Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Diweddariadau i Ganllawiau Technegol yr ASB ar ofynion labelu a gwybodaeth mewn perthynas ag alergenau bwyd

Bydd Rheoliad newydd, a ddaw i rym ar 1 Hydref 2021 yn newid y ffordd y mae gofyn i fusnesau bwyd yn Lloegr ddarparu gwybodaeth am alergenau ar fwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw i'w werthu'n uniongyrchol (PPDS). Mae diweddariadau arfaethedig i'r Canllawiau Technegol presennol ar labelu alergenau bwyd a gofynion gwybodaeth i adlewyrchu'r gofynion cyfreithiol newydd hyn. Pwrpas yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn a sylwadau rhanddeiliaid yng Nghymru, yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon ar y diweddariadau arfaethedig.

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 June 2020
Diweddarwyd ddiwethaf: 18 June 2020

Crynodeb o ymatebion

I bwy fydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb fwyaf?

  • Busnesau Bwyd sy'n cynnig bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i'w werthu'n uniongyrchol (PPDS) (Gweler Atodiad B)
  • Cyrff sy’n cynrychioli’r diwydiant bwyd
  • Awdurdodau gorfodi
  • Unrhyw sefydliad neu berson arall sydd eisiau gwybod mwy am newidiadau sydd ar y gweill i'r gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu gwybodaeth am alergenau ar gyfer bwyd PPDS.

Beth yw pwnc yr ymgynghoriad hwn?

Gosodwyd Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Diwygio) (Lloegr) 2019 (Offeryn Statudol 2019 Rhif 1218) gerbron y Senedd ar 5 Medi 2019. Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Hydref 2021 a byddant yn newid y ffordd y mae gofyn i fusnesau bwyd yn Lloegr ddarparu gwybodaeth am alergenau ar fwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw i'w werthu'n uniongyrchol (PPDS).

Mae deddfwriaeth gyfwerth ar wahân ar y gweill yng Nghymru ac yng Ngogledd Iwerddon. Pwnc yr ymgynghoriad hwn yw diweddariadau arfaethedig i Ganllawiau Technegol yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ar labelu alergenau bwyd a gofynion gwybodaeth o dan Reoliad Gwybodaeth am Fwyd i Ddefnyddwyr yr UE Rhif 1169/2011 (“Canllawiau Technegol yr ASB”). 

Mae'r diweddariadau hyn yn bennaf i adlewyrchu'r gofynion cyfreithiol newydd hyn, ond rydym ni hefyd yn achub ar y cyfle hwn i gynnig rhai diweddariadau technegol/drafftio. Bydd y diweddariadau i'r canllawiau yn berthnasol yn Lloegr a disgwylir iddynt fod yn berthnasol yng Nghymru ac yng Ngogledd Iwerddon. Byddai'r ASB felly'n croesawu barn a sylwadau rhanddeiliaid yng Nghymru, yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon.

Beth yw diben yr ymgynghoriad hwn?

Ceisio barn a sylwadau rhanddeiliaid yng Nghymru, yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon ar ddiweddariadau arfaethedig i'r Canllawiau Technegol.

Pecyn ymgynghori

England, Northern Ireland, Scotland and Wales

England, Northern Ireland, Scotland and Wales

Sylwadau a barn

Anfonwch unrhyw sylwadau a safbwyntiau at:

Duncan Harris
Tîm Datblygu Rheoleiddio a Chefnogaeth Broffesiynol, y Gyfarwyddiaeth Polisi Bwyd
 
Llawr 6
Clive House,
70 Petty France,
Westminster,
Llundain, 
SW1H 9EX.
E-bost: duncan.harris@food.gov.uk
Ffôn: 020 7276 8334
 

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

O fewn tri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a chynnwys dolen iddo ar y dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU.. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.