Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Os oes gennych unrhyw bryderon neu wybodaeth yn ymwneud â thwyll neu droseddoldeb mewn cadwyni cyflenwi bwyd, neu os ydych yn dymuno chwythu’r chwiban ynghylch busnes bwyd yr ydych yn gweithio iddo, ffoniwch linell gymorth Trechu Trosedd Bwyd yn Gyfrinachol ar 0207 276 8787 (9am i 4pm, dydd Llun i ddydd Gwener) neu rhowch wybod drwy ein gwasanaeth ar-lein.

Canllawiau ar Ganabidiol (CBD) ar gyfer Cymru a Lloegr

Penodol i Gymru a Lloegr

Canllawiau i fusnesau ar ganabidiol (CBD) fel bwyd newydd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Mawrth 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Mawrth 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau
Mae'r canllawiau hyn yn berthnasol i Gymru a Lloegr. I weld canllawiau ar gyfer Gogledd Iwerddon, ewch i'r dudalen we ar ganllawiau CBD ar gyfer Gogledd Iwerddon (Saesneg yn unig).


Mae CBD yn un o lawer o gemegion a elwir yn ganabinoidau (cannabinoids). Mae i’w gael mewn cywarch (hemp) a chanabis, a gellir ei gynhyrchu’n synthetig.

Gellir cael echdyniadau (extracts) CBD o’r rhan fwyaf o rannau planhigion canabis neu gywarch. Maen nhw’n cael eu hechdynnu’n ddetholus, gan greu CBD crynodedig (concentrated) a thynnu neu leihau cydrannau cemegol eraill. Mae’r broses hon yn golygu bod y cynnyrch terfynol yn wahanol i gywarch.

Nid yw cywarch a chynhyrchion cysylltiedig, fel olewau wedi’u gwasgu’n oer, yn fwydydd newydd oherwydd bod tystiolaeth i ddangos bod pobl wedi’u bwyta cyn mis Mai 1997. Nid yw hyn yn wir am echdyniadau CBD.

Statws CBD fel bwyd newydd

Cadarnhawyd statws bwyd newydd echdyniadau CBD ym mis Ionawr 2019. Dyna pam mae angen awdurdodiad ar gynhyrchion bwyd CBD cyn y gellir eu gwerthu’n gyfreithlon ym Mhrydain Fawr. 

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw echdyniadau CBD nac unigion (isolates) CBD wedi’u hawdurdodi ar y farchnad.

Gwneud cais am awdurdodiad

Dylai busnesau bwyd wneud cais i awdurdodi echdyniadau CBD, unigion CBD a chynhyrchion cysylltiedig i’w rhoi ar farchnad Prydain Fawr gan ddefnyddio ein gwasanaeth ‘gwneud cais am gynhyrchion wedi’u rheoleiddio’.

Yn y rhan fwyaf o achosion, yr ymgeisydd fydd y gweithgynhyrchwr, ond gall cyrff masnach a chyflenwyr eraill wneud cais hefyd. 

Unwaith y bydd cynhwysyn CBD wedi’i awdurdodi, mae’r awdurdodiad hwnnw’n berthnasol i’r cynhwysyn hwnnw yn unig. Mae hyn yn golygu defnyddio’r un dulliau cynhyrchu manwl ar gyfer yr un defnyddiau yn union ag a ddisgrifir yn yr awdurdodiad, a defnyddio’r un sylfaen tystiolaeth ddiogelwch.

Gall yr ymgeisydd ofyn i’r dystiolaeth wyddonol sydd newydd ei datblygu neu’r data gwyddonol sy’n cefnogi ei gais beidio â chael eu defnyddio heb ei ganiatâd mewn ceisiadau dilynol am bum mlynedd, a hynny o ddyddiad awdurdodi’r bwyd newydd. 

Canllawiau ar gyfer gwneud cais

Mae angen i chi wneud cais i awdurdodi echdyniadau ac unigion CBD gan ddefnyddio’r weithdrefn ar gyfer ceisiadau llawn am fwyd newydd.

Mae ystyried diogelwch y cynnyrch yn rhan bwysig o unrhyw gais am CBD fel bwyd newydd. Heb wybodaeth o’r fath, na chyfiawnhad dros yr oedi cyn darparu’r wybodaeth angenrheidiol, ni fyddwn yn gallu dilysu cais.

Nid yw bodloni’r safon ddilysu yn golygu y bydd y cynnyrch o reidrwydd yn cael ei awdurdodi. Bydd pob cais yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun. Dim ond trwy gynnwys yr wybodaeth am ddiogelwch sy’n uniongyrchol berthnasol y bydd ceisiadau yn gallu symud yn eu blaen ac, o bosib, gael eu hawdurdodi.

Gwybodaeth wenwynegol

Ar gyfer datblygu profion gwenwynegol ar gyfer cynhyrchion CBD, rydym ni’n argymell ystyried canllawiau Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) ar geisiadau am fwyd newydd. Mae’r canllawiau’n awgrymu astudiaeth 90 diwrnod yn dilyn protocol OECD TG 408. Dylid addasu’r protocol i gynnwys asesiad o baramedrau ychwanegol. Disgrifir y paramedrau hyn yn y canllaw mwy diweddar ar astudio gwenwyndra trwy’r genau dosiau niferus mewn cnofilod (rodents) dros 28 diwrnod (OECD TG 407).

Barn y Pwyllgor ar Wenwyndra yw bod nifer o fylchau yn y data ar gyfer CBD yn y llenyddiaeth. Byddai’r bylchau hyn ac unrhyw arwyddion o’r llenyddiaeth, fel unrhyw feysydd 
gwenwyneg atgynhyrchiol, lle gallai fod pryderon , yn sail ddefnyddiol i ddatblygu eich cynlluniau profi ymhellach. Mae hefyd angen cynnal profion genotocsig. Mae hyn fel arfer yn cynnwys prawf mwtanu bacteriol gwrthdro (prawf AMES), prawf microcnewyllyn  celloedd mamalaidd in vitro, a phrawf gwyriad yn y cromosomau.

Rydym ni’n awgrymu bod yr eitemau prawf a ddefnyddir i gynhyrchu astudiaethau yn cael eu dewis yn ofalus er mwyn sicrhau bod yr holl gynhwysion newydd y gwneir cais amdanynt yn cael eu cynnwys. Pan na ddilynir rheolau diogelwch yn y profion, efallai y bydd angen astudiaethau pellach i archwilio materion penodol a nodwyd. Rydym ni’n annog ymgeiswyr i ddarparu’r holl astudiaethau wrth gyflwyno er mwyn caniatáu asesiad risg cyflawn. 

Ni allwn dderbyn llenyddiaeth yn unig i ddangos diogelwch cynhwysyn CBD newydd. 
 

Cynhyrchion bwyd CBD sy’n gysylltiedig â cheisiadau bwyd newydd

Mae'r rhestr o gynhyrchion CBD sy'n gysylltiedig â cheisiadau bwyd newydd yn cynnwys cynhyrchion bwyd CBD sy'n bodloni'r meini prawf canlynol:

  • roedd y cynhyrchion ar y farchnad ar adeg ein cyhoeddiad ar CBD (13 Chwefror 2020) 
  • daeth cais am awdurdodiad ar gyfer y cynhyrchion i law erbyn 31 Mawrth 2021 
  • gwnaethom ddilysu’r cais neu gytuno ei fod yn symud yn ei flaen yn ddigonol tuag at gael ei ddilysu

Dylai pob cynnyrch CBD gydymffurfio â gofynion deddfwriaethol eraill ac ni ddylent fod:

  • wedi’u labelu’n anghywir
  • yn anniogel
  • wedi’u hystyried yn sylweddau wedi’u rheoleiddio

Rhaid tynnu yn ôl o'r farchnad unrhyw gynhyrchion nad ydynt yn ymddangos ar y rhestr neu unrhyw gynhyrchion sydd wedi'u nodi fel 'Tynnwyd'. Mae hyn oherwydd bod y cais bwyd newydd cysylltiedig wedi'i ystyried yn anaddas ar gyfer symund yn ei flaen i gael ei awdurdodi.

Rhagor o wybodaeth am gynhyrchion sy’n gysylltiedig â cheisiadau am fwyd newydd.

Chwilio drwy'r rhestr o gynhyrchion CBD

Rhestr o gynhyrchion CBD sy'n gysylltiedig â cheisiadau am fwyd newydd

Cynhyrchion bwyd CBD eraill

O ddyddiad ein cyhoeddiad (13 Chwefror 2020) ymlaen, ni ddylai unrhyw echdyniadau CBD, unigion CBD neu gynhyrchion terfynol cysylltiedig newydd sy’n defnyddio’r cynhwysyn newydd hwn, gan gynnwys brandiau newydd, gael eu rhoi ar y farchnad nes bod ganddynt yr awdurdodiad angenrheidiol. Nid yw cais wedi’i ddilysu yn ddigonol i roi cynhyrchion newydd ar y farchnad. Rydym ni’n disgwyl i bob cynnyrch CBD arall nad yw wedi’i nodi ar y rhestr gael ei dynnu’n ôl yn wirfoddol. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am orfodi a gallant dynnu’r cynhyrchion hyn o’r farchnad. 

Gofynnwyd i bob ymgeisydd sydd â cheisiadau cynnyrch CBD annilys i dynnu eu cynhyrchion o’r farchnad yn wirfoddol. Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein tudalen ar geisiadau annilys am awdurdodi cynhyrchion CBD.

Mae hyn yn berthnasol yng Nghymru a Lloegr. Safonau Bwyd yr Alban sy’n gyfrifol am reoliadau bwyd newydd yn yr Alban. 

Diogelwch cynhyrchion CBD

Rydym ni wedi cyhoeddi cyngor i ddefnyddwyr ar ddefnyddio CBD ar gyfer oedolion iach a grwpiau agored i niwed.

Dylai’r rheiny sy’n gwerthu CBD fod yn ymwybodol o’r wybodaeth hon a dylent allu rhoi gwybod i’r defnyddwyr beth yw’r dos uchaf dyddiol a argymhellir ar gyfer oedolion iach. Fel mesur rhagofalus rydym ni’n cynghori na ddylai’r rheiny sy’n feichiog, sy’n bwydo ar y fron neu sy’n cymryd meddyginiaeth gymryd CBD