Cyfarfod Agored Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru – 8 Gorffennaf 2025
Mae Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cynnal ei gyfarfod agored nesaf yng Nghaerdydd ddydd Mawrth, 8 Gorffennaf 2025. Cyfarfod â thema benodol fydd hwn a fydd yn canolbwyntio ar ddyfodol bwyd.
Yn ystod y cyfarfod, bydd y canlynol yn cael ei drafod:
- Adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a’r cysylltiedig a wnaed mewn perthynas â bwyd
- Strategaeth Bwyd Cymunedol Llywodraeth Cymru
- ‘Ein Bwyd’, sef adroddiad blynyddol yr ASB ar safonau bwyd a gyhoeddwyd yn ddiweddar
Mae’r agenda lawn i’w gweld ar dudalen Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru ar ein gwefan.
Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn y thema hon, a gwaith yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru yn gyffredinol, ddod i’r cyfarfod a chymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb agored ar ôl y trafodaethau.
Gallwch fod yn bresennol wyneb yn wyneb neu ar-lein. Mae modd cyflwyno cwestiynau i’r Pwyllgor ymlaen llaw trwy ddilyn y cyfarwyddiadau isod.
Manylion am y lleoliad
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn adeilad Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu ar-lein drwy MS Teams. Bydd y cyfarfod yn cychwyn yn brydlon am 2pm.
Cadw eich lle a chyflwyno cwestiynau
Anfonwch e-bost i walesadminteam@food.gov.uk er mwyn cadw lle i ddod i’r cyfarfod wyneb yn wyneb neu i’w wylio ar-lein, neu er mwyn cyflwyno cwestiwn neu gael mwy o wybodaeth.