Cyflenwi Anifeiliaid Hela Gwyllt i’w Bwyta gan Bobl
Ymgynghoriad ar y canllawiau i helwyr a manwerthwyr ar drin, paratoi a chyflenwi anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt yn ddiogel.
Yr ymgynghoriad
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi lansio ymgynghoriad 8 wythnos ar y canllawiau diwygiedig i Gyflenwi Anifeiliaid Hela Gwyllt i’w Bwyta gan Bobl. Diweddarwyd y canllawiau i wella eglurder yn bennaf ynghylch gofynion Rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd (UE) a'r Deyrnas Unedig (DU) ar gyfer y diwydiant anifeiliaid hela gwyllt.
Nid yw'r canllawiau diwygiedig hyn yn cynnwys unrhyw newid mewn polisi, yn hytrach mae'n rhoi mwy o eglurder ar Reoliadau'r UE ar gyfer y diwydiant anifeiliaid hela gwyllt; yn bennaf ar gyfer yr helwyr, y proseswyr a'r manwerthwyr sy'n saethu ac yn cyflenwi anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt.
Prif gynigion:
- Eglurder mewn perthynas â Rheoliadau'r UE ar eithriadau helwyr a manwerthwyr.
- Newid yng nghynllun y canllawiau gwreiddiol i’w gwneud yn haws eu darllen.
- Eglurder ar reoliadau cyfredol yr UE o fewn meysydd fel y bwtri helgig, cludiant, y gallu i olrhain, cynhyrchwyr cynradd a’r heliwr/parti hela.
- Cynulleidfa darged: mae'r canllawiau hyn yn benodol ar gyfer y diwydiant anifeiliaid hela gwyllt (helwyr a manwerthwyr), nid ar gyfer awdurdodau gorfodi cyfraith bwyd fel y mae'r canllawiau blaenorol yn ei awgrymu (er y gallant fod yn ddefnyddiol pan fyddant yn cynnal gwiriadau gorfodi).
- Terminoleg: mae'r term 'saethwr' wedi'i ddileu. Mae heliwr yn derm unigol sy'n cyfeirio at hela a saethu.
Bydd yr ymgynghoriad hwn fwyaf o ddiddordeb i
Helwyr Anifeiliaid Gwyllt, Sefydliadau Anifeiliaid Hela Gwyllt, Manwerthwyr Anifeiliaid Hela Gwyllt, Proseswyr Anifeiliaid Hela Gwyllt ac Awdurdodau Gorfodi.
Y pecyn ymgynghori
England, Northern Ireland and Wales
Northern Ireland, Scotland and Wales
Cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion
Rydym ni’n gobeithio cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a ddaw i law o fewn tri mis i ddiwedd yr ymgynghoriad a darparu dolen i’r crynodeb o’r dudalen hon.
Yn unol ag egwyddor yr Asiantaeth o fod yn agored, byddwn yn cadw copi o'r ymgynghoriad a'r ymatebion llawn, a fydd ar gael i'r cyhoedd ar gais. Gallai’r crynodeb o'r ymatebion hefyd gynnwys data personol, fel eich enw llawn. Ni fyddwn yn datgelu unrhyw ddata personol arall oni bai y ceir cais am yr holl ymatebion i’r ymgynghoriad. Os nad ydych am i’r wybodaeth hon gael ei rhyddhau, ewch ati i lenwi a dychwelyd y Ffurflen Cyhoeddi Data Personol. Nid yw dychwelyd y ffurflen hon yn golygu y byddwn yn trin eich ymateb i'r ymgynghoriad yn gyfrinachol, dim ond eich data personol.
England, Northern Ireland and Wales
England, Northern Ireland and Wales
Rhagor o wybodaeth
Mae'r ymgynghoriad hwn wedi'i baratoi yn unol ag Egwyddorion Ymgynghori Llywodraeth EM. Os oes Asesiad Effaith wedi cael ei gynhyrchu, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os nad oes Asesiad Effaith wedi cael ei ddarparu, bydd y rheswm yn cael ei nodi yn y ddogfen ymgynghori.