Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd i drafod cyfeiriad rheoleiddiol bwyd a bwyd anifeiliaid ar gyfer y dyfodol

Bydd cyfarfod y bwrdd yn cael ei gynnal ddydd Mercher 26 Mai 2021

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 May 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 13 May 2021

Bydd Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cael diweddariadau ar dri maes gwaith allweddol yn y cyfarfod nesaf. 

Mae'r agenda a phapurau bellach wedi'u cyhoeddi cyn y cyfarfod ddydd Mercher 26 Mai 2021. 

Mae'r agenda'n cynnwys diweddariadau ar raglenni newid strategol ac adferiad oyn sgil addasiadau Covid-19: 

  • Cynllun Adfer Awdurdodau Lleol, gan dynnu sylw at y cynlluniau ar ailgychwyn y system gyflawni reoleiddiol lawn yn unol â’r Codau Ymarfer Cyfraith Bwyd ar gyfer y sefydliadau risg uchaf tra’n darparu rhagor o hyblygrwydd i sefydliadau risg is
  • Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau (ABC) yn nodi'r cynnydd a wnaed hyd yma, sut mae ABC yn adeiladu ar gyflawniadau rhaglen Rheoleiddio ein Dyfodol (ROF) a sut mae'r rhaglen ddiwygio yn cysylltu â chynllun adfer parhaus awdurdodau lleol ac yn ei gefnogi.
  • Y Rhaglen Trawsnewid Gweithredol, gan gynnwys sut y bydd yr ASB yn datblygu dulliau newydd o foderneiddio'r fframwaith rheoleiddio a sicrhau ein bod yn parhau i ddiogelu defnyddwyr

Bydd y cyfarfod yn dechrau am 9.00am ac yn cael ei gadeirio gan Gadeirydd Dros Dro yr Asiantaeth, Ruth Hussey. Gallwch chi gofrestru i wylio ar-lein

Mae'r agenda lawn a'r papurau sydd wedi'u cyhoeddi ar gael ar dudalennau'r Bwrdd ar ein gwefan (Saesneg y unig). 

Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd 

Gallwch chi gofrestru i wylio'r cyfarfod yn fyw.  

Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:   
Ffôn: 01772 767731 
E-bost: fsaboardmeetings@glasgows.co.uk 

Cyflwyno cwestiwn 

Gallwch chi gyflwyno cwestiynau o ddydd Llun 24 Mai tan 12:00 ddydd Mawrth 25 Mai 
at board.sec@food.gov.uk 

Bydd unrhyw gwestiynau a ddaw i law ar ôl y dyddiad cau, gan gynnwys ar ddiwrnod y cyfarfod, yn cael eu hateb trwy ohebiaeth yn unig.

Mae rhagor o wybodaeth am gyflwyno cwestiynau ar gael ar dudalen we ein Bwrdd