Cyfarfod Bwrdd yr ASB – Medi 2022
Bydd cyfarfod mis Medi 2022 Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cael ei gynnal heddiw am 9.00am.
Mae’r cyfarfod hwn yn cael ei gynnal ar-lein, ar ôl cael ei ohirio yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II.
Bydd cyfarfod y Bwrdd yn cael ei gadeirio gan Gadeirydd yr ASB, yr Athro Susan Jebb, a gallwch gofrestru i wylio’r cyfarfod ar-lein.
Dyma’r agenda ar gyfer cyfarfod y Bwrdd heddiw:
- Y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl)
- Rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau
- System Labordai Swyddogol Dadansoddwr Cyhoeddus: Ein Dull o Feithrin System Gwydn
- Rhaglen Gorsensitifrwydd i Fwyd: Amlinellu Cynlluniau ar gyfer Cam Dau
- Adroddiad Blynyddol gan Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC)
- Adroddiad gan Gyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru
Mae’r agenda lawn a’r papurau sydd wedi’u cyhoeddi ar gyfer cyfarfod y bwrdd heddiw ar gael ar dudalennau’r Bwrdd ar ein gwefan.
Cynhaliwyd cyfarfod Pwyllgor Busnes yr ASB brynhawn dydd Gwener, ac mae modd gweld papurau cyhoeddedig y Pwyllgor Busnes yma.
Sut i gofrestru i wylio cyfarfod y Bwrdd ar-lein
Cynhelir cyfarfod Bwrdd mis Medi 2022 ar-lein, gyda dim ond aelodau’r bwrdd yn y cyfarfod ei hun. Gallwch gofrestru i wylio’r cyfarfod yn fyw ar-lein.
Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:
- Ffôn: 01772 767731
- E-bost: fsaboardmeetings@glasgows.co.uk