Cyfarfod Agored Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru – 11 Mai 2023
Bydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cynnal ei gyfarfod agored nesaf yng Nghaerdydd ddydd Iau 11 Mai 2023. Bydd yn gyfarfod â thema, gan ganolbwyntio ar ddrafft o’r Model Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau (BTOM).
Bydd y sesiwn yn cynnwys cyflwyniadau gan Lywodraeth Cymru a Jane Clark, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Milfeddygol yr ASB.
Mae’r agenda’n cynnwys:
- BTOM – Cyd-destun Cymru
- Cyfraniad yr ASB wrth ddatblygu’r BTOM
- Adborth gan rwydweithiau aelodau Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) ar BTOM
Mae copi o’r agenda lawn i’w weld ar y dudalen Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru.
Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn y pynciau hyn, neu yng ngwaith yr ASB yn gyffredinol, ddod i’r cyfarfod i fynegi barn ac i gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb agored.
Gallwch fod yn bresennol wyneb yn wyneb neu ar-lein. Mae modd cyflwyno cwestiynau i’r Pwyllgor ymlaen llaw trwy ddilyn y cyfarwyddiadau isod.
Manylion am y lleoliad
Cynhelir y cyfarfod yn Swyddfa’r ASB yng Nghymru, Tŷ Southgate, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW
Bydd modd cofrestru a chael paned o 09:45 cyn i’r cyfarfod ddechrau’n brydlon am 10:00.
Cadw eich lle a chyflwyno cwestiynau
Anfonwch e-bost i walesadminteam@food.gov.uk os ydych am ddod i'r cyfarfod naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein, cyflwyno cwestiwn neu gael mwy o wybodaeth.