’r cyd-destun hwn yn debygol o fod wedi cael effaith ar y lefelau diogeledd bwyd, y pryderon a’r ymddygiadau sy’n ymwneud â bwyd a nodwyd yn yr arolwg Bwyd a Chi 2(footnote).

Arolwg sy’n seiliedig ar fodiwlau yw Bwyd a Chi 2, gyda modiwlau ‘craidd’ sy’n cael eu cynnwys ym mhob cylch, modiwlau ‘cylchdro’ sy’n cael eu hailadrodd bob blwyddyn neu bob dwy flynedd, a modiwlau ‘unigryw’ sy’n cael eu cynnwys unwaith yn unig. Mae’r modiwlau a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn cynnwys y canlynol: ‘Bwyd y gallwch ymddiried ynddo’ (craidd); ‘Pryderon am fwyd’ (craidd); ‘Diogeledd bwyd’ (craidd); ‘Bwyta gartref’ (cylchdro); ‘Siopa bwyd’ (cylchdro).

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno prif ganfyddiadau arolwg Bwyd a Chi 2: Arolwg Cylch 5. Nid yw’r holl gwestiynau a ofynnir yn arolwg Cylch 5 wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Mae’r canlyniadau llawn ar gael yn y tablau data a’r set ddata lawn cysylltiedig.   

Dehongli’r canfyddiadau 

I dynnu sylw at y prif wahaniaethau rhwng grwpiau cymdeithasol-ddemograffig ac is-grwpiau eraill, dim ond pan fo’r gwahaniaeth absoliwt yn 10 pwynt canran neu ragor ac yn ystadegol arwyddocaol ar y lefel 5% (p<0.05) y byddwn fel arfer yn tynnu sylw at wahaniaethau yn y proffiliau ymateb. Fodd bynnag, mae rhai gwahaniaethau rhwng grwpiau cymdeithasol-ddemograffig ac is-grwpiau eraill wedi’u cynnwys lle bo’r gwahaniaeth yn llai na 10 pwynt canran pan dybir bod y canfyddiad yn nodedig neu’n ddiddorol. Rhoddir seren ddwbl (**) i nodi’r gwahaniaethau hyn. 

Mewn rhai achosion, nid oedd yn bosib cynnwys data pob is-grŵp, ond mae’r cyfryw ddadansoddiadau ar gael yn y set ddata lawn a’r tablau data. Darperir gwybodaeth bwysig am bob cwestiwn yr adroddir amdano yn y troednodiadau, gan gynnwys:   

  • Geiriad y cwestiwn (cwestiwn) a’r dewisiadau o ymateb (ymatebion). 
  • Nifer yr ymatebwyr y cyflwynwyd y cwestiwn iddynt, a disgrifiad o’r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn (sylfaen = N).
  • Mae ‘Pwysig:’ yn tynnu sylw at bwyntiau pwysig i’w hystyried wrth ddehongli’r canlyniadau.  

 

Cynlluniau cyhoeddi yn y dyfodol

Ymhlith y modiwlau y disgwylir yr adroddir arnynt yn yr arolwg Bwyd a Chi 2: Prif Ganfyddiadau Cylch 6, mae ‘Bwyd y gallwch ymddiried ynddo’ (craidd), ‘Pryderon am fwyd’ (craidd), ‘Diogeledd bwyd’ (craidd), ’Gorsensitifrwydd i fwyd’, (cylchdro) a ‘Bwyta gartref’ (craidd).