Pennod 8: Deietau cynaliadwy, dewisiadau amgen i gig a thechnolegau genetig
Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o wybodaeth, agweddau ac ymddygiad ymatebwyr mewn perthynas â bwydydd cynaliadwy, dewisiadau amgen i gig a thechnolegau genetig.
Cyflwyniad
Gweledigaeth yr ASB fel y’i hamlinellir yn strategaeth 2022-2027 yw system fwyd lle mae ‘bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy’. Mae hyn yn rhoi ystyriaeth i iechyd a chynaliadwyedd deietegol fel bllaenoriaethau cynyddol ar gyfer Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, a defnyddwyr.
Mae gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) gylch gwaith eang ac mae’n chwarae rhan fawr wrth gynyddu cynaliadwyedd, cynhyrchiant a gwytnwch y sectorau amaethyddiaeth, pysgota, bwyd a diod, gwella bioddiogelwch ar y ffin, a chodi safonau lles anifeiliaid. Yn ogystal, mae Defra yn goruchwylio’r gwaith o reoleiddio technolegau genetig fel organebau a addaswyd yn enetig (GMO) ac organebau sydd wedi bod yn destun golygu genynnau (GE).
Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o wybodaeth, agweddau ac ymddygiad ymatebwyr mewn perthynas â bwydydd cynaliadwy, dewisiadau amgen i gig a thechnolegau genetig. Cyd-ariannodd Defra gwestiynau yn y bennod hon sy’n ymwneud ag effaith amgylcheddol a chynaliadwyedd bwyd.
Newidiadau i arferion bwyta ac ymddygiadau sy’n gysylltiedig â bwyd
Ffigur 25: Newidiadau a wnaed gan ymatebwyr yn ystod y 12 mis blaenorol
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4
Gofynnwyd i’r ymatebwyr, pa newidiadau, o restr o opsiynau, a wnaed ganddynt yn ystod y 12 mis blaenorol, os o gwbl. Y newidiadau mwyaf cyffredin a nodwyd gan ymatebwyr oedd bwyta llai o fwyd wedi’i brosesu (40%) a dechrau lleihau gwastraff bwyd (40%). Dywedodd bron i draean yr ymatebwyr eu bod wedi dechrau bwyta mwy o ffrwythau a llysiau (32%), wedi dechrau prynu bwyd gydag ychydig iawn o ddeunydd pecynnu neu ddim deunydd pecynnu o gwbl (31%) a/neu wedi bwyta llai o gig, dofednod neu bysgod (28%) yn ystod y 12 mis blaenorol. Dywedodd tua chwarter (26%) yr ymatebwyr eu bod wedi dechrau prynu bwyd a gynhyrchwyd yn lleol neu fwyd yn ei dymor. Fodd bynnag, dywedodd 15% o’r ymatebwyr nad oeddent wedi gwneud unrhyw un o’r newidiadau a restrwyd yn ystod y 12 mis blaenorol (Ffigur 25)(footnote).
Cig, dofednod a physgod: newidiadau mewn arferion bwyta
Ffigur 26: Mathau o gig, dofednod neu bysgod yr oedd ymatebwyr wedi bwyta llai ohonynt yn ystod y 12 mis blaenorol
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4
Gofynnwyd i'r ymatebwyr a ddywedodd eu bod wedi bwyta llai o gig, dofednod neu bysgod yn ystod y 12 mis blaenorol pa fathau o gynhyrchion yr oedd y newidiadau'n ymwneud â hwy. O’r ymatebwyr hyn, roedd y rhan fwyaf (86%) wedi bwyta llai o gig coch (er enghraifft, cig eidion, porc, neu gig oen) ac roedd 72% wedi bwyta llai o gig wedi’i brosesu (er enghraifft, nygets cyw iâr, ham, cig moch) yn ystod y 12 mis blaenorol. Dywedodd dros draean (36%) eu bod wedi bwyta llai o ddofednod a dywedodd 18% eu bod wedi bwyta llai o bob math o bysgod, gyda 6% yn bwyta llai o rai mathau o bysgod yn unig yn y 12 mis blaenorol (Ffigur 26)(footnote).
Rhesymau dros newidiadau mewn arferion defnydd
Ffigur 27: Rhesymau cyffredin pam mae ymatebwyr wedi bwyta llai o fwydydd penodol yn ystod y 12 mis blaenorol
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4
Gofynnwyd i’r ymatebwyr a ddywedodd eu bod wedi bwyta llai o fwyd wedi’i brosesu, cig coch, cig wedi’i brosesu, dofednod, pysgod neu laeth a/neu wyau yn ystod y 12 mis blaenorol, pa rai o’r opsiynau a roddwyd, os o gwbl, oedd y rhesymau pam yr oeddent wedi bwyta llai o'r cynnyrch hwnnw. Y rheswm mwyaf cyffredin dros fwyta llai o fwyd wedi’i brosesu (75%), cig wedi’i brosesu (69%), cig coch (57%), llaeth a/neu wyau (45%) oedd er budd iechyd (er enghraifft, er mwyn bod yn fwy iach neu golli pwysau). Y rheswm mwyaf cyffredin dros fwyta llai o bysgod (55%) neu ddofednod (43%) oedd am resymau amgylcheddol neu gynaliadwyedd (er enghraifft, effaith ar newid hinsawdd). Roedd ymatebwyr yn fwy tebygol o nodi eu bod wedi bwyta llai o gynnyrch llaeth a/neu wyau (21%) oherwydd adwaith corfforol gwael neu annymunol o gymharu â bwydydd eraill (er enghraifft, roedd 1% o ymatebwyr wedi bwyta llai o bysgod oherwydd yr adwaith corfforol gwael neu annymunol) (Ffigur 27)(footnote).
Newidiadau cysylltiedig â bwyd yr oedd ymatebwyr yn fodlon rhoi cynnig arnynt
Ffigur 28: Newidiadau yr oedd ymatebwyr yn fodlon rhoi cynnig arnynt yn ystod y 12 mis dilynol
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4
Gofynnwyd i'r ymatebwyr pa rai, os o gwbl, o restr benodol o newidiadau yr oeddent yn fodlon rhoi cynnig arnynt yn ystod y 12 mis dilynol. Y newid mwyaf cyffredin y dywedodd ymatebwyr eu bod yn fodlon rhoi cynnig arno oedd bwyta llai o fwyd wedi'i brosesu (40%). Dywedodd tua thraean o’r ymatebwyr eu bod yn fodlon dechrau prynu bwyd gydag ychydig iawn o ddeunydd pecynnu neu ddim deunydd pecynnu o gwbl (32%), dechrau creu cyn lleied o wastraff bwyd â phosib (31%) neu ddechrau bwyta mwy o ffrwythau a/neu lysiau (31%) yn y 12 mis dilynol. Fodd bynnag, dywedodd 11% o’r ymatebwyr na fyddent yn fodlon rhoi cynnig ar unrhyw un o’r newidiadau a restrir yn y 12 mis dilynol (Ffigur 28)(footnote).
Dewisiadau amgen i gig
Cynhyrchion nad ydynt yn cynnwys cig y gellir eu bwyta yn lle cig, fel selsig a byrgyrs seitan neu lysieuol, yw dewisiadau amgen i gig (er enghraifft, cynhyrchion Quorn, Linda McCartney, neu Beyond Meat).
Bwyta dewisiadau amgen i gig
Gofynnwyd i'r ymatebwyr a oeddent erioed wedi bwyta dewisiadau amgen i gig. Dywedodd tua thraean (32%) o’r ymatebwyr eu bod wedi bwyta dewisiadau amgen i gig, dywedodd 21% o’r ymatebwyr eu bod yn arfer bwyta dewisidau amgen i gig ond nad ydynt yn eu bwyta mwyach, a dywedodd 39% o’r ymatebwyr nad oeddent erioed wedi bwyta dewisiadau amgen i gig(footnote).
O’r ymatebwyr sy’n bwyta dewisiadau amgen o gig ar hyn o bryd, dywedodd 34% eu bod yn bwyta cig amgen 2-3 gwaith yr wythnos neu’n amlach (hynny yw, bob dydd, bron bob dydd, 2-3 gwaith yr wythnos), dywedodd 45% eu bod yn bwyta cig o bryd i’w gilydd (hynny yw, tua unwaith yr wythnos, 2-3 gwaith y mis) a dywedodd 21% eu bod yn bwyta cig amgen tua unwaith y mis neu’n llai aml (hynny yw, tua unwaith y mis, llai nag unwaith y mis)(footnote).
Gofynnwyd i’r ymatebwyr a ddywedodd eu bod yn bwyta dewisiadau amgen i gig ar hyn o bryd pam y maent yn bwyta dewisiadau cig amgen o restr o opsiynau. Y rhesymau mwyaf cyffredin oedd rhesymau amgylcheddol neu gynaliadwyedd (41%), rhesymau lles anifeiliaid (35%) a rhesymau iechyd (35%)(footnote).
Canfyddiadau o ddewisiadau amgen i gig o gymharu â chig
Ffigur 29: Canfyddiadau o ddewisiadau amgen i gig a brynir mewn siop o gymharu â chig
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4
Gofynnwyd i'r ymatebwyr sut mae dewisiadau amgen i gig yn cymharu â chig yn eu barn nhw, o safbwynt nifer o rinweddau, gan gynnwys effaith amgylcheddol, oes silff, cost ac iechyd. Roedd tua 4 o bob 10 o ymatebwyr o’r farn bod dewisiadau amgen i gig yn well i’r amgylchedd (42%) ac y byddent yn para’n hirach yn yr oergell (36%) o gymharu â chig. Fodd bynnag, nid oedd llawer o ymatebwyr yn gwybod sut mae dewisiadau amgen i gig yn cymharu â chig, wrth ystyried pa mor hir y mae dewisiadau amgen i gig wedi’u hoeri a brynwyd yn y siop yn para (43%), a pha mor dda i’r amgylchedd (28%), iach (28%) a drud (23%) ydynt (Ffigur 29)(footnote).
Parodrwydd i roi cynnig ar gig a dyfir mewn labordy
Mae hyn yn cynnwys cig a dyfir mewn labordy o gelloedd neu feinwe (tissue) anifail byw fel buwch, heb orfod lladd yr anifail.
Gofynnwyd i ymatebwyr a fyddent yn dymuno cynnwys cig a dyfir mewn labordy yn eu deiet pe bai ar gael yn y wlad hon. Dywedodd bron i 3 o bob 10 (28%) o ymatebwyr y byddent yn dymuno rhoi cynnig ar gig wedi’i dyfu mewn labordy (hynny yw, byddai 9% yn bendant yn hoffi rhoi cynnig arno; byddai 18% yn debygol o roi cynnig arno) ac ni fyddai tua 6 o bob 10 (59%) yn rhoi cynnig arno (hynny yw, byddai 21% yn debygol o beidio â rhoi cynnig arno, byddai 38% yn bendant ddim yn dymuno rhoi cynnig arno). Fodd bynnag, dywedodd 14% o ymatebwyr nad oeddent yn gwybod a fyddent yn dymuno rhoi cynnig ar gig a dyfir mewn labordy yn eu deiet(footnote).
Ymwybyddiaeth o fwydydd sydd wedi bod yn destun golygu genynnau (GE) a bwydydd wedi'u haddasu'n enetig (GM)
Ffigur 30: Ymwybyddiaeth a gwybodaeth am fwyd wedi'i addasu'n enetig (GM) a bwyd sydd wedi bod yn destun golygu genynnau/golygu genomau (GE)
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4
Gofynnwyd i'r ymatebwyr a oeddent erioed wedi clywed am fwyd wedi'i addasu'n enetig (GM) a bwyd sydd wedi bod yn destun golygu genynnau neu olygu genomau. Adroddodd ymatebwyr fod mwy o ymwybyddiaeth a gwybodaeth am fwyd a addaswyd yn enetig (GM) na bwyd sydd wedi bod yn destun golygu genynnau neu olygu genomau (GE). Er enghraifft, nid oedd 42% o ymatebwyr erioed wedi clywed am fwyd GE ac nid oedd 9% o ymatebwyr erioed wedi clywed am fwyd GM (Ffigur 30)(footnote).
Hanes diwygio
Published: 5 Awst 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Awst 2022