Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Byrgyrs cig eidion heb eu coginio’n drylwyr: canllawiau i weithredwyr busnesau bwyd a swyddogion awdurdodau lleol

Rydym ni’n croesawu barn rhanddeiliaid ar y diwygiadau arfaethedig i’n canllawiau ar fyrgyrs cig eidion heb eu coginio’n drylwyr.

Diweddarwyd ddiwethaf: 22 May 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 22 May 2023
Pwysig

Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, mae’r ASB bellach wedi cyhoeddi canllawiau wedi’u diweddaru ar fyrgyrs cig eidion heb eu coginio’n drylwyr. Mae’r canllawiau wedi’u diweddaru yn ystyried y sylwadau a ddaeth i law gan randdeiliaid yn ystod y cyfnod ymgynghori.

Crynodeb o ymatebion

Canllawiau i weithredwyr busnesau bwyd a swyddogion awdurdodau lleol ar fyrgyrs cig eidion heb eu coginio’n drylwyr: crynodeb o ymatebion gan randdeiliaid

I bwy y bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb fwyaf?

Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb i: 

  • fusnesau bwyd 
  • timoedd diogelwch bwyd awdurdodau lleol
  • ymgynghorwyr diogelwch bwyd
  • cyrff masnach  

Pwnc yr ymgynghoriad 

Pwnc yr ymgynghoriad hwn yw canllawiau diwygiedig ar fyrgyrs cig eidion heb eu coginio'n drylwyr [link] sy'n cynorthwyo busnesau sy'n gweini byrgyrs o'r fath ac awdurdodau lleol sy'n cynnal rheolaethau swyddogol ar fwyd mewn busnesau o'r fath. Mae’r canllawiau’n cynnwys cyngor ar reolaethau a systemau diogel a all leihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â byrgyrs cig eidion heb eu coginio’n drylwyr.  

Pwrpas yr ymgynghoriad 

Pwrpas yr ymgynghoriad yw ceisio sylwadau gan randdeiliaid ar y canllawiau diwygiedig.

Rydym ni hefyd yn gofyn am farn rhanddeiliaid ynghylch a ddylid cadw'r term 'heb eu coginio'n drylwyr' neu ddefnyddio term arall yn ei le. Nid oes unrhyw newidiadau wedi bod i'r polisi, yr wyddoniaeth na'r gyfraith mewn cysylltiad â byrgyrs cig eidion heb eu coginio’n drylwyr.  

Yn benodol, byddem ni'n croesawu safbwyntiau rhanddeiliaid ar y canlynol:

  1. A yw'r canllawiau’n glir ac yn hawdd eu dilyn? Os nad ydynt, pa wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen? 
  2. A yw'r canllawiau'n cynnwys digon o wybodaeth i helpu pobl i gydymffurfio â'r gyfraith? Os nad ydynt, pa wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen? 
  3. A yw ein hasesiad o effaith y diweddariadau yn ddigonol?
  4. A ydych yn ffafrio cadw’r term ‘heb eu coginio’n drylwyr’ a'r acronym Saesneg LTTC neu a fyddai’n well gennych inni ddefnyddio term gwahanol fel ‘pinc’ neu ‘gwaedlyd’ neu ‘wedi’u coginio’n ysgafn’, neu rywbeth arall?

Darllen y canllawiau diwygiedig

Canllawiau diwygiedig drafft ar fyrgyrs cig eidion heb eu coginio'n drylwyr [link]

Sut i ymateb  

Mae'r ymgynghoriad hwn bellach ar gau.

Manylion yr ymgynghoriad

Dyma'r prif newidiadau i'r canllawiau: 

  • gwneud y diffiniadau, yr iaith a'r cynllun yn fwy eglur ac yn haws eu deall
  • darparu rhagor o wybodaeth am sicrhau cydymffurfiaeth, yn ogystal â thynnu sylw at arferion gorau
  • rhoi cyngor ar brynu byrgyrs briwgig eidion neu gig eidion gan sefydliadau sydd wedi’u cymeradwyo’n benodol i gynhyrchu cynhyrchion y bwriedir iddynt gael eu gweini heb fod wedi’u coginio’n drylwyr
  • cyflwyno ffeithlun i helpu i nodi'r rheolaethau sydd eu hangen
  • darparu rhagor o fanylion am rannu negeseuon â defnyddwyr, er mwyn sicrhau bod y negeseuon yn ddigon dealladwy 
  • darparu geirfa estynedig i egluro termau technegol
  • newid fformat y canllawiau o ddogfen PDF i dudalennau gwe er mwyn gwella hygyrchedd

Mae rhanddeiliaid wedi awgrymu defnyddio term symlach yn lle’r term 'heb eu coginio'n drylwyr'. Gellid defnyddio ‘gwaedlyd' neu ‘pinc' neu 'wedi'u coginio'n ysgafn'.  Byddem yn croesawu eich barn a'ch awgrymiadau ar hyn.

Mae rhanddeiliaid, gan gynnwys busnesau a chynrychiolwyr awdurdodau lleol, wedi cyfrannu at y newidiadau a wnaed i’r canllawiau hyn. Rydym ni wedi penderfynu bod ymgynghoriad 12 wythnos o hyd yn briodol i geisio barn rhanddeiliaid ehangach. Y nod yw cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion o fewn tri mis i ddiwedd yr ymgynghoriad. 

Effeithiau

Nod y newidiadau i'r canllawiau yw eu gwneud yn fwy eglur ac yn haws eu darllen. Bydd hyn o fudd i fusnesau a swyddogion awdurdodau lleol. Bydd cost ymgyfarwyddo i’r gymuned fusnes gyfan. Rydym ni wedi cyfrifo y bydd y gost hon yn llai na £32,000. Rydym ni wedi seilio’r cyfrifiad hwn ar fethodoleg asesu’r llywodraeth drwy amcangyfrif nifer y busnesau bwyd sy’n gweini byrgyrs cig eidion heb eu coginio’n drylwyr a’r amser y bydd yn ei gymryd i reolwyr ddarllen y canllawiau ym mhob busnes. Rydym ni wedi penderfynu na fydd angen i fusnesau ailymgyfarwyddo â’r canllawiau’n rheolaidd, gan y byddai unrhyw gamau a gymerir o ganlyniad i ddarllen y canllawiau yn cael eu cynnwys yn eu systemau rheoli diogelwch bwyd. Rydym  ni wedi tybio y bydd staff yn cael gwybod am hyn drwy gyfarfodydd busnes fel arfer. Rydym ni'n croesawu barn rhanddeiliaid ar ein hasesiad o effaith y canllawiau.

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

O fewn tri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a chynnwys dolen iddo ar y dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU.. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.