Cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd – Medi 2025
Mae cyfarfod mis Medi Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cael ei gynnal heddiw am 9am
Cynhelir y cyfarfod yn Belfast, dan arweiniad cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), yr Athro Susan Jebb. Mae dal i fod amser i gofrestru i’w wylio ar-lein.
Mae agenda’r cyfarfod hwn yn cynnwys:
- Perfformiad blynyddol awdurdodau lleol
- Diweddariad blynyddol ar Wyddoniaeth yr ASB
- Adroddiad 2024/25 ar les anifeiliaid
- Diweddariad gan Gyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru
Mae’r agenda lawn a’r papurau sydd wedi’u cyhoeddi ar gael ar dudalennau’r Bwrdd ar ein gwefan (Saesneg yn unig).
Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd
Bydd cyfarfod y Bwrdd ym mis Medi 2025 yn gyfarfod agored, ac edrychwn ymlaen at groesawu aelodau o’r cyhoedd sydd wedi cofrestru i fod yno’n bersonol.
Os nad ydych wedi cofrestru eto, mae dal i fod amser i gofrestru i wylio’r cyfarfod yn fyw ar-lein.
Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:
- Ffôn: 01772 767731
- E-bost: fsaboardmeetings@onetwo.agency
Cwestiynau i’r Bwrdd
I weld y cwestiynau sydd wedi dod i law’r ASB cyn y cyfarfod, ewch i dudalen y Bwrdd ar ein gwefan.