Cylch 5: Pennod 7 Ymddygiadau sy’n gysylltiedig â bwyd ac arferion bwyta
Mae'r bennod hon yn amlinellu arferion siopa bwyd, diogelwch bwyd yn y cartref, a yw bwydydd penodol yn cael eu bwyta, ac a yw eu harferion bwyta wedi newid.
Cyflwyniad
Mae’r ASB yn gweithio i ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau ehangach defnyddwyr. Er mwyn monitro amrywiaeth o ymddygiadau sy’n ymwneud â bwyd, mae Bwyd a Chi 2 yn gofyn i ymatebwyr am eu harferion siopa bwyd, diogelwch bwyd yn y cartref, a yw bwydydd penodol yn cael eu bwyta, ac a yw eu harferion bwyta wedi newid.
Ffigur 23. Newidiadau i arferion bwyta dros y 12 mis diwethaf
Lawrlwytho’r siart hon
Roedd arferion bwyta y rhan fwyaf o’r ymatebwyr wedi newid, gyda dim ond 24% o’r ymatebwyr yn dweud nad oedd eu harferion bwyta wedi newid o gwbl yn ystod y 12 mis diwethaf. Roedd y newidiadau mwyaf cyffredin yn ymwneud â’r hyn roedd ymatebwyr yn ei fwyta a ble (47% yn bwyta allan yn llai aml, 41% yn bwyta llai o brydau tecawê, 41% yn coginio gartref yn amlach, 40% yn bwyta gartref yn amlach), lleihau costau bwyd (40% yn prynu eitemau ar gynnig arbennig, 34% yn newid y bwyd maent yn ei brynu er mwyn cael dewisiadau rhatach, 33% yn newid lle maent yn prynu bwyd er mwyn cael dewisiadau rhatach) a chynyddu ymddygiadau rheoli bwyd cadarnhaol (24% yn paratoi bwyd y gellir ei gadw fel bwyd dros ben, 24% yn paratoi mwy o focsys bwyd). Yn ogystal, dywedodd 17% o’r ymatebwyr eu bod wedi prynu bwyd yn nes at ei ddyddiad ‘defnyddio erbyn’; roedd 11% wedi bwyta bwyd heibio ei ddyddiad ‘defnyddio erbyn’ ac roedd 11% wedi cadw bwyd dros ben yn hirach cyn ei fwyta (Ffigur 23)(footnote).
Gofynnwyd i’r ymatebwyr a ddywedodd eu bod wedi newid eu harferion bwyta yn ystod y 12 mis diwethaf nodi pam roedd eu harferion bwyta wedi newid. Y prif resymau a roddwyd dros newid arferion bwyta oedd rhesymau ariannol (69%) rhesymau iechyd (47%) ac oherwydd COVID-19 a’r cyfnod clo (41%). Nododd cyfran fach o’r ymatebwyr newidiadau mewn arferion bwyta oherwydd rhesymau diogelwch bwyd (hynny yw, er mwyn osgoi gwenwyn bwyd) (6%)(footnote).
Roedd y tebygolrwydd bod pobl wedi newid eu harferion bwyta am resymau ariannol, yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:
- Grŵp oedran: roedd yr ymatebwyr rhwng 25 a 54 oed (er enghraifft, 84% o’r rheiny 25-34 oed) yn fwy tebygol o fod wedi gwneud newidiadau i arferion bwyta am resymau ariannol o gymharu â’r ymatebwyr 16-24 oed (63%), a’r ymatebwyr 65-79 oed (48%) oedd y lleiaf tebygol o fod wedi gwneud newidiadau i arferion bwyta am resymau ariannol.
- Incwm blynyddol y cartref: roedd yr ymatebwyr ag incwm is yn fwy tebygol o fod wedi newid eu harferion bwyta am resymau ariannol o gymharu â’r rheiny ag incwm uwch. Er enghraifft, roedd 74% o’r rheiny ag incwm blynyddol o lai na £19,000 wedi gwneud newidiadau i arferion bwyta am resymau ariannol o gymharu â 55% o’r rheiny ag incwm blynyddol o fwy na £96,000.
- NS-SEC: roedd yr ymatebwyr mewn galwedigaethau gwaith ailadroddus a lled-ailadroddus (78%) a galwedigaethau goruchwylio a thechnegol is (76%) yn fwy tebygol o fod wedi gwneud newidiadau i arferion bwyta oherwydd rhesymau ariannol o gymharu â’r rheiny yn y rhan fwyaf o grwpiau galwedigaethol eraill. Myfyrwyr amser llawn (58%) oedd y lleiaf tebygol o fod wedi gwneud newidiadau i arferion bwyta am resymau ariannol.
- Rhanbarth (Lloegr): roedd y tebygolrwydd bod yr ymatebwyr wedi gwneud newidiadau i arferion bwyta oherwydd rhesymau ariannol yn amrywio fesul rhanbarth. Er enghraifft, roedd yr ymatebwyr yn Ne-orllewin Lloegr (79%) a Gogledd-orllewin Lloegr (76%) yn fwy tebygol o fod wedi gwneud newidiadau i arferion bwyta am resymau ariannol o gymharu â’r rheiny yn Llundain (62%) a Gorllewin Canolbarth Lloegr (63%).
- Diogeledd bwyd: roedd yr ymatebwyr â lefelau isel iawn o ddiogeledd bwyd (97%) neu lefelau isel (82%) yn fwy tebygol o fod wedi gwneud newidiadau i arferion bwyta am resymau ariannol o gymharu â’r rheiny â lefelau ymylol o ddiogeledd bwyd (71%), a’r rheiny â lefel uchel o fwyd ddiogeledd bwyd (60%) oedd y lleiaf tebygol o fod wedi gwneud newidiadau i arferion bwyta am resymau ariannol.
- Grŵp ethnig: Mae 71% o’r ymatebwyr gwyn wedi gwneud newidiadau i arferion bwyta oherwydd rhesymau ariannol o gymharu â 60% o’r ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig.
- Cyfrifoldeb dros goginio: roedd yr ymatebwyr a oedd yn gyfrifol am goginio (70%) yn fwy tebygol o fod wedi gwneud newidiadau i arferion bwyta am resymau ariannol o gymharu â’r rheiny nad ydynt yn coginio (55%).