Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Llyfryn yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Ein gwaith

O lunio polisïau, i gynhyrchu tystiolaeth a rheoleiddio, dyma beth rydym yn ei wneud i gadw bwyd yn ddiogel.

Diweddarwyd ddiwethaf: 4 July 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 July 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Rydym yn gynhyrchydd tystiolaeth

Mae gennym enw da yn fyd-eang am wyddoniaeth ac ymchwil. Mae hyn yn cynnwys cynnal asesiadau cyflym o risgiau i ddiogelwch defnyddwyr, datblygu technegau gwyliadwriaeth newydd i nodi risgiau’n gyflymach, a deall gwerthoedd, agweddau ac ymddygiad defnyddwyr. Rydym yn cyhoeddi ein tystiolaeth yn unol â’n hymrwymiad i fod yn dryloyw.

Mae hyn yn golygu ei bod ar gael am ddim i eraill sy’n gwneud polisïau a phenderfyniadau, i lywio canllawiau i fusnesau, ac fel y gall y cyhoedd deall y sail ar gyfer ein penderfyniadau. Rydym hefyd yn gyfrifol am ddynodi’r labordai swyddogol sy’n cynnal dadansoddiadau cemegol a chyfansoddol pwysig ar samplau bwyd a bwyd anifeiliaid a gymerir gan awdurdodau lleol neu awdurdodau iechyd porthladdoedd.

Rydym yn wneuthurwr polisi

Rydym yn cynghori gweinidogion ar ddiogelwch bwyd, dilysrwydd bwyd a buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae’r meysydd polisi rydym ni’n cynghori arnynt yn wahanol ym mhob gwlad (gweler yr adran: y system rheoleiddio bwyd). Mae ein cyngor yn seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth.

Rydym yn cefnogi gwaith y llywodraeth ar gyfleoedd masnach i’r DU, gan ddarparu asesiadau risg o wledydd sydd am ddechrau mewnforio i’r DU a dangos ein trefniadau diogelwch bwyd ein hunain i wledydd rydym yn allforio iddynt. Rydym yn darparu cyngor polisi i gefnogi’r gwaith o gynnal rheolaethau swyddogol effeithiol sy’n seiliedig ar risg – fel arolygiadau, archwiliadau, gwyliadwriaeth a gwaith samplu mewn busnesau bwyd.

Rydym yn darparu cyngor polisi i weinidogion ar ein cyfundrefnau statudol ar gyfer awdurdodiadau cyn rhoi cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid newydd ar y farchnad, gan sicrhau eu bod yn parhau i gadw pobl yn ddiogel yn bennaf oll, wrth ddarparu gwasanaeth effeithiol i fusnesau a dileu rhwystrau i arloesi.

Rydym wrthi’n datblygu trefn reoleiddio newydd ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid wedi’u bridio’n fanwl, ac yn ei pharatoi i’w rhoi ar waith. Rydym yn cyfrannu at ddatblygu a gweithredu polisi Fframwaith Windsor, gan reoli’r goblygiadau gweithredol i ddefnyddwyr Gogledd Iwerddon.

Rydym yn llywio gwaith trawslywodraethol i ddatblygu a gweithredu polisi ar reolaethau mewnforio, ac yn sicrhau bod safonau bwyd a bwyd anifeiliaid yn cael eu cynnal neu eu gwella.

Ein gwaith - Llyfryn yr ASB

Rydym yn rheoleiddiwr

Rydym yn rheoleiddio’r system fwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Rydym yn cynnal rheolaethau uniongyrchol yn y meysydd cynhyrchu cig, llaeth a gwin, ac yn goruchwylio’r gwaith o gynnal rheolaethau mewn rhannau eraill o’r system fwyd.

Mae staff yr ASB a chontractwyr milfeddygol yn arolygu, archwilio a rhoi sicrwydd i fusnesau, gan gynnwys llofnodi tystysgrifau iechyd allforio. Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol sy’n arolygu busnesau bwyd lleol – gan osod y fframwaith arolygu, a darparu cyngor a chanllawiau, a monitro eu perfformiad. Rydym yn gwneud yr un peth ar gyfer awdurdodau iechyd porthladdoedd, sy’n arolygu mewnforion bwyd. Rydym yn diwygio’r fframwaith rheoleiddio diogelwch bwyd i roi sicrwydd mwy cymesur sy’n seiliedig ar risg.

Rydym yn asesu pa fathau o gynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid newydd y dylid eu hawdurdodi i’w gwerthu ar y farchnad ym Mhrydain Fawr ac yn cynghori ar oblygiadau newidiadau rheoleiddiol yng Ngogledd Iwerddon. Rydym ni, ar y cyd â Safonau Bwyd yr Alban, yn cynnal dadansoddi risg ar y cynhyrchion rheoleiddiedig hyn ac yn darparu cyngor i Weinidogion, a fydd yn penderfynu a ellir rhoi’r cynnyrch ar y farchnad yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Rydym yn darparu canllawiau i fusnesau bwyd. Rydym yn defnyddio gwyliadwriaeth i nodi risgiau i ddefnyddwyr a sylwi ar ddigwyddiadau diogelwch bwyd posib, ac rydym yn ymateb i’r rhain pan fyddant yn codi. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda gweithgynhyrchwyr, manwerthwyr ac awdurdodau lleol i olrhain ffynonellau brigiadau o achosion o glefydau a gludir gan fwyd a chydgysylltu camau gweithredu, fel galw cynnyrch yn ôl i ddiogelu defnyddwyr a busnesau. Mae ein Huned Genedlaethol Troseddau Bwyd yn gweithio i fynd i’r afael â thwyll difrifol a throseddu cysylltiedig mewn cadwyni cyflenwi bwyd.

Rydym yn gorff gwarchod

Rydym yn adolygu ac yn adrodd ar safonau bwyd a buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd, gan ddefnyddio gwyliadwriaeth, sganio’r gorwel a chudd-wybodaeth. Rydym ni, ar y cyd â Safonau Bwyd yr Alban, yn cyhoeddi adolygiad blynyddol o safonau bwyd ledled y DU.

Rydym yn siarad yn gyhoeddus am feysydd o ddiddordeb i ddefnyddwyr, pan fydd gennym dystiolaeth neu arbenigedd a allai wneud gwahaniaeth. Mae hyn yn cynnwys cynghori gweinidogion er mwyn sicrhau bod Cytundebau Masnach Rydd yn cynnal mesurau diogelu statudol ar gyfer iechyd pobl, a hynny gan gefnogi adroddiadau a gaiff eu llunio ar gyfer Senedd y DU o dan Adran 42 o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020. Rydym hefyd yn rhoi cyngor i weinidogion ar  geisiadau i gael mynediad i’n marchnadoedd ar gyfer nwyddau penodol.

Rydym yn gynullydd ac yn gydweithredwr

Mae bwyd yn fater datganoledig. Rydym yn gweithio’n agos gydag adrannau eraill yn Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon a Safonau Bwyd yr Alban i gyflawni blaenoriaethau a rennir a sicrhau bod buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd yn cael eu cynrychioli. 

Rydym wedi ymrwymo i weithio ar draws y llywodraeth i geisio consensws o ran y cyngor y byddwn yn ei roi i weinidogion ym mhob gwlad. Mae hyn yn cynnwys cymryd rhan mewn Fframweithiau Cyffredin, sef prosesau trawslywodraethol sy’n sicrhau bod dull cyffredin yn cael ei fabwysiadu mewn meysydd polisi datganoledig

Rydym hefyd yn dod â phartïon eraill ynghyd i fynd i’r afael â phroblemau yn y system fwyd, gan weithio gyda’r byd academaidd, y gymdeithas sifil a busnesau i gefnogi nodau ac amcanion a rennir. Rydym yn rhannu mewnwelediadau a thystiolaeth ar fuddiannau dinasyddion i helpu i lywio ffyrdd o feddwl ar draws y llywodraeth.

Gweler Ein Partneriaethau am fwy o wybodaeth am sut rydym yn gweithio gydag eraill.