Cynnig i gyflwyno rheolau ar gyfer nodi gwlad neu fan tarddiad y prif gynhwysyn bwyd
Rydym ni eisiau clywed eich barn ar ein offeryn statudol arfaethedig a fydd yn cyflwyno rheolau ar gyfer nodi gwlad neu fan tarddiad y prif gynhwysyn bwyd.
Crynodeb o ymatebion
Wales
I bwy fydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb fwyaf?
Awdurdodau lleol a Gweithredwyr Busnesau Bwyd yng Nghymru sy'n gwerthu bwydydd wedi'u pecynnu ymlaen llaw mewn achosion lle nad yw gwlad neu fan tarddiad y prif gynhwysyn yr un peth â tharddiad y bwyd.
Beth yw pwnc yr ymgynghoriad hwn?
Mae Rheoliadau Drafft Cymru wrthi’n cael eu paratoi i ddarparu ar gyfer gorfodi Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn (UE) Rhif 2018/775. Mae’r Rheoliad yn uniongyrchol berthnasol ac yn nodi rheolau sy’n ei gwneud yn ofynnol nodi gwlad neu fan tarddiad prif gynhwysyn lle nad yw yr un peth â tharddiad y bwyd yn ei gyfanrwydd. Daw Rheoliad Gweithredu (UE) 2018/775 i rym ar 1 Ebrill 2020.
Mae Rheoliad yr UE yn adeiladu ar y gofynion gwlad tarddiad cyffredinol yn Rheoliad Gwybodaeth am Fwyd i Ddefnyddwyr yr UE (UE) Rhif 1169/2011.
Beth yw diben yr ymgynghoriad hwn?
Ceisio sylwadau gan ddiwydiant, awdurdodau gorfodi, defnyddwyr a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb ar offeryn statudol arfaethedig a fydd yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad Gweithredu (UE) 2018/775 ar y rheolau ar gyfer nodi gwlad neu fan tarddiad y prif gynhwysyn bwyd.
Pecyn ymgynghori
Wales
Sylwadau a barn
Anfonwch unrhyw sylwadau a safbwyntiau at:
Adam McDowell
Tîm Polisi Rheoleiddiol
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Llawr 11
Tŷ Southgate
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW
Ffôn: 02920 67 8999
E-bost: Adam.McDowell@food.gov.uk
Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion
Y bwriad yw cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ar y dudalen hon o fewn tri mis i ddiwedd yr ymgynghoriad. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.
Mwy o wybodaeth
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.