Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Strategaeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer 2022 i 2027

Ein prif egwyddorion

Y prif egwyddorion sy’n nodi sut y bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cyflawni ei strategaeth bum mlynedd.

Rydym ni wedi datblygu saith prif egwyddor sy’n nodi sut yr ydym am weithio dros y pum mlynedd nesaf.

Mae’r egwyddorion yn adlewyrchu rhai o gryfderau presennol ein sefydliad y mae’n rhaid i ni eu cynnal, a rhai ffyrdd hollbwysig y mae angen i ni barhau i esblygu:

Ni yw’r llais dibynadwy ar safonau bwyd, gan ddiogelu buddiannau defnyddwyr

Rydym ni’n defnyddio ein dealltwriaeth fanwl o fuddiannau defnyddwyr i lywio penderfyniadau am y system fwyd. Rydym ni’n ennill ac yn cynnal ymddiriedaeth y cyhoedd. Os bydd angen, rydym ni’n blaenoriaethu budd y defnyddiwr uwchlaw buddiannau eraill.

Rydym ni’n cael ein harwain gan wyddoniaeth a thystiolaeth

Rydym ni’n seilio ein penderfyniadau ar wyddoniaeth a thystiolaeth. Rydym ni’n cynhyrchu mewnwelediadau a dadansoddiadau sy’n llywio ein gwaith ac sy’n gallu llywio polisïau ac arferion sefydliadau eraill yn y system fwyd. Rydym ni’n dweud y gwir am fwyd.

Rydym ni’n agored ac yn dryloyw

Rydym ni’n darparu gwybodaeth glir i’r cyhoedd sy’n eu helpu i ddeall risg. Rydym ni’n cyhoeddi ein hymchwil a thystiolaeth ac yn gwneud ein penderfyniadau yn gyhoeddus.

Rydym ni’n gweithio gydag eraill, a thrwy eraill

Rydym ni’n gweithio gydag eraill i ddefnyddio eu cyrhaeddiad a’u dylanwad i wella safonau bwyd a, lle y bo’n briodol, newid ymddygiad defnyddwyr a’r diwydiant. Rydym ni’n gweithio’n agos gyda phartneriaid ym mhob rhan o’r DU, gyda llywodraeth genedlaethol a lleol ac ar draws y diwydiant, y byd academaidd, cymdeithas sifil a’n cyflenwyr. 

Rydym ni’n ei gwneud yn haws i fusnesau gyflawni eu rhwymedigaethau a gwneud y peth iawn i ddefnyddwyr

Rydym ni’n gwrando ar adborth ac yn cael gwared ar rwystrau i gyflawni safonau uchel. Rydym ni am helpu busnesau i wneud pethau’n iawn i ddefnyddwyr ac i arloesi. Bydd hyn o fudd i ddefnyddwyr a busnesau fel ei gilydd.

Rydym ni’n seiliedig ar risg ac yn gymesur

Rydym ni’n gymesur yn ein dull, gan ganolbwyntio ar fwyd a busnesau sy’n peri’r risg fwyaf i ddefnyddwyr. Rydym ni’n sicrhau nad oes baich di-angen ar fusnesau.

Rydym ni’n arloesol

Rydym ni’n rhagweld newid ac yn ymateb yn gyflym i ddatblygiadau cyflym yn y sector bwyd yma a thramor. Rydym ni’n rhagweithiol yn ein gwaith i sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac i gynnal hyder defnyddwyr, busnesau a phartneriaid masnachu. Rydym ni’n defnyddio data a thechnoleg ddigidol i sbarduno newid. 

Byddwn yn parhau i ymgorffori’r egwyddorion hyn drwy’r holl waith y mae ein timau’n ei wneud.