Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Bwyd a Chi 2: Cyhoeddi Adroddiad Prif Ganfyddiadau Cylchoedd 1-2 Cymru

Penodol i Gymru

Heddiw, cyhoeddodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) adroddiad prif ganfyddiadau Cymru ar gyfer cylch un a dau yr arolwg Bwyd a Chi 2.

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 November 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 10 November 2021

Arolwg blaenllaw defnyddwyr yr ASB yw Bwyd a Chi 2, a gynhelir bob dwy flynedd ac mae'n ymdrin â phynciau fel diogelwch bwyd yn y cartref, siopa bwyd, bwyta allan, mynediad at gyflenwad bwyd (food security), pryderon am fwyd, ac ymddiriedaeth yn yr ASB a'r gadwyn gyflenwi bwyd. Mae'r ASB yn defnyddio'r wybodaeth i lywio polisïau a'i gwaith gyda defnyddwyr.

Crynodeb o brif ganfyddiadau Cymru

Bwyd y gallwn ymddiried ynddo

Hyder o ran diogelwch a dilysrwydd bwyd

  • Dywedodd mwy na 9 o bob 10 (94%) o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus bod y bwyd maen nhw’n ei brynu yn ddiogel i'w fwyta.
  • Dywedodd bron i 9 o bob 10 (89%) o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus bod yr wybodaeth ar labeli bwyd yn gywir.

Hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd 

  • Dywedodd dros dri chwarter o’r ymatebwyr (79%) fod ganddyn nhw hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd..

  • Roedd yr ymatebwyr yn fwy tebygol o ddweud bod ganddyn nhw hyder mewn ffermwyr (92%), a siopau ac archfarchnadoedd (89%) nag mewn safleoedd tecawê (74%), a gwasanaethau dosbarthu bwyd (57%).

Ymwybyddiaeth o’r ASB ac ymddiriedaeth a hyder ynddi

  • Roedd dros 9 o bob 10 o’r ymatebwyr (93%) wedi clywed am yr ASB.

  • Dywedodd dros 8 o bob 10 (81%) o’r ymatebwyr a oedd yn meddu ar o leiaf rywfaint o wybodaeth am yr ASB eu bod yn ymddiried ynddi i sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.

Pryderon am fwyd 

  • Gofynnwyd i'r ymatebwyr esbonio’n gryno eu pryderon am y bwyd maen nhw’n ei fwyta. Roedd y pryderon mwyaf cyffredin yn ymwneud â diogelwch a hylendid bwyd (18%), a dulliau cynhyrchu bwyd (18%). 
  • Gofynnwyd i'r ymatebwyr nodi a oedd ganddyn nhw bryderon am ystod o faterion sy’n ymwneud â bwyd, gan ddewis o blith rhestr o opsiynau penodol. Roedd y pryderon mwyaf cyffredin yn ymwneud â faint o siwgr a geir mewn bwyd (58%), gwastraff bwyd (57%) a lles anifeiliaid (57%). 

Mynediad at gyflenwad bwyd

  • Roedd graddau’r mynediad at gyflenwad bwyd yn debyg ledled Cymru, Lloegr-wedi'i haddasu* a Gogledd Iwerddon. Roedd gan dros dri chwarter o’r ymatebwyr gyflenwad bwyd diogel (h.y. roedd ganddyn nhw gyflenwad bwyd sicr neu ymylol) yng Nghymru (82%), Lloegr-wedi'i haddasu (86%) a Gogledd Iwerddon (84%). Roedd gan tuag 1 o bob 6 ymatebydd gyflenwad bwyd anniogel (h.y. roedd ganddyn nhw gyflenwad bwyd ansicr neu ansicr iawn) yng Nghymru (18%), Lloegr-wedi'i haddasu (14%) a Gogledd Iwerddon (16%).

Hyder o ran labelu alergenau

  • Roedd y mwyafrif o’r ymatebwyr (80%) sy'n mynd i siopa am fwyd ac yn dwyn i ystyriaeth rywun ag alergedd neu anoddefiad bwyd yn hyderus bod yr wybodaeth a ddarperir ar labeli bwyd yn galluogi iddyn nhw nodi bwydydd a fydd yn achosi adwaith corfforol gwael neu annymunol. 
  • Roedd yr ymatebwyr a brynodd fwyd rhydd yn fwy hyderus o ran nodi’r bwydydd hyn wrth siopa mewn archfarchnad (74%), wrth brynu bwyd o archfarchnad ar-lein (69%) ac wrth siopa mewn siopau bwyd annibynnol (68%). Fodd bynnag, roedd yr ymatebwyr yn llai hyderus wrth brynu bwyd o farchnadoedd neu stondinau bwyd (54%).

Bwyta allan a bwyd tecawê

  • Roedd y mwyafrif o’r ymatebwyr (92%) wedi nodi eu bod wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd. Dywedodd bron i ddwy ran o dair (65%) o'r ymatebwyr eu bod wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd a bod ganddynt o leiaf rywfaint o wybodaeth amdano.

Alergedd bwyd, anoddefiad bwyd a gorsensitifrwydd i fwyd 

  • Dywedodd y mwyafrif o’r ymatebwyr (86%) nad oedd ganddynt orsensitifrwydd i fwyd. Nododd llai nag 1 o bob 10 (9%) o’r ymatebwyr fod ganddynt anoddefiad bwyd, 3% fod ganddynt alergedd bwyd, 1% fod clefyd seliag arnynt, ac 1% fod ganddynt orsensitifrwydd i fwyd.

* Gwnaed rhai cymariaethau ar lefel gwlad rhwng Cymru, Gogledd Iwerddon a ‘Lloegr-wedi'i haddasu’. Cyfrifwyd pwysoliad ‘Lloegr-wedi'i haddasu’ er mwyn galluogi cymharu rhwng Cymru a Lloegr (ac eithrio Llundain) ar ôl addasu ar gyfer gwahaniaethau o ran oedran, rhyw, grŵp ethnig, maint yr aelwyd, a’r cymysgedd trefol-gwledig.

Arolwg Bwyd a Chi

Mae'r adroddiad hwn ar Gymru yn cyflwyno prif ganfyddiadau arolwg Bwyd a Chi 2: Cylch 1 a Bwyd a Chi 2: Arolwg Cylch 2. Mae’r canfyddiadau a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn cyfeirio at ddata a gasglwyd yng Nghymru, oni nodir fel arall. Mae rhywfaint o gymhariaeth â Lloegr-wedi'i haddasu a Gogledd Iwerddon lle bo hynny'n berthnasol.

Cynhaliwyd y gwaith maes ar gyfer cylch un rhwng mis Gorffennaf a mis Hydref 2020 ac roedd yn cynnwys 2,100 o gyfweliadau gyda sampl gynrychioliadol o oedolion (16 oed a hŷn) ledled Cymru. Cynhaliwyd gwaith maes cylch dau rhwng 20 Tachwedd 2020 a 21 Ionawr 2021 ac roedd yn cynnwys 1,366 o gyfweliadau gyda sampl gynrychioliadol o oedolion (16 a hŷn) ledled Cymru.

Darllenwch yr Adroddiadau

Bwyd a Chi 2: Cylch 1-2 | Asiantaeth Safonau Bwyd (food.gov.uk)