Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad ar gynhyrchion rheoleiddiedig

Ymgynghoriad ar geisiadau am wyth organeb a addaswyd yn enetig (GMO) i’w defnyddio at ddibenion bwyd a bwyd anifeiliaid ac ar gyfer newid deiliad yr awdurdodiad ar gyfer pum deg un GMO awdurdodedig

Penodol i Gymru a Lloegr

Rydym yn ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid mewn perthynas â cheisiadau cynhyrchion rheoleiddiedig am wyth organeb a addaswyd yn enetig (GMOs) i’w defnyddio at ddibenion bwyd a bwyd anifeiliaid, sydd wedi’u cyflwyno i’w hawdurdodi, ac ar gyfer newid deiliaid yr awdurdodiadau ar gyfer pum deg un GMO awdurdodedig.

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 October 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 9 October 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau

Crynodeb o ymatebion

I bwy byddai’r ymgynghoriad hwn o ddiddordeb yn bennaf?

  • Gwneuthurwyr, mewnforwyr/allforwyr a manwerthwyr bwyd anifeiliaid 
  • Cyrff masnach sy’n cynrychioli rhanddeiliaid mewn perthynas â bwyd, bwyd anifeiliaid, amaethyddiaeth a’r amgylchedd
  • Pob prynwr bwyd anifeiliaid, gan gynnwys ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd ac anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd
  • Undebau llafur sy’n cynrychioli rhanddeiliaid yn y diwydiant ffermio
  • Sefydliadau sy’n cynrychioli buddiannau defnyddwyr mewn cadwyni bwyd a chadwyni bwyd anifeiliaid
  • Awdurdodau Gorfodi
  • Defnyddwyr

Pwnc yr ymgynghoriad

Gwnaeth yr ymgynghoriad hwn ymwneud ag wyth (8) GMO sydd wedi’u cyflwyno i’w hawdurdodi ym Mhrydain Fawr. O dan delerau cyfredol Protocol Gogledd Iwerddon, mae deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd (UE) sy’n ymwneud â chynhyrchion rheoleiddiedig yn dal i fod yn gymwys yng Ngogledd Iwerddon.  

Roedd yr ymgynghoriad hwn hefyd yn cynnwys newid gweinyddol i fanylion deiliaid yr awdurdodiadau ar gyfer pum deg un (51) o GMOs awdurdodedig.   

Yn ogystal â’r ymgynghoriad hwn, rydym hefyd wedi cyhoeddi dogfen ar y cyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban gyda safbwyntiau gwyddonol sy’n ymwneud â’r GMOs perthnasol. Rydym hefyd yn croesawu sylwadau ar y rhain.  

Asesiad o wyth cais am GMOs a gyflwynwyd yn unol â Rheoliad a Ddargedwir (EC) Rhif 1829/2003

Diben yr ymgynghoriad

Darperir telerau awdurdodi arfaethedig a’n hasesiad o’r effaith bosib – gweler y pecyn ymgynghori.  Roeddem yn ceisio eich adborth ar yr asesiad hwn ac unrhyw dystiolaeth bellach sydd gennych ar yr effeithiau y dylem eu hystyried.  

Dyma oedd cyfle i chi leisio eich barn am y cyngor a roddir i Weinidogion i lywio penderfyniadau

Pecyn ymgynghori

Mae’r pecyn ymgynghori hwn yn darparu'r wybodaeth gefndirol a'r manylion y bydd angen i chi eu gwybod er mwyn ymateb i'r cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn. Mae’r ddogfen ymgynghori ar gael ar y tudalennau canlynol hefyd. 

Ymgynghoriad ar geisiadau am wyth organeb a addaswyd yn enetig (GMO) i’w defnyddio at ddibenion bwyd a bwyd anifeiliaid ac ar gyfer newid deiliad yr awdurdodiad ar gyfer pum deg un GMO awdurdodedig (fersiwn hygyrch)

Sut i ymateb

Mae'r ymgynghoriad hwn bellach wedi cau.

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

O fewn tri mis i'r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn amcanu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion a gafwyd a darparu dolen iddo o'r dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd ar gyfer ymgynghoriadau.

Rhagor o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori Llywodraeth Ei Mawrhydi. Os oes Asesiad Effaith wedi’i gynhyrchu, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm yn y ddogfen ymgynghori.