Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Labelu Alergenau Rhagofalus (PAL): Ymgynghoriad 'gallai gynnwys'

Ymgynghoriad ar ddarparu labelu alergenau rhagofalus a gwybodaeth ragofalus am alergenau, fel ‘gallai gynnwys’, ar lawer o fathau o fwyd a werthir yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 May 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 May 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau

Crynodeb o ymatebion

England, Northern Ireland and Wales

Ymchwil cysylltiedig:

Adroddiad ymchwil Dadansoddiad risg a Labelu Alergenau Rhagofalus | Asiantaeth Safonau Bwyd

Adroddiad Labelu Alergenau Rhagofalus ac Adroddiad Labelu Cynhwysion Di-Glwten | Asiantaeth Safonau Bwyd

Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb i'r canlynol:  

  • busnesau bwyd
  • sefydliadau, er enghraifft, ysbytai, ysgolion
  • cynhyrchwyr cynradd
  • cwmnïau trafnidiaeth
  • cyrff masnach
  • timoedd diogelwch bwyd awdurdodau lleol
  • gweithwyr gofal iechyd proffesiynol
  • gwyddonwyr ac academyddion
  • sefydliadau sy'n cefnogi pobl sydd â gorsensitifrwydd i fwyd
  • defnyddwyr sydd â gorsensitifrwydd i fwyd a'r rhai sy'n gofalu am rywun sydd â gorsensitifrwydd i fwyd
  • defnyddwyr heb orsensitifrwydd i fwyd
  • rhanddeiliaid ehangach

Pwnc Ymgynghori

Diben yr ymgynghoriad hwn yw cael gwybodaeth a safbwyntiau mewn perthynas â darparu labelu alergenau rhagofalus a gwybodaeth ragofalus am alergenau.

Mae'r ddeddfwriaeth labelu gyfredol yn ei gwneud yn ofynnol i gynhyrchion bwyd nodi presenoldeb unrhyw un o'r 14 prif alergen a ddefnyddir fel cynhwysyn neu gymhorthyn prosesu. Fodd bynnag, mewn achosion lle mae risg o groeshalogi alergenau yn anfwriadol (er enghraifft, lle mae llawer o fwydydd yn cael eu paratoi yn yr un gegin), ac mae’r  busnes bwyd wedi pennu na ellir rheoli'r risg yn ddigonol, yr arfer gorau yw defnyddio datganiad labelu alergenau rhagofalus i gyfleu'r risg hon.  

Gellir cyfleu'r wybodaeth hon mewn nifer o wahanol ffyrdd:

  • ar fwydydd wedi'u pecynnu ymlaen llaw gan gynnwys bariau siocled, bisgedi a chynhyrchion eraill sy’n cael eu gwerthu mewn archfarchnadoedd
  • ar fwydydd sydd heb eu pecynnu ymlaen llaw, sy’n cynnwys bwydydd rhydd fel prydau bwyd sy'n cael eu gwneud yn ôl archeb mewn bwyty, neu lysiau a ffrwythau sy'n cael eu gwerthu'n unigol ar stondin farchnad
  • a’r bwydydd hynny sydd wedi’u pecynnu ymlaen llaw i’w gwerthu’n uniongyrchol (PPDS), sef bwyd sy’n cael ei becynnu yn yr un lle ag y mae'n cael ei gynnig neu ei werthu i ddefnyddwyr, ac a fydd yn y deunydd pecynnu hwn cyn i’r cwsmer ei archebu neu ei ddewis.

Er bod nifer o dermau labelu yn cael eu defnyddio, yr ymadrodd mwyaf cyffredin i ddynodi'r posibilrwydd o groeshalogi alergenau’n anfwriadol yw ‘gallai gynnwys’, a gellir darparu'r wybodaeth hefyd ar lafar, ar arwyddion ac ar fwydlenni.

Pwrpas yr Ymgynghoriad

Rydym ni’n ceisio adborth a sylwadau ar y materion sy'n wynebu partïon sydd â buddiant, a fydd yn ein cynorthwyo i ystyried dulliau posibl ar gyfer labelu alergenau rhagofalus ar gyfer bwydydd wedi'u pecynnu ymlaen llaw a gwybodaeth ragofalus am alergenau ar gyfer bwydydd heb eu pecynnu ymlaen llaw, fel bod yr wybodaeth:

  • yn cael ei chyfathrebu i ddefnyddwyr  yn gliriach ac yn fwy cyson, mewn ffordd ddealladwy ac ystyrlon o ran ffurf a chynnwys yr wybodaeth
  • yn seiliedig ar brosesau cymesur a safonol ar gyfer asesu, rheoli a chyfathrebu'r risg o groeshalogi alergenau gan fusnesau bwyd

Rhaid i unrhyw ddatrysiad fod yn ymarferol i fusnesau bwyd a chadw defnyddwyr yn ddiogel heb gyfyngu ar eu dewis o ran bwyd yn ddiangen.

Pecyn ymgynghori

Mae’r pecyn ymgynghori hwn yn darparu'r wybodaeth gefndirol a'r manylion y bydd angen i chi eu gwybod er mwyn ymateb i'r cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn.

England, Northern Ireland and Wales

Sut i ymateb

Pwysig

Rydym ni’n cynghori eich bod yn ymateb i’r ymgynghoriad gan ddefnyddio’r PAL">arolwg ar-lein. Fodd bynnag, os nad yw hyn yn bosibl, gallwch chi anfon ymateb dros e-bost. Mae rhagor o wybodaeth am hyn o fewn y pecyn ymgynghori. 

Cynnwys sy’n berthnasol i Labelu Alergenau Rhagofalus (PAL)

 

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

O fewn tri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a chynnwys dolen iddo ar y dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU.. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.