Cyngor Adran 42 ar y cyd: Cytundeb Masnach Rydd y Deyrnas Unedig ac India
Cyngor ar y cyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban ar y Cytundeb Masnach Rydd rhwng y Deyrnas Unedig ac India.
Cyflwyniad
1.1 Fel awdurdodau statudol y Deyrnas Unedig (y DU) sy'n gyfrifol am sicrhau bod bwyd a bwyd anifeiliaid yn ddiogel ac am ddiogelu buddiannau defnyddwyr—yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon (ASB), ac yn yr Alban (FSS)—cafodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) eu comisiynu gan y Gweinidog Gwladol dros Bolisi Masnach a Diogelwch Economaidd i roi cyngor ar y cyd ynghylch aelodaeth y DU o Gytundeb Economaidd a Masnachol Cynhwysfawr y DU ac India (y Cytundeb) (footnote 1)
1.2 Mae’r Cytundeb rhwng y DU ac India yn tarddu o'r Bartneriaeth Fasnach Estynedig y cytunwyd arni ym mis Mai 2021 a osododd y sylfaen ar gyfer cydweithrediad dyfnach o ran masnach. Dechreuodd trafodaethau ffurfiol ym mis Ionawr 2022, a daethpwyd i gytundeb ym mis Mai 2025, cyn llofnodi’r fargen ar 24 Gorffennaf 2025.
1.3 Cyn y gall y Cytundeb gael effaith gyfreithiol, rhaid iddo fod yn destun gwaith craffu ffurfiol yn Senedd y DU, yn unol â Deddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethiant 2010 (footnote 2). I ategu’r broses hon, bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi adroddiad o dan adran 42 o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020—asesiad annibynnol sy'n canolbwyntio'n benodol ar fasnach amaethyddol. Bydd yr adroddiad hwn yn gwerthuso a yw darpariaethau’r Cytundeb yn cynnal safonau cyfreithiol presennol y DU ar gyfer diogelu iechyd pobl, anifeiliaid a phlanhigion, yn ogystal â lles anifeiliaid a'r amgylchedd.
1.4 Gwnaed cais y Gweinidog o dan adran 42(4) o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 (footnote 3) ac roedd yn canolbwyntio ar y cwestiwn a yw darpariaethau’r Cytundeb rhwng y DU ac India sy'n effeithio ar iechyd pobl yn cynnal mesurau diogelu statudol y DU, a hynny’n benodol yn y meysydd y mae’r ASB ac FSS yn eu goruchwylio. Mae'r ddogfen hon yn cyflwyno asesiad ar y cyd yr ASB ac FSS a fydd yn cael ei gynnwys fel atodiad i adroddiad adran 42 y Llywodraeth.
1.5 Yn gryno, mae asesiad yr ASB/FSS fel a ganlyn:
- Nid oes angen gwneud unrhyw newidiadau i ddeddfau na safonau bwyd a bwyd anifeiliaid y DU er mwyn i’r Cytundeb rhwng y DU ac India gael effaith.
- Mae’r Cytundeb rhwng y DU ac India yn cynnal holl reolau a mesurau diogelu statudol cyfredol y DU o ran diogelwch bwyd a maeth sy'n rhan o gyfrifoldebau'r ASB ac FSS.
- Mae rhai rhanddeiliaid ac aelodau o’r cyhoedd wedi mynegi pryderon ynghylch y cytundeb ag India. Mae eu pryderon yn canolbwyntio'n bennaf ar safonau cynhyrchu, ac yn benodol ar y defnydd o blaladdwyr a gwrthfiotigau yn India sydd wedi eu gwahardd yn y DU, ac ar weddillion plaladdwyr sydd y tu hwnt i lefelau gweddillion uchaf y DU. Rhannwyd yr adborth hwn yn sgil ein Galwad am Dystiolaeth, ac rydym yn rhoi sylw i'r prif bwyntiau sy'n ymwneud â chyfrifoldebau'r ASB ac FSS yn ddiweddarach yn yr adroddiad hwn yn Adran 12.
- Mae'r Cytundeb yn parchu pwerau Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig i bennu rheolau ar fesurau iechydol a ffytoiechydol o fewn eu meysydd cymhwysedd. Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw benderfyniadau a wneir yn y dyfodol ynghylch rheoliadau domestig yn parhau i fod o dan reolaeth llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig.
- Nid yw'r Cytundeb ag India yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw newidiadau gael eu gwneud i ddeddfau’r DU sy'n diogelu iechyd y cyhoedd mewn perthynas â maeth. Mae hyn yn seiliedig ar ddadansoddiad yr ASB ac FSS sy'n cwmpasu meysydd fel honiadau o ran maeth ac iechyd, ychwanegu fitaminau a mwynau, atchwanegiadau bwyd, bwydydd ar gyfer grwpiau penodol, a labelu gwybodaeth am faeth.
- Nid yw'r cytundeb masnach hwn yn cyfyngu ar allu'r DU i negodi cytundeb iechydol a ffytoiechydol â'r Undeb Ewropeaidd (UE).
2. Cwmpas cyngor yr ASB ac FSS
2.1 Yn unol â'u cyfrifoldebau statudol a'u swyddogaethau polisi, mae'r ASB ac FSS yn darparu cyngor sy'n canolbwyntio ar iechyd pobl, gan gynnwys diogelwch bwyd a mesurau diogelu sy'n gysylltiedig â maeth (footnote 4) (footnote 5). At ddibenion y cyngor hwn, mae unrhyw gyfeiriad at ddiogelwch bwyd yn cynnwys diogelwch bwyd anifeiliaid pan fo'n ymwneud ag iechyd pobl, gan nodi bod diogelwch bwyd anifeiliaid mewn perthynas ag iechyd anifeiliaid yn dod o dan gylch gwaith y Comisiwn Masnach ac Amaethyddiaeth (TAC) sydd hefyd yn cyfrannu at adroddiad adran 42. Mae polisi maeth ledled y DU yn cael ei arwain gan wahanol gyrff: Llywodraeth Cymru yng Nghymru, yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Lloegr, Safonau Bwyd yr Alban yn yr Alban, a’r ASB yng Ngogledd Iwerddon—pan fo'n gweithredu fel rhan o ASB y DU. Ar gyfer yr adroddiad hwn, rydym wedi gofyn am gyngor gan arbenigwyr maeth yr ASB yng Ngogledd Iwerddon, a chan FSS.
2.2 At ddibenion yr asesiad hwn, diffinnir “lefelau diogelu statudol y DU”—fel y nodir yn Neddf Amaethyddiaeth 2020—fel y mesurau diogelu cyfreithiol sydd mewn grym ar draws unrhyw ran o’r DU ar yr adeg y cyhoeddir yr adroddiad adran 42 hwn. Gan fod diogelwch bwyd a maeth yn faterion datganoledig, mae deddfwriaeth o bob un o’r pedair gwlad yn berthnasol i'r dadansoddiad hwn. Mae hyn yn cynnwys deddfau cenedlaethol sy'n gymwys yn benodol i Gymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Fodd bynnag, mae rhwymedigaethau rhyngwladol presennol—megis y rheiny a amlinellir yn Erthygl 1.2 sy'n llywodraethu'r berthynas rhwng Cytundeb y DU ac India a Fframwaith Windsor—y tu allan i gwmpas y cyngor hwn (footnote 6). I’r perwyl hwnnw, nid yw'r Cytundeb yn newid y modd y caiff deddfau sydd eisoes yn cael eu llywodraethu gan y rhwymedigaethau hynny eu cymhwyso. Felly, mae pob cyfeiriad at fesurau diogelu statudol y DU yn y cyngor hwn wedi ei gyfyngu i'r ddeddfwriaeth ddomestig a ddisgrifir uchod.
2.3 Nid yw'r cyngor hwn yn cwmpasu safonau bwyd nad ydynt yn gysylltiedig ag iechyd pobl—megis rheolau tarddiad, dynodiadau daearyddol, ardystio organig, a rheoliadau hysbysebu—sydd y tu allan i gwmpas y comisiwn hwn a chylchoedd gwaith yr ASB ac FSS fel awdurdodau diogelwch bwyd. Yn yr un modd, cafodd materion nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig ag iechyd y cyhoedd, gan gynnwys tariffau, manylebau technegol, hwyluso masnach, a rheolau mynediad i'r farchnad y tu hwnt i gwmpas mesurau iechydol a ffytoiechydol, eu hepgor. Mae materion sy'n ymwneud â mesurau diogelu statudol ar gyfer iechyd anifeiliaid a phlanhigion, lles anifeiliaid a safonau amgylcheddol yn cael eu trafod ar wahân gan y Comisiwn Masnach ac Amaethyddiaeth.
2.4 Mae rheolaethau swyddogol yn gymwys i’r holl gynhyrchion bwyd a fewnforir i'r DU ac fe'u cynhelir gan awdurdodau cymwys o dan oruchwyliaeth yr ASB, FSS, Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig. O ran India, bydd y rheolaethau hyn yn parhau i fod yn eu lle o dan y Cytundeb newydd rhwng y DU ac India, a hynny drwy gyfundrefn ddeinamig sy'n seiliedig ar risg. Mae hyn yn golygu y bydd yn parhau i fod yn ofynnol hysbysu ymlaen llaw am fewnforion o India, yn ogystal â darparu’r ardystiadau angenrheidiol, wedi’u hategu gan wiriadau ffisegol. Y tu hwnt i wiriadau rheolaidd, gall yr ASB ac FSS hefyd gyflwyno cyfyngiadau neu fesurau diogelu brys o ran mewnforio, pan fo angen, ar gyfer unrhyw fewnforion o unrhyw wlad. Darperir enghreifftiau o’r rheolaethau manylach a gynhelir yn ymarferol ar fwydydd a fewnforir o India isod yn Adran 11. Mae'r ASB ac FSS hefyd yn parhau i gydweithio â'r Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) i asesu ceisiadau am fynediad i farchnadoedd newydd, ac mae hon yn broses ar wahân i drafodaethau cytundeb masnach rydd. Nid yw’r cytundeb masnach hwn yn effeithio ar fynediad i'r farchnad ar gyfer cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid nac ar y gwiriadau manylach a gynhelir ar fwydydd risg uchel nad ydynt yn dod o anifeiliaid, a byddant yn parhau i fod yn gymwys i’r fasnach ag India.
2.5 Fel awdurdodau cymwys annibynnol y DU o ran diogelwch bwyd, mae'r ASB ac FSS yn cydnabod pwysigrwydd cynnal safonau diogelwch bwyd uchel y DU a sicrhau bod cytundebau masnach yn destun asesiadau trylwyr o ran eu heffaith ar iechyd er mwyn diogelu iechyd defnyddwyr. Ymhlith y sylwadau a gyflwynwyd gan randdeiliaid yn sgil yr Alwad am Dystiolaeth a lansiwyd gan y ddwy asiantaeth ar 1 Awst 2025, daeth cyfraniadau i law gan naw grŵp â buddiant. Wrth roi sylw i’r rhain, mae ein dadansoddiad wedi canolbwyntio ar ddarpariaethau perthnasol Cytundeb y DU ac India a'r modd y maent yn rhyngweithio â rhwymedigaethau rhyngwladol y DU o dan fesurau diogelu Sefydliad Masnach y Byd a mesurau diogelu statudol presennol y DU ar gyfer iechyd pobl, gan gynnwys diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid a maeth. Rydym hefyd yn cydnabod bod rhai o'r materion a godwyd y tu allan i'n cylch gwaith statudol a chwmpas ein cyfraniad at adroddiad adran 42, ond maent yn bwysig i'r cyhoedd ac fe’u hystyrir fel rhan o'r adroddiad hwn pan fo'n berthnasol.
2.6 Ym mis Mehefin 2025 a thros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae'r ASB ac FSS wedi taflu goleuni ôl-weithredol ar faterion masnach bwyd ehangach drwy eu cyhoeddiad ar y cyd, Ein Bwyd: Adolygiad blynyddol o safonau bwyd ledled y DU (footnote 7). Mae'r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar y tueddiadau, yr heriau a’r datblygiadau o ran safonau bwyd, gan ategu'r cyngor a ddarperir yma. Cyhoeddodd yr ASB ac FSS ymchwil drwy eu Harolwg Bwyd a Chi 2 yn y DU (footnote 8) (footnote 9) a nododd fod defnyddwyr yn pryderu a yw bwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU yn bodloni’r un safonau o ran hylendid, diogelwch ac uniondeb â bwyd a gynhyrchir yn y DU.
3. Masnach ag India
3.1 Mae India yn bartner masnachu pwysig i'r DU o ran bwyd a chynhyrchion amaethyddol. Er nad yw India’n anfon unrhyw gig eidion, wyau na phorc i'r DU, mae'n allforiwr blaenllaw ar gyfer cynhyrchion bwyd eraill. Er enghraifft, reis yw un o’r prif fewnforion; mae bron i draean o'r holl reis a fewnforir i'r DU yn dod o India, gan beri mai India yw ein cyflenwr reis mwyaf.
3.2 Yn ôl data CThEF (footnote 10) am fasnach y DU:
- Mae India yn y safle cyntaf o ran mewnforion perlysiau a sbeisys i'r DU.
- Mae India hefyd yn y safle cyntaf o ran mewnforion bwyd babanod i'r DU, ond mae hyn yn deillio o’r ffaith ei bod yn allforio swm mawr o rhysg i'r DU. Mae rhysg yn gynnyrch bara sy'n cael ei bobi ddwywaith, neu'n fara caled a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer babanod sy'n torri dannedd.
- Mae India’n cyfrif am 29.6% o holl fewnforion reis y DU—gan gynnwys reis brown wedi'i blisgo, reis wedi'i dorri, a reis wedi'i led-falu—gan danlinellu ei rôl ganolog o ran ateb galw'r DU am reis.
3.3 Fel rhan o'r berthynas fasnach agos hon, mae'r DU yn cydweithredu ac yn ymgysylltu’n barhaus ag awdurdodau India, ac mae hyn yn chwarae rôl bwysig o ran sicrhau bod bwydydd a fewnforir yn ddiogel. Mae'r ASB ac FSS yn gobeithio llunio Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ag Awdurdod Diogelwch a Safonau Bwyd India (FSSAI) i gyfoethogi Cytundeb y DU ac India ymhellach drwy gynyddu cydweithrediad rhwng y ddau barti yn ystod digwyddiadau bwyd, gwella’r trefniadau i gyfathrebu ac i rannu gwybodaeth, a chynyddu dealltwriaeth o’u cyfundrefnau iechydol a ffytoiechydol ei gilydd. Mae'r ASB ac FSS yn parhau i ymgysylltu ag awdurdodau India pan fydd problemau, fel achosion o ddiffyg cydymffurfiaeth a digwyddiadau bwyd, yn dod i’r amlwg, ac maent yn edrych ymlaen at gydweithredu gwell o ganlyniad i'r Cytundeb Masnach Rydd a'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth.
4. Trosolwg ar ddarpariaethau’r Cytundeb Masnach Rydd ag India
4.1 Yn Rhaglith y Cytundeb, mae llywodraethau'r DU ac India yn cydnabod eu hawl sofran i reoleiddio ac i gynnal yr hyblygrwydd i bennu eu blaenoriaethau deddfwriaethol a rheoleiddiol eu hunain (footnote 11). Mae hyn yn cynnwys y gallu i ddiogelu lles y cyhoedd ac i arddel amcanion polisi cyhoeddus dilys, megis diogelu iechyd y cyhoedd, diogelwch bwyd, cynaliadwyedd amgylcheddol, a moesau cyhoeddus. Bydd y penderfyniadau hyn yn cael eu hategu gan gyngor tryloyw sy'n seiliedig ar dystiolaeth gan yr ASB, FSS, a chyrff arbenigol perthnasol eraill, gan sicrhau bod dewisiadau rheoleiddio’n seiliedig ar drylwyredd gwyddonol ac ar fudd y cyhoedd.
4.2 Mae Pennod 1 o’r Cytundeb yn cadarnhau hawliau a rhwymedigaethau presennol y Partïon o dan offerynnau rhyngwladol y mae’r ddau ohonynt wedi eu llofnodi, gan gynnwys Cytundebau Sefydliad Masnach y Byd (footnote 12) (footnote 13). Ym maes diogelwch bwyd a maeth, nid yw'r ymrwymiadau rhyngwladol hyn yn rhwystro Llywodraeth y DU na'r gweinyddiaethau datganoledig rhag cymryd camau cymesur, unochrog sy'n angenrheidiol i ddiogelu iechyd defnyddwyr ledled y DU.
Mae Erthygl 1.4 “Diffiniadau Cyffredinol” yn egluro mai ystyr “Cytundeb Iechydol a Ffytoiechydol” yng nghyd-destun Cytundeb y DU ac India yw’r Cytundeb ar Gymhwyso Mesurau Iechydol a Ffytoiechydol a nodir yn Atodiad 1A i Gytundeb Sefydliad Masnach y Byd (footnote 14). Mae hyn, ynghyd â chyfeiriadau yn y bennod am fesurau iechydol a ffytoiechydol, yn tystio i oruchafiaeth Cytundeb Iechydol a Ffytoiechydol Sefydliad Masnach y Byd fel y brif sail ar gyfer masnach ryngwladol mewn bwydydd.
5. Dadansoddi penodau perthnasol
5.1 Wrth asesu’r ffordd y caiff y mesurau diogelu statudol presennol ar gyfer diogelwch bwyd a maeth eu cynnal, mae’r penodau a ganlyn yn arbennig o berthnasol oherwydd y cysylltiadau agos rhyngddynt a deddfwriaeth diogelwch bwyd a maeth y DU sy’n diogelu iechyd pobl, yn ogystal â gwaith gweithredol yr ASB ac FSS:
- Pennod 2 – Masnachu Nwyddau
- Pennod 5 – Tollau a Hwyluso Masnach
- Pennod 6 – Mesurau Iechydol a Ffytoiechydol
- Pennod 7 – Rhwystrau Technegol i Fasnach
- Pennod 16 – Cystadleuaeth a Diogelu Defnyddwyr
6. Pennod 2 – Masnachu Nwyddau
6.1 Mae Pennod 2 o Gytundeb y DU ac India (footnote 15) yn nodi sut y bydd y ddwy wlad yn trin eu nwyddau ei gilydd yn deg wrth fasnachu. Mae'n sicrhau y bydd nwyddau a fewnforir o India yn cael eu trin yr un fath â nwyddau a gynhyrchir yn y DU, a'r gwrthwyneb. Mae'r bennod hefyd yn cynnwys cytundebau ar dariffau—faint o dreth a godir ar wahanol nwyddau pan fyddant yn croesi ffiniau. Rhestrir yr ymrwymiadau hyn o ran tariffau mewn atodiadau, ac maent yn helpu i wneud masnach yn fwy rhagweladwy. Yn bwysig, mae'r bennod yn cynnwys mesur diogelu ar gyfer nwyddau amaethyddol. Mae hyn yn golygu, pan fydd cynnyrch yn gymwys o dan y Cytundeb, na fydd yn wynebu cynnydd sydyn o ran tariffau, rhywbeth y bydd gwledydd yn ei wneud weithiau i ddiogelu cynhyrchwyr domestig. Mae hyn yn helpu i sicrhau sefydlogrwydd i allforwyr a mewnforwyr y DU ac India, a gall hefyd gefnogi diogeledd bwyd a sefydlogrwydd prisiau drwy helpu i gynnal llif cyson o fewnforion yn ystod cyfnodau pan fo pwysau ar y cyflenwad domestig.
7. Pennod 5 – Tollau a Hwyluso Masnach
7.1 Mae'r bennod hon yn nodi sut y bydd y DU ac India yn symleiddio gweithdrefnau tollau i gefnogi masnach lyfnach, gan gynnal gwiriadau rheoleiddiol cadarn ar yr un pryd (Erthygl 5.1). Mae'n cynnwys ymrwymiadau i ryddhau nwyddau'n brydlon—yn ddelfrydol o fewn 48 awr ar gyfer eitemau nad ydynt yn ddarfodus (Erthygl 5.5) a chyn gynted â phosib ar gyfer nwyddau darfodus (Erthygl 5.6)—ar yr amod bod yr holl ofynion o ran dogfennaeth a’r holl ofynion rheoleiddio yn cael eu bodloni. Yn hollbwysig, mae hyn yn cynnwys cwblhau gwiriadau iechydol a ffytoiechydol.
7.2 Mae'r Cytundeb hefyd yn cefnogi'r defnydd o systemau rheoli risg i sicrhau bod gwiriadau ar y ffin yn canolbwyntio ar lwythi risg uchel (Erthygl 5.7). Mae hyn yn gyson â chyfundrefn iechydol a ffytoiechydol y DU sy'n seiliedig ar risg, gan sicrhau bod rheolaethau diogelwch bwyd yn parhau i fod ar waith a’u bod yn gymesur â lefel y risg. Mae'r darpariaethau hyn yn helpu i hwyluso masnach heb beryglu mesurau i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
8. Pennod 6 – Mesurau Iechydol a Ffytoiechydol
8.1 Mae testun cytunedig y bennod am fesurau iechydol a ffytoiechydol a geir yng Nghytundeb y DU ac India o bwys sylfaenol o ran cadw hawl y DU i gynnal ei deddfau a’i rheoliadau presennol i ddiogelu bywyd ac iechyd pobl, gan gynnwys diogelwch bwyd a maeth. Mae hefyd yn bwysig o ran atal unrhyw gyfyngiadau ar y ffordd y caiff prosesau rheoleiddio a gorfodi bwyd eu rhoi ar waith yn y DU. Mae’r Erthyglau pwysig a ganlyn yn amlinellu sut y mae’r testun yn cyflawni hyn.
8.2 Erthygl 6.1 – Diffiniadau
Mae'r Erthygl Diffiniadau yn y bennod am fesurau iechydol a ffytoiechydol yn gyson â'r rheini a geir yn Atodiad A i Gytundeb Iechydol a Ffytoiechydol Sefydliad Masnach y Byd. Mae hyn yn bwysig i sicrhau cysondeb o ran yr iaith a ddefnyddir yn ystod deialog rhwng y partïon ac ar gyfer masnachwyr.
8.3 Erthygl 6.6 – Cyfwerthedd
Mae'r Erthygl yn nodi bod y Partïon yn cytuno bod cydnabod cyfwerthedd mesurau iechydol a ffytoiechydol yn allweddol i hwyluso masnach. Gellir cydnabod cyfwerthedd hyd yn oed os yw mesurau'n wahanol, ar yr amod bod y Parti sy'n allforio’n profi ei fod yn bodloni mesur diogelu priodol y Parti sy'n mewnforio, yn unol ag Erthygl 4 o Gytundeb Iechydol a Ffytoiechydol Sefydliad Masnach y Byd (footnote 16). Mae penderfyniadau terfynol ar gyfwerthedd yn nwylo'r Parti sy'n mewnforio, yn unol â'i fframwaith cyfreithiol a chanllawiau rhyngwladol. Ni chynigiwyd unrhyw benderfyniadau cyfwerthedd newydd ar gyfer cynhyrchion bwyd-amaeth o dan gytundeb y DU ag India. Os daw ceisiadau sy’n ymwneud â chyfwerthedd i law’r DU yn y dyfodol, bydd yr ASB ac FSS yn cydweithio'n agos ag adrannau eraill y llywodraeth i'w hasesu. Byddwn hefyd yn rhoi cyngor ar unrhyw amodau masnachu penodol—megis gofynion prosesu neu becynnu—sydd eu hangen i fodloni safonau diogelwch bwyd y DU. Nid yw'r cytundeb masnach hwn yn caniatáu unrhyw driniaeth ffafriol mewn perthynas â chanlyniad cais. Ni fydd unrhyw benderfyniad cyfwerthedd yn atal y DU rhag diweddaru ei chyfundrefn iechydol a ffytoiechydol yn y dyfodol i ddiogelu defnyddwyr. Os gwneir newidiadau, bydd penderfyniadau presennol yn cael eu hadolygu yn unol â hynny.
8.4 Erthygl 6.8 – Archwilio
Mae'r Erthygl yn nodi sut y caiff y naill Barti archwilio systemau rheoleiddio'r llall i sicrhau cydymffurfiaeth â’r gofynion mewnforio iechydol a ffytoiechydol y cytunwyd arnynt. Nod yr archwiliadau hyn yw meithrin a chynnal ymddiriedaeth yn rheolaethau'r Parti sy'n allforio, a rhaid iddynt fod yn seiliedig ar safonau rhyngwladol a chanllawiau Sefydliad Masnach y Byd. Nid yw'r Erthygl hon yn atal y DU rhag cynnal archwiliadau pan fo cyfiawnhad dros wneud hynny i wirhau rheolaethau diogelwch bwyd India, nac yn ei hatal rhag cymryd camau brys i amddiffyn diogelwch bwyd pan fo angen.
8.5 Erthygl 6.10 – Gwiriadau mewnforio
Mae'r Erthygl hon yn sefydlu hawl y Parti sy'n mewnforio i gynnal gwiriadau mewnforio ar sail y risgiau iechydol a ffytoiechydol sy'n gysylltiedig â nwyddau. Nid yw'r Erthygl hon yn cyfyngu ar allu'r DU i gynnal gwiriadau mewnforio yn seiliedig ar risg nac i gymryd camau gorfodi pan ganfyddir achosion o ddiffyg cydymffurfiaeth, yn unol â deddfau a rheoliadau presennol y DU. Mae'r pwyslais ar wiriadau sy'n seiliedig ar risg yn yr Erthygl hon yn gyson â dull y DU o gynnal rheolaethau swyddogol ar sail risg.
8.6 Erthygl 6.11 – Mesurau brys
Mae'r Erthygl hon yn caniatáu i Barti fabwysiadu mesurau brys i ddiogelu bywyd neu iechyd pobl, anifeiliaid neu blanhigion, ac ymgynghori pan fo'n briodol â'r Parti arall o fewn amserlenni penodol, gan ychwanegu sicrwydd os bydd risg sydyn i iechyd pobl sy'n gysylltiedig â diogelwch bwyd yn dod i’r amlwg.
8.7 Erthygl 6.12 – Lles anifeiliaid
Mae'r Erthygl ar les anifeiliaid yn datgan bod y ddau Barti’n cydnabod y cysylltiad pwysig rhwng lles anifeiliaid da ac iechyd anifeiliaid fferm. Mae ystyriaethau o ran cynnal mesurau diogelu statudol ar gyfer lles anifeiliaid yng Nghytundeb y DU ac India yn dod o dan gylch gwaith cyngor y Comisiwn Masnach ac Amaethyddiaeth. Mae polisi lles anifeiliaid yn cael ei bennu'n ddomestig gan Defra ar gyfer Lloegr a chan y gweinyddiaethau datganoledig, gyda'r ASB ac FSS yn chwarae rôl o ran gorfodi rheolaethau domestig.
8.8 Erthygl 6.13 – Ymwrthedd gwrthficrobaidd
Mae'r Erthygl yn cydnabod bod ymwrthedd gwrthficrobaidd yn fygythiad byd-eang difrifol i iechyd pobl ac anifeiliaid, gyda'r Partion yn cefnogi dull Iechyd Cyfunol a'r Cynllun Gweithredu Byd-eang ar Ymwrthedd Gwrthficrobaidd ac yn ymrwymo i lunio cynlluniau gweithredu cenedlaethol yn unol â hynny.
8.9 Erthygl 6.14 – Ymgyngoriadau technegol
Mae'r Erthygl yn caniatáu i'r naill Barti neu'r llall ofyn am ymgyngoriadau technegol os bydd pryderon yn codi ynghylch mesurau iechydol a ffytoiechydol. Dylid cynnal yr ymgyngoriadau hyn yn brydlon ac, yn ddelfrydol, o fewn 30 diwrnod i'r cais, a dylent anelu at rannu gwybodaeth a datrys problemau'n effeithlon. Os cafodd mecanweithiau eraill eu defnyddio heb lwyddiant, gellir gofyn am i ymgyngoriadau gael eu cynnal o dan yr Erthygl hon o hyd i osgoi dyblygu diangen.
8.10 Erthygl 6.15 – Hysbysu a chyfnewid gwybodaeth
Mae'r Erthygl hon yn ei gwneud yn ofynnol i Bartïon ymateb i geisiadau am wybodaeth o fewn cyfnod rhesymol, gan adlewyrchu arferion gweithio cyfredol yr ASB ac FSS. Mae hefyd yn osgoi dyblygu gofynion hysbysu Sefydliad Masnach y Byd.
8.11 Erthygl 6.19 – Trefniadau datrys anghydfod heb fod yn gymwys
Mae'r Erthygl hon yn egluro'n fras na chaiff y naill Barti na'r llall ddefnyddio’r trefniadau datrys anghydfod o dan Bennod 29 o'r Cytundeb hwn ar gyfer unrhyw fater sy'n codi o’r bennod ar fesurau iechydol a ffytoiechydol.
9. Pennod 7 – Rhwystrau Technegol i Fasnach
9.1 Mae'r bennod hon yn cefnogi dileu neu leihau rhwystrau technegol i fasnach nwyddau, gan sicrhau ar yr un pryd fod cynhyrchion sy'n dod i farchnad y DU yn parhau i fod yn ddiogel a’u bod o ansawdd uchel (footnote 17). Mae'n adlewyrchu ymrwymiad ar y cyd i hybu'r defnydd o safonau rhyngwladol, gan gynnwys y rheiny a siapiwyd gan gyfraniadau'r DU. Mae Rhwystrau Technegol i Fasnach yn berthnasol i drefniadau statudol i ddiogelu iechyd pobl, gan gynnwys diogelwch bwyd a maeth, gan eu bod yn cynnwys meysydd fel safonau, asesu cydymffurfiaeth, labelu cynhyrchion, a deunyddiau sy'n dod i gysylltiad â bwyd, gan orgyffwrdd yn aml â mesurau iechydol a ffytoiechydol. Nid yw'r Sectorau Cynnyrch a restrir yn Atodiad 7A yn y Bennod hon yn berthnasol i gwmpas y cyngor hwn.
9.2 Erthygl 7.4 – Cadarnhau’r Cytundeb Rhwystrau Technegol i Fasnach
Mae cadarnhau hawliau a rhwymedigaethau'r Partïon o dan Gytundeb Rhwystrau Technegol i Fasnach Sefydliad Masnach y Byd yn seiliedig ar ddealltwriaeth gyffredin bod darpariaethau Sefydliad Masnach y Byd yn cael blaenoriaeth wrth gymhwyso rheoliadau technegol, safonau, a gweithdrefnau asesu cydymffurfiaeth (footnote 18). Felly, mae'r testun y cytunwyd arno yn atgyfnerthu hawl y DU i fabwysiadu mesurau technegol y bwriedir iddynt gyflawni nodau dilys o ran polisi cyhoeddus—megis amddiffyn iechyd pobl a diogelwch bwyd—fel y nodir yn Erthygl 2.2 o Gytundeb Rhwystrau Technegol i Fasnach Sefydliad Masnach y Byd, ac mae’n ailadrodd prif ddarpariaethau’r Cytundeb hwnnw.
9.3 Erthygl 7.5 – Safonau, canllawiau ac argymhellion
Mae'r Erthygl hon yn ailadrodd egwyddor Sefydliad Masnach y Byd y dylai mesurau Rhwystrau Technegol i Fasnach, pan fo'n berthnasol, fod yn seiliedig ar safonau rhyngwladol perthnasol. Mae hyn yn cynnwys, pan fo'n berthnasol, safonau a chanllawiau a bennwyd yn rhyngwladol gan y Pwyllgor Codex Alimentarius mewn perthynas â diogelwch bwyd pa bryd bynnag y byddant yn cynnwys elfen Rhwystrau Technegol i Fasnach. Nid yw'r cadarnhad hwn yn cyfyngu ar ymreolaeth reoleiddiol y DU, nac ychwaith yn ei gwneud yn ofynnol newid y mesurau diogelu statudol presennol sy'n ymwneud â diogelwch bwyd na maeth. Mae'r testun hefyd yn annog cydweithrediad rhwng cyrff asesu cydymffurfiaeth cenedlaethol, gan gefnogi cyd-ddealltwriaeth a hwyluso masnach lyfnach, tra mae defnyddwyr yn parhau i gael eu diogelu at safon uchel.
9.4 Erthygl 7.8 – Marcio a labelu
Mae'r Erthygl yn hyrwyddo rheolau labelu teg a thryloyw, gan sicrhau nad yw nwyddau a fewnforir yn cael eu trin yn llai ffafriol na rhai domestig. Mae'n cefnogi dulliau labelu hyblyg—fel cywiriadau ar ôl mewnforio a labeli amlieithog—ar yr amod nad ydynt yn peryglu iechyd na diogelwch y cyhoedd, a’u bod yn gyson ag egwyddorion Rhwystrau Technegol i Fasnach Sefydliad Masnach y Byd. Mae'r holl nodweddion hyn yn gyson â deddfwriaeth y DU ar farcio a labelu, ac arferion cyffredin.
10. Pennod 16 – Cystadleuaeth a diogelu defnyddwyr
10.1 Mae'r bennod hon yn nodi ymrwymiadau gan y DU ac India i gynnal eu fframweithiau eu hunain o ran cystadleuaeth a diogelu defnyddwyr. Mae'r ddwy wlad wedi cytuno i gymhwyso a gorfodi deddfau cystadleuaeth mewn modd anwahaniaethol, drwy awdurdodau annibynnol. O ddiddordeb arbennig i'r ASB ac FSS mae Erthygl 16.4 ar ddiogelu defnyddwyr, sy'n amlinellu ymrwymiadau cydfuddiannol y DU ac India i gynnal a chryfhau mesurau i ddiogelu defnyddwyr. Mae'n pwysleisio pwysigrwydd diogelu lles defnyddwyr drwy bolisïau a chamau gorfodi effeithiol. Mae’r prif ddarpariaethau’n cynnwys cynnal deddfau sy’n atal arferion masnachol camarweiniol neu annheg, sicrhau hawliau statudol defnyddwyr o ran nwyddau a gwasanaethau, a hyrwyddo ymwybyddiaeth o fecanweithiau gwneud iawn a mynediad atynt—yn enwedig o ran trafodion trawsffiniol. Mae'r Erthygl hefyd yn tynnu sylw at werth mecanweithiau datrys anghydfod o ran datrys gwrthdaro sy'n ymwneud â defnyddwyr.
Mae'r bennod hon yn gyson â’r darpariaethau presennol i ddiogelu defnyddwyr o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, ac yn benodol adrannau 14 a 15 (footnote 19), sy'n ei gwneud yn ofynnol bod bwyd a gynigir i'w werthu’n bodloni'r disgwyliadau o ran ei natur, ei sylwedd a’i ansawdd, ac na chaniateir ei gamgyfleu na'i gamddisgrifio.
11. Rheolaethau cyfredol ar y ffin ar gyfer cynhyrchion bwyd risg uchel o India
11.1 Yn yr un modd â llawer o gytundebau eraill y DU, mae rheolaethau sy'n seiliedig ar risg yn parhau i gael eu cymhwyso ar y ffin i nwyddau yr ydym yn nodi y gallent beri risg. Mae'r ASB ac FSS yn gyfrifol am roi gofynion cyfreithiol Rheoliad 2019/1793 (footnote 20) ar waith. Yn ei Atodiadau, mae'n rhestru bwyd a bwyd anifeiliaid risg uwch nad yw'n dod o anifeiliaid sy'n ddarostyngedig i reolaethau manylach ar y ffin. Dim ond drwy Safleoedd Rheolaethau'r Ffin a chanddynt ddynodiad priodol y caniateir i fwyd a bwyd anifeiliaid risg uwch nad yw’n dod o anifeiliaid ddod i Brydain Fawr, a’r rheini’n Safleoedd Rheolaethau’r Ffin lle y cynhelir rheolaethau swyddogol, gan gynnwys archwiliadau dogfennol, adnabod a ffisegol, gan gynnwys samplu. Gellir gweld rhestr o'r mewnforion hyn yn Atodiad 1 a 2 i Reoliad 2019/1793.
Ystyr cynnyrch risg uwch yw bwyd neu fwyd anifeiliaid sydd wedi’i nodi naill ai fel risg hysbys neu risg sy’n dod i’r amlwg, neu fwyd neu fwyd anifeiliaid lle y ceir tystiolaeth o ddiffyg cydymffurfiaeth difrifol ac eang â deddfwriaeth cadwyn bwyd-amaeth Prydain Fawr. Gall hyn fod oherwydd presenoldeb pathogenau, halogion a thocsinau, gan gynnwys afflatocsinau. Mae'r ASB ac FSS yn cynnal adolygiad ar y cyd o'r rhestrau sydd wedi'u cynnwys yn yr Atodiadau i Reoliad 2019/1793 i ddiogelu iechyd y cyhoedd ac i gynnal safonau diogelwch bwyd uchel. Caiff yr adolygiad hwn ei gynnal drwy broses dadansoddi risg ar y cyd rhwng yr ASB ac FSS er mwyn i Weinidogion allu gwneud penderfyniadau rheoli risg ar sail argymhellion yr ASB ac FSS. Mae’r holl argymhellion yn seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth, ac maent yn cael eu llunio a'u hystyried drwy weithgor arbenigol ar draws y pedair gwlad, yn unol â'r Fframwaith Cyffredin ar gyfer Diogelwch a Hylendid Bwyd a Bwyd Anifeiliaid, a’u cynnig gan swyddogion yng Nghymru, yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Mae Tabl 1 isod yn dangos rhestr o’r cynhyrchion o India sydd ar hyn o bryd o dan reolaeth fewnforio gan Reoliad 2019/1793 (footnote 21), fel yr oedd y sefyllfa ar 18 Rhagfyr 2024, gyda'r perygl yn cael ei samplu. Yn yr un modd â nwyddau o lawer o wledydd eraill, mae'r nwyddau hyn yn wynebu rheolaethau mewnforio llymach o'u cymharu â bwydydd eraill o India nad ydynt yn dod anifeiliaid, gan gynnwys tystysgrifau iechyd gorfodol, gofynion hysbysu ymlaen llaw, ac archwiliadau ffisegol.
Mae nwyddau a restrir o dan Atodiad 1 i Reoliad (EU) 2019/1793 yn ddarostyngedig i gynnydd dros dro mewn rheolaethau swyddogol oherwydd risgiau a nodwyd. Rhaid hysbysu Safle Rheolaethau'r Ffin dynodedig ymlaen llaw am y nwyddau hyn, ac fe’u samplir ar y ffin yn ôl yr amlder penodedig. Fel y mae hyn yn ei ddangos, nid yw'r Cytundeb yn atal y DU rhag cymryd camau priodol o ran mewnforion o India.
Mewn cyferbyniad, mae’r nwyddau a restrir o dan Atodiad 2 yn ddarostyngedig i amodau arbennig sy'n ei gwneud yn ofynnol darparu hysbysiad ymlaen llaw a chanlyniadau profion labordy cyn iddynt gael mynediad i Brydain Fawr, a rhaid sicrhau bod tystysgrif iechyd allforio’n mynd gyda’r nwyddau hefyd. Mae'r nwyddau hyn hefyd yn ddarostyngedig i ofynion samplu ychwanegol ar y ffin, gyda gwiriadau'n cael eu cynnal ar amlder a bennir yn y ddeddfwriaeth. Y prif wahaniaeth yw ei bod yn ofynnol cynnal profion cyn allforio a darparu ardystiad ychwanegol o dan Atodiad 2, pethau nad ydynt yn orfodol ar gyfer nwyddau Atodiad 1.
| Cynnyrch bwyd neu fwyd anifeiliaid | Perygl | Amlder y gwiriadau ffisegol a’r gwiriadau adnabod |
| Dail ffenigrig | Gweddillion plaladdwyr | Atodiad 1 10% |
| Hadau cwmin | Gweddillion plaladdwyr | Atodiad 1 10% |
| Dail cyri (Bergera/ Murraya koenigii) | Gweddillion plaladdwyr | Atodiad 1 50% |
| Ocra | Gweddillion plaladdwyr | Atodiad 1 20% |
| Coed drymffyn (Moringa oleifera) | Gweddillion plaladdwyr | Atodiad 1 20% |
| Sinamon a blodau coeden sinamon | Gweddillion plaladdwyr | Atodiad 1 10% |
| Clofs (ffrwyth cyfan, clofs a choesynnau) | Gweddillion plaladdwyr | Atodiad 1 10% |
| Nytmeg, mês a chardamom | Gweddillion plaladdwyr | Atodiad 1 10% |
| Nytmeg (Myristica fragrans) | Afflatocsinau | Atodiad 1 50% |
| Hadau anis, badian, ffenigl, coriander, cwmin neu garwe, aeron meryw | Gweddillion plaladdwyr | Atodiad 1 10% |
| Gwm guar | Pentachlorophenol a diocsinau | Atodiad 1 20% |
| Sinsir, saffrwm, tyrmerig (Curcuma), teim, dail llawryf, cyri a sbeisys eraill | Gweddillion plaladdwyr | Atodiad 1 10% |
| Reis | Afflatocsinau ac Ocratocsin A | Atodiad 1 5% |
| Reis | Pesticide Residues | Atodiad 1 5% |
| Ffa hir Tsieineaidd (Vigna unguiculata subsp. sesquipedalis) | Gweddillion plaladdwyr | Atodiad 1 20% |
| Puprynnau o’r genws Capsicwm (melys neu ac eithrio rhai melys) | Afflatocsinau | Atodiad 1 20% |
| Bwyd sy'n cynnwys dail betel (Piper betle) | Salmonela | Atodiad 1 10% |
| Cnau daear | Afflatocsinau | Atodiad 1 50% |
| Puprynnau o’r genws Capsicwm (ac eithrio rhai melys) | Gweddillion plaladdwyr | Atodiad 1 20% |
| Hadau sesame | Salmonella | Atodiad 1 30% |
| Hadau sesame | Pesticide Residues | Atodiad 1 30% |
Yn niweddariad 2024 o Reoliad 2019/1793, cafodd rheolaethau mewnforio ar nytmeg a gwm guar eu lleihau gan fod cydymffurfiaeth wedi gwella ar y ffin.
Bydd yr ASB ac FSS yn parhau i fonitro’r Atodiadau i Reoliad 2019/1793, eu hadolygu, a gwneud argymhellion i Weinidogion yn eu cylch. Mae'r gwaith hwn yn cefnogi penderfyniadau ynghylch a ddylid cynnwys cynhyrchion ychwanegol neu addasu amlder gwiriadau ar gyfer eitemau bwyd a bwyd anifeiliaid penodol, yn unol â'n dyletswydd statudol i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
12. Tystiolaeth gan randdeiliaid: Y prif bryderon
12.1 Wrth ystyried y cyngor hwn ar Gytundeb y DU ac India, mae'n ddefnyddiol amlinellu'r cyd-destun ehangach o ran safbwyntiau defnyddwyr a phryderon rhanddeiliaid. Cyhoeddodd yr ASB ac FSS, ochr yn ochr â'r Comisiwn Masnach ac Amaethyddiaeth, alwad agored am dystiolaeth ar 1 Awst 2025, gan wahodd partïon â buddiant i gyflwyno sylwadau ynghylch mesurau diogelu statudol ar gyfer diogelwch bwyd a maeth. Bu’r ymgynghoriad hwn yn agored am wyth wythnos (footnote 22). Daeth naw ymateb i law a, chyn cyflwyno’r cyngor, cynhaliwyd nifer o drafodaethau â rhanddeiliaid fel rhan o weithgareddau ymgysylltu parhaus yr ASB ac FSS. Rydym yn ddiolchgar i bob ymatebydd a aeth ati i gyflwyno ei sylwadau. Ceir crynodeb ohonynt yn Atodiad I i'r adroddiad hwn. Cafodd cyfraniadau perthnasol sy’n ymwneud â mesurau diogelu statudol ar gyfer iechyd pobl neu rai sydd o ddiddordeb arbennig i'r cyhoedd eu hymgorffori yn ein cyngor, a cheir crynodeb o’r safbwyntiau isod.
12.2 Safonau cynhyrchu bwyd
Tynnodd rhanddeiliaid sylw at wahaniaethau sylweddol o ran dulliau cynhyrchu, gan gynnwys y defnydd gan gynhyrchwyr yn India o wrthfiotigau, plaladdwyr ac arferion ffermio dwys sydd wedi'u gwahardd yn y DU. Maent yn dadlau bod y gwahaniaethau hyn yn rhoi mantais gystadleuol annheg i fewnforion o India ac yn bygwth hyfywedd sectorau'r DU, megis y sectorau llaeth a chig eidion. Un o’r prif bryderon eraill yw’r farn nad yw’r gofynion o ran labelu alergenau a maeth mor gynhwysfawr â gofynion labelu'r DU. Pwysleisiodd Fera Science Ltd yr angen i wella seilwaith profi’r DU i reoli'r cynnydd disgwyliedig mewn mewnforion risg uchel, yn enwedig sbeisys, bwydydd wedi'u prosesu, a chynhyrchion dyframaethu, gan alw am sicrwydd y bydd safonau'r DU yn cael eu cynnal drwy gapasiti cadarn i brofi a chadw gwyliadwriaeth.
12.3 Llaeth ac wyau
Mynegodd rhanddeiliaid bryder fod gan India, yn rhinwedd y ffaith mai hithau yw cynhyrchydd llaeth gwartheg a byfflo mwyaf y byd, y capasiti i allforio symiau sylweddol o laeth powdwr sych a chynhyrchion wyau sych i'r DU, rhywbeth a allai beri risg hirdymor i gynhyrchwyr llaeth domestig. Maent yn honni y gallai cynhyrchion llaeth ac wyau a fewnforir gael eu cynhyrchu gan ddefnyddio dulliau na chaniateir eu defnyddio yn y DU ac nad ydynt yn gyson â safonau lles anifeiliaid y DU. Mae'r rhain yn cynnwys defnyddio gwrthfiotigau i hybu twf.
12.4 Plaladdwyr
Rhybuddiodd rhanddeiliaid, gan gynnwys Rhwydwaith Gweithredu o ran Plaladdwyr y DU (PAN UK), y gallai Cytundeb y DU ac India beri risgiau sylweddol i ddiogelwch bwyd y DU am fod y safonau o ran plaladdwyr yn wannach yn India. Mae’n tynnu sylw at y ffaith bod lefelau gweddillion uchaf India ar gyfer plaladdwyr yn aml yn llawer uwch na'r rheini a ganiateir ym Mhrydain Fawr.
Mae PAN UK hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod gan allforion bwyd o India hanes o gael eu gwrthod am eu bod wedi’u halogi gan blaladdwyr, gyda reis basmati’n peri anhawster penodol. Mae’n dadlau nad yw rheolaethau ffin y DU na'r capasiti profi domestig yn ddigonol i ganfod ac atal mewnforion halogedig, yn enwedig o ystyried cwmpas cyfyngedig profion awtomatig a'r nifer fach o samplau a brofir yn flynyddol. At hynny, mae PAN UK yn mynegi pryder ynghylch pennod y Cytundeb o ran mesurau iechydol a ffytoiechydol sy'n hyrwyddo cydnabyddiaeth o safonau India fel rhai "cyfwerth" ac yn annog dibyniaeth ar feincnodau rhyngwladol, fel Codex, sydd fel arfer yn llai llym na rheoliadau'r DU. Mae'n rhybuddio nad yw’r Cytundeb yn cyfeirio at yr egwyddor ragofalus ac y gallai ganiatáu i bwysau gan y diwydiant wanhau mesurau diogelu’r DU drwy'r Is-bwyllgor Iechydol a Ffytoiechydol arfaethedig.
12.5 Agweddau defnyddwyr at safonau bwyd a masnach
Yn ogystal ag ymgynghori â rhanddeiliaid drwy ein Galwad am Dystiolaeth, mae'r ASB ac FSS yn monitro dewisiadau ac agweddau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd. Mae defnyddwyr yn pryderu am safonau bwyd sy'n dod o'r tu allan i'r DU, ac mae lefelau’r pryder hwnnw wedi cynyddu ers i’r DU ymadael â'r UE (footnote 23) (footnote 24). Mae ymchwil a gynhaliwyd gan yr ASB wedi canfod yn gyson fod defnyddwyr yn llawer mwy pryderus ynghylch a yw bwyd a gynhyrchir y tu allan i'r DU yn ddiogel, yn hylan ac yn bodloni’r disgrifiad ohono, o'i gymharu â bwyd a gynhyrchir yn y DU (footnote 25) (footnote 26) (footnote 27). Yn unol â hyn, mae defnyddwyr a oedd yn gwrthwynebu cytundebau masnach rydd â gwledydd nad ydynt yn aelodau o'r UE fwyaf tebygol o ddweud mai safonau is o ran diogelwch a bwyd yw’r prif reswm dros hyn (footnote 28).
Mae mwyafrif defnyddwyr y DU yn credu nad yw cynnal safonau bwyd y DU yn agored i drafodaeth, hyd yn oed os yw hyn yn dod ar draul cytundebau masnach rhyngwladol a phrisiau bwyd uwch (footnote 29). Mewn ymchwil a gynhaliwyd gan Which? yn 2021, dim ond 4% o’r defnyddwyr a ddywedodd y dylid caniatáu i fwyd a gynhyrchwyd yn unol â safonau is ddod i'r DU, ond gyda thariffau/trethi mewnforio uwch. Ategwyd y farn hon hefyd gan ddefnyddwyr a gymerodd ran mewn trafodaethau manwl (drwy gyfres o sgyrsiau cyhoeddus) er eu bod yn gwrthod y syniad o gael dau dariff gwahanol ar gyfer bwyd a gynhyrchir yn unol â safonau gwahanol. I’r grwpiau hyn o ddefnyddwyr (footnote 30), mae i’r ffactorau hyn flaenoriaeth llawer uwch na darparu mwy o ddewis a chystadleuaeth i ddefnyddwyr y DU (footnote 31).
Gan fod ymchwil wedi canfod nad yw defnyddwyr yn credu bod cynnal safonau bwyd y DU yn agored i drafodaeth, mae'n debygol y byddai gan ddefnyddwyr bryderon ynghylch Cytundeb Masnach Rydd ag India o ystyried safonau bwyd gwahanol y wlad. Canfu arolwg a gynhaliwyd gan Gynllun Sicrwydd y Tractor Coch yn 2022 mai dim ond 18% o ddefnyddwyr y DU oedd yn ymddiried mewn bwyd a gynhyrchir yn India, o'i gymharu â 73% a oedd yn ymddiried mewn bwyd a gynhyrchir yn y DU. O'r 20 gwlad y gofynnwyd i bobl amdanynt, dim ond Tsieina y mae gan ddefnyddwyr lai o ymddiriedaeth ynddi nag India. Pan ofynnwyd iddynt am y ffynonellau a ffefrir ganddynt ar gyfer mewnforio cynhyrchion llaeth a chig, dim ond 2% o ddefnyddwyr y DU a ddewisodd India—gan beri mai hithau yw’r wlad a ffefrir leiaf, hyd yn oed islaw Tsieina a ddewiswyd gan 3% o’r defnyddwyr (footnote 32).
Mae'n amlwg o'r dystiolaeth hon fod cynnal safonau diogelwch bwyd ac iechyd mewn cytundebau masnach yn bwysig i ddefnyddwyr a rhanddeiliaid, a bod pryderon eang ynghylch safonau rhai bwydydd o India, fel y dangosir yn yr ymchwil uchod.
13. Asesiad yr ASB ac FSS o'r materion a godwyd gan randdeiliaid
Safonau cynhyrchu bwyd
13.1 Ceir gwahaniaethau sylweddol rhwng safonau'r DU ac India, yn enwedig mewn meysydd fel cynhyrchu bwyd domestig a defnyddio plaladdwyr. Mae rhai o'r rhain yn ymwneud ag arferion cynhyrchu ehangach nad ydynt yn benodol gysylltiedig â diogelwch bwyd ac sydd o dan gylch gwaith cyngor y Comisiwn Masnach ac Amaethyddiaeth. Mae eraill yn effeithio'n uniongyrchol ar ddiogelwch bwyd ac fe'u codwyd mewn ymatebion i'n Galwad am Dystiolaeth. Mae rhai o'r rhain yn cael sylw gweithredol drwy reolaethau ffin cadarn y DU sy'n gwrthod llwythi sy'n methu â chyrraedd ein safonau diogelwch uchel. Rydym yn parhau i gadw llygad barcud ar y materion hyn. Mae cynnal cydgysylltiad cryf ar draws adrannau sy'n gyfrifol am reolaethau ffin a rheolaethau mewndirol, a darparu adnoddau digonol ar eu cyfer, yn hanfodol i gynnal hyder defnyddwyr ac i sicrhau mai dim ond bwyd sy'n bodloni safonau diogelwch mewnforio'r DU sy'n dod i'r wlad.
Mae'r DU wedi ymrwymo i gynnal safonau diogelwch bwyd uchel ac i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Mae'r DU ac India ill dwy yn aelodau o Sefydliad Masnach y Byd sy'n pennu rheolau i hyrwyddo masnach deg a rhyngwladol. Mae’r Cytundeb Iechydol a Ffytoiechydol yn cynnwys mesurau sy'n caniatáu'n benodol i aelod-wladwriaethau fabwysiadu darpariaethau diogelwch bwyd ac iechyd y cyhoedd llymach na'u partneriaid masnachu, ar yr amod bod cyfiawnhad gwyddonol drostynt, eu bod yn anwahaniaethol, a’u bod yn gymesur â'r risg. Mae hyn yn golygu bod gan y DU ymreolaeth i bennu safonau diogelwch bwyd rhyngwladol ar yr amod eu bod yn dod o fewn y rheolau hynny. Ochr yn ochr â Sefydliad Masnach y Byd, mae gan y DU fframwaith cyfreithiol cynhwysfawr sy'n sicrhau nad yw cytundebau masnach yn peryglu diogelwch bwyd nac iechyd y cyhoedd o ran bwyd a fewnforir. Mae hyn yn cynnwys sawl darn o ddeddfwriaeth y DU, megis Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (footnote 33), Rheoliadau Hylendid Bwyd Lloegr 2013 (footnote 34), a’r Rheoliadau Halogion mewn Bwyd 2019 (footnote 35), ac mae deddfwriaeth yr UE a ddargedwir, er enghraifft Rheoliad (EC) 178/2002 (footnote 36) a Rheoliad (EC) 2073/2005 (footnote 37) hefyd yn sicrhau bod bwyd a fewnforir yn bodloni'r un safonau diogelwch bwyd â bwyd a gynhyrchir yn y DU.
Mae'r ASB ac FSS yn chwarae rhan bwysig o ran sicrhau bod penderfyniadau ar ddiogelwch bwyd, gan gynnwys pa gynhyrchion newydd y caniateir iddynt ddod i'r wlad, yn seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth. Caiff rheolaethau ar fwyd a fewnforir eu pennu ar ôl cynnal asesiad risg, a rhaid i gynhyrchion bwyd newydd sy'n dod o anifeiliaid sy’n tarddu o unrhyw wlad (gan gynnwys y rheini y mae gennym gytundeb dwyochrog neu amlochrog â hwy) gyflwyno cais i gael mynediad i'r farchnad. Rhaid i dystiolaeth bod y bwyd wedi'i gynhyrchu yn unol â gofynion y DU fynd gyda’r cais hwn, a bydd yr ASB ac FSS yn cynnal asesiadau risg cadarn ac archwiliad o'r wlad honno i wirhau'r dystiolaeth ar y cyd â Swyddfa'r DU.
Ni waeth a oes Cytundeb Masnach Rydd yn ei le ai peidio, rhaid i’r holl fewnforion i'r DU barhau i fodloni ein gofynion diogelwch bwyd, a rheolaethau swyddogol y DU ar y ffin. Yn ogystal â diogelwch y cynnyrch bwyd neu fwyd anifeiliaid ei hun, mae hyn hefyd yn cynnwys yr wybodaeth am alergenau a maeth a geir ar labeli. I fodloni safonau'r DU, rhaid i'r holl labeli fod yn Saesneg a rhaid pwysleisio pob un o’r 14 alergen a reoleiddir (footnote 38). Os nad yw labeli'n bodloni safonau bwyd y DU, caiff yr awdurdod lleol benderfynu ail-labelu cynnyrch er mwyn iddo gydymffurfio â gofynion y DU neu ei godi fel digwyddiad bwyd a all arwain at wrthod y llwyth.
Bydd mesurau diogelu statudol presennol, fel yr hawl i reoleiddio ar gyfer lefelau diogelu sy'n briodol i ddefnyddwyr y DU yn seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth, a'r hawl i gymryd camau cymesur dros dro i ddiogelu defnyddwyr, yn chwarae rhan hanfodol o ran mynd i'r afael â materion cydymffurfiaeth sy'n gysylltiedig â safonau cynhyrchu bwydydd a fewnforir o India. Bydd yr ASB ac FSS yn parhau i ddarparu cyngor sy'n seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth i Weinidogion, gan ystyried buddiannau ehangach defnyddwyr mewn perthynas â bwyd er mwyn iddynt allu bod yn hyderus bod bwyd yn ddiogel a'i fod yn bodloni’r disgrifiad ohono. Yn ychwanegol at reolaethau swyddogol a gynhelir gan awdurdodau'r DU, mae llawer o fanwerthwyr, dosbarthwyr a busnesau bwyd y DU yn defnyddio eu cynlluniau sicrwydd trydydd parti eu hunain. Mae'r rhain yn cynnwys archwiliadau annibynnol o gyflenwyr a safleoedd cynhyrchu sy'n darparu haen ychwanegol o ddiogelwch ac yn helpu i sicrhau bod bwyd a fewnforir yn bodloni safonau'r DU. Er nad yw'r cynlluniau hyn yn rhai statudol, maent yn chwarae rhan werthfawr o ran cynnal hyder defnyddwyr, ac maent yn ategu fframwaith rheoleiddio'r DU.
Llaeth ac wyau
13.2 Ni chaiff cynhyrchion llaeth eu mewnforio i'r DU o India gan nad oes gan India gynllun gweddillion milfeddygol cymeradwy ar gyfer llaeth, rhywbeth sy’n ofynnol o dan ddeddfwriaeth y DU i sicrhau diogelwch bwyd a safonau iechyd anifeiliaid (footnote 39). O ganlyniad, byddai unrhyw gynhyrchion llaeth neu fwydydd sy'n cynnwys cynhwysion llaeth sy'n tarddu o India yn cael eu hystyried yn gynhyrchion nad ydynt yn cydymffurfio a byddent yn ddarostyngedig i gael eu cadw ar y ffin gan awdurdodau lleol (footnote 40) (footnote 41). Mae'r cyfyngiad hwn yn gymwys yn fras i bob eitem sy'n dod o dan y categori llaeth, gan gynnwys cynhyrchion cyfansawdd sy'n cynnwys llaeth a llaeth sych.
Mewn cyferbyniad, mae gan India gynllun gweddillion milfeddygol cymeradwy ar gyfer wyau, felly nid yw mewnforion sy'n gysylltiedig ag wyau yn ddarostyngedig i'r un cyfyngiadau. Rhaid i fewnforion wyau gydymffurfio â safonau hylendid y DU, ac mae’r amodau mewnforio’n cael eu monitro'n fanwl drwy system o hysbysiadau cyn cyrraedd, ardystiadau iechyd, a gwiriadau mewn Safleoedd Rheolaethau’r Ffin. Rhaid datgan llwythi risg ganolig drwy IPAFFS (llwyfan TG y DU ar gyfer mewnforio cynhyrchion, anifeiliaid, bwyd a systemau bwyd anifeiliaid) cyn iddynt gyrraedd, a rhaid bod tystysgrif iechyd ddilys gan awdurdod y wlad sy’n allforio yn mynd gyda llwythi o’r fath. Mae’r llwythi hyn hefyd yn ddarostyngedig i archwiliadau dogfennol, adnabod a ffisegol pan fyddant yn cyrraedd. Mae ystyriaethau sy'n ymwneud â lles anifeiliaid y tu allan i gwmpas cyngor yr ASB ac FSS ac maent yn rhan o gylch gwaith y Comisiwn Masnach ac Amaethyddiaeth.
Plaladdwyr
Mae'r ASB ac FSS yn gweithio hefyd i sicrhau bod bwyd nad yw'n dod o anifeiliaid a fewnforir o India a gwledydd eraill yn ddiogel i'w fwyta ac nad yw'n cynnwys lefelau niweidiol o blaladdwyr, drwy fonitro bwyd ar y ffin a chyflwyno rheolaethau ychwanegol pan fo angen. Mae gan y DU derfynau cyfreithiol llym o ran faint o weddillion plaladdwyr y gellir eu gadael ar fwydydd, ac fe’u gelwir yn lefelau gweddillion uchaf. Fe’u pennir ar lefel ryngwladol yn y Codex Alimentarius, ond, yn aml, mae gan y DU safonau llymach na gwledydd eraill ac mae'n rhaid i allforion India ymlynu wrth y safonau hynny.
Rhaid i’r holl fewnforion i Brydain Fawr fodloni ein lefelau gweddillion uchaf, hyd yn oed pan fo terfynau’r wlad sy’n allforio ei hun yn uwch. Caiff y lefelau gweddillion uchaf eu gorfodi drwy reolaethau swyddogol a thrwy gadw gwyliadwriaeth rheolaidd ar y ffin, gan gynnwys samplu a phrofi mewn labordai achrededig, a bwriedir i’r mesurau hyn gael hyd i achosion o ddiffyg cydymffurfiaeth. Mae'r ASB ac FSS hefyd yn rhan o raglen fonitro genedlaethol lle y caiff samplau o fwydydd o'r DU a bwydydd a fewnforir eu profi am blaladdwyr, gweddillion meddyginiaethau milfeddygol a pheryglon eraill.
Os canfyddir lefelau anniogel drwy'r gweithgareddau monitro hyn, gellir atal y cynhyrchion ar y ffin, eu galw'n ôl o siopau, neu beri iddynt fod yn ddarostyngedig i reolaethau llymach yn y dyfodol mewn achosion pan fo diffyg cydymffurfiaeth mynych. Mae'r system hon o fonitro ac o gymryd camau gweithredu sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn caniatáu i'r ASB ac FSS roi rheolaethau ychwanegol ar waith pan fo angen a chynhyrchu rhagor o wybodaeth i osod sail ar gyfer adolygiad yn y dyfodol. Er enghraifft, ers mis Rhagfyr 2024, rhoddwyd rheolaethau llymach yn eu lle ar gyfer rhai cynhyrchion o India gan ddefnyddio Rheoliad a Gymathwyd 2019/1793, gan ddilyn y broses a nodir yn adran 4 o'r adroddiad hwn, a disgwylir i adolygiad newydd ddod i rym yn y flwyddyn newydd.
Ar sail lefel y risg a aseswyd gan yr ASB ac FSS, ystyrir yr holl reis o India yn fwyd risg uchel nad yw’n dod o anifeiliaid ac mae 5% o’r cynnyrch hwnnw’n ddarostyngedig i wiriadau ffisegol a gwiriadau adnabod o dan y Rheoliad hwn. Caiff samplau eu monitro'n rheolaidd, ac mae'r ASB ac FSS yn adolygu'r cyfraddau gwirio hyn yn rheolaidd yn unol â lefel y risg. Os ceir achosion mynych o ddiffyg cydymffurfiaeth a bod y risg i'r cyhoedd yn uchel, gall Llywodraeth y DU osod mesurau brys.
Bwriedir i’r mesurau diogelu hyn ddiogelu’r cyhoedd a sicrhau bod y bwyd a fwyteir gan bobl yn y DU yn ddiogel ac yn bodloni’r disgrifiad ohono.
O ran y pryderon penodol a fynegwyd gan PAN UK ynghylch pennod y Cytundeb sy’n ymwneud â mesurau iechydol a ffytoiechydol, mae'r gallu i gydnabod cyfwerthedd rhwng dau fesur iechydol a ffytoiechydol neu set o fesurau iechydol a ffytoiechydol yn dibynnu'n llwyr ar gynnal lefelau diogelu priodol fel y'u nodir gan y wlad sy'n mewnforio. Byddai hyn yn cynnwys bodloni safonau'r DU o ran lefelau gweddillion uchaf ar gyfer gwledydd sydd eisiau allforio nwyddau i Brydain Fawr a gwneud cais i gydnabod cyfwerthedd. Gall fod gan wlad lefelau gweddillion uchaf is ar gyfer ei marchnad ddomestig, ond os yw hi eisiau allforio i Brydain Fawr, rhaid iddi fodloni ein lefelau gweddillion uchaf ni.
14. Casgliadau
14.1 Rydym wedi adolygu'r testun cyfreithiol sy'n llywodraethu Cytundeb y DU ac India, gan ganolbwyntio'n benodol ar ei oblygiadau ar gyfer mesurau diogelu statudol mewn perthynas â diogelwch bwyd a maeth. Ar sail ein dadansoddiad, daw'r ASB ac FSS i'r casgliad a ganlyn:
- Mae'r cytundeb yn parchu hawl Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig i wneud eu penderfyniadau eu hunain o ran diogelwch bwyd a maeth.
- Bydd Gweinidogion ledled y DU yn parhau i fod yn gyfrifol am reoliadau diogelwch bwyd, gan gael cyngor cadarn sy’n seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth gan yr ASB ac FSS. Mae'r dull hwn o weithredu yn hanfodol i gynnal mesurau diogelu cryf yn y dyfodol.
- Mae'r Cytundeb yn gyson ag ymrwymiad y DU i ddiogelu iechyd y cyhoedd drwy safonau maeth, fel y nodir mewn deddfwriaeth.
- Nid oes angen gwneud unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth diogelwch bwyd y DU er mwyn i Gytundeb y DU ac India gael effaith, a bydd y DU yn parhau i gynnal ei chyfreithiau a'i mesurau diogelu presennol o ran diogelwch bwyd o dan ddeddfwriaeth y DU.
- Ni wnaed unrhyw benderfyniadau cyfwerthedd newydd ar gyfer cynhyrchion bwyd-amaeth o dan gytundeb y DU ag India.
- Os bydd y cytundeb yn arwain at gynnydd mewn mewnforion bwyd o India, bydd angen i'r Llywodraeth sicrhau bod gan bob Awdurdod Cymwys sy'n ymwneud â rheoli bwyd ar y ffin ac yn fewndirol adnoddau digonol.
- Mae rhanddeiliaid wedi mynegi pryderon ynghylch safonau cynhyrchu bwydydd a fewnforir o India, gan danlinellu pwysigrwydd cynnal hyder yn y drefn oruchwylio reoleiddiol. Mae'r DU yn cynnal system gadarn ac ymatebol o reolaethau ar y ffin a luniwyd i reoli risgiau sy'n dod i'r amlwg yn effeithiol ac i sicrhau bod bwydydd a fewnforir yn bodloni safonau mewnforio'r DU. Mae'r darpariaethau a geir yn y cytundeb masnach yn cefnogi'r dull hwn o weithredu, gan sicrhau bod modd rhoi mesurau brys ar waith pan fo angen i ddiogelu iechyd y cyhoedd a diogelwch bwyd.
- Nid yw'r cytundeb masnach hwn yn cyfyngu ar allu'r DU i negodi cytundeb iechydol a ffytoiechydol â'r UE. Mae'r DU yn cadw'r hawl i osod ei rheolau ei hun o ran mesurau iechydol a ffytoiechydol ac i negodi cytundebau dwyochrog ac amlochrog, gan gynnwys â'r UE.
-
Cytundeb Masnach Rydd India – cais am gyngor gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Safonau Bwyd yr Alban
-
Deddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethiant 2010 (Legislation.gov.uk)
-
Nodir y ffordd y mae Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig yn cydweithio ar draws y pedair gwlad yn y Fframwaith Cyffredin ar gyfer Diogelwch a Hylendid Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (FFSH).
-
Cytundeb y DU ac India – Pennod 1: Darpariaethau Cychwynnol a Diffiniadau Cyffredinol
-
Pennod 1 Cytundeb Masnach Rydd y DU ac India: Darpariaethau Cychwynnol a Diffiniadau Cyffredinol
-
Cytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Gymhwyso Mesurau Iechydol a Ffytoiechydol
-
Cytundeb Masnach Rydd y DU ac India Pennod 7: Rhwystrau Technegol i Fasnach
-
Cytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Rwystrau Technegol i Fasnach
-
Galwad am Dystiolaeth: Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU ac India
-
Barn dinasyddion am yr UE a materion bwyd (cylch mis Mawrth 2021)
-
Buddiannau, anghenion a phryderon y cyhoedd yn y DU ynghylch bwyd | Asiantaeth Safonau Bwyd
-
Food in Scotland Consumer Tracker Survey Wave 19 | Safonau Bwyd yr Alban
-
Are the UK's Trade Deals Reflecting Consumer Priorities? – Which? Policy and insight
-
2022 Annual Survey of UK Public Opinion on Foreign Policy and Global Britain (bfpg.co.uk)
-
Mynegai Ymddiriedaeth Mewn Bwyd y DU 2022 – Cynllun Sicrwydd y Tractor Coch
-
Y Llawlyfr Rheolaethau Swyddogol, Pennod 5.1 Gweddillion: Cynllun Gwyliadwriaeth Cenedlaethol y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygo
-
Canllawiau’r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol: Residues Surveillance
-
Canllawiau Defra: Submit a residue control plan for exports to Great Britain