Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Ymgynghoriad ar ddiweddariadau i ganllawiau technegol yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar labelu alergenau bwyd a gofynion gwybodaeth

Ymgynghoriad ar ddau ddiweddariad allweddol i ganllawiau o ran eu cwmpas a’u heffaith – safonau ar gyfer defnyddio labelu alergenau rhagofalus (PAL) a chanllawiau arferion gorau sy’n nodi na ddylid defnyddio datganiadau dim cynhwysion sy’n cynnwys glwten (No Gluten Containing Ingredients) (NGCI).

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 July 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 July 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau

Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb i’r canlynol yn bennaf:

  • Busnesau bwyd sy’n darparu bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS)
  • Busnesau bwyd sy’n darparu bwyd y mae angen darparu datganiad Labelu Alergenau Rhagofalus (PAL) ar ei gyfer
  • Timoedd diogelwch bwyd awdurdodau lleol 
  • Cyrff sy’n cynrychioli’r diwydiant bwyd
  • Unrhyw sefydliad neu berson arall sydd â buddiant mewn polisi gorsensitifrwydd i fwyd 

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal fel rhan o adolygiad a diweddariad rheolaidd i’r Canllawiau Technegol ar Labelu Alergenau. 

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn ceisio adborth gan randdeiliaid ar ddau ddiweddariad allweddol i ganllawiau o ran eu cwmpas a’u heffaith – safonau ar gyfer defnyddio labelu alergenau rhagofalus (PAL) a chanllawiau arferion gorau sy’n nodi na ddylid defnyddio datganiadau dim cynhwysion sy’n cynnwys glwten (No Gluten Containing Ingredients) (NGCI).

Mae’r canllawiau hefyd wedi’u diwygio er mwyn sicrhau bod cyfeiriadau at gyfraith bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn gywir ar ôl i’r DU ymadael â’r UE, yn ogystal â diweddariadau nad ydynt yn dechnegol i wella eglurder a dealltwriaeth o’r ddogfen. 

Ceir mwy o fanylion am yr adrannau penodol sydd wedi’u diweddaru ar ail dudalen y Canllawiau Technegol. 

Mae’r ASB yn ceisio sylwadau ac adborth ar sut mae polisïau presennol yn cael eu mynegi fel rhan o’n diweddariadau arfaethedig i ganllawiau technegol. Gallai hyn gynnwys unrhyw effeithiau posib y gallent eu cael.

Ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori, bydd yr ASB yn casglu ac yn ystyried unrhyw ymatebion a ddaw i law, cyn diwygio a chyhoeddi’r Canllawiau Technegol diwygiedig yn ystod yr haf 2023.

Pecyn ymgynghori

Ymgynghoriad cyhoeddus ar ddiweddariadau arfaethedig i ganllawiau technegol yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar ofynion gwybodaeth a labelu alergenau bwyd (fersiwn hygyrch)

Sut i ymateb

Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi dod i ben.

I gael gwybodaeth am sut mae’r ASB yn trin eich data personol, cyfeiriwch at yr hysbysiad preifatrwydd ar gyfer ymgyngoriadau.

Mwy o wybodaeth

Os oes angen y ddogfen hon arnoch chi mewn fformat haws ei ddarllen, anfonwch fanylion at y swyddog cyswllt a enwir ar gyfer ymatebion i’r ymgynghoriad hwn a bydd eich cais yn cael ei ystyried.

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi'i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori Llywodraeth Ei Fawrhydi.

Ar ran yr ASB, hoffwn ddiolch yn fawr i chi am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn.

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

O fewn tri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a chynnwys dolen iddo ar y dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU.. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.