Cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd: 26 Mai 2021
Bydd cyfarfod mis Mai y Bwrdd yn cael ei gynnal o 9.30am heddiw.
Digwyddiad ar-lein yn unig fydd y cyfarfod hwn. Cadeirydd dros dro yr ASB, Ruth Hussey, fydd yn cadeirio. Gallwch chi gofrestru i wylio ar-lein.
Mae'r agenda'n cynnwys diweddariadau ar:
- Cynllun Adfer Awdurdodau Lleol
- Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau (ABC)
- Y Rhaglen Trawsnewid Gweithredol
Mae'r agenda lawn a'r papurau sydd wedi'u cyhoeddi ar gael ar dudalennau'r Bwrdd ar ein gwefan (Saesneg yn unig).
Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd
Gallwch chi gofrestru i wylio'r cyfarfod yn fyw ar-lein. Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:
Ffôn: 01772 767731
E-bost: fsaboardmeetings@glasgows.co.uk