Canllawiau ar Ganabidiol (CBD) ar gyfer Cymru a Lloegr
Canllawiau i fusnesau ar ganabidiol (CBD) fel bwyd newydd.
Mae CBD yn un o lawer o gemegion a elwir yn ganabinoidau (cannabinoids). Mae i’w gael mewn cywarch (hemp) a chanabis, a gellir ei gynhyrchu’n synthetig.
Gellir cael echdyniadau (extracts) CBD o’r rhan fwyaf o rannau planhigion canabis neu gywarch. Gellir eu hechdynnu’n ddetholus, gan ddarparu crynodiad CBD. Gall rhai prosesau newid cyfansoddion cemegol eraill.
Nid yw hadau cywarch, olew hadau cywarch, hadau cywarch daear, hadau cywarch wedi’u dihysbyddu (yn rhannol) na bwyd arall sy’n deillio o hadau cywarch yn fwydydd newydd. Ystyrir hefyd nad yw trwyth dŵr o ddail cywarch (lle nad oes topiau wedi’u blodeuo a ffrwytho arnynt) yn fwyd newydd. Mae hyn oherwydd bod tystiolaeth i ddangos bod hanes o’i yfed cyn mis Mai 1997. Nid yw hyn yn wir am echdyniadau CBD eu hunain nac unrhyw gynhyrchion y cânt eu hychwanegu atynt fel cynhwysyn (fel olew hadau cywarch). Mae hyn hefyd yn berthnasol i echdyniadau o blanhigion eraill sy’n cynnwys canabinoidau fel yr amlinellir yng Nghatalog Bwyd Newydd yr UE.
Statws CBD fel bwyd newydd
Cadarnhawyd statws bwyd newydd CBD ym mis Ionawr 2019. Dyna pam mae angen awdurdodiad ar gynhyrchion bwyd CBD cyn y gellir eu gwerthu’n gyfreithlon ym Mhrydain Fawr.
Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw echdyniadau CBD nac unigion (isolates) CBD wedi’u hawdurdodi ar y farchnad.
Gwneud cais am awdurdodiad
Mae’n rhaid i fusnesau bwyd wneud cais i awdurdodi echdyniadau CBD, unigion CBD a chynhyrchion cysylltiedig i’w rhoi ar farchnad Prydain Fawr gan ddefnyddio ein gwasanaeth gwneud cais i awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig.
Yn y rhan fwyaf o achosion, yr ymgeisydd fydd y gweithgynhyrchwr, ond gall cyrff masnach a chyflenwyr eraill wneud cais hefyd.
Unwaith y bydd cynhwysyn CBD wedi’i awdurdodi, mae’r awdurdodiad hwnnw’n gymwys i’r cynhwysyn hwnnw yn unig. Mae hyn yn golygu defnyddio’r un dulliau cynhyrchu manwl, ar gyfer yr un defnyddiau yn union ag a ddisgrifir yn yr awdurdodiad, a defnyddio’r un sylfaen dystiolaeth ar gyfer diogelwch.
Os yw bwyd newydd wedi’i awdurdodi a’i ychwanegu at y rhestr yn seiliedig ar ddata gwyddonol perchnogol neu wybodaeth sydd â chaniatâd diogelu data, caniateir iddo gael ei roi ar y farchnad gan yr ymgeisydd yn unig, a hynny am gyfnod o 5 mlynedd.
Canllawiau ar gyfer gwneud cais
Mae angen i chi wneud cais i awdurdodi eich echdyniadau a’ch unigion CBD gan ddefnyddio’r weithdrefn ar gyfer ceisiadau llawn am fwydydd newydd.
Mae ystyried diogelwch y cynnyrch yn rhan bwysig o unrhyw gais am CBD fel bwyd newydd. Heb wybodaeth o’r fath, na chyfiawnhad dros yr oedi cyn darparu’r wybodaeth angenrheidiol, ni fyddwn yn gallu dilysu cais.
Nid yw bodloni’r safon ddilysu yn golygu y bydd y cynnyrch o reidrwydd yn cael ei awdurdodi. Bydd pob cais yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun. Dim ond wrth gynnwys gwybodaeth am ddiogelwch sy’n uniongyrchol berthnasol y bydd ceisiadau’n gallu symud yn eu blaen ac, o bosib, gael eu hawdurdodi.
Gwybodaeth wenwynegol
Yn dilyn y data ychwanegol a ddarparwyd i gefnogi awdurdodiadau bwyd newydd, dim ond ar gyfer cynhwysion CBD â mwy na 98% o CBD y dylid cynhyrchu data pellach yn sgil astudiaethau anifeiliaid. Ni allwn dderbyn gwybodaeth lenyddol yn unig ar gyfer agweddau gwenwynegol y cais. Yn ogystal, ni allwn ddefnyddio gwybodaeth o un cais am fwyd newydd er budd ymgeisydd arall heb ganiatâd perchennog y data. Er mwyn lleihau’r defnydd o anifeiliaid, rydym yn annog ymgeiswyr, lle bo’n berthnasol, i ddefnyddio’r setiau data presennol a gynhyrchwyd.
Dylai data a gynhyrchir i gefnogi ceisiadau bwyd newydd fod ar ddeunydd prawf perthnasol sy’n adlewyrchu cyfansoddiad y bwyd newydd sy’n ceisio awdurdodiad. Dylid cynhyrchu data hefyd yn unol â dulliau gwenwynegol a gydnabyddir yn rhyngwladol fel protocol OECD TC 408.
Mae’r datganiad gan yr ACNFP a COT yn amlinellu sawl maes lle gellid cynhyrchu data ychwanegol a sut y gallai hyn lywio’r wybodaeth am ddiogelwch CBD. Rydym yn annog ymgeiswyr sydd am gynhyrchu data i ystyried y bylchau hyn yn y data a, lle bo modd, ddefnyddio dulliau safonol. Pan fo data newydd yn cael ei gynhyrchu, rydym yn annog ymgeiswyr i weithio ar y cyd i wneud y mwyaf o’r wybodaeth a gynhyrchir.
Cynhyrchion bwyd CBD sy’n gysylltiedig â cheisiadau bwyd newydd
Mae’r rhestr o gynhyrchion CBD sy’n gysylltiedig â cheisiadau bwyd newydd yn cynnwys cynhyrchion bwyd CBD sy’n bodloni’r meini prawf canlynol:
- roedd y cynhyrchion ar y farchnad adeg ein cyhoeddiad ar CBD (13 Chwefror 2020)
- daeth cais am awdurdodiad ar gyfer y cynhyrchion i law erbyn 31 Mawrth 2021
- gwnaethom ddilysu’r cais neu gytuno ei fod yn symud yn ei flaen yn ddigonol tuag at gael ei ddilysu
Dylai pob cynnyrch CBD gydymffurfio â gofynion deddfwriaethol eraill ac ni ddylent fod:
- wedi’u labelu’n anghywir
- yn anniogel
- wedi’u hystyried yn sylweddau a reolir
Rhaid tynnu unrhyw gynhyrchion nad ydynt yn ymddangos ar y rhestr neu sydd wedi’u nodi fel rhai sydd wedi’u ‘Dileu’ oddi ar y farchnad.
Mwy o wybodaeth am gynhyrchion CBD sy’n gysylltiedig â cheisiadau bwydydd newydd
Chwiliwch drwy’r Gofrestr o Gynhyrchion CBD sy’n gysylltiedig â bwyd newydd
Rhestr o gynhyrchion CBD sy’n gysylltiedig â cheisiadau bwyd newydd
Mae’r rhestr hon yn gymwys i Gymru a Lloegr yn unig. Mae mwy o wybodaeth am gynhyrchion CBD yng Ngogledd Iwerddon yn ein canllawiau CBD ar gyfer Gogledd Iwerddon. Safonau Bwyd yr Alban sy’n gyfrifol am reoliadau bwyd newydd yn yr Alban.
Cynhyrchion bwyd CBD eraill
O ddyddiad ein cyhoeddiad (13 Chwefror 2020) ymlaen, ni ddylai unrhyw echdyniadau CBD, unigion CBS na chynhyrchion terfynol cysylltiedig newydd sy’n defnyddio'r cynhwysyn newydd hwn, gan gynnwys brandiau newydd a chynhyrchion label gwyn, gael eu rhoi ar y farchnad nes bod ganddynt yr awdurdodiad angenrheidiol. Nid yw cais wedi’i ddilysu yn ddigonol i roi cynhyrchion newydd ar y farchnad. Rydym yn disgwyl i unhryw gynnyrch CBD arall nad yw wedi’i nodi ar y rhestr gael ei dynnu’n ôl yn wirfoddol. Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am orfodi, a gallant dynnu’r cynhyrchion hyn oddi ar y farchnad os na chaiff cynhyrchion eu tynnu’n ôl yn wirfoddol.
Mae gwybodaeth fanwl am geisiadau cynhyrchion CBD annilys ar ein tudalen ceisiadau awdurdodi CBD annilys. Yng Nghymru a Lloegr, cynigir mai dim ond y cynhyrchion hynny sydd ar y rhestr o geisiadau cynhyrchion CBD cysylltiedig â bwyd newydd, ac sydd wedi’u nodi fel rhai sy’n aros am dystiolaeth neu ddilysiad, fydd yn aros ar y farchnad, a hynny wrth aros am benderfyniad ar awdurdodiad.
Diogelwch cynhyrchion CBD
Rydym wedi cyhoeddi cyngor i ddefnyddwyr ar ddefnyddio CBD ar gyfer oedolion iach a grwpiau agored i niwed.
Dylai’r rheiny sy’n gwerthu CBD fod yn ymwybodol o’r wybodaeth hon, a dylent allu rhoi gwybod i ddefnyddwyr beth yw’r dos uchaf dyddiol a argymhellir ar gyfer oedolion iach. Fel mesur rhagofalus, nid ydym yn argymell CBD ar gyfer pobl mewn grwpiau agored i niwed, oni bai eu bod wedi cael cyfarwyddyd meddygol i’w gymryd. Mae hyn yn cynnwys plant (rhai dan 18 oed), pobl sy’n cymryd unrhyw feddyginiaeth, y rhai sy’n ceisio beichiogi a’r rhai sy’n feichiog neu sy’n bwydo o’r fron.
Tystiolaeth newydd ynghylch defnyddio CBD yn ddiogel fel bwyd
Ers i’r rhestr gael ei rhoi ar waith, mae’r Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd a Phrosesau Newydd (ACNFP) a’r Pwyllgor ar Wenwyndra (COT) wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd mewn perthynas â’r cymeriant dyddiol derbyniol dros dro ar gyfer CBD mewn bwydydd, a’r terfyn uchaf diogel ar gyfer tetrahydrocannabinol Delta-9 (Δ9-THC).
Yn dilyn yr asesiadau diogelwch a’r cyhoeddiadau hyn, ac er mwyn diogelu defnyddwyr cymaint â phosib, rydym yn annog yn gryf bod pob gweithredwr busnes bwyd CBD yn gwneud y newidiadau angenrheidiol i gynhyrchion presennol i adlewyrchu’r cyngor newydd. Gellir cyflawni hyn drwy leihau crynodiad cynhyrchion CBD, i fod ar neu islaw’r cymeriant dyddiol derbyniol o 10mg/dydd ar gyfer CBD a’r terfyn uchaf diogel o 70 µg/dydd ar gyfer Δ9-THC. Bydd hyn yn helpu defnyddwyr i beidio â mynd dros y terfynau dyddiol hyn.
Cyngor i fusnesau ar y rhestr o gynhyrchion CBD sy’n gysylltiedig â cheisiadau bwyd newydd
O ddyddiad ein cyhoeddiad ymlaen (13 Chwefror 2020), cyngor presennol yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yw na ddylid rhoi ar y farchnad unrhyw echdyniadau CBD (extracts), unigion CBD (isolates) na chynhyrchion terfynol cysylltiedig newydd sy’n defnyddio’r cynhwysyn newydd hwn, gan gynnwys brandiau newydd a chynhyrchion label gwyn, nes bod ganddynt yr awdurdodiad angenrheidiol. Argymhellwyd y dylid caniatáu cynhyrchion sydd eisoes ar y farchnad, gan adael iddynt barhau i fod ar gael os ydynt yn gysylltiedig â chais byw credadwy am awdurdodiad. Rhoddwyd cynhyrchion o’r fath ar restr a gynhelir gan yr ASB. Nid yw’r ASB wedi caniatáu diwygiadau i’r rhestr i adlewyrchu newidiadau i gynhyrchion, fel newid enwau, gan y byddai hyn yn eu gwneud yn gynhyrchion newydd, ac felly’n anghymwys i’w cynnwys ar y rhestr.
Mae’r ASB yn cydnabod y gallai busnesau CBD ddymuno ailfformiwleiddio eu cynhyrchion mewn ymateb i’r dystiolaeth newydd a gyhoeddwyd gan y Pwyllgorau Cynghori ar y Cyd mewn perthynas â’r cymeriant dyddiol derbyniol dros dro o 10mg/dydd o CBD ar gyfer ffurf bur ≥ 98% CBD a’r terfyn uchaf diogel o 70 µg/dydd ar gyfer Δ9-THC mewn bwydydd.
Mae’r ASB bellach yn argymell bod cynhyrchion yn cael eu hailfformiwleiddio yn unol â thystiolaeth y Pwyllgor Cynghori ar y Cyd. Bydd y dull hwn yn ei gwneud hi’n haws i fusnesau gyd-fynd â’r canllawiau diweddaredig, a bydd yn rhoi mynediad i ddefnyddwyr at fwy o gynhyrchion CBD sy’n bodloni terfynau a argymhellir gan yr ASB. Gall cynhyrchion nad ydynt yn cael eu hailfformiwleiddio ar y cam hwn aros ar y rhestr, hyd nes y clywir am ganlyniad y cais bwyd newydd y mae eu cynhyrchion yn gysylltiedig ag ef.
Dylai busnesau sydd â chynhyrchion ar y rhestr ddilyn y camau hyn:
- Ystyriwch a yw ailfformiwleiddio i leihau lefelau CBD a/neu Δ9-THC i fodloni ein cyngor yn bosib neu’n briodol ar gyfer eich cynnyrch/cynhyrchion.
- Os nad yw’r ailfformiwleiddio yn newid manylion y cynnyrch ar y rhestr, nid oes rhaid i chi gysylltu â’r ASB.
- Os oes angen diwygio manylion y cynnyrch ar y rhestr o ganlyniad i’r ailfformiwleiddio, cysylltwch â’r ASB gan rannu’r wybodaeth isod.
- Diweddaru deunydd pecynnu, gan nodi y gallai deddfwriaeth bwyd arall fod yn berthnasol wrth ail-labelu neu ailbecynnu.
- Bydd yr ASB ond yn diweddaru’r rhestr at ddibenion cefnogi diogelwch defnyddwyr. Bydd y rhestr yn cael ei diweddaru bob pedwar mis, neu pan fydd angen newidiadau mawr.
Os yw’n berthnasol, cysylltwch â ni gyda’r wybodaeth ganlynol:
- rhif eich cais a rhif CBDID y cynnyrch
- y diweddariadau angenrheidiol i fanylion y cynnyrch ar y rhestr (hynny yw, newidiadau i enw’r cynnyrch er mwyn adlewyrchu swm y CBD neu’r newid o ran y cyflenwr). Gweler yr enghraifft yn y tabl.
- cadarnhau mai am resymau diogelwch yn unig y mae’r ailfformiwleiddio a nodi eich rhesymeg.
Tabl 1: Enghraifft i ddangos pa wybodaeth i’w chyflwyno er mwyn gofyn am newidiadau i fanylion cynnyrch ar y rhestr
Rhif adnabod CBD | Rhif RP | Enw’r gwneuthurwr, y cyflenwr neu’r cynnyrch | Gwelliant arfaethedig i’r cofnod | Cadarnhau y cafodd y cynnyrch ei ailfformiwleiddio am y rhesymau diogelwch a amlinellir |
---|---|---|---|---|
cbdidxxx | RPxxx | Olew CBD 20 mg | Olew CBD 10 mg | Ydw, rwy’n cadarnhau y cafodd y cynnyrch ei ailfformiwleiddio i newid o 20 mg i 10 mg am y rhesymau diogelwch a amlinellwyd ac nad oes unrhyw newidiadau eraill i’r cynnyrch/cynhyrchion. |
Y camau nesaf
Mae’n rhaid i bob busnes sydd â chynhyrchion ar y rhestr wirio bod y cais sy’n gysylltiedig â’u cynhyrchion yn cwmpasu’r mathau o gynhyrchion, y defnyddiau a’r manylebau iawn.
Labelu cynhyrchion ar y rhestr am resymau diogelwch
Anogir gweithredwyr bwyd anifeiliaid anwes ar y rhestr i labelu cynhyrchion i arddangos ein cyngor presennol i ddefnyddwyr, tra bod eu cais bwyd newydd cysylltiedig yn mynd rhagddo, gan gynnwys datganiad o’r cymeriant dyddiol derbyniol o 10mg/dydd ar gyfer CBD. Bydd hyn yn helpu defnyddwyr i wneud dewisiadau gwybodus.
Efallai y bydd angen diweddaru unrhyw newidiadau i labeli er mwyn cydymffurfio â manyleb unrhyw awdurdodiad yn y dyfodol o geisiadau yn y gwasanaeth awdurdodi cynhyrchion i’w rhoi ar y farchnad.
Rhaid i weithredwyr busnesau bwyd hefyd sicrhau bod cynhyrchion CBD wedi’u labelu yn unol â’r gofynion labelu cyffredinol a nodir yn Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011.
Rydym yn annog bod labeli’n cynnwys:
- Nodyn gyda’r geiriau: ‘The maximum acceptable daily intake (ADI) of CBD for an adult is 10 mg per day. If you consume a CBD product that has an individual serving of 10 mg/day, only one product type per day should be consumed to ensure the ADI is not exceeded. Multiple intakes of products containing CBD on the same day should be avoided.’
- Swm (neu faint) y CBD fesul dogn.
- Nodyn i ddweud nad yw’n addas i bobl o dan 18 oed.
- Nodyn i ddweud nad yw’n addas i fenywod sy’n feichiog neu’n bwydo ar y fron, nac ar gyfer dynion a menywod sy’n ceisio beichiogi.
- Nodyn i ddweud os ydych chi’n cymryd unrhyw feddyginiaethau neu os oes gennych chi system imiwnedd gwan, y dylid siarad â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cyn defnyddio’r cynnyrch hwn.
CBD a chanabinoidau rheoledig
Rhaid i gynhyrchion bwyd CBD sy’n cynnwys canabinoidau rheoledig fod yn gynhyrchion eithriedig fel y’u diffinnir yn ôl Rheoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001. Mae cynhyrchion nad ydynt wedi’u heithrio yn gyffuriau rheoledig anghyfreithlon o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971. Dylid cyfeirio cynhyrchion CBD nad ydynt yn gynhyrchion eithriedig at yr heddlu er mwyn iddynt gymryd camau priodol.
Anogir gweithredwyr busnesau bwyd yn gryf i adolygu taflen ffeithiau trwyddedu cyffuriau’r Swyddfa Gartref ar ganabis, CBD a chanabinoidau eraill. Mae’r daflen ffeithiau hon yn rhoi canllawiau ar y mesurau rheoli domestig, gan gynnwys trwyddedu ac eithriadau sy’n gymwys i ganabis, CBD a chanabinoidau rheoledig o dan ddeddfwriaeth cyffuriau (sef, Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 a’r ddeddfwriaeth eilaidd gysylltiedig).
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y canllawiau hyn, cysylltwch â CBDPublicList@food.gov.uk
Hanes diwygio
Published: 13 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Gorffennaf 2025