Ychwanegion ac E-rifau cymeradwy
Ychwanegion ac E-rifau ar gyfer lliwiau, cyffeithyddion (preservatives), gwrthocsidyddion, melysyddion, emylsyddion, sefydlogwyr, tewychwyr a mathau eraill o ychwanegion.
Dim ond mewn rhai bwydydd y caniateir defnyddio’r rhan fwyaf o ychwanegion ac maent yn ddarostyngedig i derfynau meintiol penodol, felly mae’n bwysig nodi y dylid defnyddio’r rhestr hon ar y cyd â’r ddeddfwriaeth briodol:
- Rheoliad a gymathwyd (UE) 1333/2008 ar ychwanegion bwyd yng Nghymru a Lloegr
- Rheoliad (UE) 1333/2008 ar ychwanegion bwyd a Rheoliad y Comisiwn (UE) 2022/63 sy’n diwygio Atodiadau II a III i Reoliad 1333/2008 yng Ngogledd Iwerddon
Glyserol (E 422)
Mae glyserol (E 422) wedi’i awdurdodi fel ychwanegyn bwyd, yn unol ag Atodiad II o ddeddfwriaeth yr UE a gymathwyd ar ychwanegion bwyd, Rheoliad Rhif 1333/2008 (Rheoliad y Comisiwn 1333/2008 yng Ngogledd Iwerddon).
Caniateir ei ddefnyddio ar lefelau quantum satis mewn diodydd â blas. Mae quantum satis yn golygu nad oes lefel rifiadol uchaf wedi’i phennu a rhaid defnyddio sylweddau yn unol ag arferion gweithgynhyrchu da, ar lefel nad yw’n uwch na’r hyn sy’n angenrheidiol i gyflawni’r pwrpas a fwriedir, ac ar yr amod na chaiff y defnyddiwr ei gamarwain. 
Mae glycerol (E 422) yn gynhwysyn allweddol a ddefnyddir wrth gynhyrchu diodydd iâ slwsh. Mae’n cynnal yr effaith slwsh, gan atal yr hylif rhag rhewi’n solet. Fodd bynnag, bu achosion o blant yn mynd yn sâl ar ôl yfed gormod.
Rydym wedi bod yn gweithio gyda’r diwydiant ar ganllawiau gwirfoddol i ddiogelu defnyddwyr sy’n agored i niwed ac wedi cytuno ar y pedair egwyddor ganlynol. Nid yw’r rhain yn ofynion cyfreithiol ond fe’u hystyrir fel arferion gorau.
Canllawiau i’r diwydiant ar gyfer glyserol mewn diodydd iâ slwsh
- Bydd perchnogion brand yn sicrhau bod eu cwsmeriaid yn gwbl ymwybodol o asesiad risg yr ASB ar ddefnyddio glyserol mewn diodydd iâ slwsh.
- Bydd perchnogion brand yn creu cynhyrchion sy’n cynnwys glyserol ar y lefelau isaf posib sy’n angenrheidiol yn dechnegol er mwyn creu’r effaith diod slwsh ofynnol.
- Bydd perchnogion brand yn cynghori eu cwsmeriaid y dylid rhoi rhybudd ysgrifenedig sy’n weladwy ar unrhyw fannau sy’n gwerthu diodydd iâ slwsh sy’n cynnwys glyserol, gan nodi – “Product contains glycerol. Should not be consumed by children under seven years of age and children under 10 should have a maximum of one 350ml drink per day.
- Argymhellir peidio â mabwysiadu model busnes sy’n cynnig ail-lenwi diodydd am ddim mewn lleoliadau lle bydd plant dan 10 oed yn eu hyfed.
Mae’r canllawiau hyn i’r diwydiant yn seiliedig ar y senario waethaf bosib, lle byddai defnyddwyr yn yfed diod iâ slwsh sy’n cynnwys y lefel uchaf o glyserol, sef 50,000 mg/L. Os bydd y diwydiant yn y dyfodol, gyda’i gilydd, yn penderfynu lleihau’r lefelau glyserol ym mhob cynnyrch yn sylweddol, neu os bydd newid i’r wybodaeth glinigol, gellir ailasesu’r canllawiau hyn.
Testun esboniadol i ddefnyddwyr am glyserol
Rydym wedi diweddaru’r cyngor ar ein tudalen i ddefnyddwyr ar glyserol.
 
Gogledd Iwerddon
Titaniwm deuocsid
O 7 Chwefror 2022 ymlaen, ni chaniateir defnyddio titaniwm deuocsid (TiO2 - E171) mwyach fel ychwanegyn bwyd wrth weithgynhyrchu cynhyrchion bwyd yng Ngogledd Iwerddon. Mae hyn yn dilyn cyhoeddi Rheoliad y Comisiwn (UE) 2022/63, sy’n diwygio Rheoliad (CE) Rhif 1333/2008.
Cyhoeddwyd y Rheoliad hwn gyda chyfnod pontio o 6 mis, a ddaeth i ben ar 7 Awst 2022. Ar ôl 7 Awst 2022, ni ellir defnyddio TiO2 mwyach wrth weithgynhyrchu cynhyrchion bwyd yng Ngogledd Iwerddon. Fodd bynnag, gall bwydydd sydd eisoes ar y farchnad aros ar y farchnad hyd nes y byddant yn cyrraedd y cyfnod lleiaf y byddant yn para neu eu dyddiad ‘defnyddio erbyn’. Mae'n dal yn wir y gall y nwyddau a awdurdodwyd ym Mhrydain Fawr sy’n cynnwys TiO2 gael eu symud i Ogledd Iwerddon trwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS).
Lliwiau
| E-rifau | Ychwanegion | 
|---|---|
| E100 | Curcumin | 
| E101 | (i) Riboflavin | 
| (ii) Riboflavin-5'-ffosfad | |
| E102 | Tartrazine | 
| E104 | Quinoline yellow | 
| E110 | Sunset Yellow FCF; Orange Yellow S | 
| E120 | Cochineal; Asid carminig; Carmines | 
| E122 | Azorubine; Carmoisine | 
| E123 | Amaranth | 
| E124 | Ponceau 4R; Cochineal Red A | 
| E127 | Erythrosine | 
| E129 | Allura Red AC | 
| E131 | Patent Blue V | 
| E132 | lndigotine; Indigo Carmine | 
| E133 | Brilliant Blue FCF | 
| E140 | Cloroffylls and cloroffyllins | 
| E141 | Cymhlygion copr cloroffyll a cloroffyllins | 
| E142 | Green S | 
| E150a | Plain caramel | 
| E150b | Caustic sulphite caramel | 
| E150c | Ammonia caramel | 
| E150d | Sulphite ammonia caramel | 
| E151 | Brilliant Black BN; Black PN | 
| E153 | Carbon llysiau | 
| E155 | Brown HT | 
| E160a | Carotenau | 
| E160b(i) | Annatto; Bicsin | 
| E160b(ii) | Annatto; Norbicsin | 
| E160c | Rhin paprika; Capsanthian; Capsorubin | 
| E160d | Lycopene | 
| E160e | Beta-apo-8'-carotenal (C30) | 
| E161b | Lutein | 
| E161g | Canthaxanthin | 
| E162 | Beetroot Red; Betanin | 
| E163 | Anthocyanins | 
| E170 | Carbonad calsiwm | 
| E171 | Titaniwm deuocsid; ni chaniateir defnyddio hwn yng Ngogledd Iwerddon | 
| E172 | Ocsidau haearn a hydrocsidau | 
| E173 | Alwminiwm | 
| E174 | Arian | 
| E175 | Aur | 
| E180 | Litholrubine BK | 
Cyfeithyddion (Preservatives)
| E-rifau | Ychwanegion | 
|---|---|
| E200 | Asid sorbig | 
| E202 | Potasiwm sorbate | 
| E210 | Asid benzoic | 
| E211 | Sodiwm benzoate | 
| E212 | Potasiwm benzoate | 
| E213 | Calsiwm benzoate | 
| E214 | Ethyl p-hydroxybenzoate | 
| E215 | Sodiwm ethyl p-hydroxybenzoate | 
| E218 | Methyl p-hydroxybenzoate | 
| E219 | Sodiwm methyl p-hydroxybenzoate | 
| E220 | Suylffwr deuocsid | 
| E221 | Sodiwm sylffit | 
| E222 | Sodiwm hydrogen sylffit | 
| E223 | Sodiwm metabisylffit | 
| E224 | Potasiwm metabisylffit | 
| E226 | Calsiwm sylffit | 
| E227 | Calsiwm hydrogen sylffit | 
| E228 | Potasiwm hydrogen sylffit | 
| E234 | Nisin | 
| E235 | Natamycin | 
| E239 | Hexamethylene tetramine | 
| E242 | Dimethyl dicarbonad | 
| E243 | Ethyl lauroyl arginate | 
| E249 | Potasiwm nitrad | 
| E250 | Sodiwm nitrad | 
| E251 | Sodiwm nitrad | 
| E252 | Potasiwm nitrad | 
| E280 | Asid propionig | 
| E281 | Sodiwm propionate | 
| E282 | Calsiwm propionate | 
| E283 | Potasiwm propionate | 
| E284 | Asid boric | 
| E285 | Sodiwm tetraborate; borax | 
| E1105 | Lysozyme | 
Gwrthocsidyddion (Antioxidants)
| E-rifau | Ychwanegion | 
|---|---|
| E300 | Asid ascorbig | 
| E301 | Sodiwm asgorbad | 
| E302 | Calsiwm asgorbad | 
| E304 | Esterau asid bratserog asid asgwrig | 
| E306 | Tocopherols | 
| E307 | Alpha-tocopherol | 
| E308 | Gamma-tocopherol | 
| E309 | Delta-tocopherol | 
| E310 | Propyl gallate | 
| E315 | Asid erythorbig | 
| E316 | Sodiwm erythorbate | 
| E319 | Tertiary-butyl hydroquinone (TBHQ) | 
| E320 | Butylated hydroxyanisole (BHA) | 
| E321 | Butylated hydroxytoluene (BHT) | 
| E392 | Echdyniadau rhosmari | 
| E586 | 4-Hexylresorcinol | 
Melysyddion (Sweeteners)
E960d glycosidau stefiol wedi'u glwcosyleiddio
Mae’r Comisiwn Ewropeaidd (CE) wedi awdurdodi glycosid stefiol arall, E 960d, sef glycosid stefiol wedi’i glwcosyleiddio, Rheoliad y Comisiwn (UE) Rhif 2023/447 a gyhoeddwyd ar 1 Mawrth 2023 a daeth i rym ar 20 Mawrth 2023. Mae'r rheoliad hwn yn gymwys yng Ngogledd Iwerddon ond nid Prydain Fawr. Rheoliad y Comisiwn (UE) Rhif 2023/447.
| E-rifau | Ychwanegion | 
|---|---|
| E420 | (i) Sorbitol | 
| (ii) Syrop sorbitol | |
| E421 | Mannitol | 
| E950 | Acesulfame K | 
| E951 | Aspartame | 
| E952 | Asid cyclamig a'i halwynau Sodiwm a Chalsiwm | 
| E953 | lsomalt | 
| E954 | Saccharin a'i halwynau Sodiwm, Potasiwm a Chalsiwm | 
| E955 | Sucralose | 
| E957 | Thaumatin | 
| E959 | Neohesperidine DC | 
| E960a | Steviol glycoside o stefia | 
| E960b | Glycosidau stefiol trwy eplesu | 
| E960c | Glycosid stefiol wedi’i gynhyrchu gan ddefnyddio ensymau | 
| E961 | Neotame | 
| E962 | Halen aspartame-acesulfame | 
| E964 | Syrop polyglycitol | 
| E965 | (i) Maltitol | 
| (ii) Syrop maltitol | |
| E966 | Lactitol | 
| E967 | Xylitol | 
| E968 | Erythritol | 
| E969 | Advantame | 
Emylsyddion, Sefydlogwyr, Tewychwyr ac Asiantau Gelu (Emulsifiers, Stabilisers, Thickeners and Gelling Agents)
| E-rifau | Ychwanegion | 
|---|---|
| E322 | Lecithinau | 
| E400 | Asid alginig | 
| E401 | Sodiwm alginate | 
| E402 | Potassiwm alginate | 
| E403 | Amoniwm alginate | 
| E404 | Calsiwm alginate | 
| E405 | Propane-1,2-diol alginate | 
| E406 | Agar | 
| E407 | Carrageenan | 
| E407a | Gwymon eucheuma wedi'i brosesu | 
| E410 | Gwm ffa locust; gwm carob | 
| E412 | Gwm guar | 
| E413 | Tragacanth | 
| E414 | Gwm acacia; gwm arabic | 
| E415 | Gwm xanthan | 
| E416 | Gwm karaya | 
| E417 | Gwm tara | 
| E418 | Gwm gellan | 
| E425 | Konjac | 
| E426 | Hemicellulose ffa soia | 
| E427 | Gwm cassia | 
| E432 | Polyoxyethylene sorbitan monolaurate; Polysorbate 20 | 
| E433 | Polyoxyethylene sorbitan mono-oleate; Polysorbate 80 | 
| E434 | Polyoxyethylene sorbitan monopalmitate; Polysorbate 40 | 
| E435 | Polyoxyethylene sorbitan monostearate; Polysorbate 60 | 
| E436 | Polyoxyethylene sorbitan tristearate; Polysorbate 65 | 
| E440 | Pectinau | 
| E442 | Phosphatidau amoniwm | 
| E444 | Sucrose acetate isobutyrate | 
| E445 | Esterau glyserol o ystorau pren | 
| E460 | Cellwlos | 
| E461 | Methyl cellwlos | 
| E462 | Ethyl cellwlos | 
| E463 | Hydroxypropyl cellwlos | 
| E464 | Hydroxypropyl methyl cellwlos | 
| E465 | Ethyl methyl cellwlos | 
| E466 | Carboxy methyl cellwlos | 
| E468 | Sodium carboxy methyl cellwlos wedi'i groesgysylltu | 
| E469 | Carboxy methyl cellwlos hydrolysig wedi'i hydroleiddio drwy ddefnyddio ensymau | 
| E470a | Halwynau sodiwm, potassiwm a chalsiwm asidau brasterog | 
| E470b | Halwynau magnesiwm asidau brasterog | 
| E471 | Mono-glyseridau a diglyseridau asidau brasterog | 
| E472a | Esterau asid asetig o mono-glyseridau a diglyseridau asidau brasterog | 
| E472b | Esterau asid lactig o mono-glyseridau a diglyseridau asidau brasterog | 
| E472c | Esterau asid citrig o mono-glyseridau a diglyseridau asidau brasterog | 
| E472d | Esterau asid o mono-glyseridau a diglyseridau asidau brasterog | 
| E472e | Esterau asid mono-acetyltartig a diacetyltartarig o mono-glyseridau a diglyseridau asidau brasterog | 
| E472f | Esterau asidig acetig a thartarig cymysg mono-glyseridau a diglyseridau asidau brasterog | 
| E473 | Esterau swcros asidau brasterog | 
| E474 | Sucroglyseridau | 
| E475 | Esterau polyglyserol asidau brasterog | 
| E476 | Polyglycerol polyricinoleate | 
| E477 | Esterau propane-1,2-diol asidau brasterog | 
| E479b | Olew ffa soia wedi'i ocsideiddio'n thermol wedi'i ryngweithio â mono-glyseridau a diglyseriadau asidau brasterog | 
| E481 | Sodiwm stearoyl-2-lactylate | 
| E482 | Calsiwm stearoyl-2-lactylate | 
| E483 | Stearyl tartrate | 
| E491 | Sorbitan monostearate | 
| E492 | Sorbitan tristearate | 
| E493 | Sorbitan monolaurate | 
| E494 | Sorbitan monooleate | 
| E495 | Sorbitan monopalmitate | 
| E1103 | Invertase | 
Eraill
Asidau, rheoleiddwyr asidedd, sylweddau gwrth-gaglu, sylweddau gwrth-ewynnu, sylweddau crynhoi, cludwyr a thoddyddion cludwyr, halwynau emylsio, sylweddau caledu, sylweddau gwella blas, sylweddau trin blawd, asiantau ewynnu, sylweddau sgleinio, sylweddau cynnal lleithder, startsys wedi'u haddasu, nwyau pecynnu, propelyddion, sylweddau codi a secwestryddion.
| E260 | Asid asetig | 
|---|---|
| E261 | Asetad potassiwm | 
| E262 | Asetad sodiwm | 
| E263 | Asetad calsiwm | 
| E270 | Asid lactig | 
| E290 | Carbon deuocid | 
| E296 | Asid malic | 
| E297 | Asid fumaric | 
| E325 | Sodiwm lactad | 
| E326 | Potasiwm lactad | 
| E327 | Calwiwm lactad | 
| E330 | Asid citrig | 
| E331 | Sitradau sodiwm | 
| E332 | Sitradau potasiwm | 
| E333 | Sitradau calsiwm | 
| E334 | Asid tartarig (L-(+)) | 
| E335 | Tartradau sodiwm | 
| E336 | Tartradau potasiwm | 
| E337 | Tartrad sodiwm potawsiwm | 
| E338 | Asid ffosforig | 
| E339 | Ffosfadau sodiwm | 
| E340 | Ffosfadau potasiwm | 
| E341 | Ffosfadau calsiwm | 
| E343 | Ffosfadau magnesiwm | 
| E350 | Sodiwm malates | 
| E351 | Potasiwm malate | 
| E352 | Calsiwm malates | 
| E353 | Asid metatartarig | 
| E354 | Tartrad calsiwm | 
| E355 | Asid adipic | 
| E356 | Sodiwm adipad | 
| E357 | Potasiwm adipad | 
| E363 | Asid sycsinig | 
| E380 | Triamoniwm sitrad | 
| E385 | Calsiwm disodiwm ethylene diamine tetra-asetad; calsiwm disodiwm EDTA | 
| E422 | Glyserol | 
| E423 | Octenyl succinic acid modified gum Arabic | 
| E431 | Polyoxyethylene (40) stearate | 
| E450 | Diffosfadau | 
| E451 | Triffosfadau | 
| E452 | Polyffosfadau | 
| E459 | Beta-cyclodextrin | 
| E499 | Sterolau planhigion â stigmasterol helaeth | 
| E500 | Sodiwm carbonadau | 
| E501 | Potasiwm carbonadau | 
| E503 | Amoniwm carbonadau | 
| E504 | Magnesiwm carbonadau | 
| E507 | Asid hydroclorig | 
| E508 | Potasiwm clorid | 
| E509 | Calsiwm clorid | 
| E511 | Magnesiwm clorid | 
| E512 | Stannous clorid | 
| E513 | Asid sylffwrig | 
| E514 | Sodiwm sylffadau | 
| E515 | Potasiwm sylffadau | 
| E516 | Calsiwm sylffad | 
| E517 | Amoniwm sylffad | 
| E520 | Alwminiwm sylffad | 
| E521 | Sodiwm sylffad alwminiwm | 
| E522 | Potasiwm sylffad alwminiwm | 
| E523 | Amoniwm sylffad alwminiwm | 
| E524 | Sodiwm hydrocsid | 
| E525 | Potasiwm hydrocsid | 
| E526 | Calsiwm hydrocsid | 
| E527 | Amoniwm hydrocsid | 
| E528 | Magnesiwm hydrocsid | 
| E529 | Calsiwm ocsid | 
| E530 | Magnesiwm ocsid | 
| E535 | Sodiwm ferrocyanide | 
| E536 | Potasiwm ferrocyanide | 
| E538 | Calsiwm ferrocyanide | 
| E541 | Sodiwm alwminiwm ffosfad | 
| E551 | Silicon deuocsid | 
| E552 | Calsiwm silicad | 
| E553a | (i) Magnesiwm silicac | 
| (ii) Magnesiwm trisilicad | |
| E553b | Talc | 
| E554 | Sodiwm alwminiuwm silicad | 
| E555 | Potasiwm alwminiwm silicad | 
| E570 | Asidau brasterog | 
| E574 | Asid glwconaidd | 
| E575 | Glucono delta-lactone | 
| E576 | Sodiwm gluconate | 
| E577 | Potasiwm gluconate | 
| E578 | Calsiwm gluconate | 
| E579 | Fferrus gluconate | 
| E585 | Fferrus lactad | 
| E620 | Asid glutamig | 
| E621 | Monosodiwm glutamate | 
| E622 | Monopotasiwm glutamate | 
| E623 | Calsiwm diglutamate | 
| E624 | Monoamoniwm glutamate | 
| E625 | Magnesiwm diglutamate | 
| E626 | Asid guanylic | 
| E627 | Disodiwm guanylate | 
| E628 | Dipotasiwm guanylate | 
| E629 | Calsiwm guanylate | 
| E630 | Asid inosinig | 
| E631 | Disodiwm inosinate | 
| E632 | Dipotasiwm inosinate | 
| E633 | Calsiwm inosinate | 
| E634 | Calsiwm 5'-ribonucleotides | 
| E635 | Disodiwm 5'-ribonucleotides | 
| E640 | Glycin a'i halen sodiwm | 
| E641 | L-leucine | 
| E650 | Asetad sinc | 
| E900 | Dimethylpolysiloxane | 
| E901 | Cwyr gwenyn, gwyn a melyn | 
| E902 | Cwyr candelilla | 
| E903 | Cwyr carnauba | 
| E904 | Shellac | 
| E905 | Cwyr microcrystalline | 
| E907 | Poly-1-Decene hydrogenedig | 
| E914 | Cwyr Polyethylen wedi'i ocsideiddio | 
| E920 | L-Cysteine | 
| E927b | Carbamid | 
| E938 | Argon | 
| E939 | Heliwm | 
| E941 | Nitrogen | 
| E942 | Ocsid nitraidd | 
| E943a | Bwtan | 
| E943b | Iso-bwtan | 
| E944 | Propylen | 
| E948 | Ocsigen | 
| E949 | Hydrogen | 
| E999 | Echdyniad quillaia | 
| E1200 | Polydextrose | 
| E1201 | Polyvinylpyrrolidone | 
| E1202 | Polyvinylpolypyrrolidone | 
| E1203 | Alcohol polyvinyl | 
| E1204 | Pullulan | 
| E1205 | Copolymer methacrylad basig | 
| E1206 | Copolymer methacrylad niwtral | 
| E1207 | Copolymer methacrylad anionic | 
| E1208 | Copylmer asedad olyvinylpyrrolidone-vinyl | 
| E1209 | Coplymer polyvinyl alcohol-polyethylene glycol-graft | 
| E1404 | Starts wedi'i ocsideiddio | 
| E1410 | Monostarch phosphate | 
| E1412 | Distarch phosphate | 
| E1413 | Phosphated distarch phosphate | 
| E1414 | Acetylated distarch phosphate | 
| E1420 | Acetylated starch | 
| E1422 | Acetylated distarch adipate | 
| E1440 | Hydroxyl propyl starch | 
| E1442 | Hydroxy propyl distarch phosphate | 
| E1450 | Starch sodium octenyl succinate | 
| E1451 | Acetylated oxidised starch | 
| E1452 | Starch aluminium Octenyl succinate | 
| E1505 | Triethyl citrate | 
| E1517 | Glyceryl diacetate (diacetin) | 
| E1518 | Glyceryl triacetate; triacetin | 
| E1519 | Alcohol benzyl | 
| E1520 | Propan-1,2-diol; propylene glycol | 
| E1521 | Polyethylene glycol | 
Hanes diwygio
Published: 27 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 16 Gorffennaf 2025