Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Adroddiad Cyfarwyddwr – Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru Ebrill 2022

Penodol i Gymru

Adroddiad y Cyfarwyddwr ar gyfer Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru Ebrill 2022

Papur FSAW 22/04/03
I’w drafod
Diweddariad gan y Cyfarwyddwr

Crynodeb Gweithredol

Mae’r papur atodol yn cyfeirio at faterion a gyflwynwyd gan y Prif Weithredwr yn y cyfarfod Bwrdd diwethaf a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2022. Mae cofnodion llawn y cyfarfod hwnnw ar gael ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) (Saesneg yn unig). Mae’r papur hwn hefyd yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am faterion sy’n berthnasol i Gymru ac yn sail i'r diweddariad i Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru.

Bydd Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru yn ategu’r wybodaeth yn yr adroddiad hwn gyda diweddariad lafar, lle bo’n briodol. 

Gwahoddir aelodau i:

  • nodi'r diweddariad;
  • gwahodd y Cyfarwyddwr i ymhelaethu ar unrhyw faterion i'w trafod ymhellach.

Cyswllt yr ASB yng Nghymru: Lucy Edwards

 
1.    Crynodeb o Adroddiad y Prif Weithredwr i Gyfarfod Bwrdd Agored 9 Mawrth 2022.

1.1.   Cafodd y Bwrdd adroddiad ysgrifenedig (FSA 22/03/03) y Prif Weithredwr (Saesneg yn unig)

2.    Adroddiad Cyfarwyddwr Cymru ar Faterion sy’n ymwneud â Chymru

Ymgysylltu allanol

2.1.   Rwyf wedi bod yn rhan o’r cyfleoedd ymgysylltu canlynol ers cyfarfod diwethaf Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru ar 3 Chwefror 2022, a allai fod o ddiddordeb.

  • 1 Mawrth: Cyfarfod Cyswllt Chwarterol yr ASB yng Nghymru a Llywodraeth Cymru – roedd y drafodaeth yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adferiad wedi COVID-19 a chynlluniau busnes yr ASB yng Nghymru ar gyfer 2022/23.
  • 5 Ebrill:  Cyfarfod Grŵp Cynghori ar Ddiogelu Iechyd y Prif Swyddog Meddygol – roedd y drafodaeth yn cynnwys cylch gorchwyl grŵp y Prif Swyddog Meddygol, ac is-grwpiau cysylltiedig, ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mae diweddariad ar ddiogelwch bwyd wedi’i gynnwys yn y rhagolwg o bynciau y gallai’r  Pwyllgor eu trafod.

Amnewid cynhwysion mewn rhai cynhyrchion bwyd i osgoi tarfu ar gyflenwadau bwyd

2.2     Rydym wedi bod yn cyfrannu at yr ymateb i’r digwyddiad hwn mewn perthynas â chyflenwadau cynhyrchion, a’r ffaith y gall rhai cynhyrchion bwyd sydd wedi’u labelu fel rhai sy’n cynnwys olew blodyn yr haul gynnwys olew hadau rêp wedi’i buro yn lle hwnnw. Rydym yn ymgysylltu’n barhaus â swyddogion polisi Llywodraeth Cymru ac yn cefnogi ymgysylltu â Gweinidogion Cymru. Anfonwyd llythyr at awdurdodau lleol yn cydnabod y tarfu presennol ar y gadwyn gyflenwi. Yn yr amgylchiadau eithriadol hyn, mae’r ASB yn annog swyddogion gorfodi i fabwysiadu dull gorfodi sy’n rhesymol, yn gymesur, yn seiliedig ar risg ac sy’n ystyried pob achos yn unigol. 


2.3   Brigiad o achosion o Salmonela sy’n gysylltiedig â rhai cynhyrchion siocled Ferrero (Kinder).

Rydym yn parhau i weithio’n agos gydag Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Iechyd Cyhoeddus yr Alban, Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus Gogledd Iwerddon, Safonau Bwyd yr Alban – yn ogystal ag awdurdodau iechyd cyhoeddus a diogelwch bwyd rhyngwladol – i ymchwilio i frigiad o achosion (outbreak) parhaus o Salmonela sy’n gysylltiedig ac amryw gynhyrchion wyau Kinder a Schoko-Bons a gynhyrchwyd yn un o ffatrïoedd cwmni Ferrero, yn Arlon, Gwlad Belg. Rydym hefyd mewn cysylltiad â Llywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd ymchwiliadau. Mae’r ASB wedi cyhoeddi rhybudd galw cynnyrch yn ôl a stori newyddion wedi’i diweddaru i hysbysu defnyddwyr na ddylid bwyta amrywiaeth o gynhyrchion Kinder Egg a Schoko-Bon's. 

Ymgynghoriadau sydd ar agor

Byrgyrs cig eidion heb eu coginio’n drylwyr: canllawiau i weithredwyr busnesau bwyd a swyddogion awdurdodau lleol

2.4    Ymgynghoriad i geisio safbwyntiau rhanddeiliaid ar y newidiadau arfaethedig i ganllawiau’r ASB ar fyrgyrs cig eidion heb eu coginio'n drylwyr. 
Dyddiad lansio: 27 Ionawr 
Dyddiad cau: 27 Ebrill 

Ceisiadau am un ar ddeg o ychwanegion i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid 

 2.5    Ymgynghoriad sy’n ceisio safbwyntiau, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid mewn perthynas â cheisiadau cynhyrchion wedi’u rheoleiddio ar gyfer un ar ddeg o ychwanegion i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid, sydd wedi’u cyflwyno i’w hawdurdodi.
Dyddiad lansio: 7 Mawrth 2022 
Dyddiad cau: 2 Mai 2022.

Galwad am Dystiolaeth: Defnyddio plastig wedi’i ailgylchu, sy’n tarddu o gynlluniau plastig sy’n diweddu yn y môr/cynlluniau cylchdro a chasgliadau amgylcheddol tebyg, mewn cynhyrchion deunyddiau sy’n dod i gysylltiad â bwyd

2.6     Ymgynghoriad sy’n galw am dystiolaeth mewn perthynas â’r modd y mae gweithredwyr busnesau’n bwriadu cynnal eu hasesiad risg eu hunain i bennu defnydd diogel o blastig wedi’i ailgylchu sydd wedi dod o’r amgylchedd agored (y môr, ‘yn diweddu yn y môr’ neu’r tir), mewn cynhyrchion deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd, neu dystiolaeth gan fusnesau sy’n gwneud hynny ar hyn o bryd. 
Dyddiad lansio: 21 Mawrth 2022 
Dyddiad cau: 20 Medi 2022. 

Trosglwyddo perchnogaeth pum awdurdodiad ar gyfer cyflasynnau mwg

2.7         Ymgynghoriad byr sy’n gofyn am sylwadau ar newidiadau i enwau a chyfeiriadau pum deiliad awdurdodiadau cynhyrchion cynradd cyflasynnau mwg.
Dyddiad lansio: 31/03/2022
Dyddiad cau: 14/03/2022

Ceisiadau am un ar ddeg o ychwanegion i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid 

2.6     Ymgynghoriad sy’n ceisio safbwyntiau, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid mewn perthynas â cheisiadau cynhyrchion wedi’u rheoleiddio ar gyfer un ar ddeg o ychwanegion i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid, sydd wedi’u cyflwyno i’w hawdurdodi.
Dyddiad lansio: 7 Mawrth 2022 
Dyddiad cau: 2 Mai 2022.

Diwygiadau i Reolaethau Mewnforio ynghylch bwyd a bwyd anifeiliaid penodol nad ydynt yn dod o anifeiliaid o rai gwledydd i Brydain Fawr 

Ymgynghoriad ar ddiwygiadau rheolaidd arfaethedig i Reoliad a Ddargedwir 2019/1793 sy’n cymhwyso cynnydd dros dro mewn rheolaethau swyddogol ac amodau arbennig sy’n llywodraethu mynediad bwyd a bwyd anifeiliaid penodol nad ydynt yn dod o anifeiliaid i Brydain Fawr o wledydd penodol.
Dyddiad lansio: 14 Ebrill 2022
Dyddiad cau: 7 Gorffennaf 2022

Ymgynghoriadau – Rhagolwg 

2.8    

  • Sefydliadau Cymeradwy: Canllawiau i swyddogion awdurdodau lleol –Ymgynghoriad 14 wythnos yn lansio ym mis Mai 2022
     
  • Qurbani: Ymgynghoriad ar y dull hirdymor a gynigir ar gyfer yr haf – Rydym yn gweithio i gwblhau’r cynlluniau a datblygu ymgynghoriad, a fydd yn dechrau ym mis Mehefin 2022, i ofyn am safbwyntiau rhanddeiliaid ar ddull deddfwriaethol hirdymor o gyflenwi cig ac offal Qurbani yn uniongyrchol yn ystod cyfnod Eid al-Adha yng Nghymru a Lloegr. 
     
  • Mae Defra, yr ASB a’r FSS yn bwriadu lansio ymgynghoriad ar y cyd ar newidiadau arfaethedig i Reoliadau Bara a Blawd 1998 – yn lansio mis Gorffennaf 2022
     
  • Mae’r ASB yn bwriadu lansio tri ymgynghoriad wyth wythnos ar ffactorau cyfreithlon eraill y ceisiadau Bwydydd Newydd, GM ac Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid sydd wedi’u cynnwys yn yr ail gyfres o geisiadau 

3.    Cyfarwyddwr Cymru yn Bwrw Golwg Ymlaen


3.1     Rhwng nawr a chyfarfod agored â thema nesaf Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru ar 14 Gorffennaf 2022, mae’r canlynol yn berthnasol i’r ASB yng Nghymru: 

  • 26 Ebrill – Byddaf yn cefnogi’r Cadeirydd yn ei chyfarfod â’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle. Bydd yr agenda’n cynnwys problemau labelu sy’n deillio o’r rhyfel yn Wcráin a Strategaeth newydd yr ASB.
  • Mai (dyddiad i'w gadarnhau) – Mae cyfarfod nesaf Bwyd Diogel, Cynaliadwy a Dilys Cymru (SSAFW) wedi’i symud i ddyddiad sydd eto i'w gadarnhau ym mis Mai oherwydd gwyliau’r Pasg. Mae’r agenda hefyd i’w gadarnhau. 
  • 7 Mehefin – Cyfarfod Grŵp Cynghori ar Ddiogelu Iechyd y Prif Swyddog Meddygol.
  • 6 Gorffennaf – digwyddiad y Senedd. Byddwn yn cynnal digwyddiad dros ginio yn y Senedd gydag Aelodau’r Senedd a rhanddeiliaid eraill i hyrwyddo’r Strategaeth newydd a’r Adroddiad Blynyddol ar Safonau Bwyd cyntaf, sydd i’w cyhoeddi ym mis Mehefin 2022.

Nathan Barnhouse
Cyfarwyddwr, yr ASB yng Nghymru
Ebrill 2022