Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Cofnodion cyfarfod â thema Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2023

Penodol i Gymru

Cyfarfod hybrid â thema – Gweithrediadau Hylendid Cig yr ASB

Yn bresennol

Aelodau Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) a oedd yn bresennol:

  • Peter Price – Cadeirydd
  • Alan Gardner
  • Dr Philip Hollington
  • Christopher Brereton OBE
  • Helen Taylor
  • Georgia Taylor
  • Dr John Williams
  • Jessica Williams

Swyddogion yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a oedd yn bresennol:

  • Anjali Juneja – Cyfarwyddwr Materion Rhyngwladol a’r Deyrnas Unedig
  • Nathan Barnhouse – Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru
  • Sioned Fidler – Pennaeth Cyfathrebu, y Gymraeg a Chymorth Busnes
  • Lucy Edwards – Rheolwr Busnes
  • Owen Lewis – Pennaeth Polisi a’r Bartneriaeth ag Awdurdodau Lleol
  • Delyth Murray-Lines – Pennaeth Polisi Hylendid

Arsylwyr:

  • Cynrychiolwyr o Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Cyflwynwyr:

  • Geraint Jones – Rheolwr Ardal, Gweithrediadau’r ASB
  • Delyth Murray-Lines – Pennaeth Polisi Hylendid, yr ASB yng Nghymru

1. Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a chofnodion y cyfarfod diwethaf

1.1  Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni nodwyd unrhyw ymddiheuriadau. Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod mis Hydref 2022.

2. Datgan buddiannau

2.1 Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. 

3. Gweithrediadau’r ASB

3.1  Geraint Jones, Rheolwr Ardal, Gweithrediadau’r ASB (Cymru a Gorllewin Lloegr)

Rhoddodd y cyflwyniad drosolwg o nifer y lladd-dai yng Nghymru – 17 o safleoedd cymeradwy ar gyfer cig coch – a rhoddodd syniad hefyd o’r trwybwn mewn lladd-dai o wahanol feintiau. 5 lladd-dy dofednod gyda thrwybwn o oddeutu 1,400 o dwrcïod yr wythnos (pan fyddant yn gweithredu) a 900,000 o gywion ieir yr wythnos. Mae 71 o sefydliadau cig cymeradwy yng Nghymru – safleoedd torri cig yw’r rhain yn bennaf, ac mae rhai safleoedd wedi’u cydleoli.

Rhoddodd y cyflwyniad wybod bod niferoedd da byw Cymru yn gyson ar hyn o bryd, gydag oddeutu 9.5 miliwn o ddefaid, 1.1 miliwn o wartheg a lloi, a 27,000 o foch yn ôl ffigurau gan Hybu Cig Cymru (Niferoedd da byw yn aros yn sefydlog yng Nghymru | Hybu Cig Cymru / Meat Promotion Wales). Rhoddodd wybod hefyd am y trwybwn ar gyfer lladd-dai yng Nghymru yn ystod 2022; 129,449 o wartheg a lloi, 2,458,686 o ddefaid, 25,273 o foch a 116,895,507 o ddofednod.

Yna, rhoddodd Geraint drosolwg o rôl yr Arolygwyr Hylendid Cig a staff gweithrediadau eraill, gan gynnwys Arolygwyr Hylendid Llaeth a Milfeddygon Swyddogol. Esboniodd Geraint fod cymysgedd o ddeddfwriaeth ddomestig a deddfwriaeth yr UE a ddargedwir yn cwmpasu’r amgylchedd rheoleiddiol y maen nhw’n gweithio ynddo. Trafodwyd hefyd effaith clefydau anifeiliaid mewn perthynas â thwbercwlosis buchol a ffliw adar. Dywedodd Geraint fod allforio Trydedd Wlad hefyd yn faes gwaith mawr i’r tîm Gweithrediadau gyda chynnyrch Cymreig yn cyrraedd llawer o farchnadoedd byd-eang.

4. Polisi Hylendid Cig yr ASB

4.1  Delyth Murray-Lines, Pennaeth Polisi Hylendid Cig, yr ASB yng Nghymru

Rhoddodd y cyflwyniad drosolwg o’r meysydd polisi y mae’r tîm polisi hylendid bwyd yn gyfrifol amdanynt. Mae’r rhain yn cynnwys: hylendid cig; pysgod cregyn a dyframaeth; hylendid llaeth; hylendid bwyd; clefydau a gludir gan fwyd; hylendid bwyd anifeiliaid; cynhyrchu cynradd; a deddfwriaeth OFFC/OCR. Dywedodd Delyth fod y tîm yn datblygu polisi ar gyfer hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid yng Nghymru ac yn ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu hystyried a bod eu gwybodaeth a’u hadborth yn cael eu defnyddio i lywio’r gwaith o ddatblygu polisïau newydd.

Eglurodd Delyth y broses dadansoddi risg a’r arferion gwaith pedair gwlad a ddefnyddir wrth ddatblygu polisïau neu wneud newidiadau i bolisïau. Mae hyn yn arwain at ymgynghori â rhanddeiliaid a fydd yn ei dro yn llywio penderfyniadau Gweinidogion neu’n newid cyngor neu benderfyniadau polisi. Rhoddodd Delyth wybod am y tri Fframwaith Cyffredin dros dro: Fframwaith Diogelwch a Hylendid Bwyd a Bwyd Anifeiliaid; Fframwaith Safonau Cyfansoddiadol a Labelu Bwyd; Fframwaith Safonau Cyfansoddiadol a Labelu mewn perthynas â Maeth. Mae gan y Fframweithiau Cyffredin hyn gytundeb Gweinidogion ar draws y pedair gwlad. Maent yn nodi trefniadau a dulliau llywodraethu ar gyfer cydweithredu, a chyfrifoldeb polisi ar faterion datganoledig ar draws y pedair gwlad. Nid yw eu cwmpas yn cynnwys gorfodi. Dywedodd Delyth fod yr egwyddorion a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) hefyd yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniadau ynghylch llunio polisi.

5. Cyfarfodydd WFAC yn y dyfodol

5.1  Trafododd WFAC bynciau posib ar gyfer cyfarfodydd â thema yn y dyfodol, a gwnaed yr awgrymiadau canlynol:

  • Awdurdodau lleol, eu rôl a’u cyfrifoldebau – sut mae pethau wedi newid ac wrthi’n newid? 
  • Gwaith gorfodi awdurdodau lleol – beth yw’r rhwystrau i waith gorfodi effeithiol yng Nghymru?
  • Ystadegau’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd – tueddiadau o ran sgoriau, a sut mae’r rhain wedi effeithio ar nifer yr achosion o wenwyn bwyd yn ystod cyfnod y Cynllun.
  • Labelu alergenau – diweddariad gan awdurdodau lleol ar gydymffurfio â labelu alergenau a’r effaith.
  • Hyfforddiant i fyfyrwyr fel swyddogion Iechyd yr Amgylchedd/Safonau Masnach gyda’r awdurdod lleol – wrth ganolbwyntio ar y diwydiant fwyd ac ystyried niferoedd y myfyrwyr a nawdd, beth yw’r heriau o ran recriwtio swyddogion sydd newydd gymhwyso? 
  • Cynhyrchwyr graddfa fach yn gwerthu trwy’r cyfryngau cymdeithasol – mae nifer y ‘rhith-geginau’ i’w gweld yn cynyddu; sut mae awdurdodau lleol yn ymateb i’r rhain?  
  • Prifysgol Aberystwyth – ymweliad yn y dyfodol â’r ganolfan fwyd i ddysgu am yr ymchwil sy’n cael ei gwneud. Gweithio gyda chynhyrchwyr artisan graddfa fach – datblygu bwydydd iach a bwydydd y dyfodol.
  • Yr amgylchedd a chynaliadwyedd – Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – cymryd yr amgylchedd i ystyriaeth – unrhyw gamau y mae awdurdodau lleol yn eu cymryd gyda gweithredwyr busnesau bwyd i gydymffurfio â hynny?
  • Bwydydd sy’n peri risg – trafodwyd llaeth yfed amrwd ddiwethaf yn 2018. A yw lefel y risg wedi newid? O edrych ar yr ystadegau diweddaraf, mae tua 6 safle yng Nghymru.
  • Pysgod cregyn. 
  • Bwydydd sy’n dod o blanhigion – risgiau sy’n gysylltiedig â datblygu a bwyta proteinau amgen, pryfed ac ati. 
  • Ffermio fertigol a’r risgiau cysylltiedig – tyfir planhigion mewn amgylchedd a reolir gyda chylchrediad dŵr.
  • Rheolaethau Ffin.

6. Adroddiad y Cadeirydd (Papur 23/02/02)

6.1  Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad llafar ar ei adroddiad a oedd yn manylu ar gyfarfod y Bwrdd a gynhaliwyd yn Llundain ym mis Rhagfyr 2022 a chyfarfod gyda Gweinidog yr Economi a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i drafod y Model Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau yn y dyfodol. Dywedodd y Cadeirydd fod nifer o gwestiynau wedi’u cyflwyno i’r pwyllgor cyn y cyfarfod, a cheir manylion y cwestiynau a’r atebion yn Atodiad A.

7. Adroddiad y Cyfarwyddwr (Papur 23/02/03)

7.1  Rhoddodd y Cyfarwyddwr ddiweddariad llafar ar ei adroddiad a chyflwynodd Anjali Juneja, Pennaeth newydd cyfarwyddiaeth Materion Rhyngwladol a’r DU; sef y gyfarwyddiaeth y mae’r ASB yng Nghymru yn rhan ohoni erbyn hyn, ynghyd â’r ASB yng Ngogledd Iwerddon. Rhoddodd Anjali drosolwg o waith y gyfarwyddiaeth.

8. Unrhyw fater arall

8.1 Nododd yr aelodau y cynhelir y cyfarfod â thema nesaf ar 11 Mai yng Nghaerdydd. 

8.2 Daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben. 

Atodiad A – Cwestiynau a gyflwynwyd i WFAC

Cwestiwn 1

Nodaf yr eitem agenda “Pynciau ar gyfer cyfarfodydd â thema yn 2023”. Rwy’n meddwl ei bod yn bwysig, os bydd cyfarfodydd â thema yn parhau, fod angen iddyn nhw fod yn berthnasol ac y byddan nhw’n ychwanegu gwerth er mwyn llywio’r gwaith o ddatblygu polisïau, strategaethau a darpariaeth weithredol gysylltiedig yr ASB. O’r herwydd, mae angen nodi blaenoriaethau gyda chyfraniad rhanddeiliaid allweddol, ac mae’n bwysig bod y pwyllgor yn ystyried sut y bydd yr wybodaeth a gesglir yn cael ei defnyddio. Dw i’n cofio cyfarfod â thema yn ymwneud â diffyg diogeledd bwyd. Rhannodd siaradwyr gwadd arbenigol o’r byd academaidd, awdurdodau lleol a sefydliadau banciau bwyd ac ati lu o wybodaeth. Hoffwn i wybod sut mae’r wybodaeth a’r data wedi cael eu defnyddio ers hynny i lywio polisi, strategaeth a chyflawniadau’r ASB? Mae’r un cwestiwn yn berthnasol i gyfarfodydd eraill â thema.

Ateb i gwestiwn 1

Sefydlwyd y Pwyllgorau Cynghori ar Fwyd o dan Adran 5 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 “…for the purpose of giving advice or information to the Agency about matters connected with its functions including in particular matters affecting or otherwise relating to Wales [or Northern Ireland]”.

Dyna sut y defnyddir yr wybodaeth a’r data a geir o drafodaethau Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC). Mae canlyniadau ein cyfarfodydd â thema sydd â phwyslais penodol, ynghyd ag ystyriaethau papurau’r Bwrdd sydd ar ddod, yn cael eu cynrychioli mewn trafodaethau Bwrdd gennyf i, fel Cadeirydd WFAC ac aelod o Fwrdd yr ASB a benodir gan Weinidogion Cymru. 

Mae gan y Bwrdd gyfrifoldeb cyffredinol ar y cyd am weithgareddau’r ASB yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae’r Bwrdd hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod yr ASB yn cyflawni ei dyletswyddau statudol i ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau defnyddwyr, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â Chymru, mewn perthynas â bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae’n gosod y strategaeth ar gyfer yr ASB ac yn sicrhau bod argymhellion a wneir gan weithrediaeth yr ASB yn cyd-fynd â’r strategaeth hon. Ar ben hynny, mae’r Bwrdd yn gwneud penderfyniadau ar bolisïau allweddol a materion o egwyddor, a thrwy hynny’n llywio’r cyngor a roddir i Weinidogion yng Nghymru, San Steffan a Gogledd Iwerddon. 

Un o amcanion allweddol cyfarfodydd â thema WFAC yw sganio’r gorwel gan ystyried materion sy’n debygol o gael eu hystyried gan y Bwrdd a’r weithrediaeth yn y dyfodol. Ar adegau eraill, bydd yn bwrw golwg fanwl dros bynciau llosg pwysig. Yn y naill achos a’r llall, y nod yw rhoi gwybodaeth fanwl i’r Pwyllgor er mwyn gwella ei ddealltwriaeth. Un enghraifft yw’r cyfarfod bridio manwl a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2022. Mae bridio manwl yn faes gwaith sy’n datblygu’n gyflym, ac roedd aelodau WFAC yn dymuno ehangu eu gwybodaeth er mwyn gallu cynghori’r Bwrdd yn effeithlon ac yn effeithiol. 

Defnyddir tystiolaeth a gesglir mewn cyfarfodydd â thema i lywio amrediad eang o benderfyniadau polisi a gweithredol a wneir wedi hynny. Un enghraifft o’r fath yw’r cyfarfod â thema ar Strategaeth yr ASB, a gynhaliwyd ym mis Mawrth 2022, a wnaeth alluogi’r Tîm Strategaeth i ymgorffori safbwyntiau WFAC ar ystyriaethau Cymreig yn ei waith cynllunio.

Cwestiwn 2

Mae’n bwysig sicrhau bod WFAC yn cyflawni ei ddiben, ac yn unol â hynny disgwylir i WFAC ystyried eitemau sy’n ymwneud â pholisi’r ASB a’i chyfeiriad yn y dyfodol. Felly, gallai pynciau ar gyfer cyfarfodydd â thema yn y dyfodol gynnwys y Model Gweithredu ABC arfaethedig. Gallai siaradwyr gwadd o awdurdodau lleol (arbenigwyr mewn gweithredu rheolaethau bwyd rheng flaen) gyfrannu at sesiwn ymgysylltu ddefnyddiol. Y gobaith yw y bydd ymgysylltiad o’r fath yn hysbysu WFAC o safbwyntiau awdurdodau lleol, y gellir eu hystyried pan gynhelir trafodaethau cysylltiedig yng nghyfarfodydd y Bwrdd.

Ateb i gwestiwn 2

Mae croeso bob amser i syniadau gan randdeiliaid ar gyfer cyfarfodydd â thema yn y dyfodol. Cyflwynwyd sawl pwnc yn ymwneud ag awdurdodau lleol fel opsiynau ar gyfer trafodaethau yn y dyfodol gan y Pwyllgor yn ystod cyfarfod mis Chwefror, gan gynnwys:

  • Awdurdodau lleol, eu rôl a’u cyfrifoldebau – sut mae pethau wedi newid ac wrthi’n newid.
  • Gwaith gorfodi awdurdodau lleol – beth yw’r rhwystrau i waith gorfodi effeithiol yng Nghymru?
  • Ystadegau’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd – tueddiadau o ran sgoriau, a sut mae’r rhain wedi effeithio ar nifer yr achosion o wenwyn bwyd yn ystod cyfnod y Cynllun.
  • Labelu alergenau – diweddariad gan awdurdodau lleol ar gydymffurfio â labelu alergenau a’r effaith.
  • Hyfforddiant i fyfyrwyr fel swyddogion Iechyd yr Amgylchedd/Safonau Masnach gyda’r awdurdod lleol – wrth ganolbwyntio ar y diwydiant fwyd ac ystyried niferoedd y myfyrwyr a nawdd, beth yw’r heriau o ran recriwtio swyddogion sydd newydd gymhwyso? 
  • Cynhyrchwyr graddfa fach yn gwerthu trwy’r cyfryngau cymdeithasol – mae nifer y ‘rhith-geginau’ i’w gweld yn cynyddu; sut mae awdurdodau lleol yn ymateb i’r rhain?

Bydd y Pwyllgor yn ystyried yr awgrymiadau hyn a syniadau perthnasol eraill a amlinellwyd yn nhrafodaeth mis Chwefror, a chroesewir pob un ohonynt wrth benderfynu ar gyfarfodydd â thema yn y dyfodol.

Cwestiwn 3

Gallai pwnc arall â thema ymwneud â pherfformiad. Perfformiad awdurdodau lleol a Thîm Gweithrediadau’r ASB – beth sy’n gweithio’n dda, beth y gellir ei wella a sut y gellir nodi a rhoi gwelliannau ar waith. Mae cryn dipyn o ddata perfformiad awdurdodau lleol wedi’i gyflwyno i’r ASB (trwy arolygon cynnydd); byddai’n dda trafod materion allweddol sy’n codi o’r data.

Ateb i gwestiwn 3

Fel yr uchod, dyma syniad arall y gallwn ei ystyried ac yr wyf wedi’i rannu â’r Pwyllgor. Fodd bynnag, rôl ymgynghorol yw rôl WFAC, ac mae’r manylion gweithredol yn ymddangos yn fwy o fater i’w drafod â’n tîm gweithredol. Mae perfformiad awdurdodau lleol, o ran y Cynllun Adfer, wedi’i drafod yn WFAC ac yng nghyfarfodydd y Bwrdd.

Cwestiwn 4

Hefyd, mewn perthynas ag adroddiad y Cyfarwyddwr; byddai’n fuddiol cynnwys gwybodaeth am ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, yn enwedig awdurdodau lleol.

Ateb i gwestiwn 4

Mae gwybodaeth o’r fath wedi’i chynnwys. Mae adroddiad y Cyfarwyddwr yn adlewyrchu ymgysylltiad gan yr holl Uwch-dîm Arweinyddiaeth yng Nghymru. Ond crynodeb yw’r adroddiad ac nid dyddiadur manwl. Bydd y Cyfarwyddwr yn ystyried eich barn ar gyfer ei adroddiadau yn y dyfodol.

Cwestiwn 5

Yn ystod ymweliad gan fy swyddog iechyd yr amgylchedd lleol, gofynnwyd i mi a ydyn ni’n archwilio ein cyflenwyr a sut rydyn ni’n gwybod ein bod ni’n defnyddio cyflenwyr ag enw da? Ar hyn o bryd, mae pob cyflenwr cig o dan yr ASB yn gallu cuddio y tu ôl i ddiffyg tryloywder ynghylch canlyniadau eu hymweliad diwethaf. Mae cigyddion annibynnol llai fel fi yn dod o dan yr awdurdod lleol ac rydym yn destun craffu, a hwnnw’n gyhoeddus, pan gaiff ein sgoriau eu cyhoeddi. Dylid sicrhau bod archwiliad clir a thryloyw ar gael i fusnesau wneud penderfyniad gwybodus ynghylch a ddylid defnyddio rhai cyflenwyr cig ai peidio. Rwy’n meddwl ei bod hi’n deg gofyn iddi fod yn orfodol i gyflenwyr cig o dan yr Asiantaeth Safonau Bwyd rannu manylion eu harchwiliad diwethaf yn gyhoeddus gan y byddai hynny’n sicr yn hybu hyder yn ein cadwyn gyflenwi.

Ateb i gwestiwn 5

Bob mis, mae’r ASB yn cyhoeddi’r sgoriau archwilio diweddaraf ar gyfer yr holl sefydliadau cig sydd wedi’u cymeradwyo gan yr ASB yng Nghymru, Lloegr, a Gogledd Iwerddon. Mae colofnau AA ac AB yn nodi dyddiad yr archwiliad diweddaraf a chanlyniad yr archwiliad, yn y drefn honno.