Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Food and You 2: Wave 4 Key findings

Pennod 4: Bwyta allan a bwyd tecawê

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg ar arferion bwyta allan ac archebu bwyd tecawê yr ymatebwyr, y ffactorau sy’n cael eu hystyried wrth benderfynu o ble i archebu bwyd tecawê, ac adnabod a defnyddio’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Awst 2022

Cyflwyniad

Mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn helpu pobl i wneud dewisiadau gwybodus o ran ble i fwyta allan neu siopa am fwyd trwy roi gwybodaeth glir am safonau hylendid busnesau. Fel arfer rhoddir sgoriau i leoedd lle caiff bwyd ei gyflenwi, ei werthu, neu ei fwyta, gan gynnwys bwytai, tafarndai, caffis, siopau tecawê, a faniau a stondinau bwyd.

Mae’r ASB yn rhoi’r cynllun ar waith mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae swyddog diogelwch bwyd o’r awdurdod lleol yn arolygu busnesau i wneud yn siŵr eu bod yn dilyn y gyfraith hylendid bwyd er mwyn i’r bwyd fod yn ddiogel i’w fwyta. Rhoddir sgôr i fusnesau, rhwng 0 a 5. Mae sgôr o 5 yn dangos bod safonau hylendid yn dda iawn, ac mae sgôr o 0 yn dangos bod angen gwella ar frys.

Mae busnesau bwyd yn cael sticer sy’n dangos eu sgôr o dan y Cynllun. Yn Lloegr, caiff busnesau eu hannog i arddangos eu sgôr, ond yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, mae’n rhaid i fusnesau bwyd arddangos eu sgôr yn ôl y gyfraith(footnote). Mae’r sgoriau hefyd ar gael ar wefan yr ASB.

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg ar arferion bwyta allan ac archebu bwyd tecawê yr ymatebwyr, y ffactorau sy’n cael eu hystyried wrth benderfynu o ble i archebu bwyd tecawê, a chydnabod a defnyddio’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.

Amlder bwyta allan ac archebu bwyd tecawê 

Ffigur 9: Math o fusnes bwyd yr oedd ymatebwyr wedi bwyta ynddo neu wedi archebu bwyd ohono yn ystod y 4 wythnos flaenorol

Ffigur 9: Math o fusnes bwyd yr oedd ymatebwyr wedi bwyta ynddo neu wedi archebu bwyd ohono yn ystod y 4 wythnos flaenorol
Math o fusnes bwyd Canran yr ymatebwyr
Dim un o'r rhain 9
Facebook Marketplace 0
Ap rhannu bwyd 2
Cerbyd bwyd neu stondin fwyd 9

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4

Gofynnwyd i’r ymatebwyr ble roeddent wedi bwyta allan neu o ble roeddent wedi archebu bwyd yn ystod y 4 wythnos flaenorol. Roedd tua hanner yr ymatebwyr wedi bwyta allan mewn bwyty (53%), o gaffi, siop goffi neu siop frechdanau (naill ai i’w fwyta ar y safle neu i’w gymryd i ffwrdd) (52%) neu wedi archebu bwyd tecawê yn uniongyrchol o siop tecawê neu fwyty (50%) ac roedd 43% wedi bwyta allan mewn tafarn neu far. Roedd dros draean o’r ymatebwyr wedi bwyta bwyd o siop bwyd brys (naill ai i’w fwyta ar y safle neu i’w gymryd i ffwrdd) (38%) neu wedi archebu bwyd tecawê gan gwmni dosbarthu bwyd ar-lein (er enghraifft, Just Eat, Deliveroo, Uber Eats) (35%). Nid oedd tua 1 o bob 10 o’r ymatebwyr (9%) wedi bwyta yn unrhyw un o’r busnesau bwyd a restrwyd yn ystod y 4 wythnos flaenorol (Ffigur 9)(footnote).

Ffigur 10: Nifer y bobl sy’n bwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far, neu o siop tecawê yn ôl grŵp oedran yn ystod y 4 wythnos flaenorol

Ffigur 10: Nifer y bobl sy’n bwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far, neu o siop tecawê yn ôl grŵp oedran yn ystod y 4 wythnos flaenorol
Gr?p oedran Wedi bwyta mewn bwyty, tafarn neu far Wedi bwyta o siop tecaw�, wedi archebu yn uniongyrchol neu ar-lein
16-24 72 75
25-34 73 80
35-44 66 79
45-54 67 75

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4

Roedd ymatebwyr iau yn fwy tebygol o fod wedi bwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far, neu o siop tecawê (wedi’i archebu’n uniongyrchol neu ar-lein) yn ystod y 4 wythnos flaenorol o gymharu ag ymatebwyr hŷn. Er enghraifft, roedd 73% o ymatebwyr rhwng 25 a 34 oed wedi bwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far o gymharu â 55% o’r rheiny sy’n 75 oed neu’n hŷn. Yn yr un modd, roedd 80% o ymatebwyr rhwng 25 a 34 oed wedi bwyta bwyd o siop tecawê (wedi’i archebu’n uniongyrchol neu ar-lein) o gymharu ag 28% o’r rheiny sy’n 75 oed neu’n hŷn (Ffigur 10).

Ffigur 11: Nifer y bobl sy’n bwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far, neu o siop tecawê yn ôl incwm blynyddol y cartref yn ystod y 4 wythnos flaenorol

Ffigur 11: Nifer y bobl sy’n bwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far, neu o siop tecawê yn ôl incwm blynyddol y cartref yn ystod y 4 wythnos flaenorol
Incwm blynyddol y cartref Wedi bwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far Wedi bwyta bwyd o siop tecaw�, wedi'i archebu'n uniongyrchol neu ar-lein
Llai na �19,000 53 55
�19,000 - �31,999 63 65
�32,000 - �63,999 76 68
�64,000 - �95,999 80 76

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4

Roedd ymatebwyr ag incwm y cartref uwch yn fwy tebygol o fod wedi bwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far, neu wedi bwyta bwyd o siop tecawê (wedi’i archebu’n uniongyrchol neu ar-lein) yn y 4 wythnos flaenorol o gymharu ag ymatebwyr ag incwm is. Er enghraifft, roedd 86% o ymatebwyr ag incwm o £96,000 neu fwy wedi bwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far o gymharu â 53% o’r rheiny ag incwm o £19,000 neu lai. Yn yr un modd, roedd 84% o ymatebwyr ag incwm o £96,000 neu fwy wedi bwyta bwyd o siop tecawê (wedi’i archebu’n uniongyrchol neu ar-lein) o gymharu â 55% o’r rheiny ag incwm o £19,000 neu lai (Ffigur 11).

Roedd amlder bwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far neu fwyta bwyd o siop tecawê (wedi’i archebu’n uniongyrchol neu ar-lein) yn ystod y 4 wythnos flaenorol hefyd yn amrywio rhwng gwahanol fathau o bobl yn y ffyrdd canlynol:

  • Maint y cartref: roedd ymatebwyr a oedd yn byw mewn cartrefi mwy yn fwy tebygol o fod wedi bwyta bwyd o siop tecawê na’r rheiny a oedd yn byw mewn cartrefi llai.  Er enghraifft, roedd 80% o’r ymatebwyr a oedd yn byw mewn cartrefi 4 person wedi bwyta bwyd o siop tecawê o gymharu â 40% o’r ymatebwyr a oedd yn byw ar eu pennau eu hunain. 
  • Plant dan 16 oed yn y cartref: roedd ymatebwyr a oedd â phlant yn y cartref (77%) yn fwy tebygol o fod wedi bwyta bwyd o siop tecawê na’r rhai nad oedd ganddynt blant 16 oed neu iau yn y cartref (59%). Fodd bynnag, nid oedd nifer yr achosion o fwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far yn amrywio rhwng y rheiny â phlant (66%) neu heb blant (66%) 16 oed neu iau yn y cartref**.
  • NS-SEC: roedd myfyrwyr llawn amser a’r rheiny mewn rhai grwpiau galwedigaethol yn fwy tebygol o fod wedi bwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far neu wedi bwyta bwyd o siop tecawê o gymharu â’r rheiny mewn grwpiau galwedigaethol eraill neu’r rheiny a oedd yn ddi-waith am gyfnod hir ac/neu erioed wedi gweithio. Er enghraifft, roedd 74% o fyfyrwyr llawn amser a 69% o’r rheiny mewn galwedigaethau canolradd wedi bwyta bwyd o siop tecawê o gymharu â 60% o’r rheiny mewn galwedigaethau lled-reolaidd a rheolaidd a 53% o’r rheiny a oedd yn ddi-waith am gyfnod hir a/neu erioed wedi gweithio. Yn yr un modd, roedd 75% o fyfyrwyr llawn amser a 73% o’r rheiny mewn swyddi rheoli, gweinyddol a phroffesiynol wedi bwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far o gymharu â 47% o’r rheiny mewn galwedigaethau lled-reolaidd a rheolaidd a 31% o’r rheiny a oedd yn ddi-waith am gyfnod hir a/neu nad oedd erioed wedi gweithio.
  • Trefol/gwledig: roedd ymatebwyr a oedd yn byw mewn ardal drefol (66%) yn fwy tebygol o fod wedi bwyta bwyd o siop tecawê na’r rheiny a oedd yn byw mewn ardal wledig (54%). Fodd bynnag, nid oedd nifer yr achosion o fwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far yn amrywio rhwng y rheiny a oedd yn byw mewn ardaloedd trefol (66%) neu wledig (66%)**. 
  • Diogeledd bwyd: roedd ymatebwyr â diogeledd bwyd uchel (71%) neu ymylol (64%) yn fwy tebygol o fod wedi bwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far na’r rheiny â diogeledd bwyd isel (48%) neu isel iawn (48%). Fodd bynnag, nid oedd nifer yr achosion o fwyta bwyd o siop tecawê yn gwahaniaethu’n fawr rhwng y rheiny â lefelau gwahanol o ddiogeledd bwyd (er enghraifft, 66% o’r rheiny â diogeledd bwyd isel iawn o gymharu â 62% o’r rheiny â diogeledd bwyd uchel). 
  • Grŵp ethnig: roedd ymatebwyr gwyn (67%) yn fwy tebygol o fod wedi bwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far o gymharu ag ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (54%). Fodd bynnag, roedd ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (73%) yn fwy tebygol o fod wedi bwyta bwyd o siop tecawê o gymharu ag ymatebwyr gwyn (62%).
  • Cyflwr iechyd hirdymor: roedd ymatebwyr heb unrhyw gyflwr iechyd hirdymor (71%) yn fwy tebygol o fod wedi bwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far o gymharu ag ymatebwyr â chyflwr iechyd hirdymor (58%). Fodd bynnag, nid oedd gwahaniaeth mawr rhwng amlder bwyta bwyd o siop tecawê rhwng y rheiny â chyflwr iechyd hirdymor (58%) neu heb gyflwr iechyd hirdymor** (66%).

Bwyta allan a bwyd tecawê yn ôl pryd

Ffigur 12: Amlder bwyta allan neu brynu bwyd tecawê yn ôl pryd

Ffigur 12: Amlder bwyta allan neu brynu bwyd tecawê yn ôl pryd
Amlder Brecwast Cinio Swper
Tua unwaith yr wythnos neu'n amlach 9 23 24
Tua 2-3 gwaith yr wythnos 34 52 59
Byth 55 23 16

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4

Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa mor aml roeddent yn bwyta allan neu’n prynu bwyd tecawê i frecwast, cinio a swper.  Roedd ymatebwyr yn lleiaf tebygol o fwyta allan neu brynu tecawê i frecwast, gyda 55% o’r ymatebwyr erioed yn gwneud hyn. Dywedodd tua hanner yr ymatebwyr (52%) eu bod yn bwyta allan neu’n prynu bwyd tecawê i ginio 2-3 gwaith y mis neu’n llai aml. Roedd ymatebwyr yn fwyaf tebygol o fwyta allan neu brynu bwyd tecawê i swper, gyda 59% yn gwneud hyn 2-3 gwaith y mis neu’n llai aml a 24% yn gwneud hyn tua unwaith yr wythnos neu’n amlach (Ffigur 12)(footnote).

Y ffactorau y bydd pobl yn eu hystyried pan fyddant yn archebu bwyd tecawê

Gofynnwyd i ymatebwyr pa ffactorau, o restr benodol, y byddent yn eu hystyried yn gyffredinol wrth benderfynu o ble i archebu bwyd tecawê(footnote)

Ffigur 13: Y ffactorau y bydd pobl yn eu hystyried pan fyddan nhw’n archebu bwyd tecawê

Ffigur 13: Y ffactorau y bydd pobl yn eu hystyried pan fyddan nhw’n archebu bwyd tecawê
Ffactor a ystyriwyd Canran yr ymatebwyr
Gwybodaeth am galor�au a ddarperir" 2
Gwybodaeth am alergenau a ddarperir 5
Dewisiadau iachach a ddarperir 8

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4

O blith y rheiny a oedd wedi archebu bwyd o siop tecawê, profiad blaenorol yr ymatebwyr o’r siop tecawê (80%) ac ansawdd y bwyd (75%) oedd y ffactorau mwyaf cyffredin y byddai’r ymatebwyr yn eu hystyried pan fyddant yn penderfynu o ble i archebu bwyd tecawê (75%). Roedd tua 4 o bob 10 (38%) o’r ymatebwyr wedi ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu o ble i archebu bwyd tecawê (Ffigur 13)(footnote).

Ymwybyddiaeth ac adnabyddiaeth o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd

Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (89%) eu bod wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd. Dywedodd dros hanner (59%) yr ymatebwyr eu bod wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd a bod ganddynt o leiaf ychydig o wybodaeth amdano(footnote)(footnote).

Ffigur 14: Canran o’r ymatebwyr a oedd wedi clywed am y Cynllun Sgorio fesul gwlad

Ffigur 14: Canran o’r ymatebwyr a oedd wedi clywed am y Cynllun Sgorio fesul gwlad
Gwlad Wedi clywed am y Cynllun Sgorio Erioed wedi clywed am y Cynllun Sgorio
Lloegr 89 11
Cymru 95 5
Gogledd Iwerddon 92 8

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4

Most respondents living in England (89%), Wales (95%), and Northern Ireland (92%) had Roedd y rhan fwyaf o ymatebwyr a oedd yn byw yn Lloegr (89%), Cymru (95%), a Gogledd Iwerddon (92%) wedi clywed am yr Asiantaeth Safonau Bwyd (Ffigur 14)**.

Roedd ymatebwyr yng Nghymru (74%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi clywed am y Cynllun Sgorio a bod ganddynt o leiaf rywfaint o wybodaeth am y Cynllun o gymharu â’r rheiny yn Lloegr (57%) a Gogledd Iwerddon (65%)**.

Pan ddangoswyd delwedd sticer y Cynllun iddynt, nododd y mwyafrif (88%) o’r ymatebwyr eu bod wedi ei weld o’r blaen. Roedd adnabyddiaeth o sticer y Cynllun yn debyg ledled Cymru (95%), Lloegr (87%) a Gogledd Iwerddon (94%) **(footnote).

Defnydd y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd

Gofynnwyd i ymatebwyr a oeddent wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf. Dywedodd tua 4 o bob 10 (41%) o’r ymatebwyr eu bod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes yn ystod y 12 mis blaenorol(footnote).

Roedd ymatebwyr a oedd yn byw yng Nghymru (54%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf o gymharu ag ymatebwyr yn Lloegr (40%) a Gogledd Iwerddon (46%)**. 

Ffigur 15: Busnesau bwyd lle’r oedd yr ymatebwyr wedi gwirio'r sgôr hylendid bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf

Ffigur 15: Busnesau bwyd lle’r oedd yr ymatebwyr wedi gwirio'r sgôr hylendid bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf
Busnesau bwyd Canran yr ymatebwyr
Mewn siopau bwyd eraill 5
Ar stondinau marchnad/bwyd stryd 6
Mewn ysgolion, ysbytai a sefydliadau eraill 7
Mewn archfarchnadoedd 12

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a ddywedodd eu bod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf pa fathau o fusnesau bwyd yr oeddent wedi’u gwirio. Y mathau mwyaf cyffredin o fusnesau bwyd yr oedd ymatebwyr wedi gwirio eu sgôr bwyd oedd siopau bwyd tecawê (70%) a bwytai (69%). Roedd ymatebwyr yn llai tebygol o ddweud eu bod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd caffis (46%), siopau coffi neu frechdanau (33%) neu dafarndai (32%) (Ffigur 15)(footnote)